Chwilio
306 items found for ""
- Na, Nel! Yn achub y byd! - Meleri Wyn James
(awgrym) oed darllen: 6-9 (awgrym) oed diddordeb: 5-10 Lluniau: Bethan Mai https://www.instagram.com/bethan_mai_celf_art/?hl=en Themau: #hiwmor #ffuglen Sut i fwynhau byd natur, sut i arbed ynni, dŵr ac ailgylchu ac ailddefnyddio, a'r cyfan yn llais doniol a direidus Nel. Disgrifiad Gwales: Sut all merch ysgol ddireidus fel Nel achub y byd? Mae Nel yn llawn syniadau fel arfer, a phan mae'n deall bod yna gynllun dieflig ar droed, mae'n mynd ar antur i ddod o hyd i'r bwystfil sy'n benderfynol o ddinistrio'r blaned. Yn ogystal â stori, a lluniau lliw gan yr artist John Lund, mae'r llyfr yn llawn cyngor a syniadau am sut y gall plant wneud eu gorau i ofalu am y blaned. Rhai o'r pynciau fydd dan sylw: - Beth ydyn ni'n ei wneud i'n hamgylchedd ni. - Y newid i'r tywydd: sut mae'n newid a pham, a beth allai hynny feddwl yn y dyfodol. - Yr effaith ar anifeiliaid a physgod. - Beth sy'n digwydd i'n sbwriel ni? - Ailgylchu ac ailddefnyddio. - Plastig - gofalu am ein traethau a'r môr. - Camau bach y gallwn ni wneud yn ein cymunedau. - Edrych ymhellach - beth sy'n cael ei wneud mewn gwledydd eraill. Derbyniodd yr adolygwr gopi am ddim o’r llyfr gan Sôn am Lyfra am adolygiad teg o’r llyfr. Os hoffech chi gopi am ddim o lyfr, cysylltwch! ‘Da ni’n chwilio am adolygwyr ac eisiau gwybod eich barn am lyfrau. Cyhoeddwr: Lolfa Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £4.99 Cyfres: Na, Nel!
- Cân o Falchder - Michael Morpurgo [addas. Endaf Griffiths]
♥ Llyfr y Mis i Blant : Chwefror 2022 ♥ (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: dan 7 Darlunio: Emily Gravett Adolygiad Ceri Parry, Mam i 4 o blant / Athrawes Gynradd (derbyn a bl.1) Llyfr bendigedig wedi ei ysgrifennu yn wych gyda neges bwysig i'r darllenwyr. Cychwynna’r stori gyda’r hen ŵr yn egluro i'r aderyn bach du fod tristwch yn y byd. Mae gan yr aderyn bach du syniad ac fe aiff ymlaen i gyflwyno’r syniad i'r llwynog. Caiff y neges ei throsglwyddo o un anifail i'r llall, ac fe daw y darllenydd i gyfarfod pob math o anifeiliaid lliwgar ac amrywiol y byd wrth i'r anifeiliaid uno i rannu’r neges. Mae’r stori yn gorffen yn fendigedig gyda’r ymdeimlad o falchder ac undod wrth i bawb ganu fel un i rannu neges yr aderyn bach du. Cyflwynais y stori yn ystod gwasanaeth i blant bach rhwng tair ac wyth oed. Roedd pawb yn gwrando yn astud, yn mwynhau y stori ac yn awyddus i ddyfalu beth oedd neges yr aderyn bach du. Mae’r llyfr yn llawn o ddarluniadau lliwgar a manwl sy’n ennyn diddordeb y plant yn ogystal a chyflwyno yr amrywiaeth o anifeiliaid sydd ar ein planed. Roedd y lluniau yn sbardun gwych ar gyfer trafodaeth ac yn ffordd fendigedig o gyflwyno rhai o’r anifeiliaid sydd yn anghyfarwydd i rai o’r plant. Gellir defnyddio y stori fel sbardun ar gyfer pob math o gyfleoedd dysgu o fewn yr ysgol gynradd. Mae’r llyfr yma yn ein herio i ystyried ein planed anhygoel a sut i ofalu amdani. Mae’n gyfraniad bendigedig i ddosbarth er mwyn atgyfnerthu’r neges o ofalu am y byd. Adolygiad Gwales - Hawys Roberts Wyt ti yn caru byd natur? Wyt ti eisiau gwneud dy ran i wneud yn siŵr fod y byd yn lle gwell i fyw ynddo? Beth am wrando ar neges yr anifeiliaid yn y stori liwgar, fywiog hon? Mae’r cyfan yn cychwyn gyda’r deryn du a’i gân fendigedig yn yr ardd. A beth yw ei neges? Mae’n canu cân o obaith. Mae e eisiau codi calon a rhannu’r newyddion da i bob man. Er ein bod ni’n medru digalonni ar adegau, ac er bod straeon o anobaith am gyflwr ein byd yn aml yn ein gwneud ni’n drist, mae angen i ni godi ein calonnau, a dod at ein gilydd i wella pethau. Mae nodau cân y deryn du yn gadael yr ardd ac yn cyrraedd i bob cornel o’r byd. Drwy gyfrwng y lluniau hardd byddwn yn cyfarfod ag anifeiliaid o bob cwr o'r byd – o sioncyn y gwair a’r llygoden fach leiaf yng nghornel y cae, i’r gorila mawr yn y fforestydd trofannol a’r camelod yn yr anialwch. Mae’r crocodeil yn ei gors, yr eog a’r brithyll yn yr afonydd, a’r eryr ar y mynydd, i gyd yn gwrando ac yn cyffroi. Mae hyd yn oed yr eira’n toddi, a chân y deryn du yn mynd gyda’r nant o’r mynydd ac allan i’r môr. Mae gan bawb yr un neges – mae angen i ni ofalu am y blaned hyfryd hon. Yn ôl yn yr ardd, mae’r deryn du yn fodlon. Ein cyfrifoldeb ni heddiw yw newid y sefyllfa, ac edrych ymlaen yn obeithiol at ddyfodol gwell. Yng ngeiriau’r deryn du ei hun, ‘Ein cân ni yw dy gân di, a dy gân di yw ein cân ni.’ A’r tro nesaf y sylwi di ar dderyn du yn eich gardd chi, beth am fynd ato am sgwrs? Efallai y clywi di e’n siarad gyda ti – yn canu cân o obaith ac o falchder yn y ddaear. Adolygiad oddi ar www.gwales.com , trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Cyhoeddwr: Atebol Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2021 Pris: £12.99 Fformat: Clawr Caled
- Anturiaethau'r Brenin Arthur - Rebecca Thomas
♥ Llyfr y Mis i Blant : Mai 2024 ♥ (awgrym) oed darllen: 10+ (awgrym) oed diddordeb: 8-13 Thema: #hanes #Cymru #ffuglen #gwreiddiol #antur #doniol Lluniau: Lleucu Gwenllian https://www.studiolleucu.co.uk/ ‘Da chi’m yn meddwl weithia y basa fo mor cŵl i allu stopio amser yn y fan a’r lle, neu hyd yn oed teithio yn ôl ac ymlaen mewn amser? Yn aml iawn, wrth fynd am dro, dwi’n ffeindio fy hun yn meddwl ‘tybed sut fasa fan hyn wedi edrych flynyddoedd yn ôl?’ (dwi’n meddwl hyn wrth yrru heibio Castell Conwy bob diwrnod!) Wrth ymyl fy nghartref, mae safle Castell Deganwy, a does yna fawr ddim ar ôl erbyn heddiw ‘mond ambell i adfail truenus. Flynyddoedd maith yn ôl fodd bynnag, mi fyddai hwn wedi bod yn gastell godidog yn hawlio safle cryf ger yr aber ar ben mynydd Y Fardre. Byddai’n wych gallu mynd yn ôl a’i weld yn ei anterth. Wel, does ‘na ddim peiriant amser yn Anturiaethau’r Brenin Arthur gan Rebecca Thomas- mae pethau’n digwydd y ffordd arall rownd yn y nofel yma. Yn hytrach na chymeriadau’n mynd nôl mewn amser, mae un cymeriad hanesyddol enwog yn deffro yn ein cyfnod ni. Dyna i chi rywbeth arall sy’n croesi fy meddwl weithiau, yn enwedig wrth feddwl am gymeriadau enwog neu hanesyddol. Dychmygwch allu cwrdd ag ambell un - byddai mor ddifyr eu holi am eu profiadau. Sgwn i be fasen nhw’n feddwl wrth weld y byd modern heddiw? Petawn i’n gallu cwrdd â rhywun o’r gorffennol, pwy faswn i’n dewis? Elvis Presley? Guto Ffowc? Yn sicr fasa cael sgwrs hefo Owain Glyndŵr yn ddifyr . Dyna fysa parti random iawn ynde... Rhwng y clawr lliwgar gan Lleucu Gwenllian a’r ychydig froliant ar y clawr cefn, mae plot y stori’n eithaf amlwg. Y mae grŵp o blant ysgol on a mision , a hynny i ddarganfod lle mae’r Brenin Arthur wedi bod yn cysgu ers canrifoedd. Ar ôl mynd i’r holl drafferth ei ddarganfod, does dim ond un peth amdani... ei ddeffro! Os dwi’n bod yn gwbl onest, ychydig iawn wyddwn i am Arthur mewn gwirionedd. Dwi’n cofio gwylio’r ffilm The Sword in the Stone a chlywed fod Arthur yn cysgu mewn ogof gudd, yn barod i ddihuno pan ddaw'r amser. Heblaw am hynny, wyddwn i fawr fwy! Efallai y byddai dipyn o gyd-destun am bwy oedd Arthur wedi bod yn ddefnyddiol yma, ryw dudalen efallai. Ta waeth, mae’r boi yn dipyn o lej, a dyna pam mae gynnon ni Google a Chat GPT erbyn hyn de! Ar ôl canrifoedd yn huno, ai nawr yw’r amser cywir i’w ddeffro o’i drwmgwsg? Wel, mae plant Blwyddyn 9 Bannau Brycheiniog yn credu hynny. Mae ein byd mewn sefyllfa go bryderus, ac mae’r argyfwng amgylcheddol yn fygythiad i ni gyd. Mae’r bobl ifanc yma’n deall hyn, ond tydi’r gwleidyddion a’r pwysigion ddim yn gwrando. Does neb yn cymryd llawer o sylw o grŵp o blant, ond tybed nawn nhw wrando ar neb llai ond y Brenin Arthur! Byddwch yn barod am antur ddoniol, gydag elfennau comedi ‘fish out of water’ wrth i’r hen Frenin geisio dod i arfer gyda rhyfeddodau’r byd modern: dyfeisiadau hud, ffyrdd rhyfedd o siarad, dillad od ac wrth gwrs... crisps! Dwi wastad yn mwynhau nofelau hanesyddol Gwasg Carreg Gwalch, ond yn aml iawn mae’r rhain yn heriol a swmpus iawn, ac yn gofyn am sgiliau darllen aeddfed er mwyn eu gwerthfawrogi’n iawn. Roeddwn yn hynod falch o weld llyfr byrrach, ysgafnach yn dod i’r farchnad sy’n llawer haws i blant oed cynradd i’w ddarllen. Yn sicr byddai’r llyfr yma’n un y byddwn yn argymell fel nofel ddosbarth yn nhop y cynradd/CC3. Y mae’n clymu hanes a hud y gorffennol gyda negeseuon gwyddonol am y dyfodol. Dwi hefyd yn licio’r graphics group chat ar ddechrau’r llyfr. Oes, mae yna ddigon o hiwmor yn y stori yma, ac mae meddwl am Frenin mawreddog yn bwyta paced o cheese and onions ar gefn bws yn gwneud i mi wenu. Fodd bynnag, yng nghanol y doniolwch, mae yna neges ddifrifol am ddyfodol ein planed. Os dim byd arall, mae’r llyfr yn gwneud i ni sylweddoli nad oes angen ffigwr arwrol i arwain y gad, gan fod y gallu i newid pethau yn bob un ohonom. Mae gobaith y dyfodol ar ysgwyddau ein plant a’n pobl ifanc. Dwi reit obeithiol y medran nhw sortio’r llanast ‘da ni wedi ei greu (cyn bod hi’n rhy hwyr!) Dyma stori one-off digon doniol a difyr, sydd yn syniad eitha’ gwahanol a gwreiddiol. Dwi’n gweld fod disgyblion wedi bod yn rhan o broses gynllunio’r nofel, ac mae hynny’n beth ardderchog. Gawn ni stori am Owain Glyndŵr neu Llywelyn ein Llyw Olaf nesaf? Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2024 Fformat: Clawr meddal Pris: £7.99
- Parti Prysur / Busy Party - [Addas. Elin Meek]
(awgrym) oed diddordeb: 6 mis+ (awgrym) oed darllen: Gyda rhiant “Your watch has ended , Parti Prysur” Wel, mae’n rhaid i mi ymddiheuro i’r llyfrgell, achos mae’r copi yma wedi bod drwyddi go iawn. Dod a hwn adra o’r llyfrgell (lle dwi’n gweithio) wnes i ar gyfer y bychan, sydd tua unarddeg mis oed. Mi aeth y llyfr i lawr yn dda. Rhy dda os rywbeth... Mae gan fy mab gasgliad da o lyfrau erbyn hyn, a ‘da ni wedi rhoi nhw i gyd ar silff forward facing yn ei lofft, er mwyn iddo fynd i ddewis ei lyfrau ei hun. Weithiau, dwi’n cymysgu llyfrau llyfrgell gyda’i rai o i gael bach o amrywiaeth. Allan o’r holl lyfrau sydd yno, hwn oedd yr un gafodd fwyaf o sylw. Am bron i fis cyfan, cafodd y llyfr yma sylw yn ddyddiol, boed hynny drwy rannu’r llyfr gyda ni neu wrth iddo “ddarllen” ar ben ei hun (dwi’n deud “darllen” achos yn amlwg dydi o ddim yn darllen ar ben ei hun, dim ond archwilio’r llyfr... a’i gnoi). Mae’r boardbooks ‘ma reit wydn, ac mae’n rhaid iddyn nhw fod. Mi ddaeth y llyfr gyda ni yn y car, i’r parc, yn y pram, i’r caffis. – i bob man. Ond, ar ôl mis cyfan o sylw intense , a gyda darnau’n hongian i ffwrdd, roedd rhaid i’r llyfr druan ddod i’r clinig llyfrau fyny grisiau, i mi drio ei drwsio cyn ei ddychwelyd i’r llyfrgell. I chi gael dychmygu, mae’r clinig llyfrau fatha rhyw olygfa allan o ffilm ryfel, lle mae’r milwyr anafus yn dychwelyd o’r front lines. Wedi blino. Wedi torri. Nid arwydd o wendid y llyfr yw’r ffaith fod y clawr yn hongian i ffwrdd gyda llaw, ond arwydd fod y llyfr wedi cael ei werthfawrogi a’i garu gan blentyn bach. Cafodd ei fodio, ei fwynhau a’i fan-handlo bob diwrnod am fis solet. Ac yna, mwya’r sydyn, cafodd y llyfr ei daflu ymaith! Mae sylw’r bychan wedi symud ymlaen i lyfrau newydd, gan adael Parti Prysur yn unig yn y gornel. “Digwyddodd. Darfu” am wn i. Be’r di’r appeal ? Mae babis yn hoff iawn o lyfrau codi’r fflap neu ‘pull-out.’ Buan iawn daeth i arfer symud y tudalennau gyda’i fysedd. Roedd yn ddifyr iawn gweld ei sgiliau motor mân yn gwella wrth chwarae ac arbrofi gyda’r llyfr. Roedd o’n fascinated gyda’r dudalen yma am ryw reswm, ac yn aml iawn byddai’n chwerthin i’w hun wrth symud y tab o ochr i ochr. Dim syniad pam! O ystyried cymaint roedd wedi mwynhau Parti Prysur , ’da ni wedi prynu mwy o lyfrau tebyg iddo, gan gynnwys Yr Awel yn yr Helyg ac Ailgylchu Prysur, ond hyd yma does ‘run wedi creu gymaint o argraff arno. Wyddwn i ddim beth oedd mor arbennig am y llyfr yma’n benodol, achos maen nhw i gyd reit debyg. Right book, right time o bosib? Mantais arall gyda’r gyfres yma yw eu bod nhw’n llyfrau dwyieithog, ac felly’n gwneud anrhegion da i unrhyw riant, byddent nhw’n Gymry Cymraeg neu beidio. Erbyn y diwedd, roedd ôl traul ar y llyfr druan, ac yntau’n edrych braidd yn druenus er gwaethaf fy sgiliau selotep i. Bellach, mae’r llyfr wedi mynd yn ôl i gael seibiant haeddiannol ar silff y llyfrgell. Yn disgwyl nes y caiff yr alwad ar gyfer y tour of duty nesaf... Gwasg: Dref Wen Cyhoeddwyd: 2023 Cyfres: Gwthio, Tynnu, Troi Fformat: Clawr Caled Pris: £5.99
- Y Fainc Ffrindiau - Wendy Meddour [addas. Manon Steffan Ros]
♥ Llyfr y Mis i Blant : Chwefror 2024 ♥ (awgrym) oed darllen: 6/7 (awgrym) oed diddordeb: 3-7+ Thema: #llyfrlluniau #ffrindiau #caredigrwydd #dyfalbarhad #empathi #ffuglen #addasiad #dwyieithog Lluniau: Daniel Egnéus https://www.illustrationdivision.com/daniel-egneus "Dyma lyfr y dylai bob athro ddefnyddio ar gychwyn tymor ysgol i rannu neges o garedigrwydd." A hithau’n adeg dychwelyd i’r ysgol (neu gychwyn o’r newydd i rai) dyma gyfle perffaith i rannu stori dyner ac annwyl, sef Y Fainc Ffrindiau (The Friendship Bench) gan Wendy Meddour, wedi ei haddasu’n grefftus gan Manon Steffan Ros. Fel rhywun sy’n eithaf hyderus (ar y tu allan beth bynnag), mae pobl yn synnu pan dwi’n dweud wrthyn nhw nad ydw i fel ‘na go iawn. Er mod i’n ymddangos fel un sy’n fodlon siarad hefo pawb, dwi ddim yn un am wneud ffrindiau newydd yn hawdd, a dim ond cnewyllyn bach iawn o ffrindiau triw sydd gen i mewn gwirionedd. Mi uniaethais efo’r llyfr yma felly, er nad ydw i’n blentyn. Da ni gyd yn ‘nabod y teimlad ‘na dydan, y teimlad o bili palas yn y bol wrth gyrraedd sefyllfa newydd. Boed chi’n blentyn bach ar eich diwrnod cyntaf o ysgol neu’n oedolyn yn landio mewn cynhadledd ddiarth, ‘da ni gyd yn cael teimladau o bryder a nerfusrwydd o dro i dro. Mae’r ferch yn y stori mewn sefyllfa debyg, ar ôl iddi symud cartref a chychwyn ysgol newydd, am resymau heb eu crybwyll. Ar ôl treulio oriau tu allan yn chwarae gyda’i hoff gyfaill yn y byd, Cysgod y ci, dydi Tes ddim yn edrych ymlaen at orfod aros tu fewn drwy’r dydd, a hynny heb ei hannwyl gi. Yn anffodus chaiff cŵn ddim dod i’r ysgol... Ar ôl diwrnod cyntaf eithaf digalon ac unig, awgryma’r athro clên iddi roi cynnig ar y fainc ffrindiau- sêt sy’n helpu plant i ffeindio ffrindiau. Pan mae hi’n cyrraedd, mae rhywun yn eistedd arni’n barod, ac wedi bod yno ers tro. Dwi wrth fy modd gyda diniweidrwydd y ddau yma, wrth iddynt gredu nad yw’r fainc yn gweithio gan eu bod yn dal i eistedd arni. Ar ôl rhoi ail gynnig, ma’r bachgen a’r ferch yn taro sgwrs. Mwyaf sydyn, mae’r ddau’n dechrau cyd-weithio i ‘drwsio’r’ fainc ‘ddiffygiol.’ Fel darllenwyr, fe wyddwn ni’r gwir - mae’r fainc yn gweithio’n berffaith! Mae’r addasiad yma’n enghraifft o sut i wneud addasiadau’n iawn. Bron na sylweddolais mai addasiad oedd hi o gwbl a dweud y gwir. Wrth edrych ar luniau syml a naturiol Daniel Egnéus, gallwn ddychmygu rhyw bentref ger y môr rhywle ym Mhen Llŷn neu yng Nghernyw. Yn sicr byddai’r stori yma’n addas iawn i’w rannu gyda dosbarth babanod ar ddechrau blwyddyn ysgol, neu pan mae disgybl newydd yn ymuno â’r dosbarth. Nid y fainc sydd â’r pŵer i greu ffrindiau mewn gwirionedd, ond mae’r pŵer o du fewn i ni’n hunain, jest bod rhai plant dipyn bach yn swil ac angen hwb bach i helpu. Gobeithio bydd y stori’n perswadio plant i estyn croeso i aelodau newydd, ac i ddyfalbarhau hefyd. Hyd yn oed os yw pethau’n teimlo’n anobeithiol ar y dechrau, fe fydden nhw’n iawn yn y pen draw. Dwi wedi gweld mainc debyg yn sgwâr y dref yn ddiweddar, gydag arwydd bach arni. Tro nesaf dwi yna, dwi’n mynd i eistedd arni am ‘chydig a gweld be ddigwyddith. ‘Da chi byth yn gwybod pwy ‘newch chi gyfarfod... Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: Ionawr 2024 Pris: £7.99 Fformat: Clawr meddal
- Un Noson - Llio Elain Maddocks
(argymhelliad) oed darllen: 13+ (argymhelliad) oed diddordeb: 14-25+ Disgrifiad Gwales Nofel hwyliog ar gyfer darllenwyr anfoddog ac unrhyw un sy'n hoff o stori ysgafn a chyfoes! Mae'r stori'n dilyn dau brif gymeriad, Jacob a Cadi, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer priodas ffrind cyffredin i'r ddau. Mae'n dechrau 7 diwrnod cyn y briodas ac yn dilyn y paratoadau hyd at y diwrnod ei hun. Adolygiad gan Gareth William Jones Cyrhaeddodd nofel gyntaf Llio Elain Maddocks, Twll yn y Niwl , restr fer Llyfr y flwyddyn 2021, felly cyn troi at y nofel hon ry'ch chi’n gwybod eich bod yng nghwmni awdur medrus. Mae’r stori, sy’n gafael ynoch chi o’r dechrau’n deg, yn cychwyn saith diwrnod cyn priodas Rhys. Mae ei gyfaill ers dyddiau'i blentyndod, sef Jacob, yn rhedeg hen garej ei dad yn Ffrainc ers ei fod yn ddeunaw oed ac nid yw wedi dychwelyd i Gymru ers blynyddoedd – yn wir, nid yw'n gweld eisiau’r lle chwaith. Ond pan ddaw gwahoddiad i briodas Rhys, mae’n rhaid derbyn a throi tuag adre. Wrth siopa gyda’i fam am anrheg briodas daw Jacob ar draws y gyfreithwraig Cadi sy’n chwilio am ffrog i fynd i’r un briodas. Dydyn nhw erioed wedi cyfarfod o’r blaen. Jacob a Cadi sy’n dweud y stori, sy’n arddull berffaith i symud y stori yn ei blaen yn llyfn a chyflym. Mae Cadi druan newydd gael ei dympio gan Tom sy’n gweithio yn yr un swyddfa gyfreithiol â hi, ac ef yw gwas priodas Rhys. Mae Cadi’n benderfynol o wneud Tom yn genfigennus ar ddydd y briodas ac efallai ei ennill yn ôl. Pan wêl Cadi Jacob, ‘ei ysgwyddau llydan bron â chyffwrdd y ddwy wal’, a deall ei fod yn mynd i’r un briodas, mae hi’n taro ar gynllun fydd yn sicr o wneud Tom yn genfigennus, yn enwedig petai’n gwisgo’r ‘ffrog goch dynn nad oedd yn gadael lot i’r dychymyg’ y mae hi ar fin ei phrynu. Wedi iddo gyfarfod â Tom, y ‘lembo’ snobyddlyd drannoeth, mae Jacob yn cytuno i helpu Cadi gyda’i chynllun. Mae’n cytuno i esgus bod yn gariad iddi am un diwrnod yn unig, sef diwrnod y briodas. Ond a yw ei benderfyniad yn un doeth? Yn ôl cyfaddefiad Cadi ei hunan mae’r cynllun yn llawn problemau ac mae hi’n gwybod ei bod yn chwarae â thân. Ar ben hynny, mae ei ffrind gorau Sioned yn credu ei bod yn gwneud camgymeriad. Ddwy noson cyn y briodas, dan olau’r sêr, mae’r cynllun yn cymhlethu fwy fyth, ac yn ystod yr un noson dyngedfennol honno, sef noson y briodas, mae Cadi’n gwbl bendant ei bod wedi gwneud llanast o bethau. Mae hi’n sicr yn creu argyfwng ac er y byddwch, o bosib, yn credu eich bod wedi rhagdybio’r diweddglo, mae ambell dro trwstan yn eich aros. Mae hon yn nofel berffaith i’w darllen ar lan y môr ger Rochefort yn Ffrainc ... a gwydriad o win coch yn gwmni. Adolygiad oddi ar www.gwales.com , trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru Gwasg: Lolfa Cyhoeddwyd: 2022 Fformat: Clawr Meddal Cyfres: Stori Sydyn Pris: £1.00
- Cyfrinach Noswyl Nadolig- Eurgain Haf
(argymhelliad) oed darllen: 3-7 (argymhelliad) oed diddordeb: 3-7 Darlunio: Siôn Morris https://www.sionmorris.cinnamondesign.co.uk/ Disgrifiad Gwales Dyma stori Nadoligaidd hyfryd sy'n sôn am gyfrinach. Wyddoch chi fod yr anifeiliaid i gyd yn gallu siarad ar Noswyl Nadolig? Maen nhw'n helpu ffoadur amddifad i ddod o hyd i gartref ym Methlehem, Cymru. Stori gyfoes a pherthnasol, ag iddi wers bwysig, sef sut i fod yn garedig i bawb, o bob cefndir a hil. Dyddiau Tywyll ym Mhrydain Rhai diwrnodau, prin fedra i edrych ar y newyddion gan ei fod mor erchyll. Rhyfel yn Iwcraen. Rhyfel yn y Dwyrain Canol. Mae o i gyd mor ddigalon. Yn ddiweddar, roedd y newyddion yn frawychus iawn, a nid hanes o wlad bell chwaith, ond digwyddiad ar ein ‘stepan ddrws’. Yn sgil yr ymosodiad ffiaidd ar grŵp o blant mewn dosbarth ddawnsio ochrau Lerpwl, roedd riots dychrynllyd wedi lledaenu ar hyd a lled Lloegr. Ac er mai isolated attack oedd hwnnw yn Southport, mae rhai grwpiau eithafol wedi defnyddio’r dicter cyhoeddus fel esgus i ledaenu misinformation a chasineb a tuag at ffoaduriaid ac aelodau o’r gymuned Mwslimaidd. Roedd gweld dynion ifanc yn chwifio baneri’r St George wrth geisio gosod gwesty yn Rotherham, oedd yn llochesu ffoaduriaid, ar dân yn codi cywilydd mawr arnaf. https://www.bbc.co.uk/news/articles/c4gv2v1g006o Llyfrau am Ffoaduriaid Ta waeth, yn sgil yr holl aflonyddwch a’r adroddiadau yn y cyfryngau, mae rhai wedi bod yn holi am lyfrau (diweddar) yn sôn am ffoaduriaid. Felly ro ni’n crafu pen yn meddwl pa rai i'w recommendio. Mi ges i drafferth meddwl am lawer o enghreifftiau. Mae Y Crwt yn y Cefn gan Onjali Rauf i blant hŷn, ond Cyfrinach Noswyl Nadolig sydd fwyaf addas i blant bach. Mae’r awdur, Eurgain Haf o Bontypridd, newydd ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024. (llongyfarchiadau mawr iddi, gyda llaw!) Ysgrifennodd y llyfr yn bennaf oherwydd ei gwaith gyda’r elusen Achub y Plant, Cymru. Yn fras, mae’r stori yn dilyn ffoadur ifanc, bachgen o’r enw Samir, sy’n ffeindio ei hun mewn gwlad estron ar ôl dod yma ar gefn lori. Mae'n siŵr fod hyn i gyd wedi bod yn ofnus iawn iddo. Diolch byth mai yng Nghymru y glaniodd. A pheth da ei fod wedi cyrraedd ar noson arbennig iawn – sef Noswyl Nadolig - achos mae rhywbeth anhygoel yn digwydd ar y noson yma. Mae’r anifeiliaid i gyd yn gallu siarad! Ond dim ond am UN NOSON yn unig! Mewn naratif sy’n fy atgoffa dipyn bach i sut mae’r anifeiliaid i gyd yn helpu ei gilydd yn y ffilm 101 Dalmatians, dônt at ei gilydd i roi help llaw i Samir i ddarganfod teulu newydd yma yng Nghymru. Yn drist iawn, ar ddechrau’r stori does gan Samir neb, gan fod ei Fam a’i Dad wedi cael ei ladd mewn rhyfel. Dangosa’r llyfr yn blwmp ac yn blaen y sefyllfa erchyll mae Samir wedi dianc ohoni a pham na allai fynd yn ôl. Dwi’n falch fod y darlun yn dangos y trais a’r dinistr, achos mae hyn yn ffordd weledol o egluro be sy’n digwydd. Y mae’n gyfle da i gael trafodaeth gyda phlant ifanc ac ateb cwestiynau tebygol fydd ganddynt. Gyda gymaint o sôn ar y newyddion am bobl yn dod drosodd i’r wlad dros Y Sianel yn ceisio am loches, mae’r llyfr yn esiampl gwych ar gyfer trafod y pwnc, ac yn enwedig dangos #caredigrwydd #empathi a thosturi at ein cyd-ddyn. Dyma lyfr defnyddiol iawn ar gyfer gwasanaeth ysgol neu gwaith yn y dosbarth. Mae’n anodd rhoi ein hunain mewn esgidiau pobl eraill, ond mae’r llyfr annwyl yma’n help llaw i geisio gweld y byd o safbwynt rhywun arall sy’n ceisio dianc rhag bob math o erchylltra. Wna i ddim sboilio’r diwedd, ond mae tro annisgwyl go iawn fydd efallai angen ei esbonio i ddarllenwr ifanc. Er fod thema'r Nadolig yn gefndir i'r llyfr, mae hwn yn lyfr i'w ddarllen a'i drafod drwy'r flwyddyn gron. Tra 'da ni'n mwynhau mis pei o flaen y tân adeg y 'Dolig, fydd pawb ddim mor ffodus... Gwasg: Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £5.99
- Y Castell ar y Dŵr - Rebecca Thomas
(awgrym) oed darllen: 12+ (awgrym) oed diddordeb: 12+ / OI Tags: #hanes #antur #rhamant #ffuglen Disgrifiad Gwales: 'Fe wna i adeiladu castell yma i ti, i dy gadw'n ddiogel am byth.' Teyrnas beryglus yw Brycheiniog y ddegfed ganrif – mor beryglus fel bod rhaid cuddio chwaer y brenin o'r golwg. Nid yw Elwedd wedi cael gadael y castell ar y dŵr am ddeuddeng mlynedd. Ar yr ynys, mae'n ddiogel. Wrth geisio darganfod y gwir am y castell ar y dŵr, daw Elwedd i ganol brwydr am Frycheiniog gyfan. Mae Y Castell ar y Dŵr yn stori ffuglen hanesyddol sydd wedi gosod yn Brycheiniog yn y degfed ganrif am ferch o’r enw Elwedd, chwaer y brenin sydd wedi tyfu i fyny i ffwrdd o’r byd mewn castell cafodd ei adeiladu i gadw hi’n saff. Mae Elwedd yn tyfu i fyny yn credu nad ydy hi’n cael gweld y byd tu allan gan ei fod yn rhy beryglus iddi ac mae hi’n ddigon bodlon gyda’i bywyd o fewn waliau’r castell. Mae hi’n gwybod unwaith ei fod yn ddigon saff byddai hi’n gallu symud i fyw gyda’i brawd. Roedd e’n ei hatgoffa o hynny pob tro roedd e’n ymweld ond pan mae crefftwr o’r enw Syfaddan yn symud i weithio yn y castell ac yn rhoi blas iddi ar fywyd tu allan i'w byd bach hi mae hi’n cwestiynu popeth am ei bywyd ei thŷ a’i theulu. Dewch gyda Elwedd a Syfaddan i ffeindio allan cyfrinachau mae teulu Elwedd yn trio mor galed i gadw yn gyfrinachau. Bydde ni’n argymell Y Castell ar y Dŵr i bobl 12 neu’n henach gan bod yna rai themâu anoddach i blant ieuengach ddeall. Bydde ni hefyd yn dweud ei fod yn lyfr wedi ei anelu at bobl sy’n hoff o hanes a rhamant. Bydde ni ddim yn awgrymu e i rywun oedd ddim yn hoff o drais neu pobl yn cael ei camdrin gan bod eithaf tipyn o hynny yn y llyfr. Gwnes i fwynhau darllen Y Castell ar y Dŵr yn fawr gan ei fod wedi fy nghadw ar ymyl fy sedd eisiau gwybod beth byddai’n digwydd nesaf. Roedd y cymeriadau i gyd yn ddiddorol a chymhleth ac doedd neb oedd yn berson hollol da neu hollol ddrwg. Roedd hefyd llawer troadau annisgwyl bydde ni byth wedi dychmygu yn dod. Roedden ni hefyd yn hoffi sut roedd e’n anodd i hoffi rhai o gymeriadau gorau’r llyfr ar ddechrau’r stori ond roedden nhw’n datblygu yn wych drwy gydol y llyfr. Roedd e hefyd yn hyfryd i weld dau gymeriad mor wahanol fel Syfaddan ac Elwedd yn dod mor agos nes ei bod yn teimlo fel nad ydynt yn gallu byw heb ei gilydd. Mwynheais i'r llyfr yn fawr ac dwi’n awgrymu yn fawr eich bod yn ei ddarllen. Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £8.50 Fformat: clawr meddal
- Mwy o Straeon o'r Mabinogi - Siân Lewis
♥Llyfr y Mis - Gorffennaf 2024♥ (awgrym) oed darllen: 10+ (awgrym) oed diddordeb: 7+ (gyda oedolyn yn darllen) Thema: #Mabinogi #ffuglen #hanes #hud #Cymru Lluniau: Valériane Leblond https://www.valeriane-leblond.eu/home.html Pan gafodd y gyfrol gyntaf, Pedair Cainc y Mabinogi, ei chyhoeddi, gwnaeth tipyn o argraff. Yn wir, enillodd y Wobr Tir na n-Og yn 2016 - fedrwch chi ddim creu llawer mwy o argraff! Wel, ar ôl hir ymaros, mae’r dilyniant i’r gyfrol arobryn honno bellach ar gael, ac mae’n addo mwy fyth o’r hyn wnaeth y cyntaf mor arbennig. I ddechrau, rhaid rhoi sylw i’r llyfr ei hun. Dyma be dwi’n ei alw’n ‘lyfr go iawn!’ Rho’r clawr caled yr ymdeimlad o sylwedd a safon uchel; nid llyfr i’w ddarllen unwaith a’i daflu ymaith mo hwn! Na, mae llyfr fel hyn yn rhywbeth i’w werthfawrogi, ei drysori a’i basio ymlaen o fewn teuluoedd. Dyma’r math o lyfr y gall plentyn (neu oedolyn) ddychwelyd ato dro ar ôl tro. A phwy well i addurno’r clawr na un o’n harlunwyr gorau- Valériane Leblond. Efallai mai o Ffrainc y daw hi’n wreiddiol, ond mae Cymru wedi ei mabwysiadau go iawn erbyn hyn. Mae lluniau Valériane yn adnabyddus iawn, ac yn cyfleu hud a lledrith hynafol Y Mabinogi i’r dim. Rhowch y lluniau gorjys yma ynghyd â geiriau Siân Lewis, ac mae gennych chi gyfuniad perffaith. Petai chi’n gofyn i mi fynd ati i gyflwyno’r Mabinogi i genhedlaeth newydd, bur debyg na faswn i’n gwybod lle i ddechrau. Mae’r awdur, Siân Lewis, fodd bynnag, yn hen gyfarwydd â sut i wneud hyn, a hithau wedi awduro sawl llyfr arall amdanynt. Yn wir, mae’r Mabinogi wedi cael cryn dipyn o sylw gan gyhoeddwyr yn y blynyddoedd diwethaf, felly beth sy’n gwneud y gyfrol yma’n wahanol? Yn y gyfrol hon, mae’r awdur wedi cael y rhyddid a’r lle i adrodd y straeon mewn ffordd gyflawn a chynhwysfawr iawn. Mae fersiynau symlach o’r straeon yn bodoli eisoes, ond wrth symleiddio, mae’n rhaid tocio ac mae manylion yn cael eu colli. Er mai ‘dim ond’ tair stori sydd yma, sef Stori Culhwch ac Olwen, Stori Lludd a Llefelys a Stori Breuddwyd Macsen Wledig, mae digon o swmp ym mhob un i’ch cadw’n darllen am sbel dda! Mae stori Culhwch ac Olwen yn enwedig, yn un hir a rhyfedd iawn, sy’n addas i’w fwynhau dros sawl darlleniad. Mae’r straeon eu hunain yn amrywiol ac yn fytholwyrdd, gyda rhai o’r negeseuon mor addas rŵan ac yr oeddent pan eu hadroddwyd gyntaf. Erbyn hyn fodd bynnag, mae disgwyliadau darllenwyr yn uchel iawn o ran diwyg a gwedd. Rwy’n falch o ddweud na chefais fy siomi gan y gyfrol hardd a moethus yma. Rhamant, dial, trais, cyffro, antur, brwydro, cewri, dewiniaid a dreigiau -mae gan y Mabinogi dipyn bach o bopeth- beth mwy fasa unrhyw un eisiau? Adolygiad oddi ar www.gwales.com , trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Cyhoeddwr: Rily Cyhoeddwyd: 2024 Pris: £12.99 Fformat: Clawr Caled
- Y Llew Frenin [addas.Mared Llwyd]
(awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 5-11 Thema: #Disney #anifeiliaid #ffuglen Mae’r pwnc llyfrau gwreiddiol vs addasiadau’n codi o dro i dro, gyda rhai yn feirniadol iawn o addasiadau am eu bod y teimlo fod nhw'n cael eu cyhoeddi ar draul llyfrau gwreiddiol. Dydi’r iaith mewn addasiadau ddim bob amser yn llifo’n naturiol chwaith. Y gwir ydi, fel popeth mewn bywyd mae angen cydbwysedd, a tydi rhaglen gyhoeddi ddim gwahanol. Mae angen y ddau fath o lyfrau arnon ni, ac mae addasiadau yn chwarae rhan bwysig mewn iaith leiafrifol, lle mae cynnal digon o amrywiaeth yn gallu bod yn her. Y gobaith yw, wrth gwrs, fod pobl sy’n anghyfarwydd â llyfrau gwreiddiol yn cychwyn drwy ddarllen addasiadau cyfarwydd, a bod hynny’n agor y drws iddynt ar gyfer darllen llyfrau gwreiddiol Cymraeg. Does dim brand yn fwy cyfarwydd ar draws y byd na Disney, ac mae’n bwysig fod ein plant yn gallu darllen am eu hoff gymeriadau adnabyddus drwy’r Gymraeg. Dod ar draws y gyfres yma wnes i ar hap a damwain wrth sortio llyfrau yn stafell gefn y llyfrgell, a meddwl fod hi’n werth rhoi mensh iddyn nhw. Bydd y llyfrau yma’n addas iawn i blant ifanc sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Mae tipyn o waith darllen, ond mae’r testun wedi ei osod mewn ffont glir ar gefndir gwyn gan amlaf. Dwi’n dipyn o nerd am ffontiau, ac mae rhai annoying yn mynd dan fy nghroen ( comic sans anyone?). ‘Sgen i ddim syniad beth yw enw’r ffont yma, ond dwi’n meddwl fod hwn ymysg y goreuon ar gyfer darllenwyr ifanc, gan ei fod o mor glir. Mae addaswr y gyfres, Mared Llwyd, yn athrawes profiadol sy’n gweithio ym maes cefnogi’r Gymraeg. Mae’r iaith yn addas ar gyfer y gynulleidfa darged ac yn cyd-fynd â’r fframwaith llythrennedd genedlaethol. Os ddilynwch chi’r QR code ar gefn y llyfr, mi gewch chi sawl taflen waith am ddim, sy’n handi iawn ar gyfer pasio’r amser ar bnawniau Sul glawog. Un peth dwi ddim yn licio am y llyfr yw’r ffaith eu bod nhw wedi cyfieithu enw’r llew drwg o’r ffilm, Scar, i Craith. Doedd hynny ddim yn gweithio i mi, ac mi fysa dweud ‘Scar’ (efo acen Gymraeg lol) wedi bod yn ddigon hawdd! Mae ‘na sawl teitl arall yn rhan o gyfres Disney: Agor y Drws, ac mae’r holl stampiau dyddiad ar flaen y copi llyfrgell yma’n dangos i mi ei fod o’n boblogaidd ymysg benthycwyr. Ar ôl darllen am hanes Y Llew Frenin, bydd rhaid i mi ail-wylio’r ffilm rŵan. Roedd y caneuon mor catchy doedden! Hakuna Matata! MWY YN Y GYFRES Mae mor cŵl gallu darllen am yr holl gymeriadau enwog/adnabyddus yma drwy'r Gymraeg! Cyhoeddwyd: Ionawr 2023 Cyhoeddwr: Rily Pris: £4.99 Cyfres: Disney: Agor y Drws Fformat: Clawr Caled
- Y Gragen - Casia Wiliam
♥︎Rhestr Fer Tir na n-Og 2024 Shortlisted♥︎ (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 5+ Themau : #lluniau #môr #natur #cerdd #odl Lluniau: Naomi Bennet https://www.instagram.com/naomibennetillustration/?ref=srmma1jpt_miv Ar ddiwedd cyfnod o dair blynedd ar banel y Beirniaid Tir na n-Og, mae ‘leni yn flwyddyn ddiddorol, achos dwi wedi cael eistedd yn ôl fatha civvie , a mwynhau trio dyfalu pwy oedd am wneud hi i’r rhestr fer, a pwy fyddai’n cipio’r brif wobr (wnes i ddim dyfalu’n dda iawn o gwbl, gyda llaw!) Doedd hi ddim yn syndod o gwbl i mi pan glywais fod Y Gragen wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer. Does ond rhaid edrych arno i sylwi fod hwn yn llyfr hynod o brydferth. Ac er fy mod i’n siomedig na ddaeth i’r brig, mae’n dal yn llyfr sy’n werth ei phrynu neu ei fenthyg. Cerdd gan Casia Wiliam yw sylfaen y llyfr, ac fel dwi i’n dallt, roedd yn rhan o gystadleuaeth ardderchog yn Eisteddfod yr Urdd, lle mae gofyn i ymgeiswyr ifanc greu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â geiriau. Enillydd y gystadleuaeth oedd Naomi Bennet, sydd wedi gwneud dipyn o argraff gyda’i chyfrol gyntaf -nid pawb sy’n cyrraedd rhestr fer TNNO, wedi’r cwbl. Dwi wir yn gobeithio gweld mwy o’i gwaith mewn llyfrau gwreiddiol i blant. Dyma press release ar gyfer y gystadluaeth: https://llyfrau.cymru/lansio-cyfrol-y-gragen-yn-eisteddfod-yr-urdd-sir-gaerfyrddin/ Nod y gystadleuaeth yw darganfod talent newydd ym myd darlunio llyfrau, ac mae’r end result yn enghraifft dda o lun a thestun yn dod at ei gilydd i greu cyfanwaith hyfryd. Does dim o’i le â gwaith darlunio modern computer animated , ond i mi, does dim all guro gwaith celf draddodiadol yn defnyddio paent dyfrlliw go iawn. Dwi wrth fy modd hefo sut mae’r lliwiau yn blend io mewn i’w gilydd. Dwi wedi gwirioni hefo’r sbred yma- mae hyd yn oed y gwylanod felltith yn edrych yn fawreddog. Sawl tro ar hyd y blynyddoedd, mae ymwelwyr wedi dweud wrtha i, “oh you’re so lucky to live where you do” neu “it’s so beautfiul here, wish we lived here.” Ac er fod y geiriau dipyn yn cliché , weithiau, ‘da ni’n dueddol o gymryd hynny’n ganiataol. Mae’n hawdd cwyno ac anghofio pa mor lwcus ydan ni yma yng Nghymru. Yn fras iawn, mae’r stori’n dilyn teulu sy’n dod o’r ddinas i ymweld â thraeth glan y môr, felly dim yn annhebyg i ni yma yn Llandudno, sy’n croesawu nifer o dwristiaid o dros y ffin a thu hwnt. Teimlwn y rhyfeddod a’r cyffro wrth i’r bachgen gael profiadau newydd am y tro cyntaf, fel teimlo’r tywod dan ei fodiau traed, a chlywed y tonnau’n rhuo. Bydd yr atgofion ganddo am byth, yn bell ar ôl dychwelyd i’w fflat high rise yng nghanol y ddinas fawr. Dwi newydd fod yn Llundain yn gweld fy chwaer, ac er bod cerdded drwy ganol bwrlwm Camden yn brofiad yn ei hun, doedd dim gwell teimlad na chamu oddi ar y trên yn ôl yng Nghonwy, a gweld y môr a’r mynyddoedd unwaith eto. Os dim byd arall, mae Y Gragen yn gwneud i rywun sylweddoli cymaint yw ein braint o gael byw mewn lle mor braf, a dwi’n ddiolchgar iawn am hynny. Mi fyddai’n debygol iawn o ddefnyddio’r llyfr yma fel adnodd yn yr ysgol, (cyfnod sylfaen a CC2 yn enwedig) ac mae’r cod QR gyda linc i’r adnoddau yn handi iawn. Cyhoeddwr: Barddas Cyhoeddwyd: Mai 2023 Pris: £7.99 Fformat: Clawr Caled
- Sara Mai ac Antur y Fferm (3) - Casia Wiliam
(awgrym) oed diddordeb: 7-11 (awgrym) oed darllen: 7+ *gyda chymorth Lluniau: Gwen Millward Dim yn aml mae llyfrau neu gyfresi Cymraeg i blant yn gwneud cymaint o argraff a chyfres Sw Sara Mai. Daeth y llyfr cyntaf allan mewn cyfnod lle'r oedd bwlch mawr ar gyfer llyfrau i blant 7-11 oed (sa ni’n dal i allu gwneud hefo mwy!) a dwi’n cofio bod ar banel beirniaid Tir na n-Og ar y pryd, a phawb yn cytuno pa mor dda oedd y gyntaf. Erbyn hyn, mae nifer o ysgolion yn defnyddio’r gyfres fel nofel ddosbarth, gan ei fod yn addas ar gyfer blynyddoedd 3-4, a 5-6 hefyd, gyda llwyth o gyfleoedd gwaith traswgwricwlaidd yn deillio ohono. Yn y bôn, fodd bynnag, llyfr i gael ei fwynhau ydi hwn, nid i’w astudio’n dwll. Ym myd y ffilmiau, mae sequels yn gallu bod yn fflop o gymharu â’r gwreiddiol, ond yn achos Sara Mai, codi mae’r safon gyda phob cyhoeddiad. Pan lansiwyd yr ail nofel, Sara Mai: Lleidr y Neidr, hwn oedd un o fy hoff lyfrau'r flwyddyn honno, gan daflu elfen o nofel dditectif i mewn i’r pair. Gyda Sara’n ôl am ei thrydedd antur, sy’n troi’r gyfres yn drioleg, cawn leoliad gwahanol i'r sw - antur i fyd cefn gwlad y tro hwn - rhywbeth fydd yn gyfarwydd i nifer o blant Cymru. Ac i'r darllenwyr trefol/dinesig, bydd cyfle i ddysgu mwy am fywyd y fferm. Ar ôl clywed fod rhai o’r plant hŷn yn cael mynd i Disneyland Paris ar drip ddiwedd tymor, siom yw ymateb rhai o’r plant wrth glywed fod blwyddyn 5 yn mynd i fferm leol, Tyddyn Gwyn, yn lle. Fel un sy’n caru anifeiliaid o bob math, edrych ymlaen yn arw mae Sara Mai, gan weld ei chyfle i ddysgu am anifeiliaid gwahanol i rai egsotig y sw. Ella fod pob twll a chornel o’r sw yn gyfarwydd iddi, ond tydi hi erioed wedi bod ar fferm o’r blaen. Fel ‘da ni’n gwybod, mae’n llawer gwell gan Sara anifeiliaid na phobl, ac mae digonedd o rheiny ar y fferm- swnio fel trip perffaith! Un o’r rhesymau mae’r gyfres wedi bod mor boblogaidd yw oherwydd bod yr awdur, Casia Wiliam, wedi tiwnio mewn i fyd plant o’r oedran yma i'r dim. Fel rhiant, a thrwy ei gwaith fel Bardd Plant Cymru, dwi’n siŵr ei bod hi wedi sgwrsio hefo digon o blant ledled y wlad i gael syniad go lew o beth sy’n apelio’r dyddiau yma. Mae’r cyfan yn darllen mor naturiol, (tafodiaith Ogleddol ar y cyfan) a tydi o byth yn swnio fel oedolyn yn trio bod yn ‘cŵl’ wrth sgwennu ar gyfer plant (fel sy’n gallu digwydd weithiau). Mae hi’n dallt be di’r materion sy’n bwysig i blant felly maen nhw’n gallu uniaethu hefo’r sefyllfaoedd a’r profiadau. Fel darllenwr hŷn, ro’n i hefyd yn cael fy nghludo nôl i fy nghyfnod yn yr ysgol, gan gofio mynd ar dripiau tebyg i Lan Llyn, yn aros i fyny drwy’r nos yn gloddesta ar Haribos ac yn adrodd ghost stories am y black nun! Mae tripiau ysgol residential (sydd fel rite of passage i blant ysgol) ar un llaw yn llawn hwyl, rhyddid, cyffro, bunk beds a midnight feasts, ond ar y llaw arall, mae ‘na hiraeth am adra, nerfusrwydd wrth gwrdd â phobl newydd, a’r teimlad annifyr o gael eich rhoi mewn grwpiau gyda phobl ‘da chi’m yn nabod gystal! Efallai fod y pethau yma yn ‘ddim byd’ i oedolion, ond mae'r rhain yn bethau serious pan ‘da chi’n blentyn. Sgwn i sut fydd Sara Mai’n ymdopi hefo aros dros nos heb mam a dad am y tro cyntaf? Dwi’n licio cymeriad Sara Mai am sawl rheswm. Mae hi’n wahanol iawn i'r gweddill, gyda phen go aeddfed ar ei hysgwyddau. Llawer gwell ganddi hi fod yn clirio lloc yr eliffantod (ia, hyd yn oed y pŵ) na threulio oriau o flaen sgrin. A hithau eisiau bod yn geidwad sw yn y dyfodol, mae hi’n llawn ffeithiau o bob math am greaduriaid di-ri. O ia, ac mae hi’n hoffi darllen hefyd sydd wastad yn beth da! Ond un rheswm arall dwi’n hoff ohoni fel cymeriad, yw achos ei bod mi mor gredadwy. Tydi hi ddim yn berffaith o bell ffordd ei hun (pwy sydd de?).Weithiau, gall fod braidd yn ddi- amynedd a ffwrdd-â-hi, a tydi hi ddim bob tro yn gwrando ar gyngor (os wna i jest deud ‘y goeden’ - fe fyddwch chi’n siŵr o ddeall ar ôl darllen. Dim ei phenderfyniad ddoethaf!). Mae’n ddiddorol gweld hi’n dysgu ac yn datblygu dros gwrs y nofelau, ac yn dysgu ambell wers ei hun, fel dod i ddeall pwy ‘di’ch ffrindiau go iawn. Mae gan y nofel dipyn o bopeth, cymeriadau difyr, hiwmor, a darnau fydd yn dod a deigryn i'ch llygaid, ac wrth gwrs... cyflenwad da o anifeiliaid! Dwi’n edrych ymlaen at y nesa’n barod, wrth i Sara Mai symud i fyny i flwyddyn 6! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2023 Cyfres: Sw Sara Mai Pris: £5.99