top of page

Chwilio

306 items found for ""

  • Pwyll a Rhiannon - Aidan Saunders [geiriau Cymraeg - Mererid Hopwood]

    *For English, see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 7-11+ Oed diddordeb: 7-11+ Yn dilyn llwyddiant Branwen, mae’r awdur/arlunydd Aidan Saunders yn ôl gyda chyfrol newydd sy’n ail ddychmygu stori o gainc gyntaf Y Mabinogi, Stori Pwyll a Rhiannon. Mae’r chwedlau hyn yn rhan bwysig o’n traddodiad Celtaidd, ac maent wedi cael eu hadrodd a’u hailadrodd ar hyd y canrifoedd. Gobeithio y bydd y llyfr yma’n llwyddo i gyflwyno mytholeg y Mabinogi i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr ifanc. Credaf fod yr awdur wedi dewis a dethol yn ddoeth pa ddarnau i’w cynnwys a pha rai i’w hepgor wrth greu fersiwn gyfoes o hen stori. Gyda’i siâp hirsgwar cul anarferol, a’r gwaith print trawiadol, dyma lyfr sy’n mynnu eich sylw wrth i chi fynd heibio’r silff lyfrau. Rydym yn dueddol o anghofio am luniau erbyn i ni gyrraedd y grŵp oedran 7+ ac felly rwy’n falch iawn o weld llyfr sy’n clodfori gwaith celf, gan ddangos bod llyfrau lluniau yn addas i blant hŷn yn ogystal â phlant iau. Mi fyddwch yn cael eich swyno gan waith print lino’r awdur, sy’n edrych fel tapestri hardd canoloesol, gyda phob math o gyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol. Ceir yma stori am Pwyll Pendefig Dyfed, tywysog sy’n cael ei ddewis gan Rhiannon i fod yn ŵr iddi. Does dim ond un broblem fach, mae hi i fod i briodi rhywun arall! Tybed fydd ’na ‘happy ever after’ i’r stori hon? Annhebyg! Dyma’r Mabinogi, wedi’r cyfan. Yma, fe gewch stori llawn antur, serch, brad, trais a thipyn o ddewiniaeth ar ben hynny! Un o fanteision unigryw'r llyfr yw’r ffaith ei fod yn cynnwys geiriau Cymraeg Mererid Hopwood gyferbyn â’r geiriau Saesneg, sy’n golygu fod apêl y llyfr yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. O gysidro natur ddwyieithog Cymru gyfoes, byddwn yn hoffi gweld mwy o lyfrau dwyieithog fel hyn ar gael. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: Hydref 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781801060820 AM YR AWDUR... Dyma fo'r awdur/arlunydd, Aidan Saunders, a'i gwmni @printwagon. Ewch i'r wefan i ddysgu mwy am ei waith... https://www.print-wagon.com/

  • Tomos Llygoden y Theatr a Feiolet Pot Blodau - Caryl Parry Jones a Craig Russell

    *For English review, see language toggle button on top of webpage* Oed darllen: 6/7+ Oed diddordeb: 5-8 ♥Cymraeg gwreiddiol♥ Genre: #ffuglen #doniol #empathi Wel, mi fuon ni i ffwrdd o’r theatr am amser hir iawn yn do? A phwy sydd wedi bod yno’n aros amdanon ni ond Tomos Llygoden. Mae Tomos yn ôl gyda stori newydd ac mae ganddo gymeriad newydd i’w gyflwyno inni – Feiolet Pot Blodau. Mae sawl dynes lanhau yn gweithio yn y theatr, ond ffefryn y llygod ydi Feiolet Pot Blodau, ac mae hi’n hawdd iawn gweld pam. Mae hi’n annwyl a charedig a chydig bach yn od. Mae hi’n gwneud pethau chydig bach yn od, ac yn gwisgo pethau braidd yn od. A dyna sut y cafodd hi ei henw – am ei bod hi’n gwisgo pot blodau ar ei phen yn lle het! Ond y prif reswm pam fod y llygod yn ei hoffi, ydi am ei bod hi’n ddynes lanhau wael ofnadwy, sy’n golygu fod yna fwy na digon o friwsion a phethau da ar ôl yn y theatr i’r llygod eu mwynhau. Ond er bod y llygod yn hoffi hyn, tydi Mr Meilir, y rheolwr, ddim yn hoffi hyn o gwbl, ac mae dyfodol Feiolet fel glanhawraig yn y theatr mewn perygl. Tybed a fydd Tomos a’i ffrindiau’n gallu darganfod pam fod Feiolet yn ddynes lanhau mor wael? A tybed fyddan nhw’n gallu cadw ei swydd hi yn y theatr? Dyma stori olaf y gyfres hon, ond mae hi’n stori arall ddifyr a doniol, sy’n addas ar gyfer plant 5-8 oed. Mae Tomos a’i ffrindiau’n gymeriadau mor hoffus ac annwyl ac mae hi’n hwyl dilyn eu hanturiaethau yn y theatr. Yn ychwanegu at greu byd hudolus y theatr a’r cymeriadau hoffus mae darluniau hyfryd Leri Tecwyn wrth gwrs. Mae hi’n defnyddio lliwiau tywyll a chynnes fel coch, gwyrdd a brown sy’n cyfleu’r teimlad o fod mewn theatr grand draddodiadol i’r dim. A dw i’n siŵr ei bod hi wedi cael hwyl yn darlunio Feiolet! Dw i’n ffan mawr o’i sanau hi fy hun. Dw i’n tueddu i feddwl bod gormod o ysgrifen ar rai tudalennau o gymharu ag eraill, a bod hyn braidd yn anghyson. Efallai y byddai'n ormod i rai plant ifanc fod yn darllen y llyfr heb gymorth, ond eto, gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer darllenwyr annibynnol newydd. Dw i’n gwybod y byswn i wedi bod wrth fy modd yn gwrando ar y stori hon pan oeddwn i’n blentyn. Am stori ysgafn a hwyliog, am gymeriadau annwyl ac agos atoch chi, ewch i chwilio am gopi o Tomos Llygoden y Theatr a Feiolet Pot Blodau! A chofiwch fynd i chwilota am straeon eraill y gyfres hefyd- mae digon o ddewis! Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Mawrth 2021 Pris: £4.95 ISBN: 9781845277376 LLYFRAU ERAILL YNG NGHYFRES TOMOS LLYGODEN...

  • Chwedl Calaffate - Lleucu Gwenllian

    *For English, use language toggle option on top of page* Oed darllen: 8+ Oed diddordeb: 7+ Genre: #chwedl #rhyngwladol #gwreiddiol #Patagonia #cariad Synopsis: Amser maith yn ôl, ymhell cyn bodolaeth y Wladfa, roedd merch ifanc dlos yn byw ymysg llwyth y Tehuelche – pobl wreiddiol talaith Chubut. Un dydd wrth chwilio am baent i'w nain, dyma Calaffate yn cyfarfod bachgen o lwyth y Selk'nam – gelynion y Tehuelche! Wrth i'r ddau sgwrsio dyma nhw'n disgyn mewn cariad, ond dydi llwybr cariad byth yn hawdd. Dyma'r addasiad Cymraeg cyntaf o'r chwedl drist o gariad, brad a thorcalon, sy'n rhoi cipolwg i ni o fywyd ym Mhatagonia ymhell cyn i'r Cymry groesi'r môr yn 1865. Dyma yn bendant un o’r llyfrau harddaf i gael eu cyhoeddi yn 2021 ac mae’n un o fy ffefrynnau personol. Dwi wedi gwirioni gyda hwn, mae o wirioneddol yn wych - y stori, y lluniau - popeth. Gwaith arbennig Lleucu. Yn ôl ei blog, mae Bethan Gwanas hefyd yn ffan o’r llyfr. Dwi mor falch o weld stori â dimensiwn rhyngwladol yn dod i’r farchnad – mi fasa’n braf gweld mwy a dweud y gwir, yn enwedig os ydyn nhw o’r un safon â Chwedl Calaffate. Mae’r gwaith arlunio yn ardderchog. Mae ’na nifer o artistiaid talentog yng Nghymru sy’n darlunio llyfrau plant, ond mae hwn yn enghraifft o'r goreuon yn fy marn i – lliwiau cynnes oren, melyn a choch, sy’n cyfleu caledi bywyd ar y paith. Fel sy’n amlwg o’r teitl, chwedl yw hon, yn wreiddiol o Batagonia, sy’n sôn am goeden ffrwythau’r Calaffate, a’r stori drist tu ôl iddi. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd gyda’r goeden, ei ffrwyth na’r chwedl, mae’n rhaid i mi gyfaddef. Daw’r chwedl o’r dywediad “El que come Calafate siempre vuelve.” Hynny yw, os flaswch chi ffrwyth y Calaffate, rydych chi’n siŵr o ddychwelyd i’r Wladfa. Mae ’na rywbeth rhamantus iawn tu ôl i’r dywediad yna yn does, yn debyg iawn i’r syniad o ‘hiraeth’ sydd gennym ni yng Nghymru – y cysylltiad pwerus rhwng y pobl a’r tir. Ac mae ’na ramant yn y chwedl hefyd, sydd yng ngeiriau’r awdur, yn ymdebygu i stori Blodeuwedd. Mae’r ddau yn sôn am barau ifanc sy’n disgyn mewn cariad, ond cariad sydd ddim i fod. Fedrwch chi ddim helpu ond meddwl ei bod hi’n bechod na fyddai’r dynion hŷn wedi meindio eu busnes yn y chwedlau yma a gadael i’r cyplau ifanc fod! Mi wnes i eitha licio'r ffaith fod 'na ddim 'happy ever after' i'r stori, fel sydd i'w weld yn y rhan fwyaf o lyfrau i blant. Dwi’n meddwl y basa’r chwedl yma’n un dda i’w haddasu fel ‘animated short’ ar gyfer y teledu, petai na bres i wneud hynny. Yn ogystal â’r stori ei hun, ar ddiwedd y llyfr cawn fwy fyth o wybodaeth am darddiad y chwedl, a thipyn o wybodaeth am y broses o greu’r gyfrol hefyd. Dwi’m yn gwybod am bawb arall, ond dwi’n fascinated efo manylion behind the scenes fel hyn. Roedd y rhestr eirfa yn syniad da hefyd. Wel, dim ond un peth sydd ar ôl i’w wneud – gwneud yn siŵr mod i’n mynd i Batagonia fy hun rhyw ddiwrnod, i gael trio ffrwyth y calaffate... Gwasg: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.50 ISBN: 9781845278182 PWY YW'R AWDUR? Mae Lleucu Gwenllian yn ddarlunydd 24 oed sy’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog ac â BA mewn Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd. Fel rhan o’r cwrs bu iddi gwblhau amryw o friffiau creadigol gwahanol, a gellir gweld esiamplau o’i gwaith ar ei gwefan – lleucugwenllian.wixsite.com/lleucuillustration/ portfolio ac ar ei chyfrif Instagram – @lleucuillustration

  • Fira Farus a'r Wy Siocled Enfawr - Eira Moon [addas. Nerys Roberts]

    *For English version, switch language toggle on top of page* Oed darllen: 7+ Oed diddordeb: 3-11 Genre: #llyfrlluniau #chwedlau #moeswers #ffuglen Mae hi wastad yn bleser gweld pobl sy’n mentro cyhoeddi’n annibynnol gan ei fod yn ychwanegu at yr amrywiaeth o ddeunydd darllen sydd ar gael i’n darllenwyr. Yn aml iawn, mae cyhoeddwyr annibynnol yn gwneud llawer o’r gwaith eu hunain, gan gynnwys ysgrifennu, dylunio, cysodi, hyrwyddo a marchnata - tipyn o gamp y dyddiau yma. Mae’n bwysig cefnogi awduron newydd, gan gynnwys y rheiny sy’n hunan-gyhoeddi. Dyma lyfr cyntaf Eira Moon, awdures sy’n hanu o ogledd Cymru yn wreiddiol, ond sydd hefyd wedi byw yn Sbaen am dros ugain mlynedd. Mae’n debyg fod hynny’n esbonio pam fod y llyfr ar gael mewn tair iaith, sef Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg o dan y teitlau Fira Farus a’r Wy Siocled Enfawr, Greedy Gracee’s Giant Chocolate Egg ac La Codiciosa Princesa Graciana y el Huevo de Chocolate Gigante. Sgyrsiau di-ri gyda ei phlentyn maeth oedd y sbardun tu ôl i ysgrifennu stori Fira Farus. Cawn yma stori tylwyth teg (fairytale), sy’n sôn am Fira, tywysoges ifanc reit annymunol i fod yn onest! A hithau’n byw mewn castell enfawr, mae’n deg i ddweud ei bod hi’n cael ei sbwylio, ac mae hynny wedi ei gwneud yn berson digon hunanol, barus, ond unig hefyd. Un diwrnod, pan mae wy pasg anferth hudol yn glanio ar stepen drws y castell, mae’r dywysoges yn ffeindio’i hun mewn dipyn o bicl. Tybed fydd rhywun am ei helpu, a hithau wedi bod mor farus? Dyma stori fasa’n berffaith ar gyfer ei rhannu amser gwely, neu yn yr ysgol amser stori. Mae’r lluniau gan Aswitha Gunda yn helpu i adrodd y stori ac yn rhoi blas ar fyd hudolus y dywysoges. Cynigia’r llyfr gyfle i drafod gwahanol deimladau ac ymddygiadau; sut y gall bod yn farus eich cael chi i bob math o drwbl! Dwi wastad wedi credu mewn ‘karma’ (what goes around comes around) a dwi’n teimlo’n gryf y bydd pobl farus a hunanol yn talu’r pris yn y pen draw. Er bod y stori’n cynnwys elfennau ffantasïol fel cestyll, tywysogesau a hud a lledrith, stori sydd â moeswers digon syml a down to earth ydi hon yn y bôn. Mewn byd sy’n gallu bod mor gas a brwnt ar brydiau, croesawaf unrhyw stori sy’n lledaenu negeseuon o garedigrwydd a chariad – a does unlle gwell i wneud hyn nac yn y blynyddoedd cynnar. Mae llyfr llafar ar gael i’w lawrlwytho o https://eiramoon.com/ am £2.99 – beth am ddarllen a gwrando ar yr un pryd? Ar gael yn eich siopau lleol neu o wefan Gwales rŵan. Gwasg: Eira Moon Cyhoeddwyd: Mai 2021 Pris: £6.95 ISBN: 978-1916875524 AM YR AWDUR... EIRA MOON She was one of the lucky ones, being born and bred in the land of song and sheep, aka “God’s Country”…North Wales! Since 2001 she’s been involved in organizing music and entertainment for venues all over the world. Her company was lucky enough to arrange voice-over projects involving Hollywood celebrity talent, which she uses to her advantage when trying (in vain!) to impress her young nieces and nephew! Eira and her long-term partner are also proud and dedicated foster carers. They’ve cared for vulnerable children of all ages and backgrounds over the past several years- providing a safe and fun home to flourish and be happy, for however long it was needed. Her debut short story was in fact inspired by a comical chitter-chatter with one of their young foster children! She wanted to create a classic-style fairytale for children to enjoy over and over again which provided a valuable moral lesson. When not on the school run or role-playing superheroes, Eira loves to be in or near the sea, watching rugby or practicing photography!

  • Rali'r Gofod 4002 - Joe Watson [addas. Huw Aaron, Elidir Jones]

    Genre: #antur #nofelgraffig #ffuglen #Cymraeg #gwyddonias Oed darllen: 7+ Oed diddordeb: 7-12 ♥ Gwreiddiol Cymraeg ♥ Nofel Graffig.... be ’di un o’r rheiny? Peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud wrthoch chi fod darllen comics yn beth drwg, achos nonsens llwyr ydi hynny! Coeliwch neu beidio, ond mae ’na andros o lot o oedolion yn hoffi eu darllen hefyd, felly tydyn nhw ddim o reidrwydd ‘mond yn betha’ i blant. Nofel graffig yw hon yn ôl ei disgrifiad. Does ’na ddim llawer ohonyn nhw yn y Gymraeg eto (er y dylai fod!) ond yn syml iawn, maen nhw wedi rhoi’r gyfres, a ymddangosodd yn wreiddiol yng nghylchgrawn Mellten, at ei gilydd mewn un llyfr o ansawdd uchel iawn. Mae darllenwyr heddiw yn cael eu sbwylio o gymharu â beth oedd ar gael flynyddoedd yn ôl! Dwi’n falch iawn o roi hwn i eistedd ar fy silff lyfrau yn Sôn am Lyfra HQ. Be di’r stori ’ta? Fast-forward tua 2,000 o flynyddoedd i’r dyfodol. Mae ras fawr yn y gofod ar fin cychwyn, sef Cwpan Manta 4002, ac mae ’na griw go rhyfedd o raswyr o’r blaned Cymru Newydd yn barod i gystadlu am y tro cyntaf (mae hi reit braf meddwl y byddwn ni fel Cymry ‘Yma o Hyd’- hyd yn oed yn y flwyddyn 4002!). Does gan Iola, y peilot, a’i chriw Meew, Alun, Tezu, a Branwen ond un dymuniad – i ennill rali’r gofod. Tybed a fyddan nhw’n llwyddiannus? Rhaid i mi gyfaddef, o weld eu llong ofod pren, ia, PREN, dwi’m yn rhy siŵr am hynny! Tra mae’r cystadleuwyr amhrofiadol yn brysur yn ceisio peidio cael eu hyrddio i ganol yr haul, mae ’na gynlluniau sinistr ar waith yn y cysgodion. Pwy yw’r grŵp o ddihirod sy’n ceisio taflu llwch i lygaid pawb? Beth yw pwrpas ‘y peiriant’ a beth sydd gan meicrodon blin i wneud hefo hyn i gyd? Wel... ddyliwn i ddarllen Rali’r Gofod 4002 neu be? Yn sicr! Os da chi – fel fi – wrth eich bodd efo anturiaethau sci-fi, gyda digon o hiwmor, mi fydd hwn yn apelio. Mae llawer o elfennau sy’n fy atgoffa o Star Wars, Star Trek a nifer o sioeau eraill. Dyw’r ras Manta 4002 ddim yn rhy annhebyg i’r Pod Racing yn Star Wars: The Phantom Menace (film sy’n cael lot gormod o stick, gyda llaw!). Mae safon y gwaith arlunio yn wych – yn lliwgar, llawn manylion a jest yn edrych yn hollol cŵl basically! Gan mai comic ydi o yn y bôn, mae’r gwaith darllen yn cael ei rannu’n bytiau bach, sy’n ideal os oes well gynnoch chi lai o waith darllen trwm (ond mae o i gyd yn adio i fyny yn y diwedd, felly mae darllen comic YN cyfri fel darllen go-iawn!). Dwi’n gwbod mod i fel tôn gron yn rhygnu ’mlaen am y diffyg dewis o lyfrau i fechgyn 7-11 oed, ond mae’n wir. RHAID cael mwy o bethau sy’n apelio, felly dwi’n hapus iawn i weld y gyfres yma’n ymddangos. Gwasg: Llyfrau Broga Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781914303029 LLYFRAU ERAILL YN Y GYFRES...

  • Miaren a'r Sioe Haf - Che Golden [Addas. Sian Lewis]

    *Scroll down for English* Disgrifiad Gwales Description Miaren yw merlyn mwyaf drygionus y stablau, a hoff geffyl Sam, ac maen nhw'n gallu cyflawni unrhyw beth gyda'i gilydd, fel tîm. Maen nhw'n deall ei gilydd i'r dim! Ond mae Sam yn torri ei chalon pan fo Miaren yn cael ei rhoi ar werth. A fydd y berthynas glòs sydd rhyngddynt yn ddigon i'w cadw gyda'i gilydd? A Welsh adaptation of Mulberry for Sale. Sam is broken-hearted when she hears her favourite pony Miaren is going to be sold. But Miaren has decided to be very fussy about the home she goes to and sets about causing some serious mischief! Oed darllen/reading age: 9+ Oed diddordeb/interest age: 9-13 ADOLYGIAD GAN LENA PIERCE, BLWYDDYN 8 YSGOL GLAN CLWYD Ydych chi’n edrych am nofel afaelgar, llawn antur? Ydych chi’n gwirioni ar farchogaeth ceffylau fel fi? Os felly dyma’r nofel i chi! Mae’r nofel Miaren a’r Sioe Haf yn berffaith i chi os ydych yn edrych am lyfr sy’n eich perswadio chi i ddyfalbarhau neu yn mwynhau darllen llyfrau marchogaeth! Mae Sam yn benderfynol o reidio Miaren yn y sioe haf flynyddol ond dydy o ddim mor rhwydd â mae’n swnio! Merch hollol benderfynol ac annibynnol yw Sam sy’n hoff o wneud popeth ei hun, er ei bod hi’n ferch dawel iawn. Ar y llaw arall mae chwaer Sam, Alys yn wych am farchogaeth ceffylau ac yn ennill popeth! Y cymeriad nesaf yw Clara Jones, ac mae hi hefyd yn dda am farchogaeth ond yn hogan speitlyd iawn ac yn mynd o gwmpas yn bwlio pawb! Ar yr iard mae merlod Shetland i’r plant bach ond mae’r rhain yn rhai gwahanol! Yng ngolwg Sam, maen nhw’n siarad! Mae Miaren yn geffyl styfnig a does neb yn ei reidio hi fel arfer. Tybed ydy Sam yn llwyddo i reidio Miaren….. Wrth i’r plot ddatblygu, mae Sam yn cael digon ar fwlio Clara ac eisiau ei phrofi yn anghywir drwy reidio Miaren yn llwyddiannus. Ond mae angen help ar Sam ac mae hi’n gwybod yn iawn wrth bwy i ofyn! Y merlod Shetland! Ar ol cael codwm gannoedd o weithiau ac ailfeddwl am ei dewis o reidio Miaren, y ceffyl mwya styfnig yn y iard, mae Sam yn dyfalbarhau ac yn ceisio dangos i’r ferlen pwy yw’r meistr. Yn fy marn i roedd y llyfr yma yn wych! Roeddwn yn ei ddarllen a methu rhoi gorau iddo wedyn! Dyna sy’n profi i mi fod llyfr yn dda. Yn ddiweddar fe ges i geffyl newydd ond gan ei bod hi’n ifanc mae llawer o waith dysgu arni. Ar ôl darllen y llyfr Miaren a’r Sioe Haf, fe wnaeth i mi sylwi fod ei dysgu hi ddim am fod mor hawdd ac mae wedi gwneud i mi ddyfalbarhau i weithio’n galed arni, gan obeithio rhyw ddiwrnod bydd hi yn datblygu i fod y ceffyl gorau posib! I mi mae’r nofel yma yn bedair seren allan o bump. Pam pedair seren? Fe wnes i fwynhau ei darllen ond erbyn tua hanner ffordd roeddwn yn gallu rhagweld be oedd am ddigwydd nesaf. Faswn i yn awgrymu y llyfr yma i unrhyw oed! Ydy Sam yn llwyddo i farchogaeth Miaren yn y sioe haf flynyddol? Darllenwch y llyfr os oes eisiau gwybod arnoch! Are you looking for a catchy, adventure-filled novel? Do you love riding horses like me? If so, then this is the novel for you! The novel Miaren a’r Sioe Haf [Miaren and the Summer Show] is perfect for you if you are looking for a book that persuades you to enjoy, or carry on reading horse-riding books! Sam is determined to ride Miaren at the annual summer show but it's not as easy as it sounds! Sam is a totally determined and independent girl who loves to do everything herself, and yet, she is a very quiet girl. On the other hand, Sam's sister Alys is great at riding horses and wins everything! The next character is Clara Jones, and she is also good at riding but is a very spiteful girl who goes around bullying everyone! In the yard there are Shetland ponies for the small children but these are different ones! In Sam's eyes, they can actually speak! Miaren is a stunning horse and no one usually rides her. I wonder if Sam will be the one who manages to ride Miaren... As the plot unfolds, Sam has had enough of Clara's bullying and wants to prove her wrong by successfully riding Miaren. But Sam needs help and she knows full well who to ask! The Shetland ponies! After several injuries, setbacks and even rethinking her choice of riding Miaren, the most stubborn horse in the yard, Sam perseveres and shows the horse who’s boss. In my opinion this book was wonderful! I started reading it and couldn't stop. That's what proves to me that it’s a good book. I recently had a new horse but as she’s young there’s a lot of training to be done. After reading the book Miaren a’r Sioe Haf, it made me realise that her training won’t be as easy as I had imagined, and it has encouraged me persevere to keep at it, with the hope that one day she will develop to be the finest horse possible! For me this novel gets four stars out of five. Why four stars? I enjoyed reading it but by about halfway I was able to predict what was going to happen next. I would suggest this book to any age. Does Sam manage to ride Miaren at the annual summer show? Read the book if you want to know! Gwasg/publisher: Gomer@Atebol Cyhoeddwyd/released: 2014 Cyfres/series: Merlod Maes-Y-Cwm Pris: £5.99 ISBN: 9781848517707 LLYFRAU ERAILL YNG NGHYFRES MERLOD MAES-Y-CWM...

  • Mari Wyn - Sara Ashton

    *Scroll down for English* Genre: #ffuglen #antur #gwreiddiol / #fiction #adventure #original Cynulleidfa/audience: 11+ Barn/verdict: 4.5/5 (Yn colli hanner seren am gymaint o dristwch, trallod a cholled.) Adolygiad gan Arthur Jones Bl.9 – Ysgol Brynhyfryd Roedd yn rhaid i mi ddilyn yn llythrennol y cyngor i beidio â barnu llyfr wrth ei glawr pan awgrymodd fy athro y dylwn ddarllen y llyfr hwn. Wedi’r cyfan, yn fachgen 12 oed, doedd enw merch fel teitl a llun merch oddi tani ddim wir wedi apelio. Rwyf mor falch y dilynais y cyngor. Mae’r llyfr hwn yn wych. Plot Mae’r stori wedi’i gosod yn 2029 ac yn dilyn hanes merch ifanc o’r enw Mari, o Ysbyty Ifan sy’n symud i Blaenau gyda’i mam. Yno, mae hi’n mynd i fyw gyda’i modryb Nest, ei chefnder Osian a’i Daid. O’r cychwyn cyntaf, mae’n glir bod rhywbeth o’i le. Dim ond ‘un orsaf radio swyddogol oedd yna bellach’, a dim llawer o geir. Mae’r ysgolion wedi cau, a gorfodir pawb i gael gwared ar eu setiau teledu. Mae newid yn yr hinsawdd bellach wedi cael gafael, ac mae afiechydon fel malaria wedi ymddangos, a Blaenau yn llawn ffoaduriaid o Landudno, Bae Colwyn a Rhyl yn ceisio dianc rhag y llifogydd am dir uwch. Mae bwyd yn brin. Mae pobl yn ddibynnol am becynnau bwyd o’r eglwys bob dydd Sul. Ond i dderbyn pecyn, rhaid cymryd rhan yn ‘Saints and Sinners’. Dyma seremoni lle mae 3 o bobl o’r dref yn cael eu llusgo o flaen y gynulleidfa am eu ‘pechodau’ ac mae’n rhaid i’r gynulleidfa bleidleisio ar ba un y dylid ei chosbi. Ni welir y rhai a ddewisir byth eto. Fodd bynnag, nid yw’n sefyllfa enbyd i bawb. Mae yna bobl yn elwa o’r holl ddioddefaint a thrallod hwn. Ond pwy ydyn nhw? Pam maen nhw’n gwneud hyn? A beth sy’n digwydd i’r ‘pechaduriaid’ sy’n diflannu bob dydd Sul? Er mwyn ei theulu, rhaid i Mari beidio â cholli gobaith. Rhaid iddi ymladd yn ôl, ond a fydd hynny’n ddigon i’w hachub, ac i achub Blaenau? Cymeriadau Mari yw’r prif gymeriad. Mae hi’n gryf, yn ddewr, ac yn ddyfeisgar. Mae hi’n treulio llawer o amser gyda’i chefnder Osian sydd ag anghenion arbennig ac mae’n amlwg ei bod hi’n garedig iawn ac yn amyneddgar ac yn amddiffynnol drosto. Bu Mari yn caru ei thaid fwy nag unrhyw beth arall yn y byd. Dywedai am ei hysgwyddau llydan,‘mi fedrat ti gario holl feichiau’r byd ar y sgwydda ‘na’. Byddai hyn yn cael ei brofi. Mari yw fy hoff gymeriad - mae hi’n cymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa, a bob amser rywsut, yn dod o hyd i obaith. Fel pob stori antur cŵl, mae yna ‘badis’. Maen nhw’n gasgliad ffiaidd o bobl greulon a threisgar. Fy marn Mae Mari Wyn yn rhoi golwg ysgytwol i ni o ddyfodol posibl. Os ydych chi’n mwynhau dirgelwch, antur a ‘da yn erbyn drwg’, dyma’r stori i chi. Mae’n rhoi cip i ni ar sut y gall effaith newid yn yr hinsawdd effeithio ar ein bywydau gan wneud i chi feddwl. Mae wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, o le dwi’n dod, sydd hefyd yn rhoi cynefindra a realiti iddo. Mae yna neges bositif sy’n ymddangos yn arbennig o berthnasol yn ystod ein pandemig - ‘ Paid byth ag anobeithio! O’r holl rymoedd sydd yn gwneud gwell byd, does na’r un mor anhepgorol, yr un mor rymus â gobaith’. Unig wendid y stori yw’r tristwch a’r golled ddi-ildio sy’n gwehyddu trwy’r stori o’r dechrau i’r diwedd. Efallai ei fod yn rhy ddigalon ar brydiau. Ar y cyfan, mae’n stori afaelgar ac yn bendant yn un i’w darllen ar y cyfle cyntaf. Cynulleidfa Mae hon yn stori sy’n addas ar gyfer 11 oed a hŷn. O ganlyniad i’r cynnwys tywyll, trist, y trais ac ofn, ac ambell i regi, ni fyddai’n addas ar gyfer plant iau. Mae dewrder Mari yn ysbrydoledig i ferched a bechgyn ac felly dwi’n meddwl y byddai merched a bechgyn yn ei fwynhau. Dyfarniad 4 seren a hanner allan o 5. Yn colli hanner seren am gymaint o dristwch, trallod a cholled. I had to follow, quite literally, the advice not to judge a book by its cover when my teacher suggested I read this book. After all, as a 12-year-old boy, a girl's name as a title with a girl's picture underneath didn't really appeal, I’ll be honest. I’m so pleased that I followed the advice because I can confirm, this book is great. Plot The story is set in 2029 and follows the story of a young girl called Mari, from Ysbyty Ifan who moves to Blaenau with her mother. There, she goes to live with her aunt Nest, her cousin Osian and his Taid. From the outset, it’s clear that something is wrong. There was now only one official radio station remaining and not many cars. The schools have closed, and everyone is forced to get rid of their televisions. Climate change has now taken hold, and diseases such as malaria have appeared, and Blaenau is full of refugees from Llandudno, Colwyn Bay and Rhyl, trying to escape the floods by moving to higher ground. Food is scarce. People are dependent on packed lunches from the church every Sunday. But to receive a package, one must participate in 'Saints and Sinners'. This is a ceremony where 3 people from the town are dragged in front of the audience for their 'sins' and the audience must vote on which one should be punished. Those chosen will never be seen again… However, the situation isn’t so dire for everyone. There are people who benefit from all this suffering and distress. But who are they? Why are they doing this? And what happens to the 'sinners' who disappear every Sunday? For the sake of her family, Mari must not lose hope. She must fight back, but will that be enough to save them, and to save Blaenau? Characters Mari is the main character. She is strong, courageous, and resourceful. She spends a lot of time with her cousin Osian who has special needs and she’s obviously very kind, patient and protective of him. Mari loved her father more than anything else in the world. She once remarked that he could carry the world’s weight on his shoulders – something that would indeed be tested. Mari is my favourite character - she takes responsibility for the situation, and always somehow, finds hope. Like all cool adventure stories, there are 'baddies'. They are a disgusting collection of cruel and violent people. My opinion Mari Wyn gives us a harrowing view of a possible future. If you enjoy mystery, adventure and 'good versus bad', this is the story for you. It gives us a snapshot of how the impact of climate change could affect our lives and it makes you think. It’s based in North Wales, where I come from, which also gives it familiarity and reality. There’s a positive message that seems particularly relevant during our pandemic - ‘Paid byth ag anobeithio! O’r holl rymoedd sydd yn gwneud gwell byd, does na’r un mor anhepgorol, yr un mor rymus â gobaith.’ [Never despair! Of all the forces that make a better world, there is not one as indispensable, or as powerful as hope'.] The story’s only weakness is the unrelenting sadness and loss that permeates through the story from start to finish. Perhaps it is too depressing at times. On the whole, it’s a gripping story and definitely one to read at the earliest opportunity. Audience This is a story suitable for ages 11 and over. As a result of the dark, sad content, the violence, fear and occasional swearing, it would not be suitable for younger children. Mari's courage is inspiring for girls and boys alike therefore I think both would enjoy it. Verdict 4 and a half stars out of 5. (Losing half a star for so much sadness, distress and loss.) Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyfres: Y Dderwen Cyhoeddwyd/published: 2010 Pris: £5.95 ISBN: 9781847712141 Cyfres y Dderwen novels, provide challenging reading for the late teens, and are also suitable for adults. Available as a box set.

  • Fi a Joe Allen - Manon Steffan Ros

    *Scroll down for English & comments* Stori am berthynas tad a mab, a phêl-droed hefyd! A Father and son's relationship, with football too! ♥♥Enillydd Gwobr Tir na n-Og Award Winner 2019♥♥ Genre: #ffuglen #fiction #teen #football #sports #chwaraeon #peldroed #arddegau Addas ar gyfer: CA3+ Suitable: KS3+ Adolygiad gan Morgan Jones Mae haf 2016 yn dal yn fyw yn y cof i gefnogwyr pêl-droed Cymru, ac mae Fi a Joe Allen yn cynnig cyfle i ail-fyw cyffro’r cyfnod hwnnw wrth i ni ddilyn Marc Huws, bachgen o Fangor, ar ei antur anfarwol yn Ffrainc. Ond mae’n gymaint mwy na stori bêl-droed. Mae’n stori am berthynas bachgen ifanc â’i fam a’i dad sydd wedi gwahanu – am fam sydd yn gwneud popeth posib dros ei mab dan amgylchiadau anodd, gan fynd dros ben llestri ar brydiau, ac am dad ‘prysur’ nad yw’n dangos llawer o ddiddordeb ym mywyd Marc, nes i’r crysau cochion eu harwain i Baris. Mae Manon Steffan Ros wedi defnyddio un o benodau mwyaf gorfoleddus chwaraeon yng Nghymru i blethu’r elfennau yma at ei gilydd yn deimladwy iawn, gan roi cipolwg sensitif i ni ar deimladau bachgen y gall llawer iawn o ieuenctid Cymru uniaethu â nhw o ganlyniad i dor priodas. Dyma gyfrol ysgafn-ddwys afaelgar sydd yn llwyddo i’n tywys drwy iwfforia a thristwch a phryder. Byddai pobl ifanc yn cael blas mawr arni heb os, boed nhw’n ddilynwyr pêl-droed neu beidio, ond mae hi hefyd yn foeswers i unrhyw riant fyddai’n ei darllen – mae’n fyfyrdod cynnil ar riantu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n dangos bod bywyd yn gyffredinol yn debyg iawn i ddilyn tîm pêl-droed – mae’r llon a’r lleddf yn anochel. Does dim yn gymhleth am yr iaith na’r arddull. Mae’r Gymraeg yn naturiol a sgyrsiol braf. Iaith Marc ei hun ydi hon, iaith y teras o’r gic gyntaf i’r chwiban olaf. Cefais bleser cynnes o’i darllen, a gwefr o ailddathlu goliau Bale, Vokes, Taylor a Robson Kanu, heb sôn am gyfarfod â Joe Allen ei hun! I’r genhedlaeth iau mae’n taro cefn y rhwyd, ac i rai ychydig hŷn fel fi mae’n ail blentyndod rhwng dau glawr. Nofel arall gan yr awdures boblogaidd, gyda phêl-droed yn ganolog iddi, gan anelu at fechgyn, yn bennaf. Mae’r gyfrol wedi’i hanelu at ddarllenwyr da diwedd CA2 a Bl. 7-9. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Review by Morgan Jones The summer of 2016 is still alive and kicking in the memory of Welsh football fans, and Fi a Joe Allen offers an opportunity to re-live the excitement of that time as we follow Marc Huws, a Bangor lad, on his unforgettable adventure in France. But it's so much more than a football story. It is a story of a young boy's relationship with his separated mother and father – about a mother who is doing everything possible for her son in difficult circumstances, going over the top at times, and about a 'busy' father who does not show much interest in his son’s life, until the red shirts lead them to Paris. Manon Steffan Ros has used one of the most triumphant episodes in Welsh sporting history to weave in these very poignant messages, giving us a sensitive insight into a boy's feelings that a great deal of Welsh youth can relate to as a result of failed marriage. This is a light-hearted yet provocative novel that manages to guide us through the euphoria, sadness and anxiety. Without a doubt, young people would really like this book, whether they are football fans or not, but it is also a moral lesson to any parent who reads it –a subtle reflection of parenting in the twenty-first century. It shows that life in general is very similar to following a football team – the highs and lows are inevitable. There is nothing complex about the language or style. The Welsh language is both natural and conversational. This is written in the language of Mark himself – using the talk of the terraces from the first to the last whistle. It was a pleasure to read, and gave me a chance to re-live the thrill of celebrating the exploits of Bale, Vokes, Taylor and Robson Kanu, not to mention meeting Joe Allen himself! For the younger generation it hits the back of the net, and for some older readers like me it is a second childhood between two covers. Another novel by the popular author, with football at its heart, aimed mainly at boys. The volume is aimed at good readers towards the upper KS2 range and Yrs. 7-9. A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

  • Fi ac Aaron Ramsey - Manon Steffan Ros

    *Scroll down for English* Oed darllen/reading age: 10+ Oed diddordeb/interest age: 9+ ADOLYGIAD GAN IOLO ARFON, Bl.10 Yn dilyn llwyddiant ‘Fi a Joe Allen’ yn sôn am daith Cymru i’r rownd gynderfynol yn Ewro 2016, dydi Manon Steffan Ros heb siomi hefo ‘Fi ac Aaron Ramsey’ - nofel o safbwynt Sam, hogyn sydd yn caru pêl-droed ac yn meddwl amdano trwy’r dydd, pob dydd. Mae’r stori yn cydio o’r bennod gyntaf un, ac yn eich gadael eisiau darllen mwy ar ôl pob pennod. Ond mae digwyddiad annisgwyl yn troi ei fywyd ben i waered, ac mae popeth yn newid. Plot sydd felly mor gyffrous ag unrhyw gêm bêl-droed dda, heb wybod byth beth sydd nesaf. Mae’r themâu yn eang, wrth ddysgu sut mae Sam yn delio gyda heriau fel ei rieni yn ffraeo, a phres yn fyr, ac felly’n debyg o apelio at bobl o bob oed. Ceir cymeriadau lliwgar a bywiog - Sam, ei rieni, ei chwaer fach Mati, a’i ffrind gorau Mo, a’i berthynas efo pob un yn wahanol. Cymeriadau realistig ydyn nhw, sy’n golygu bod Sam yn gymeriad hawdd i gydymdeimlo efo, a’i ddeall. Ar ben hynny, ceir yn y nofel bortread o Gymraeg amherffaith, sydd mewn gwirionedd yn berffaith wrth i Manon Steffan Ros ddangos fod y Gymraeg yn fyw ac yn iach, sut bynnag mae pobl ‘go iawn’ yn ei siarad, gan gynnwys Aaron Ramsey, arwr Sam sydd yn ei syfrdanu ymlaen ac oddi ar y cae. I ddefnyddio idiom y pêl-droedwyr eu hunain, ar ddiwedd y dydd mae hi’n nofel amserol, ond yn siŵr o fod yn glasur fel ‘Fi a Joe Allen.’ Gobeithio felly fe aiff Manon Steffan Ros am yr hat-trick! Following the success of ‘Fi a Joe Allen' that discussed Wales' journey to the semi-finals at Euro 2016, Manon Steffan Ros hasn’t disappointed with ‘Fi ac Aaron Ramsey' - a novel from Sam's point of view about a young lad who loves football and thinks about it all day, every day. The story was gripping from the very first chapter, and leaves you wanting to read on after each chapter. But an unexpected event turns his life upside down, and everything changes. A novel with a plot as exciting as any good football game - never knowing what is going to happen next. The themes are broad, as we see how Sam deals with challenges such as his parents arguing and their lack of money. Therefore, this book is likely to appeal to people of all ages. The characters are colourful and lively - Sam, his parents, his little sister, Mati, and his best friend Mo, all of whom he has differing relationships with. They are realistic characters, which means that Sam is an easy character to sympathise with, understand and relate to. Furthermore, this novel portrays that ‘imperfect’, everyday Welsh, which is actually perfect as Manon Steffan Ros shows us that the Welsh language is alive and well, with 'real' people speaking it, including Sam's hero, Aaron Ramsey himself, who amazes him both on and off the field. To use a footballers' own phrase, ‘at the end of the day’, it’s a very timely novel, but sure to be a classic like its predecessor, ‘Fi a Joe Allen.' I really hope Manon Steffan Ros goes for the hat-trick! Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/released: 2021 Pris: £5.99 ISBN: 9781784615673 Synopsis: Mae'r stori'n ymwneud â dau ffrind, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae perthynas y ddau fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn. This is a tale of two friends and ends as Wales reach Euro 2020. The relationship between the two is like a football game - there are spectacular highlights and heart breaking low points. However, through football the two come to understand each other and come to appreciate that it is varied strengths and working together that creates a good team. Os wnaethoch chi fwynhau 'Fi ac Aaron Ramsey' ... If you enjoyed 'Fi ac Aaron Ramsey'... Ennillydd Gwobrau Tir na n-Og uwchradd 2019 Y mab wedi mwynhau 'Fi ac Aaron Ramsey' yn ofnadwy a wedi'i ddarllen mewn diwrnod! Diolch am gael o i ddarllen yn Gymraeg Manon Steffan Ros ac Y Lolfa.- Rhiannon Evans, Trydar

  • Kaiser y Trenyrs - Pryderi Gwyn Jones

    *Scroll down for English* Genre: #ffuglen #arddegau #ysgafn #doniol / #fiction #teens #light #humour Oed darllen/reading age: 11+ Oed diddordeb/interest age: 11+ ★Cymraeg gwreiddiol / Welsh Original ★ Lluniau/illustrations: Huw Richards Wedi mwynhau Brenin y Trenyrs 1? Ffansi clywed mwy am un o gwmnïau chwaraeon mwya’r byd? Am wybod sut gafodd BYT cheeky snog ar fws yn Nuremberg? Os felly... darllenwch Kaiser y Trenyrs! Ar ôl gorffen a mwynhau’r llyfr cyntaf yn y gyfres, Brenin y Trenyrs, roeddwn i’n meddwl fod stori’r bachgen wedi darfod, a nes i ddim rhagweld sequel i ddweud y gwir. Ond, wrth i’r ail gyfrol gael ei chyhoeddi, mi oeddwn i’n fwy na bodlon i fentro unwaith eto i fyd y boi sy’n caru trenyrs mwy nag unrhyw un arall ar y blaned! O safbwynt athro, (boring, dwi'n gwbod) dwi’n falch o weld yr ail nofel yn cael ei chyhoeddi gan ei bod hi’r math o lyfr ysgafn fydd yn apelio at fechgyn yn yr arddegau cynnar – ystod oedran lle mae ’na fylchau mawr i fod yn onest. Dwi’n clywed dro ar ôl tro am bobl ifanc (ond yn enwedig hogia) sy’n rhoi’r gorau i ddarllen tua’r oedran lle maen nhw’n symud i’r ysgol uwchradd, felly mae’n HANFODOL ein bod ni’n cadw nhw’n darllen – ac yn gwneud hynny yn y Gymraeg. Does ’na ddim penodau yn y llyfr yma fel y cyfryw, ond yn hytrach, mae’n cael ei rannu’n bytiau manageable o dan is-benawdau doniol. Mae hyn yn beth da, achos does ’na neb yn licio penodau gwirion o hir nagoes... ddim go iawn! Un o fy hoff olygfeydd yn y llyfr ydi’r un yn y gym. Wrth ddarllen, mi ges i fy atgoffa’n syth o fy mhrofiadau cynnar anffodus wrth fentro mewn i un am y tro cyntaf! Yn fy achos i, pan oeddwn i’n bymtheg oed, mi fentrais i ryw gym grotty lleol efo fy mêts, a dwi’n cofio’r perchennog - hen ddyn moel, blewog mewn vest chwyslyd, yn torri gwynt gan ddatgan yn falch: “Welcome to the gym lads.” Wrth ddarllen am brofiadau’r bechgyn, dwi’n gweld eu bod hwythau hefyd yn cael profiad digon embarrassing yn y gym wrth drio peidio gadael i’r ferch ddel sy’n gweithio yna wybod eu bod nhw’n hollol ddi-glem! ’Da ni gyd wedi bod yna, trystiwch fi! Prif ddigwyddiad y stori yw bod ein prif gymeriad (does ganddo ddim enw, caiff ei ’nabod fel BYT yn unig) yn ennill tocyn arbennig i fynd ar drip once-in-a-lifetime i bencadlys Adidas yn yr Almaen! Dim yn rhy annhebyg i stori Wily Wonka, ond yn hytrach nac afonydd o siocled a fferins, rhesi ar resi o nwyddau a threnyrs sydd i’w gweld tro ’ma! Yn ogystal chael £1000 i wario yn y siop, mae BYT yn llwyddo i gael snog bach cheeky yng nghefn y bys hefyd – swnio i mi fel gwylia’ da iawn! Dwi’m yn teimlo mod i wedi mwynhau hon cystal â’r nofel gyntaf (ella bod angen mwy o densiwn/ high stakes yn y plot) ond mi oedd hi’n ddiddorol dysgu mwy am hanes y cwmnïau. Er enghraifft, doedd gen i ddim syniad fod ’na gymaint o gysylltiad rhwng cwmni Adidas a Puma! Mae ’na gymaint o straeon o gwmpas am hud, lledrith a ffantasi, weithiau mae’n braf cael stori fwy real, bywyd go iawn, a dwi’n siŵr y bydd hiwmor yr awdur, sy’n amlwg yn y ’sgwennu, yn apelio at yr arddegau cynnar (12-14 oed). Wrth i mi ’sgwennu’r adolygiad ’ma, dwi wedi bod yn edrych ar sgidia mewn tab arall ar Nike.com - ’sa well mi ei gau i lawr reit handi neu mi fyddai wedi gwario fy nghyflog ar bâr arall o drenyrs! Did you enjoy the first book, Brenin y Trenyrs? Fancy hearing more about one of the world's biggest sports companies? Want to know how our guy lands himself a cheeky snog on a bus in Nuremberg? If so... read Kaiser y Trenyrs! After finishing and enjoying the first installment, I honestly thought the boy's story was over, and I really hadn’t anticipated a sequel if I’m being honest. However, as this second book is published, and with a third on the way, I’m more than happy to venture once again into the life of a young lad who loves trainers more than anyone else on the planet! From a teacher's point of view (yaawn), I’m pleased to see this second novel published as it’s the kind of light-hearted book that should appeal to boys in the early teen years where, frankly, there are some big gaps. I hear time and again about young people (especially boys) who stop reading around the age when they move to secondary school, so it’s ESSENTIAL that we keep them reading – and in Welsh too. There aren’t any chapters as such in this book, but rather, it is divided into manageable chunks or sections with amusing subheadings. This is a good thing ‘cause let’s be honest, no one’s got time for loooong chapters, right? One of my favourite scenes in the book is the one in the gym. I was immediately reminded of my early experiences of venturing into one for the first time. In my case, when I was fifteen, I went along with my mates to a grotty local gym, and to this day, I remember the owner - a bald, hairy meathead of a man in a sweaty vest, farting and wafting it into my face as he proudly proclaimed: "Welcome to the gym lads.” I can see that the boys in the book are having an equally embarrassing first time in the gym as they try to look cool and not let the pretty girl working there know that they have absolutely no idea what they’re doing! We’ve all been there! The main event of the story is that our main character (he has no name, he is known only as BYT) wins a special ticket to go on a once-in-a-lifetime trip to the Adidas HQ in Germany! Not too dissimilar to Wily Wonka's story, but instead of rivers of chocolate and sweets, there are rows upon rows of merchandise and trainers as far as the eye can see! As well as getting a £1000 of spending money, he even manages to get a cheeky snog whilst on a bus – sounds like a good holiday to me! I didn’t feel as though I enjoyed this one as much as the first novel but it was interesting to learn more about the history of the companies. For example, I had no idea of the connection between Adidas and Puma! There are so many stories about magic and fantasy, sometimes it’s nice to have books that are more grounded in reality. I’m sure the author’s sense of humour, which comes across in the writing, will appeal to the early teen years. Now, as I was writing this review, I had another tab open on Nike.com – I’d better close it down or I'll have spent this month’s wages on more trainers that I really don't need! Gwasg/publisher: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd/released: 2021 Cyfres/series: Brenin y Trenyrs Pris: £6.95 ISBN: 9781845277772 WYDDOCH CHI BE? Mae 'na fwy yn y gyfres... Llyfr 1: Brenin y Trenyrs Llyfr 3: Tywysog y Trenyrs (ar ei ffordd)

  • Hufen Afiach Dai - Meilyr Siôn

    *Scroll down for English* ♥ Llyfr y Mis i Blant: Awst 2021 ♥ ♥ Children's Book of the Month, August 2021 ♥ Genre: #ysgafn #doniol #ffuglen / #lighthhearted #fiction #funny Oed darllen/reading age: 8+ Oed diddordeb/interest age: 7+ Ail llyfr y gyfres Hufen Afiach. Sequel to the 2019 novel, Hufen Afiach. ADOLYGIAD gan Magw Jên Dafydd, 11 oed Wel dyma gyfrol sy’n codi gwên, a chodi hwyliau – llyfr sy’n bell o fod yn boring! Stori sydd yma sy’n dilyn helyntion y cawr Dai Bola Bach a’i wraig, Blodwen Bling, sy’n rhedeg canolfan awyr agored i blant o’r enw Gwersyll Hyll Glan Llan. Dyma nofel lawn llysnafedd a llanast wneith eich cadw chi’n llon am amser hir. Nid darlleniad i’r gwangalon yw hon! Wna i ddim datgelu gormod i chi am y cynnwys, ond alla i ddim peidio â sôn am yr holl enwau doniol wnaeth wneud i mi wenu: Tina Tŷ Bach, Llŷr Llwch Pen, Dewi Dagrau, Miss Sian Pŵ, Mr Dan Dryff, a llawer mwy. Mae’n gwneud i mi feddwl y dylen i fy hunan fathu enwau bach difyr i’r bobl sydd o fy nghwmpas, achos dwi’n hoffi tynnu coes! O ran y sgwrsio a’r naratif, mae yna amrywiaeth da yma gyda phopeth yn llifo’n naturiol. Un o’r disgrifiadau sydd wedi aros yn fy nghof yw’r un am Blodwen Bling, y “...wraig fach gron wedi’i gorchuddio o’i phen i’w sawdl mewn gemau disglair. Edrychai fel pelen oddi ar goeden Nadolig.” Roedd hynny yn ei hun yn ddoniol, ond roedd gweld llun ohoni ar y dudalen nesaf yn ychwanegiad hwyliog, wnaeth wneud i mi rolio chwerthin, rhaid cyfaddef! Mae’r lluniau gan Huw Aaron yn ychwanegu’n wych at y llyfr, ac yn fy atgoffa bron o steil llyfrau Roald Dahl – y sblashys du a gwyn nawr ac yn y man sy’n rhoi blas ar y cymeriadau, heb darfu ar rediad y stori. Prynwch a darllenwch. Wnewch chi ddim difaru. Mwynhewch! Bant â fi nawr i fathu enwau o’r newydd i fy nheulu a fy ffrindiau ... ond wna i'ch gadael chi gyda fy mathiad o enwau awdur ac arlunydd y nofel hon. ‘Meilyr Mynd Dan Gro’n’, am ei fod wedi llwyddo i gyflwyno cymeriadau byw, a ‘Huw Ar-wrol’, am ddarlunio’n, wel, arwrol, wrth gwrs. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. REVIEW by Magw Jên Dafydd, 11 years old Now then, here’s a book that raises a smile – a book that’s far from boring! The story follows the misadventures of the giant, Dai Bola Bach and his wife, Blodwen Bling, who run an outdoor education centre for children called Gwersyll Hyll Glan Llan. This novel is full of slime and mess that will certainly cheer you up and keep you smiling for a long time. This isn’t a novel for the faint-hearted! I won’t reveal too much about the content, but I can’t go without mentioning all the silly names that made me giggle: Tina Tŷ Bach, Llŷr Llwch Pen, Dewi Dagrau, Miss Sian Pŵ, Mr Dan Dryff, and many more. It makes me think I should think of some funny little nicknames for those around me, ‘cause I like to have a joke. In terms of the dialogue and the narrative, there’s a good variety with everything flowing quite naturally. One of the descriptions that stayed in my mind was that of Blodwen Bling: “... y wraig fach gron wedi’i gorchuddio o’i phen i’w sawdl mewn gemau disglair. Edrychai fel pelen oddi ar goeden Nadolig.” That in itself was funny, but seeing her picture on the next page was even better – a humorous addition that had me in stiches I must admit! The illustrations by Huw Aaron add a lot to this book, and they do remind me of the style of the Roald Dahl books – the splashes of black and white here and there, that give us a little bit more about the characters, without cutting across the story too much. Buy it. Read it. Enjoy – you won’t regret it! Right, I’m off now to think of some silly nicknames for my family and friends... A review from www.gwales.com, with the permission of the Books Council of Wales. Cyhoeddwr/publisher: Atebol Cyhoeddwyd/released: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781913245405 Oeddech chi'n gwybod? Mae'r llyfr cyntaf yn y gyfres, Hufen Afiach, hefyd ar gael... https://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912261574&tsid=4 Did you know? The first book of the series, Hufen Afiach, is also available... https://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781912261574&tsid=4

  • Dim Bwystfilod! - Tracey Hammett a Jan McCafferty [addas. Anwen Pierce]

    *Scroll down for English* Mae pob ysgol angen ei bwystfil ei hun! Every school needs its own monster! Oed diddordeb: 3-7 Interest age: 3-7 Themâu/themes: #ymddygiad #behaviour #tolerance #goddefgarwch #diversity #amrywiaeth #friendship #ffrindiau #cynhwysiad #inclusion #caredigrwydd #kindness Pan mae anghenfil newydd yn ymuno gan greu helbul yn yr ysgol, dydi’r athrawon ddim cweit yn siŵr beth i’w wneud. Mae o’n swnllyd, yn aflonyddgar, yn amhosib i’w reoli ac mae’n gyrru ‘Miss’ o’i cho! Un diwrnod, mae’r cyfan yn mynd yn ormod, ac mae ‘Syr’ wedi cyrraedd pen ei dennyn. Yn fuan wedyn, mae arwydd ‘Dim Bwystfilod’ yn ymddangos ac mae’r ‘bwystfil’ yn cael ei yrru ymaith o’r ysgol. Mi fasech chi’n tybio y byddai’r ysgol yn lle hapusach heb y bwystfil direidus, ond wyddoch chi be? Mae’r lle yn llawer tlotach hebddo ac i ddweud y gwir, yn reit ddiflas. Cyn bo hir, mae’r staff a’r plant yn hiraethu gymaint am ei gael yn ôl, maen nhw’n mynd ati i drio ei berswadio i ddychwelyd. Ar un llaw, gallwch darllen y stori gan gredu bod yna fwystfil go iawn yn carlamu drwy’r coridorau, ond hefyd, mae’r bwystfil yn gweithio fel trosiad ar gyfer unigolion sydd efallai yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol i eraill. Beth sy’n rhaid cofio yw bod gan bawb hawl i gael addysg ac mae ‘na groeso i bob plentyn, beth bynnag eu gallu neu anghenion. Mae gan bawb gryfderau gwahanol, ac mae ymdrech, cwrteisi a charedigrwydd yn rinweddau gwerthfawr iawn – nid yw gallu academaidd yn bopeth. Mae ‘na ddigon o hiwmor (bwystfil yn crafu ei ben ôl) ond mae ‘na neges bwysig iawn yma hefyd, sef neges o oddefgarwch. Mae pawb yn wahanol, ac mae amrywiaeth a chynhwysiad yn beth da. Dysga’r llyfr i ni barchu eraill bob tro a pheidio bod mor sydyn i farnu. O bosib, byddai rhai yn gweld £7.99 dipyn yn ddrud am lyfr llun i blant (ond mae ar sêl ar hyn o bryd am £4 ar Graffeg.com). Er hyn, dyma lyfr annwyl i’w ddarllen gyda phlant hyd at 7 oed, yn yr ysgol neu gartref, sy’n cyfuno hiwmor gyda’r neges bwysig– mae ‘na le i bawb yn y byd ‘ma. When a new monster joins the school and starts to wreak havoc, the teachers aren’t quite sure how to react. He’s noisy, disruptive and is driving the teachers barmy! One day, it all gets too much, and Sir reaches the end of his tether. Shortly afterwards, a 'No Monsters Allowed' sign appears and the ‘monster’ is banished from the school! You'd think place would be much happier without the mischievous creature, but you know what? The place isn’t the same, and if anything, is a little boring. Before long, the staff and children realise how much they miss the monster, and they go out of their way to try and persuade him to come back! On one hand, you could read the story believing that there’s a real monster parading through the corridors, but of course, the ‘monster’ could be a metaphor to describe a pupil who may not learn in quite the same way as the others. What is important to note is that everyone has a right to an education and there’s a welcome for every child in school, regardless of their ability or needs. Everyone has different strengths, and effort, kindness and courtesy are very important traits – academic achievement isn’t everything. There’s plenty of humour in this story (like the monster scratching his bum) but there’s also a very important message -a message of tolerance. Everyone’s different and some may have different needs, but diversity and inclusion are good things. The book teaches us o respect others for their individualism and not be so quick to judge. Some might find £7.99 a bit expensive for a children's picture book (it’s currently on sale for £4 on Graffeg.com) However, this is a charming story to read with children up to the age of 7, at school or at home, which combines humour with that important message– that there’s a place for everyone in this world. Cyhoeddwr/publisher: Graffeg Cyhoeddwyd/released: 2021 Pris: £7.99 (£4 ar sêl) ISBN 9781913733452 AM YR AWDURON: (O Graffeg.com) Mae Tracy Hammet yn awdur a anwyd yng Nghymru, sy’n rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Llundain. Mynychodd Ysgol Uwchradd Whitchurch, Caerdydd, ac astudiodd Saesneg a Theatr yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain. Mae Tracy wedi ysgrifennu nifer o straeon, sgriptiau a cherddi ar gyfer teledu a radio plant y BBC, gan gynnwys sawl rhaglen a enwebwyd ac sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, ac mae’n hoffi cyfuno ei chariad at eiriau, straeon ac odli gyda thalp hael o hiwmor ac ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae Jan McCafferty yn ddarlunydd llyfrau plant profiadol sydd bellach yn byw ym Manceinion, ar ôl astudio Dylunio Graffig a Darlunio ym Mhrifysgol Canol Lloegr. Mae ei darluniau ar gyfer llyfrau plant llwyddiannus eraill yn cynnwys The Enchanted Wood, cyfres Oliver Moon a chyfres Kid Cowboy.

bottom of page