Chwilio
306 items found for ""
- Robyn [Y Pump] - Iestyn Tyne gyda Leo Drayton
*Scroll down for English* Rhybudd cynnwys: y ogystal â themâu ac iaith gref a all beri gofid i rai, ceir cyfeiriadau at orbryder a dysfforia rhywedd yn y nofel hon. Content warning: in addition to mature themes and languages, this novel includes references to anxiety and gender dysphoria. Awgrym oed 14+ Suggested age 14+ Adolygiad gan Esyllt Einion Robyn yw’r bedwaredd nofel yng nghyfres Y Pump – sef cyfres o nofelau i bobl ifanc am bump ffrind ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Mae’n gyfres bwysig am ei bod yn mynd i’r afael â phrofiadau arddegwyr sy’n perthyn i groestoriadau cymdeithasol y mae eu lleisiau yn aml wedi eu heithrio neu eu hesgeuluso gan lenyddiaeth Gymraeg a chan gymdeithas yn gyffredinol. Daeth y campweithiau hyn ynghyd trwy gydweithrediad pum awdur â phum cyd-awdur ifanc a ddarparodd fewnbwn gwerthfawr ynghylch eu profiadau wrth i’r nofelau gael eu hysgrifennu. Mae’r nofel Robyn – yng ngeiriau Leo Drayton, ei chyd-awdur – ‘yn rhoi mewnwelediad ar sut brofiad yw hi i gwestiynu eich rhywedd neu’ch hunaniaeth.’ Mae stori cymeriad Robyn yn gwneud hyn mewn modd sy’n hygyrch i bob darllenydd, ac yn gwbl gredadwy. Er enghraifft: “Dwi’n gorfod tynnu siòl fi off i ddod fewn i’r exams, a ma hynna ‘di bod yn rhoi fi on edge tbh. Fath mod i’n noeth, fel y freuddwyd ‘na dwi’n ca’l weithia lle dwi’n deffro yn ista ar y bys ar y ffordd i’r ysgol a rhywsut dwi ‘do llwyddo i adael y tŷ ac anghofio gwisgo nillad. A ma pawb yn chwerthin a pwyntio a dwi’n methu neud dim byd achos y breichia a’r coesa – dim breichia a coesa fi ydyn nhw. A dwi jyst yn ista yna nes i fi ddeffro go iawn.” Yn ogystal â dilyn profiad ingol Robyn mae’r nofel hefyd yn gofnod pwysig or profiad o dyfu i fyny yn y Gymru gyfoes fel aelod o Generation Z, a’r hyn sy’n llywio bydolwg pobl ifanc heddiw. Mae materion y ymwneud â’r argyfwng newid hinsawdd a canfyddiad pobl o’r hyn yw gwrywdod yn cael sylw, ac mae’n ddiddorol gweld Robyn yn cwestiynu adeileddau cymdeithasol megis dosbarth a phatriarchaeth wrth gwestiynu ei rhywedd. Yn ogystal, credaf fod yr iaith a’r arddull sy’n cael eu defnyddio yn y nofel yn ychwanegu at ddiffuantrwydd llais Robyn. I mi, yr hyn sy’n arbennig am y nofel yw’r cyffyrddiadau teimladwy a gawn drwy’r cyfeillgarwch rhwng Robyn a’r pump arall a thrwy’r cymodi rhwng Robyn a’i brawd anwadal, Aiden. Mae’r ystod o emosiynau sydd yn llif meddyliau Robyn hefyd wedi eu cyfleu mewn modd cofiadwy a sensitif, an gyrraedd uchafbwynt yng ngonestrwydd trawiadol y diweddglo lle mae Robyn yn darllen ei cherdd mewn noson open mic LGBTQ+ ac yn cofleidio ei hunaniaeth ryweddol newydd: “Dyma fi. Yr un un, ond yn wahanol. A dyna’r oll.” Credaf fod y nofel hon yn fam arwyddocaol tuag at geisio gwella dealltwriaeth pobl ifanc o’u cyfoedion o fewn y gymuned traws. Gobeithiaf y bydd y nofel hon a gweddill y gyfres yn ysbrydoli awduron eraill i sicrhau bod nofelau Cymraeg yn adlewyrchu’r ystod o brofiadau sydd gan bobl yn ein cymdeithas. Saesneg i ddilyn Adolygiad yn wreiddiol oddi ar wefan AM Cymru. Ewch yno i sianel Y Pump i ddarganfod mwy o gynnwys... https://www.amam.cymru/ypump Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/published: 2021 Pris: £5.99 yr un neu bocs set o 5 am £25 ISBN: 978-1-80099-064-7
- Tim [Y Pump] - Elgan Rhys gyda Tomos Jones
*scroll down for English - English to follow soon* Oed diddordeb/interest age: 14+ (KS3/4) Oed darllen/reading age: 14+ Rhybydd cynnwys: Yn ogystal â themâu ac iaith gref a all beri gofid i rai, ceir cyfeiriadau at orbryder, hunananafu ac ymosod corfforol yn y nofel hon. Content warning: mature themes and language, and reference to some topics that could cause distress for some. Y gyfres yn gyffredinol Arloesol. Authentic. Dim ond rhai o’r geiriau dwi’n eu cysylltu â’r prosiect cyffrous yma. Hyd y gwn i, does dim byd o’i fath wedi cael ei wneud yn y Gymraeg, ac mae’n arwain y ffordd ar gyfer sut y dylid cyhoeddi a marchnata llyfrau i bobl ifanc wrth symud ymlaen. Rhaid clodfori’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol fel Insta a phlatfformau fel AM i rannu pethau fel rhestrau chwarae sy’n gysylltiedig â’r nofelau, gan fod hyn mor berthnasol i bobl ifanc yn 2021 (dwi’n gwrando ar Adwaith/Fleetwood Mac wrth sgwennu’r adolygiad ’ma). Babi Elgan Rhys yw’r gyfres, ac mae’n cynnwys 5 nofel unigryw am 5 person ifanc arbennig iawn. Yr hyn sydd wirioneddol yn gyffrous am y gyfres, fodd bynnag, yw bod awduron cyhoeddedig, profiadol wedi cyd-weithio a chyd ysgrifennu’r nofelau gyda phobl ifanc ac awduron newydd y dyfodol. Am syniad da, i gael awduron ifanc Cymru yn meithrin a mentora’r genhedlaeth nesaf o awduron ifanc. Drwy gydweithio yn y fath fodd, ’da ni’n sicrhau bod y straeon yn onest ac yn genuine, gan gyflwyno materion a phrofiadau go iawn mewn ffordd real a chredadwy (yn hytrach na chael awduron yn ysgrifennu am bynciau nad oes ganddynt unrhyw brofiad ohonynt). Mae’r elfen o gydweithio rhwng yr awduron yn codi’r gwaith i’r lefel nesaf. Rhaid cofio hefyd eu bod wedi llwyddo i wneud hyn o dan amgylchiadau heriol mewn pandemig a dylai hyn fod yn destun balchder i bawb fu ynghlwm â’r prosiect. Pwy yw’r Pump? Mae’r gyfres yn dilyn bywydau pum ffrind ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd sy’n rhoi sylw i rai o’r cymhlethdodau sy’n codi wrth fod yn berson ifanc yn yr oes sydd ohoni. Dilynwn hanesion Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat wrth iddyn nhw gwrdd, a dod at ei gilydd i ffurfio criw Y Pump. Dyma grŵp o bobl ifanc sydd wedi cael eu hymylu yn gymdeithasol braidd, gan nad ydynt efallai yn ffitio’r label o beth sy’n cael ei ystyried yn ‘normal’ (mae’n gas gen i’r gair yna!) Caiff pob cymeriad eu nofel 20,000 o eiriau eu hunain (sy’n seis da ar gyfer nofel yn fy marn i - dim rhy fyr, dim rhy hir). Mae pob nofel yn sefyll yn gadarn ar eu pen eu hunain ond, yn debyg iawn i griw Y Pump, teimlaf fod y gyfres ar ei chryfaf pan maen nhw gyda'i gilydd. Cymeriadau unigryw ac arbennig yw giang Y Pump, ac mae’r nofelau yn taflu goleuni ar rai o’r materion cyfoes sy’n bwysig i bobl ifanc heddiw, yn ogystal â bod yn ddathliad o’r amrywiaeth sydd i’w weld yng Nghymru fodern yr 21ain ganrif. Er y cyflwynir themâu fel iechyd meddwl, hil, rhywedd ac iselder i enwi ond rhai, llwydda’r nofelau i osgoi bod yn bregethwrol, a phrofiadau’r cymeriadau a’u perthynas gyda’i gilydd sydd wrth wraidd pob un. Cyflwynir y nofelau ar ffurf y person cyntaf, ac mae’n hynod ddiddorol gweld y byd drwy lygaid y cymeriadau gwahanol, a sut maent yn rhyngweithio gyda’i gilydd. Mae pob cymeriad yn dod a phersbectif a dimensiwn arall i’r pair. Cofiwch fod clip diddorol ar dudalen AM Sesiwn Fawr Dolgellau, lle mae Manon Steffan Ros (mentor creadigol y prosiect) yn cadeirio sgwrs gyda rhai o’r awduron, gan drafod sut ddaeth y syniad i fodolaeth a rhai o’r prosesau cynllunio fu’n rhaid mynd drwyddynt er mwyn sicrhau bod llinyn o gysondeb yn rhedeg drwy bob nofel. https://www.amam.cymru/sesiwnfawr/y-pump Tim Dyma nofel gynta’r gyfres, sydd o safbwynt bachgen ifanc o’r enw Tim. Am amryw o resymau, bu’n rhaid i Tim symud ysgol, ac felly mae’n canfod ei hun yn ddisgybl newydd yn Ysgol Gyfun Llwyd. Mae Tim yn fachgen awtistig, ac er bod hyn yn dod â’i heriau ei hun, drwy gwrs y nofel, dechreua Tim sylwi ei fod yn llawer mwy ’na hyn, ac nad yw ei awtistiaeth yn ei ddiffinio. Yn hytrach na’i weld fel ‘problem,’ dechreuai ei weld fel rhywbeth sy’n ychwanegu at ei gymeriad, sy’n rhoi iddo bŵer arbennig i weld y byd drwy lygaid cwbl wahanol. Gan nad oes gen i brofiad uniongyrchol o hyn, roedd hi’n hynod o ddiddorol gweld y byd mewn ‘lliwiau’ gwahanol, a dwi’n teimlo fod gen i well dealltwriaeth rŵan o safbwynt person fel Tim. Yn wir, roedd ei wedd ddi-flewyn-ar-dafod yn chwa o awyr iach, a dwi’n meddwl y bysa ni’n gallu elwa lot o fynegi ein teimladau yn blaen, yn onest ac yn fwy agored. Wrth ddarllen am Tim yn trio dysgu sut mae swsio (cusanu), mi gesh i fy atgoffa o rai o brofiadau awkward fy teenage years, ac roedd hi’n gysur i wybod fod pobl eraill yn wynebu’r un pethau. We’ve all been there, math o beth. Un o’r pethau gorau a chalonogol am nofel Tim, yw ei dwf personol drwy'r nofel. Y mae’n berson gwahanol iawn erbyn y diwedd, gyda grŵp o ffrindiau oes, a llawer o brofiadau newydd dan ei felt. Mae’r Tim yma yn berson sy’n llawer mwy sicr o’i hun, ac o’i le yn y byd, ac yn fachgen sy’n cydnabod ac yn ymfalchïo ynddo’i hun. Roedd ei berthynas a’i rieni, yn enwedig ei fam, wedi bod dan straen ers peth amser, a theimlaf fod y ddau yn dallt ei gilydd yn llawer gwell erbyn y diwedd ac roedd hyn yn braf i’w weld. Un o stand out lines y nofel i mi yw “Dwi jyst isie cariad, cariad heb boen”. O, petai hyn ond yn bosib.... Y farn Yn y nofel gyntaf yma, gwelsom y byd drwy lygaid Tim, wrth iddo gwrdd â’i ffrindiau newydd a ffurfio perthnasau newydd. Cawsom ychydig o wybodaeth am y cymeriadau eraill, ond cafodd hyn ei raeadru’n ofalus – jest digon i wneud i ni fod eisiau darllen mwy amdanyn nhw. Gobeithio wir y bydd y gwaith hyrwyddo yn sicrhau bod y nofelau’n cyrraedd y gynulleidfa darged, sef pobl ifanc, achos mae yma gyfres gref a modern iawn sy’n werth ei darllen. Byddwn i hefyd yn gobeithio y bydd athrawon uwchradd yn darllen y llyfrau ac yn cyflwyno’r rhain i’w disgyblion. Llongyfarchiadau i’r awduron i gyd a gydweithiodd ar y gyfres ac a fu mor barod i rannu eu profiadau personol. The series Innovative. Authentic. Just a few of the words I associate with this exciting project. As far as I’m aware, nothing of its kind has been done in Welsh before, (which is crazy, ‘cause it’s 2021!) and this paves the way for how books should be published and marketed to young people going forward. The use of social media like Insta and cultural platforms such as AM to share things like playlists associated with the novels is a cracking idea, as it’s fresh and relevant in 2021. (I'm listening to Adwaith/Fleetwood Mac from the Spotify playlist whilst I’m writing this) The series is Elgan Rhys’ baby, and contains 5 unique novels about 5 very special young people. What’s really exciting about the series, however, is that experienced writers have worked with and co-written the novels with five young people - the writers of the future. What a good idea, to have young Welsh writers nurturing the next generation. By working in such a way, they’ve ensured that the stories are honest and genuine, presenting real issues and experiences in a credible way (rather than having writers write about things they have no experience of). This element of co-authoring raises the work to the next level IMO and you’ve got to hand it to them; they managed to do all this in the most challenging of circumstances in a pandemic. Everyone involved in this project should be very proud. Who are Y Pump [the five]? The series follows the lives of five friends in Year 11 at Ysgol Gyfun Llwyd and addresses some of the complexities that arise in being a young person in this day and age. We follow the stories of Tim, Tami, Aniq, Robyn and Cat as they meet for the first time and join together to form the Five. This is a group of young people who have been somewhat marginalized socially, as they don’t fit the ridiculous label of what is considered ‘normal’ (God, I hate that word!). The characters get their own 20,000-word novel (which I think is a good length for a novel - not too short, not too long). The novels stand firmly on their own but, much like the gang themselves, the series is strongest when they’re together. The five are unique and special people, and the novels shed light on some of the contemporary issues that are important to young people today, as well as being a celebration of the diversity that can be seen in modern 21st century Wales. Although themes such as mental health, race, gender, sexuality and depression are presented, the novels avoid being preachy, and it’s the personal experiences of the characters and their relationships with each other that is of real importance. The novels are presented in first person, and it’s fascinating to see the world through the eyes of the different characters, and how they interact with each other. Each character brings a perspective and another dimension into the mix. Remember that there’s an interesting clip on the Sesiwn Fawr Dolgellau AM page, where Manon Steffan Ros (the project's creative mentor) has a chat with some of the authors, discussing how the idea came to be and some of the processes that they went through to ensure consistency. Tim This is the first novel, told from the point of view of a young teenage boy called Tim. For a number of reasons, Tim had to move school, and therefore finds himself a new pupil at Ysgol Gyfun Llwyd. Tim is autistic, and although this brings some challenges, throughout the course of the novel, Tim begins to notice that he’s much more than this, and that his autism does not define him. Instead of seeing it as a 'problem,' he begins to see it how it ‘adds’ to him as a person, and gives him an unique power to see the world through different eyes. As I don't have direct experience of this, it was extremely enlightening to see the world in its different 'colours', and I feel that I have a better understanding of the world from the perspective of someone like Tim. Indeed, his very direct, matter-of-fact way of speaking was a breath of fresh air, and I think we could all benefit from expressing our feelings more openly and frankly. Reading about Tim trying to learn how to kiss, I was reminded of my own teenage experiences - it was somewhat comforting to know that other people have faced the same things. We've all beenthere, type of thing. One of the best things about Tim's novel, is his personal growth throughout. He’s a very different person by the end, with a group of lifelong friends, and many new experiences under his belt. This Tim is someone who’s much more certain of himself, and his place in the world. His relationships with his parents, especially his mum, had been under pressure for some time, and I think that the two of them had a better understanding of each other by the end. One of the novel's stand out lines for me is "I just want love, love without pain". Oh, if only this was possible.... The verdict In this first novel, we saw the world through Tim's eyes, as he met his new friends and formed new relationships. We had smatterings of information about the other characters, but this was carefully given to us – just enough to make us want to read on. I really hope that the promotional work will ensure that the novels reach their target audience, namely young people, because you have here a very contemporary, edgy series worth reading. I would also hope that teachers will read the books and introduce them to their pupils. Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyfres/series: Y Pump Cyhoeddwyd/published: 2021 ISBN: 978-1-80099-061-6 Pris: £5.99 yr un/each WEDI MWYNHAU TIM? Darllenwch y nofelau eraill yn y gyfres... £5.99 yr un NEU £25 am bocs set o 5
- Supertaten: Swigod Hynod - Sue Hendra a Paul Linnet [addas. Elin Meek]
*Scroll down for English* Oed darllen/reading age: 5+ Oed diddordeb/interest age: 2-6 Mae llyfrau Supertaten wastad yn plesio a dyw'r llyfr diweddaraf ddim yn eithriad! Hwrê! Mae achos i ddathlu achos mae ’na lyfr Supertaten newydd i’w ychwanegu at y casgliad! Fe’i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg; mae’r dream team, Sue Hendra a Paul Linnet, wedi cael cryn lwyddiant gyda'r gyfres. Unwaith eto, mae’r bysen gas wedi bod wrthi’n creu helynt a hafoc i’r llysiau eraill yn yr archfarchnad (mwahahaha!). Y tro hwn, mae hi’n amser bath i’r llysiau, ond mae’r bysen gas wedi cyfnewid y bybls arferol am ‘swigod hynod’ sy’n creu dipyn o drafferth i’r giang pan mae’r swigods yn mynd allan o reolaeth. Diolch byth fod Supertaten gerllaw! Gyda ’chydig o help gan gymeriad newydd, Y Mango Mwyn (sy’n gymeriad eitha cŵl efo’i fandana hipîaidd, er dwtsh yn ystradebol) bydd rhaid i Supertaten ac yntau weithio fel tîm i ffeindio ffordd o ddifa’r swigod trafferthus. Dipyn o cool dude ydi Mango Mwyn, a swni’n licio bod mor chilled out a fo weithia! Dyma’r pumed llyfr Supertaten i gael ei drosi i’r Gymraeg, ac er nad hwn yw’r stori gryfaf yn y gyfres yn fy marn i, mae’r cynhwysion elfennol sy’n gwneud llyfrau Supertaten mor boblogaidd gyda phlant i gyd yno. Mae’r tudalennau yn llawn lliwiau trawiadol, ac mi allwch deimlo’r cyffro a’r “action” yn neidio oddi ar bob tudalen gyda’r defnydd o steil superhero comics. Dwi’n meddwl bod y plot ‘good guy vs bad guy’ syml yn apelio’n fawr at blant ifanc, ac mae’r llyfr yn mynd i lawr yn dda efo bechgyn (a merched wrth gwrs) o fy mhrofiad i. Bob tro mae fy nghefndryd (un yn 3, llall yn 5) yn dod draw i Gonwy, mae ’na wastad set o go-to books sy’n cael eu dewis dro ar ôl tro. Mae Hanes y Twrch Daear yn un, Not now, Bernard yn un arall, ac fe allwch fod yn sicr mai un o lyfrau Supertaten fydd y llall. Ydi, mae’r straeon yn hollol wacky a dros ben llestri, ond dyna’n union pam maen nhw mor boblogaidd gyda’n darllenwyr ifanc. Yn aml iawn ’da ni oedolion yn hoffi deud be ddylai’r plant fod yn ei ddarllen. Ond dewch i ni fod yn onest am funud – y plant sy’n gwbod be sy’n gwneud llyfr da! Dwi’n siŵr os edrychwch chi ddigon manwl, fod ’na negeseuon a life lessons yn cuddio yn llyfrau Supertaten, ond i mi, yr hwyl gwirion OTT ’na sy’n gwneud rhain yn lyfrau ardderchog. Wrth gwrs bod ‘na le i bethau mwy serious, ond weithia dwi jest yn teimlo bod ni’n colli elfen o’r hwyl ’na yn y Gymraeg wrth drio stwffio gormod o negeseuon moesol i mewn i bob stori. Dyma i chi gyfres sy’n dangos i blant bach fod darllen yn gallu bod yn hwyl, a wyrach y gwnewch chi lwyddo i'w perswadio bod ffrwythau, llysiau (a fish fingers) yn eitha cŵl hefyd! Supertaten books always go down a treat, and the latest instalment is no exception! Woop! There’s cause to celebrate because we’ve got another Supertaten book to add to the collection! Originally published in English, the dream team consisting of Sue Hendra and Paul Linnet, have had considerable success with this series over the years. Once again, the pesky pea has been causing havoc for the other supermarket veggies (mwahahaha!) by swapping the normal bubbles for extreme bubbles. At least Supertaten’s around to sort out the mess! With a bit of help from a mysterious new character, Supertaten is able to save the day before the bubbles take over. Mango Mwyn, with his hippy-esque bandana, is one knowledgeable dude, though he could come across as a little bit stereotypical for some. I wished I was as chilled out as him though. This is the fifth in the Supertaten series to be adapted into Welsh, and although this isn’t the strongest entry in my opinion, (plot not that exciting and a bit of an anticlimax) the key ingredients that make Supertaten books recognizable and popular with young audiences are all there. The pages are full of bright and vibrant colours, and you can feel the excitement jumping off each page with the use of superhero comics style. I think the simple good guy vs bad guy plot thread is very appealing to young children, and the book goes down well with boys (and girls of course) from my experience. Every time my cousins (one is 3, the other aged 5) come over to Conwy, there’s always a set of go-to books that are usually chosen. Hanes y Twrch Daear (Bethan Gwanas) and Not now, Bernard being two examples, and you can bet that a Supertaten book will be the other. Yeah, the stories are completely wacky and over the top, but that's exactly why they're so popular with our young readers. Very often we adults like to say what the children ought to be reading. But let's be honest for a minute – it’s the children who know what makes a good book. I'm sure if you look in enough detail, you’ll find important messages and life lessons hiding within the books, but for me, it's the silly OTT fun and mild peril that make these books great. Whilst there’s always a place for more serious things, I just feel we sometimes lose a bit of that ‘fun’ in Welsh language books by trying to stuff too many moral messages into our stories. This is a series that shows children that reading can be fun, and it may even persuade them that fruit, vegetables (and fish fingers) are pretty awesome too! Gwasg/publisher: Dref Wen Cyhoeddwyd/published: 2021 Pris: £5.99 ISBN: 978-1-78423-165-1
- Nos Da, Tanwen a Twm - Luned Aaron a Huw Aaron
*Scroll down for English* Genre: #llyfrlluniau #picturebook #doniol #funny #blynyddoeddcynnar #earlyyears Oed darllen/reading age: 4/5+ Oed diddordeb/interest age: 2+ *Cymraeg Gwreiddiol ~ Welsh Original* Dyma Nos Da, Tanwen a Twm, sef llyfr newydd gneud-chi-wenu gan y power couple ym mynd llyfrau plant Cymraeg, Luned a Huw Aaron. Hwn di’r llyfr cynta iddyn nhw’i gyhoeddi gyda’i gilydd, ac yn amlwg maen nhw wedi cael blwyddyn brysur iawn. Cafodd y ddau eu henwebu ar gyfer rhestr fer gwobrau Tir na n-Og eleni, ac mae un o lyfrau Huw wedi ymddangos ar restr fer Llyfr y Flwyddyn hefyd. Ar ben hyn oll, maen nhw wedi sefydlu gwasg NEWYDD SBON o’r enw Llyfrau Broga - a dwi’n excited IAWN i weld be ddaw o hyn… https://broga.cymru/croeso Reit, dwi’n mwydro. Nôl at y llyfr… Dwi’n siŵr y bydd rhieni plant bach ar hyd a lled Cymru’n gallu uniaethu’n llwyr gyda’r stori yma! Os oes ’na ddau beth yn sicr yn y byd ’ma, un yw'r ffaith y bydd plant isio pi-pi yn syth ar ôl cychwyn siwrne yn y car, a’r llall yw y gwnawn nhw UNRHYW BETH i osgoi mynd i’r cae sgwâr (gwely mewn Gog speak). Stori fach ddoniol a thyner sydd yma am deulu bach o deigrod, sy’n sôn am y drefn nosweithiol a’r her ddyddiol o drio cael plantos bach i’w gwelyau. Er cymaint mae Mami a Dadi’n trio, does ’na ddim awydd cysgu ar yr hen deigrod bach ac maen nhw’n llawn bîns. Ma’ plant reit glyfar amser mynd i gwely, ac mi allwch chi garantîo y gwnawn nhw drio pob math o distraction techniques i ohirio rhoi pen ar y gobennydd. Mae’r lluniau’n fawr ac yn drawiadol ac er bod nhw’n amlwg yn steil Huw, maen nhw’n wahanol i’w stwff arferol o hefyd. Mi sylwch hefyd fod y testun ei hun yn reit fyr ac yn syml iawn - felly aidial ar gyfer cyd-ddarllen gyda’r rhai bach fel stori sydyn. Mi fedran nhw helpu i wneud rhai o’r synau er enghraifft. Dwi’n licio fod ’na dipyn bach o hiwmor yn rhan o’r stori, y math o hiwmor syml ond clyfar ’na lle mae’r plant yn mwynhau, ond mae o’n siŵr o wneud i’r oedolion wenu hefyd, wrth iddyn nhw feddwl “yup, I know that feeling” wrth ddarllen (ac mi wnes i chwerthin yn uchel pan welais i beth oedd gan dad ar droed y soffa!). O’r diwedd, mae gan Mami a Dadi teigr gyfle i ymlacio a rhoi eu traed i fyny ar y soffa, gan wybod fod y plant yn ddistaw ac yn hapus braf dan y duvet…. yeah, right! Fel sydd i’w weld gyda nifer o lyfrau ‘dan 7’ heddiw, mae ’na gyfieithiad Saesneg ar gael yn y cefn i hwyluso pethau i rieni di-Gymraeg neu’r rheiny sy’n dysgu felly mae hynny’n bonus. Dwi’n siŵr y bydd ‘na fwy o brosiectau ar y cyd i ddod gan Luned ac Aaron. Wel, da ni’n gobeithio y bydd ‘na beth bynnag. Nos Da, Tanwen a Twm [goodnight, Tanwen and Twm] is an amusing new children’s picture book by the power couple of Welsh children's books, Luned and Huw Aaron. This is the first one they’ve done together, and the two of them have had quite a year. Both were shortlisted for the Tir na n-Og Awards 2021 and one of Huw’s books also made it to the Children & Young People’s Book of the year shortlist. On top of all this, they've set up a BRAND-NEW publishing press called Llyfrau Broga and we’re all very excited to see what they’ve got in store for us. Right, I'm going off track. Back to the book. I'm sure that parents of little children across Wales will be able to identify with this story! If there are two things certain is this world, one is that children will want a wee almost immediately after starting a car journey, and the other is that they’ll do ANYTHING to avoid going to bed! This is a funny, cute little story about a small family of tigers, taking a light-hearted look at the challenge of their night-time routine trying to get the kiddos to bed. Despite their efforts, the children aren’t really interested in going to sleep and are full of beans if anything. Children are, at bed time, very clever and they’ll employ all sorts of distraction techniques to delay that ‘lights out’ moment. The pictures are large and striking and although they are obviously Huw's style, they’re somewhat different to his usual stuff. You’ll also notice that the text itself is quite short and simple – ideal for co-reading with the little ones for a quick story. They can help out with the reading by making some of the sounds. I like that there's a little bit of humour to this story, the kind of simple yet clever humour that the children will like but the adults will also raise a smile as they get that "yup, I know that feeling" whilst reading. (I had to laugh when I saw what Daddy tiger had by the sofa!). Finally, after much effort, Mami and Dadi get the chance to put their feet up and relax, safe in the knowledge that their little ones are safely tucked away under the duvet.... yeah, right! As with a number of new books for ‘under 7’s’, and English translation is available in the back to help parents who are new to reading in Welsh or are learning themselves. I think that’s a great idea. Can’t wait for Luned and Aaron’s next collaboration. Something tells me I won’t have to wait long… Cyhoeddwr/publisher: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd/released: 2021 Pris: £6.95 ISBN: AM YR AWDURON (oddi ar Gwales) Mae Huw Aaron yn gartwnydd, arlunydd ac awdur o brofiad, ac wedi cyfrannu cartwnau i gannoedd o lyfrau a chylchgronnau yn Nghymru a thu hwnt. Cafodd Ble Mae Boc ac Y Ddinas Uchel eu henwebu ar restr fer gwobr Tir na n'Og yn 2019 a 2020, ac enillodd Yr Horwth categori plant a phobl ifanc gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020. Sefydlodd Huw y comic poblogaidd, Mellten yn 2016, a chafodd 11,000 o gopïau o'i lyfr comic Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru yn 2019. Yn ystod cyfnod clo 2020, sefydlodd Huw y sianel You Tube 'Criw Celf', gyda'i fideos wedi eu gwylio dros 100,000 o weithiau. Mae Huw hefyd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen 'Ceri Greu' ar S4C, yn dysgu ac ysbrydoli plant i arlunio a chreu celf eu hunain. huw@huwaaron.com Mae Luned Aaron yn gyn enillydd gwobr Tir na n-Og yn 2017 am ei chyfrol ABC Byd Natur, mae ei chyfres boblogaidd Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch) yn cyfuno dulliau collage a pheintio lliwgar, gan gyflwyno plant Cymru i rai o ryfeddodau’r byd o’u cwmpas. Mae ei gŵr, Huw Aaron, a hithau wedi sefydlu gwasg gyhoeddi llyfrau i blant a phobl ifanc, sef Llyfrau Broga. Mae’n byw gyda’i theulu yng Nghaerdydd mewn tŷ llawn llyfrau.
- Cadi Goch a'r Ysgol Swynion - Simon Rodway
*Scroll down for English* Genre: #ffuglen #hudalledrith #ffantasi / #fiction #magic #fanatsy GWREIDDIOL CYMRAEG ~ WELSH ORIGINAL Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour:◉◉◎◎◎ Oed darllen/reading age: 10+ Oed diddordeb/interest age: 7-14 Her darllen/reading difficulty: ◉◉◉◎◎ Harry Potter – pwy ’di hwnnw? Move over Harry Potter achos mae gan Gymru grŵp o arwyr newydd - mae Cadi Goch a’i chriw wedi glanio! I feddwl bod cyfres Harry Potter mor boblogaidd, ’odd hi wastad yn syndod i mi mai dim ond y nofel gyntaf gafodd ei chyhoeddi yn y Gymraeg erioed. Mae’n amlwg fod y genre hud a lledrith yn apelio’n fawr at blant, ac felly roedd hi’n hen bryd i ni gael rhywbeth tebyg yng Nghymru. Diolch i Simon Rodway (sydd fwyaf adnabyddus am fod yn arbenigwr ar ieithoedd Celtaidd nac awdur plant) am greu byd rhyfeddol newydd i ni ymgolli ynddi. Dyma lyfr sydd i'w groesawu gan ei fod yn llenwi bwlch MAWR yn y ddarpariaeth Gymraeg yn y genre ffantasi a hud. Mae’n anodd peidio meddwl am fyd J.K. Rowling wrth ddarllen y nofel, ond wir i chi, nid knock off o Harry Potter ydi Cadi Goch a’r Ysgol Swynion, er bod nifer o elfennau tebyg. Wedi darllen y nofel, dwi’n meddwl fod ’na falans da o bethau sy’n debyg a phethau sy’n gwbl wahanol i fyd Hogwarts. Does ’na’m byd diflas am yr ysgol yma... Yn syml (ac heb roi sboilars) mae Cadi Goch yn meddwl ei bod hi’n ferch arferol, normal (be bynnag ydi hynny). Pan gaiff ei hysgol ei chau (rhywbeth sy’n digwydd lot rhy aml) er mawr syndod iddi hi a’i theulu, fe gaiff hi gynnig lle mewn ysgol arbennig iawn - Academi Gwyn ap Nudd. Ond nid ysgol gyffredin mo hon, o na! Fel mae’r teitl yn awgrymu, ysgol swynion yw hon, lle mae’r disgyblion lwcus yn cael dysgu sut i wneud pob math o bethau cŵl mewn gwlad bell bell i ffwrdd. Sut mae cyrraedd y lle anhygoel ’ma o'r enw Annwfn? Wel cha i ddim deud wrthoch chi siŵr iawn, neu fydd pawb isio mynd yno! Er bod ’na siom wrth i Cadi adael ei ffrind gorau, Cadi Ddu, (waw- dwy Cadi - confusing!) mae hefyd yn gyfle i wneud ffrindiau newydd fel Mohammed a Tractor! Lle ddaeth yr enw Tractor sgwn i? Stori hir debyg ond mae hi’n dipyn o gymeriad and not to be messed with! Dim ond un broblem fach sydd... mae ei hen fwli hefyd wedi cael lle yn yr ysgol newydd. Tybed beth fydd ymateb Cadi? Brenhines bwerus a chreulon on the loose... o diar! Wrth gwrs, mi fysa nofel lle mae popeth yn berffaith yn eithaf diflas, ond dydi diflas ddim yn air sy’n gysylltiedig ag Academi Gwyn ap Nudd! Er bod digon o hwyl i’w gael yno tydi bywyd ddim yn fêl i gyd yn Annwfn, ac mae ôl y rhyfel cartref yn dal i’w weld ar hyd y wlad, gyda thensiynau’n uchel. Mae’r frenhines greulon, a gafodd ei herlid, eisiau dychwelyd i deyrnasu Annwfn unwaith eto. Dydi hynny ddim yn swnio fel newyddion da i’r disgyblion newydd... Ond ydi hi’n werth ei darllen? Yn syml - ydi. Yn sicr. Dyma nofel sy’n plethu antur, dirgelwch, hud a lledrith a hiwmor at ei gilydd mewn cyfuniad perffaith gan ein tywys ni i fyd y tylwyth teg sy’n llawn rhyfeddodau a pheryglon (mae’r bobl efo creithiau ar eu gyddfau yn creeeeeepy – dwi methu disgwyl i gael gwybod mwy!). Tydi hi ddim yn dasg hawdd i greu byd hollol newydd o scratch (mewn un nofel) ond dwi’n meddwl fod Simon wedi llwyddo (mae o hyd yn oed wedi gallu stwffio dipyn bach o politics i mewn hefyd!). Dwi wir yn gobeithio y ceith o’r cyfle i ddatblygu’r byd yma ymhellach. Er bod plot y nofel yn arallfydol ac yn ffantasïol ei natur, mae o hefyd yn ddigon credadwy ac yn pontio rhwng y byd o hud a lledrith a’n byd go iawn diflas ni! Pwy fasa’n hoffi'r llyfr yma? Unrhyw un sy’n licio magic. Ar gyfer darllen yn annibynnol, dyma lyfr sy’n addas ar gyfer ddarllenwyr eitha’ hyderus oedran top yr ysgol gynradd yn fy marn i, ond mi fasa fo’n iawn i flynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd. Mi fysa hi’n gwneud nofel ddosbarth dda fel bod darllenwyr o bob gallu yn cael y cyfle i’w mwynhau. Harry Potter – who’s he? Move over Harry Potter ‘cause Wales has a bunch of new young heroes now that Cadi Goch and her crew are in town. To think that the Harry Potter series was so popular, it always surprised me that only the first novel was ever published in Welsh. It’s clear that the magic/fantasy genre is popular with our young readers, so it was high time that we had our own version here in Wales. Now, thanks to Simon Rodway (who is better known for being an expert on the Celtic languages than as a children's author) we have a whole new world to immerse ourselves in. It’s difficult not to think of J.K. Rowling's creation when reading the novel, but believe me, Cadi Goch a’r Ysgol Swynion is not just a knock off of Harry Potter, although there are a number of similarities. Having read the whole novel, I think there’s a good balance of things that are similar and things that are completely different to the world of Hogwarts. There's nowt boring about this school… Without giving too much away, the story begins with Cadi Goch thinking she’s a totally average, run-of-the-mill, normal girl (whatever that is). When her school closes, (something we hear about far too often) and much to the surprise of her family, she’s quickly offered a place at a very prestigious school – Academi Gwyn ap Nudd. This however, is no ordinary school. For you see, as the title suggests, this is a place of spells and enchantments, where the lucky pupils are taught how to do all sorts of cool wizzardy things in a far away land. How do you even reach this magical place called Annwfn? Well, I couldn’t possibly tell you or else everyone would be trying to get there! (sorry, you’ll have to buy the book to find out) Although Cadi is disappointed to leave her best friend, Cadi Ddu, (ok, two Cadis – that’s confusing!) moving schools is an opportunity to make brilliant new friends such as Mohammed and Tractor! I’m not even sure we ever find out how Tractor got that nickname, but I’m sure there’s a really interesting story there. Anyway, she’s one heck of a character and certainly not one to be messed with! There’s only one small problem... Cadi’s old bully has also been given a place at the new school... I wonder what Cadi will make of that? Evil queen on the loose... oh dear, that doesn’t sound good… Any novel where everything was fine and dandy would be pretty boring, right? Well, boring’s not a word we associate with Academi Gwyn ap Nudd! Although there’s plenty of fun to be had, all is not well in Annwfn and trouble is brewing. After the brutal civil war, tensions are high across the land. The cruel monarch, who was exiled, wants to return to the throne and her crazy supporters will stop at nothing to get her back in power. This is going to cause a headache for Cadi and her new classmates for sure. But is it worth reading? To cut a long story short- yes, very much so. This is a novel that gives us plenty of adventure, mystery, magic and humour in equal measure, as we journey through the portals of space and time to a world of wonder, and danger too! (the people with scars on their necks are creeeeeepy – I want to know more!) It's not an easy task to create a completely new world from scratch in one novel, but I think Simon has succeeded with his first foray into children’s literature. He’s even managed to bring in a little bit of politics in too, but not too much, thankfully! I really hope we’ll see a lot more of this new world. Although the plot of the novel is otherworldly and magical in nature, it’s also remarkably believable, and I really bought-in to the fact that we have our own, boring everyday ‘muggle’ world, and then you’ve got these portals that can take you to a whole new magical realm. Who’d like this book then? Anyone who likes magic basically. For independent reading, this is a book that is suitable for the confident readers of the top age of primary school IMO, but it’d also be ok for the early years of secondary school. This one’s a good candidate for a class novel so that the teacher could read and readers of all abilities could enjoy it. Mae Bethan Gwanas hefyd wedi mwynhau'r llyfr... Darllenwch ei blog i weld beth sydd ganddi i'w ddweud am y nofel... https://gwanas.wordpress.com/2021/04/25/cadi-goch-ar-ysgol-swynion/ Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/published: 2021 Pris: £7.99 ISBN: 978-1-80099-057-9
- Tami [Y Pump] -Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse
*Scroll down for English* - English to follow soon Oed diddordeb/interest age: 14+ (KS3/4) Oed darllen/reading age: 14+ Rhybydd cynnwys: Yn ogystal â themâu ac iaith gref a all beri gofid i rai, ceir cyfeiriadau at ableddiaeth (ableism) ac awgrym o gamfanteisio rhywiol drwy ffotograffau yn y nofel hon. Content warning: mature themes and language, and reference to some topics that could cause distress for some. CYNNWYS YCHWANEGOL AR https://www.amam.cymru/ypump Tami ydi’r ail nofel yng nghyfres newydd Y Pump: ‘cyfres o bum nofel am bum ffrind gan bump awdur a phum cydawdur ifanc’. Y weledigaeth sydd y tu ôl i’r gyfres yw rhoi llais i bobl ifanc sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli. Yn ogystal â hynny, mae’r gyfres yn rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc weithio gyda’r awduron, ac yn rhoi’r cyfle i bawb gydweithio i roi’r gyfres at ei gilydd - sy’n swnio fel profiad gwych yn fy marn i. Mae’n anodd credu mai hon yw nofel gyntaf Mared Roberts. Mae’r iaith lafar naturiol mor hawdd ei darllen ac mae rhai o’r sylwadau craff a’r disgrifiadau gwreiddiol yn aros y cof, er enghraifft: ‘Cyd-ddigwyddiad bod ’na ‘laeth’ mewn ‘sosialaeth’? I think not.’ ‘Dyw e ddim yn boen arwynebol, ond yn boen sy’n dod reit, reit o’r tu fewn. Poen gwacter, bron nag yw e’n teimlo fel poen o gwbl. Fel cwdyn Capri-Sun pan mae rhywun yn llowcio pob daioni mas ohono fe, ac yna’n llenwi fe’n ôl gydag aer a’i adel e’n wag.’ Mae Mared, ynghyd â Ceri-Anne, wir wedi llwyddo i greu cymeriad byw ac mae personoliaeth Tami yn bownsio oddi ar y tudalennau. Yn sicr, mae hi’n gymeriad sy’n teimlo fel ffrind erbyn i chi gyrraedd y tudalennau olaf, ac mae hi wedi aros efo fi ymhell ar ôl i mi gau’r clawr. Person anabl ydi Tami, ac wrth drafod y broses o greu Y Pump mae Ceri-Anne yn nodi bod rhan o stori Tami yn ‘delio gyda’r rhwystrau sy’n gallu codi o fod yn berson anabl’. Yn sicr, caiff hynny ei gyfleu’n gelfydd yn y nofel, gan amlygu’r heriau ychwanegol sy’n wynebu person anabl, a sut y gall hyn arwain at deimlo’n unig iawn ar adegau. Ond nid yw stori Tami’n troi’n gyfan gwbl o gylch y rhwystrau hyn. Llwyddir i gyfuno’r rhwystrau yma gyda rhai o’r heriau cyffredinol sy’n wynebu merch ifanc, fel ysgol, arholiadau, a chariad. Dw i’n credu fy mod wedi cymryd at stori Tami gymaint gan ei bod hi’n ferch sy’n ceisio canfod ei lle yn y byd. Mae hi’n trio canfod ei rôl o fewn criw Y Pump, yn dal i geisio addasu i’w sefyllfa deuluol ac yn ansicr ynghylch y dyfodol. Mi fedra i’n sicr uniaethu gyda hynny. Wedi blynyddoedd o ddelio gyda’r heriau a’r rhwystrau ychwanegol o fod yn berson anabl, mae Tami wedi canfod ambell ffordd o amddiffyn ei hun a’i theimladau, ac yn llwyddo’n aml i ymddangos fel bod popeth yn iawn. Mae’r nofel yn bendant wedi tanlinellu pa mor bwysig ydi hi i roi’r amser i holi sut mae rhywun go iawn. Dw i’n hoff iawn o’r ffaith fod Tami’n gymeriad mor aml haenog. Ar un llaw mae hi’n hyderus, yn witty ac yn annwyl, ac ar y llaw arall mae hi’n ansicr, yn swil ac yn unig. Tydi hi chwaith ddim yn cael ei phortreadu fel ei bod hi’n berffaith - mae hi’n gwneud camgymeriadau fel ydan ni i gyd. Fe wnes i wir fwynhau dilyn rhan fechan o daith Tami wrth iddi geisio canfod pwy ydi hi a cheisio bod y fersiwn gorau ohoni hi ei hun. Mae Ceri-Anne yn sôn y byddai wedi gallu parhau i ddatblygu cymeriad Tami am o leiaf pum nofel arall ac mi rydw i’n sicr yn credu ei bod hi’n gymeriad fyddai’n gallu cynnal ei chyfres ei hun! Yn bendant, mi fyswn i yn nhu blaen y ciw i gael gafael ar gopi o ddilyniant i’r nofel hon, yn enwedig am fy mod i’n torri fy mol isio gwybod mwy am sut y bydd perthynas Tami a Sam yn datblygu. O fod wedi darllen Tami dw i wir yn credu fod y syniad y tu ôl i’r gyfres yma wedi llwyddo. Mae’r arddull, y cynnwys a’r cymeriadau’n gyfoes, yn berthnasol ac yn gredadwy. Yn bwysicach na dim, dw i’n credu fod y gyfres yn llwyddo i gynrychioli bywydau pobl ifanc heddiw gan hefyd roi llais i’r rheiny a gaiff eu hesgeuluso a’u tangynrychioli fel rheol, ac fe wneir hynny’n gelfydd ac yn naturiol iawn. Dw i’n sicr yn credu ei bod hi’n hollbwysig fod pobl ifanc yn cael y cyfle i gyfrannu a rhoi barn ar yr arlwy llenyddol sydd ar gael iddyn nhw a bod cyfleoedd ar gael i awduron ifanc a newydd ddatblygu eu gwaith. Pwy well nag awdur ifanc i ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa ifanc! Does dim dwywaith bod lle ac angen am gyfres fel hyn, a dw i’n mawr obeithio fod Y Pump wedi gosod sail ar gyfer datblygu mwy o gyfresi uchelgeisiol tebyg at y dyfodol. ENLISH TRANSLATION TO FOLLOW Gwasg/publisher: Y Lolfa Cyfres: Y Pump Cyhoeddwyd/published: 2021 Pris: £5.99 am un neu £25 am bocs-set ISBN: 978-1-80099-062-3 WEDI MWYNHAU TAMI? DARLLENWCH WEDDILL Y GYFRES... AR GAEL NAWR AM £5.99 yr un NEU £25 am becyn o 5
- Cath y Siop Lyfrau - Cindy Wume [addas. Elin Meek]
*Scroll down for English* Welsoch chi 'rioed siop lyfrau o'i fath! You've never seen a bookshop like this before! Oed darllen/reading age: 6+ Oed diddordeb/interest age: 3-7 SNîC PîC SNEAK PEEK. Nid oes sain ar y fideo. Video has no sound. Rhwng y cyfnod clo a phopeth arall, mae hi wedi bod yn flwyddyn a hanner! Mae’n siŵr fod ’na lawer ohonom wedi laru ar y cyfyngiadau erbyn hyn, a fod nifer yn ysu i gael mynd dramor ar wyliau fel tasen nhw'n gwneud fel rheol. Er bod y package holidays yn gorfod disgwyl, rydan ni’n ffodus fod gynnon ni lyfrau anhygoel i’n diddori ni yn y cyfamser - heb orfod gosod troed ar awyren! Mae llyfrau yn bethau rhyfeddol - dim ond darnau o bapur wedi eu rhwymo gyda’i gilydd ydyn nhw, ond eto, mae ganddyn nhw bŵer aruthrol i fynd â chi i unrhyw le yn y byd (a thu hwnt!) Dyna neges graidd llyfr newydd lliwgar gan artist ifanc o’r enw Cindy Wume o Taiwan. Yn wahanol iawn i aelodau eraill ei deulu, dim ond darllen sy’n mynd â bryd y gath fach ddu. Mae’n caru llyfrau a darllen sydd ar ei meddwl ddydd a nos. A ’da chi’n gwybod be? Does ’na ddim o’i le gyda bod yn wahanol. Hyd yn oed os yw eich diddordebau chi’n wahanol i’ch teulu a’ch ffrindiau – so what! Dyna sy’n eich gwneud chi’n berson arbennig! Fel llawer o bobl, chwilio mae’r gath fach ddu am ei ‘swydd ddelfrydol’, a thrwy lwc, mae’r siop lyfrau lleol yn chwilio am help. Wrth gwrs, nid yw bywyd yn fêl i gyd, ac un diwrnod mae rhywbeth ofnadwy yn digwydd i’r siop. Ar ôl i’r siop gael ei difetha, bydd rhaid i gath y siop lyfrau a’i chyfaill feddwl am gynllun dyfeisgar i ddod â bwrlwm y cwsmeriaid yn ôl... Fe gawn yma gyhoeddiad amserol iawn, mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn i lawer o siopau bach annibynnol, gan gynnwys siopau llyfrau. Dwi ond yn gobeithio y bydd ’na ddiweddglo hapus i siopau bach y stryd fawr yng Nghymru hefyd! Tybiwn y bydd y llyfr yma’n berffaith ar gyfer cyd-ddarllen fel stori amser gwely, ac mae’n llyfr da i ddarllenwyr newydd sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Mae Cath y Siop Lyfrau yn stori annwyl (os nad mymryn yn twee) gyda lluniau sydd â gwedd glasurol a thraddodiadol iddynt. Fel y gwelwch, mae pob tudalen yn byrlymu â lliw ac yn llawn manylion bach i sylwi arnynt wrth ddarllen. Dyma lyfr sy’n dathlu ein siopau llyfrau ac yn dangos y cyfraniad pwysig y maen nhw’n ei wneud i’n cymunedau - mewn llawer mwy o ffyrdd na jest gwerthu llyfrau! Dwi eisiau diolch o waelod calon i bob un ohonynt am eu gwaith caled yn cadw Cymru’n darllen dros y pandemig. Ac fel y mae’n digwydd bod, mae gwasg Y Dref Wen yn dathlu 50 mlynedd o gyhoeddi llyfrau ardderchog ’leni - felly Pen-blwydd Hapus i chi - ymlaen at y canmlwyddiant rŵan! Between the various lockdowns and everything else, it’s been one hell of a year! A lot of us are properly fed up of all the restrictions by now. Those of us who love the sun have been itching to get away for that summer tan for months. Despite the package holidays being on hold, at least we’re fortunate enough to have incredible books at our disposal to keep us from going stir crazy in the meantime – and you can enjoy them without setting foot on a plane! Books are amazing little things – really they’re just pieces of paper with words bound together, yet they have tremendous power – the power to whisk you away anywhere in the world (and beyond!) That is the core message of this colourful new picture book by a young artist named Cindy Wume from Taiwan. Unlike other members of her family, this black little cat loves nothing more than reading. That is all she ever wants to do! And d’you know what? There’s absolutely nothing wrong with being different. Even if your interests are totally different from your family and friends – so what! That's what makes you a special and unique, so own it. Like many of us, the little black cat is searching for her 'dream job' and as it just so happens that the local bookshop is looking for help. Of course, life isn’t always a fairy-tale, and one day something terrible happens to the shop. The bookshop is in a sorry state, and it will be up the bookshop cat and her friend to save the day and get the shop bustling with customers again. This is a very timely publication, at a time that has been very difficult for many small independent shops, including our independent bookshops. I only hope that there'll be a happy ending for our wonderful small high street shops in Wales too! I think this book will be perfect for reading as a bedtime story, and it’s actually a pretty good book for new readers who are starting to read independently. Cath y Siop Lyfrau is a sweet story with illustrations that have a classical, traditional look and feel about them (if ever so slightly twee some might say). As you can see, each page is bursting with colour and is full of little details to notice whilst reading. This is a book that celebrates not only reading but our bookshops and highlights the important contribution they make to our communities - in more ways than just selling books! I want to thank them all for their hard work in keeping Wales reading over the pandemic. And as it happens, Dref Wen publishers are celebrating 50 years of publishing this year - so let’s wish them a very Happy Birthday – here’s to the next fifty! Cyhoeddwr/publisher: Dref Wen Cyhoeddwyd/released: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 978-1-78423-178-1 Pwy yw Cindy Wume? Who is Cindy Wume? Cindy Wume lives and works in Taiwan and is a graduate of the prestigious Anglia Ruskin MA in Illustration. Her first book, The Best Sound in the World, was published by Frances Lincoln in 2018 and was shortlisted for the Klaus Flugge prize. Cindy is passionate about drawing and uses gouache, ink, dip pens and coloured pencils to create her vibrant illustrations, which are regularly featured in Chinese and Taiwanese magazines. Cindy was also part of the visiting contingent of Taiwanese illustrators at Bologna this year and one of their highlighted illustrators in the Bologna Showcase 2018.
- Al - Manon Steffan Ros
*Scroll down for English* Cyfres/series: Copa Oed darllen/reading age: 12+ Oed diddordeb/interest age: 13+ Five short novels for teen readers dealing with difficult, contemporary themes. Pum nofel fer sy'n ymdrin â themâu cyfoes, anodd, sy'n addas ar gyfer yr arddegau hŷn. Ydych chi’n hoff o nofelau sy’n ymdrin a themâu o lofruddiaeth a rhyfeddodau? Dyma nofel am y trawma sy'n gysylltiedig â gorfod delio â'r ffaith bod ffrind yn lladd ei gariad. Mae Cai yn darganfod bod Al wedi lladd Meg a’r ôl noson feddw a chawn ddarganfod mwy am hanes Al drwy lygaid ei ffrind. Mae Al yn gymeriad blin ac ymosodol ac mae Manon Steffan Ros yn cyfleu cymhlethdod ei gymeriad drwy gyfosod ei natur balch ei blentyndod a’r ffaith na welwn ei euogrwydd o gwbwl. Gwelwn hyn ymhellach ym mherthynas Al a Cai. Mae Al yn ymddangos fel hogyn aeddfed a chyfeillgar ond yn y bôn o dan arwyneb ei gelwyddau nid dyma’r Al y mae ef yn meddwl ei fod yn ei adnabod. Dyma’r Al a lofruddiodd un ei gariad dan adael ei ffrind gorau Cai mewn storm o gwestiynau. Roedd hon yn noson annisgwyl iawn i Cai. Roedd Cai yn deall bod gan Al ochr blin iddo ond erioed wedi cymryd llawer o sylw o’r peth gan ei fod wastad mor barod i helpu Cai a’i Fam. Ond ar y noson feddw hon ym Mangor roedd Al yn wallgof ac wedi yfed gormodaeth alcohol! Pan adawodd Cai nid oedd modd iddo ragweld beth fyddai’r dyfodol yn ei gynnig i Meg. Nid oedd ef i’w wybod y byddai Al yn troi yn lofrudd dros nos. Dyma sut y gwnaeth noson allan droi yn safle o drosedd a thor-calon. Nofel yw hon sydd yn dal llygad y darllenwr yn syth o’r cychwyn cyntaf ac mae’r ddeialog yn addas ar gyfer plot. Mae yna fwy o gwestiynau nag atebion yn y nofel a dyw hon ddim yn nofel mae rhywun yn gorffen ei darllen ac yna'n anghofio amdani'n syth. Do you like novels that deal with murder and mysteries? This is a novel about the trauma of coming to terms with the fact that a friend has killed his lover. Cai finds out that Al has killed Meg after a drunken night and we hear more about Al through the eyes of his friend. Al is an angry and confrontational character and Manon Steffan Ros conveys his complex personality through the interplay between his proud childhood and the fact that we see little remorse. We see this further through Cai and Al's relationship. Al appears to be a mature, pleasant individual but deep down, underneath the surface layer of lies, this Al is a far cry from the friend he thought he knew. This is the Al who killed his partner whilst leaving his best friend with a raft of unanswered questions. This night was most unexpected for Cai. He knew Al had a dark, angry side but he never took much notice as he was always so willing to help Cai and his mum. But on this drunken night out in Bangor Al was crazy and off his head on booze. When Cai left that night, he had no idea what was in store for Meg. Little did he know his friend would turn murderer overnight! This is a story of how a harmless night out turned into a crime scene full of tragedy and pain. This is a novel that keeps the reader's attention from start to finish and the dialogue is appropriate for the plot. There are more questions than answers and it's certainly not a novel that you can read and forget about in a hurry! Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/released: 2014 Pris: £2.95 WEDI MWYNHAU? BETH AM DRIO...? Al, Manon Steffan Ros Llanast, Gwen Lasarus Ni'n Dau, Ceri Elen Aji, Gareth F. Williams Clec Amdani, Esyllt Maelor
- 10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod) - Ifan Morgan Jones
*Scroll down for English* ♥Llyfr y Mis i Blant: Mai 2021♥ ♥Children's Book of the Month: May 2021♥ Oed darllen/reading age: 7+ Oed diddordeb/interest age: 7-15+ Lluniau/illustrations: Telor Gwyn Genre: #ffeithiol #hanes #Cymru #Cymraeg #gwreddiol/ #factual #history #Wales #WelshOriginal Wrth edrych yn ôl ar fy siwrne drwy’r byd addysg, ‘sgen i ond diolch i fy athrawon, fy narlithwyr a phawb sydd wedi fy nghynnal ar hyd y ffordd. Yn sicr, does gen i fawr o gwynion wrth feddwl am fy mhrofiadau yn yr ysgol- wel, heblaw am un peth. Mae ‘na rhywbeth sy’n yn dal i fy ngwylltio heddiw - y ffaith na ches i ‘run gronyn o hanes Cymru yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol gynradd, a fawr ddim yn yr uwchradd chwaith. Fel llawer o oedolion dybiwn i, pam fy mod i’n gallu rhestru enwau holl wragedd Harri’r VIII neu sôn wrthych am y Frenhines Fictoria ond fedra i ddweud y nesa peth at ddim wrthych am arwyr hanesyddol fy ngwlad fy hun? Rŵan, dwi’n siŵr fod y sefyllfa wedi gwella ers hynny ond wir i chi, mi faswn i wedi gwirioni gyda llyfr fel hyn pan oeddwn i’n blentyn, ac mae plant heddiw yn lwcus i gael adnodd o’r fath. Diolch byth fod Ifan Morgan Jones (sy’n berson hynod o brysur) wedi mynd ati i gasglu’r hanesion a’u pecynnu mewn ffordd mor ddymunol gyda thipyn o help llaw gan Telor Gwyn. Mae ei luniau cŵl yn dod a’r ffeithiau’n fyw a dwi’n meddwl mai’r arlunydd yma oedd y dewis perffaith ar gyfer llyfr o’r fath - doedd llyfrau hanes byth yn edrych fel hyn pan oeddwn i’n iau! Gyda hanes mor gyfoethog â Chymru, sut ar y ddaear mae IMJ wedi llwyddo i hidlo’r straeon i lawr i ddeg? Coblyn o job. Wedi dweud hynny, o leiaf ‘da ni’n gwybod fod ‘na ddigon ar gyfer sawl cyfrol arall. Byddai’n dda gweld mwy o straeon o’r canolbarth ac o Ogledd Cymru hefyd tro nesaf. Yn ogystal â rhai ffigyrau hanesyddol enwog a phoblogaidd, dwi’n hapus fod rhai unigolion llai adnabyddus wedi cael eu cynnwys hefyd, ac mae eu cyfraniad hwythau'r un mor bwysig. A ninnau’n byw gyferbyn â gwlad mor fawr a dominyddol â Lloegr, rydym ni’n amddiffynnol iawn o’n hanes a’n hunaniaeth. Gall hyn ei gwneud hi’n hawdd iawn i edrych yn ôl ar ein hanes mymryn yn or-ffafriol (yr hen sbectols rose-tinted ‘na) ac fe gawn air o gyngor call iawn gan yr awdur: “i ddeall ein hanes mae angen i ni gofio’r da a’r drwg!” Er enghraifft, rydym yn dueddol o glodfori Bartholomew Roberts, neu ‘Barti Ddu’ ond rhaid cofio, ei fod o hefyd yn gyfrifol am weithrediadau drwg iawn dros ei oes. Mi ydan ni hefyd yn sôn am y diwydiant glo a llechi fel testun balchder, ond mae iddo hefyd ochr dywyll a pheryglus sy’n llawn trasiedi. Gyda thudalennau lliwgar, a rheiny’n frith o ffeithiau diddorol wedi cael eu torri’n baragraffau manageable, bydd hwn yn siŵr o apelio at ddarllenwyr o tua 7 oed hyd at oedran ysgol uwchradd. Bydd oedolion sy’n cyd-ddarllen yn siŵr o ddysgu rhywbeth newydd hefyd – mi wnes i! Yn ôl rhai llyfrwerthwyr, mae’r llyfr yn hedfan oddi ar y silffoedd; a hawdd yw gweld pam. Gyda’i glawr caled trawiadol melyn a choch, dyma lyfr sy’n mynnu eich sylw a byddai’n gwneud anrheg gwerth chweil (os fydd ‘na gopis ar ôl erbyn y ‘Dolig!) Heb os, dyma un o’r llyfrau pwysicaf i gael eu cyhoeddi ‘leni, sy’n ychwanegu at y dewis prin o lyfrau ffeithiol cyfoes, engaging sydd ar gael yn y Gymraeg, ac mae hwn yn haeddu ei le ar y silff lyfrau ym mhob ysgol a chartref. Gobeithio y bydd Rily yn ystyried cyhoeddi mwy o lyfrau gwreiddiol Cymraeg yn y dyfodol. Looking back at my own educational journey, I’ve got nothing but thanks to my teachers, lecturers and all those who’ve helped me along the way. I certainly don't have many complaints when I think about my experiences at school- well, except for one thing that is. There’s just one thing that still bothers me to this day - the fact that I didn’t get an iota of Welsh history during my time in primary school, and not much more in secondary school come to that. Like many adults, I can happily list you the names of Henry VIII's wives or even tell you about Queen Victoria’s reign but I can hardly tell you a thing about the bygone heroes of my own country. Now, I'm sure things have improved since then but honestly, I would have loved a book like this when I was a child, and today’s lot are lucky to have such a resource. Thankfully, Ifan Morgan Jones (who appears to be a ridiculously busy person) has done his homework on these stories and packaged them in such an appealing way with a helping hand from Telor Gwyn. His cool illustrations bring the facts to life and I think he was the perfect choice for such a book - history books never used to look like this! With a history as rich as Wales’, how on earth has IMJ managed to whittle the stories down to ten? Not an easy task I bet. Having said that, at least we know that there’s enough material for several other volumes. It’d be good to see more stories from mid and North Wales next time too. In addition to some famous historical figures, I’m happy that some lesser-known individuals have also been included, as their contribution is equally important and properly recognized here. Living next to a country as large and as dominant as England, it’s only natural that we’re very proud and fiercely protective of our own history and identity. Though not a bad thing, it can make us view our history through those old rose-tinted glasses. We get some handy advice from the author in this respect: "to understand our history we need to remember the good and the bad!" For example, we tend to celebrate Bartholomew Roberts, or 'Barti Ddu' but it must also be remembered, that he was responsible for many bad deeds during his lifetime. We also talk about the coal and slate industries of yesteryear as a source of national pride, but it also had a dark and dangerous side full of tragedy. With two colourful double page spreads per figure, littered with interesting facts broken into manageable chunks, this will surely appeal to readers from about 7 years old right up to secondary school age. Adults who read along will definitely learn something new as well – I did! According to booksellers, the book is flying off the shelves; and it’s easy to see why. With its impressive yellow and red hardback cover, this is a book that demands your attention and would certainly make a great gift (if there are copies left by Christmas!) This is undoubtedly one of the most important books to be published this year- which adds a greatly-needed offering to the slim choice of contemporary non-fiction books in Welsh. It deserves its place on the bookshelf in every school and home. I hope that Rily will consider publishing more original Welsh books in the future. Cyhoeddwr/publisher: Rily Cyhoeddwyd/released: 2021 Pris: £9.99 ISBN: 9781849675414 OEDDECH CHI'N GWYBOD? DID YOU KNOW? Mae 'na lyfr gweithgareddau i gyd-fynd! There's an activity book to accompany! Dyma lyfr lliwio a gweithgaredd clawr meddal, sy'n llawn dop o gynnwys difyr yn ymwneud â hanes digwyddiadau Cymreig, pobl Cymru, diwylliant Cymru a threftadaeth Gymreig. Bydd plant wrth eu bodd â'r posau mathemateg, dod o hyd i’r gwahaniaethau, lliwio yn ôl rhifau, gêmau hwyl a llawer, llawer mwy! Bydd y llyfr ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Beautiful paperback activity and colouring book is packed full of content – all linked to the history of Welsh events, Welsh people, Welsh culture and Welsh heritage. Children will love the maths puzzles, spot the difference, colour by numbers, fun games and much, much more! The book will be available in both Welsh and English languages. Awdur/author: Tanwen Haf Lluniau/pictures: Telor Gwyn: Pris: £6.99 https://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781849675864&tsid=9
- Melltith yn y Mynydd - Elidir Jones a Huw Aaron
*Scroll down for English* Genre: #ffuglen #ffantasi / #fiction #fantasy Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎ Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◉◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎ Oed darllen/reading age: 12+ Oed diddordeb/interest age: 12+ (ac oedolion! And adults too!) Dyma’r ail lyfr yng nghyfres Chwedlau’r Copa Coch gan Elidir Jones a Huw Aaron, sy’n ddilyniant teilwng i Yr Horwth. Mae llyfrau ffantasi yn y Gymraeg wastad wedi bod yn dipyn bach o niche. Heblaw am drioleg diweddar Y Melanai (sy’n blwmin gwych gyda llaw) doedd fawr o sôn am ffantasi Cymraeg yn gyffredinol. Ond yn 2019, yn fuan ar ôl ei gyhoeddi, fe aeth Yr Horwth ymlaen i ennill categori newydd sbon danlli yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn, ac fe roddodd y genre ffantasi yn ôl ar y map a’i gyflwyno i genhedlaeth newydd. No pressure ar gyfer y dilyniant felly! O’r diwedd, mae llyfrau ffantasi yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol, ac yn dechrau cael eu gweld fel llyfrau o safon (nid jest fel pethau sy’n apelio at nerds yn unig). Mae nhw hyd yn oed yn gallu ennill gwobrau! Dydi’r nofel ddim yn gwastraffu amser, ac fe gawn ein hail-gyflwyno i’r anturiaethwyr dewr mewn dim o amser sy’n caniatáu i ni neidio i mewn i’r antur nesaf yn reit handi. Os dydach chi heb ddarllen Yr Horwth, mi allwch chi fwynhau Melltith yn y Mynydd fel nofel ar ei phen ei hun, ond wir i chi, mi faswn i’n eich cynghori i’w darllen nhw yn eu trefn. Mae o jest yn gwneud mwy o synnwyr! Orig, perchennog y dafarn yw adroddwr y stori, a thrwyddo fo y down i wybod am antur fawr nesaf ein ffrindiau, Nad, Sara, Pietro a Heti wrth iddo adrodd hanesion y gorffennol wrth ei westai, Ffion. Ia, distaw iawn fu bywyd ein harwyr ers trechu bwystfil y nofel gyntaf, ond yn ffodus iawn i ni’r darllenwyr, mae pethau rhyfedd iawn yn digwydd o amgylch y Copa Coch o hyd... (mi fasa happy ever after yn reit ddiflas basa!). Fe wyddwn o’r nofel gyntaf fod ’na ysbrydion dychrynllyd yn trigo yng nghrombil y Copa Coch, ond mae rhywbeth yn eu denu allan o’r mynydd sy’n fygythiad enbyd i’r pentref newydd. Does dim dewis gan ein hanturiaethwyr dewr ond mynd i chwilio am atebion, ond dwi’m yn meddwl fod neb wedi paratoi ar gyfer yr hyn sy’n eu disgwyl o fewn y mynydd melltigedig... Dyma nofel sy’n dywyllach ac yn aeddfetach na’i rhagflaenydd, ond sy’n dal i gynnwys yr un hiwmor rhwng y cymeriadau sy’n diffinio’r gyfres. Yn wir, mae darnau digon creepy, felly cofiwch hynny os ydach chi’n bwriadu darllen mewn golau gwan! Dyma ddarn sy’n fy atgoffa o ffilm The Exorcist: “Trodd tua’r teithwyr, ac esgyrn a chyhyrau ei wddw’n gwichian ac yn cracio wrth iddo wneud. Edrychodd o’i gwmpas yn feddw, ei lygaid yn troi mewn cylchoedd, fel petai wedi anghofio sut i symud. Tynnodd ei hun ar ei bedwar yn herciog, gan gropian yn frawychus o gyflym...” Mae ’na dipyn go lew o brif gymeriadau, ac er fy mod yn hoff o sawl un, Heti yw fy ffefryn - mae ei chryfder, ei nerth a’i dewder yn ysbrydoledig ac mae ganddi serious Xena: Warrior Princess vibes. Er ei bod hi braidd yn fyrbwyll, un peth sy’n sicr, bydd cranc-fwystfilod arallfydol yn meddwl ddwywaith cyn dadlau â Heti a’i styllen ffyddlon (mae beth mae hon yn gallu ei wneud efo darn o bren a hoelen yn impressive!). Mewn nofelau o’r fath mae’n rhaid treulio cryn dipyn o amser yn creu bydoedd, ac yn aml iawn mae ganddyn nhw nifer o gymeriadau a lleoliadau sy’n gallu bod yn ddryslyd ar adegau. Dyma ble mae lluniau Huw Aaron yn help mawr; trwy greu darlun yn y meddwl, ond gan adael digon i’r dychymyg hefyd. Er hyn, roedd rhaid i mi ail ddarllen ambell ddarn i gael gwell syniad o beth oedd yn mynd ymlaen. Yn sicr, mae’r syniad o stori o fewn stori o fewn stori yn uchelgeisiol ( a does dim o’i le â hynny) ond mae ganddo’r potensial i ddrysu rhai darllenwyr. Mae Elidir Jones yn nabod y genre ffantasi/antur/sci-fi yn dda iawn; mae hynny’n amlwg. Dyma awdur sydd â diddordeb personol yn y maes ac felly yn gwybod beth sy’n gwneud corcar o nofel. I mi, cynhwysion stori dda ydi dim gormod o ‘fflwff’ emosiynol a mwy o bwyslais ar y plot a’r ‘action’. Tydi’r nofel ddim yn siomi o ran hynny, ac mae’r stori’n mynd ar garlam wrth adeiladu tuag at y frwydr fawr yn y rhan olaf. Erbyn act ola’r nofel roedd hi’n amhosib i’w roi i lawr! (dwi’n gwbod bod ni adolygwyr yn dweud hyn yn aml, ond mae’n wir). Er fy mod i’n ffafrio plot cyffrous dros waith cymeriadu dwys, tydi hynny ddim i ddweud nad yw llyfrau ffantasi yn gallu gwneud ‘cymeriadau’ yn iawn hefyd. Er enghraifft, mae un o’r cymeriadau newydd, Mantha, yn ychwanegiad diddorol dros ben i’r gyfres a bydd gen i ddiddordeb mawr clywed mwy am ei chefndir hi. Fel geek fy hun, dwi’n meddwl mai’r ffordd fwyaf priodol i mi grynhoi fy nheimladau yw trwy ddefnyddio Star Wars. Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud fod pawb yn gwybod pa mor anhygoel ac arloesol oedd y ffilm gyntaf, A New Hope, pan gafodd ei ryddhau ym 1977. Ond gofynnwch chi i unrhyw hardcore fan, ac fe ddwedan nhw fod yr ail ffilm, The Empire Strikes Back yn ffilm llawer gwell. Dwi’n teimlo fod hyn yn wir am Melltith yn y Mynydd - llyfr sydd wedi adeiladu a chryfhau ar yr hyn a gychwynnwyd yn Yr Horwth, ac os fydd pethau’n parhau fel hyn, bydd y nesaf yn well fyth dwi’n siŵr! This is the second instalment in the Chwedlau’r Copa Coch series by Elidir Jones and Huw Aaron, and a worthy follow-up to Yr Horwth. Fantasy books (particularly in Welsh) have always been a bit of a niche; something associated with nerdy, pasty teenagers perhaps. Other than the recent Melanai trilogy (which is really good btw) there was little mention of Welsh fantasy in the mainstream. But in 2019, shortly after its publication, Yr Horwth went on to win in a brand-new category at the Book of the Year awards, and it put the fantasy genre firmly back on the map and introduced it to a new generation.No pressure for the sequel then! At last, fantasy books are getting the recognition they deserve as good quality reading materials - ‘serious’ and ‘proper’ novels which are even capable of winning awards. The novel wastes no time in getting started, and we are quickly and skilfully re-introduced and re-acquainted with our heroic adventurers so we can get cracking with the next adventure. Now, if you haven’t read Yr Horwth, you can still enjoy Melltith yn y Mynydd as a standalone novel, but honestly, just read them in order – you know it makes sense! Orig, the landlord is the narrator of this story, and it’s through his recollections of adventures from days gone by that we get to hear about of our friends, Nad, Sara, Pietro and Heti. Life had been a bit quiet for our adventurers following their conquest in the first novel, but fortunately for us readers, there’s plenty of strange goings-on around the mountain… (I mean, happy ever after would be boring, right?) We know from the first novel that some frightening and deadly spirits dwell within the mountain, but recently, something has drawn them closer to the village. That doesn’t sound good, does it? Our brave adventurers are left with little choice but to venture once again into the mountain to look for answers, but I don’t think anyone is prepared for what they find in that accursed place. This is a novel that’s darker and more mature than its predecessor, but still has the same dry humour between the characters that defines the series. Some bits are quite creepy, so bear that in mind if you’re reading it in the dark! There are many characters to follow in this book, and although I like several, Heti is my favourite - her strength and courage are inspirational and she’s got some serious Xena: Warrior Princess kick-ass vibes about her! Although she can be reckless, one thing's for sure, paranormal crab-creatures will think twice before messing with Heti and her faithful weapon (what this lady can do with a plank of wood and a nail is impressive!) In such novels a considerable amount of time has to be spent on world-creation, and they often have a lot of characters and locations that can be confusing at times. This is where Huw Aaron's pictures are a huge help; by visualising some of these amazing people and places, but also leaving enough to our imaginations. I will admit that I had to re-read a few parts just to get a better idea of what was going on. Certainly, the idea of a story within a story within a story is ambitious (and there’s nowt wrong with that) but it does have the potential to confuse some readers. Elidir Jones is someone who knows the fantasy/adventure/sci-fi genre – that much is obvious. This is a writer who has a personal interest in this sort of thing so he knows exactly what makes a cracking fantasy story. For me personally, it’s less ‘emotional fluff' and more emphasis on plot and action. The novel doesn’t disappoint in this respect, and the fast-moving story accelerates to unputdownable levels in the last act as it leads up to the epic all-or-nothing battle. Now, although I’ve suggested that fantasy novels tend to do action better than character development, that's not to say that they can’t tug on our heartstrings as well. For example, one new character, Mantha, makes a very interesting addition to the series and I was totally emotionally invested in her journey. I’m hoping this character gets fleshed out a bit in the next novel. As a self-confessed geek, I think the most appropriate way for me to sum up my feelings is by using a Star Wars analogy. I think it's fair to say that most people know what an incredible and innovative film the first one, A New Hope, was when it was released in 1977. But ask any hardcore fan, and they'll soon tell you that it’s sequel, The Empire Strikes Back is a much better film. I feel the same is true of Melltith yn y Mynydd - a book that has built upon and added to the saga that started with Yr Horwth, and if things carry on like this, the next one will be better still! Gwasg/publisher: Atebol Cyhoeddwyd/released: 2021 Pris: £7.99 ISBN: 978-1-913245-39-9 Os nad ydych chi wedi darllen Yr Horwth - ewch i chwilio am gopi yn eich siop leol neu lyfrgell. Fel arall, dyma'r llyfr llafar am ddim... https://soundcloud.com/atebol/yr-horwth-rhan-1
- Yr Addewid - Nicola Davies [tros.Mererid Hopwood]
*Scroll down for English* Oed diddordeb/interest age: 4+ Oed darllen/reading age: 6+ Trosiad gan/Welsh words by: Mererid Hopwood Lluniau/illustrations: Laura Carlin Dyma lyfr arall gan Nicola Davies sydd wedi’i drosi i’r Gymraeg, gan Mererid Hopwood y tro hwn. Mae’r stori hon wir yn hyfryd. Perthynas pobl efo’r byd sydd o’n cwmpas sydd dan sylw yn y llyfr yma, sy’n cynnwys neges bwysig iawn i blant ac i oedolion fel ei gilydd. Merch ifanc sy’n adrodd y stori, ac mae hi’n dechrau trwy ddarlunio byd hyll a chreulon sy’n llwyd a llwm ac yn cael ei bortreadu’n wych gan Laura Carlin. Mae’r bobl hefyd yn hyll a chreulon. Un noson mae’r ferch ifanc yn dwyn bag gan hen wreigen. Mae’r bag yn llawn a’r hen wreigen yn rhoi dipyn o ffeit cyn gadael i’r bag fynd. Dyweda wrth y ferch ifanc y caiff hi’r bag os wnaiff hi ‘addo eu plannu’. Dydi hyn yn golygu dim i’r ferch ifanc ac mae hi’n dianc efo’r bag gan freuddwydio am yr holl bethau y gall hi eu prynu efo’r holl arian sy’n siŵr o fod yn y bag mawr. Mae’r hyn sy’n y bag yn newid bywyd y ferch ifanc yn llwyr. Mae’r cynnwys yn llawer iawn mwy gwerthfawr nac arian. Mes sydd yn y bag. Llwyth ohonyn nhw! Daw’r ferch i sylweddoli (yn eithaf sydyn i fod yn onest) beth ydi ystyr yr ‘addewid’ a wnaeth i’r hen wreigen, ac mae’n hi’n penderfynu bod rhaid iddi gadw’r addewid yna. Felly, mae hi’n mynd ati i blannu. Mae hi’n plannu’r mes ar hyd a lled y ddinas, yn yr holl lefydd llwyd a di-liw. Fesul tipyn mae’r mes yn tyfu, ac mae’r ddinas yn trawsnewid. Darlunir y cyferbyniad yma’n effeithiol iawn unwaith eto gan Laura Carlin. Dyma stori sy’n berthnasol iawn i’r byd rydan ni’n byw ynddo fo heddiw. Mae’r pwyslais wedi bod, ac yn dal i fod i raddau, ar dyfu adeiladau yn lle tyfu’n coedwigoedd, ar dyfu ein gyrfaoedd yn lle gwyrddni, ac ar dyfu cyfoeth yn lle hapusrwydd. Daw’r awdur â hyn i’n sylw’n effeithiol iawn trwy gyfrwng y stori hon. Mewn byd lle nad ydi pobl yn edrych ar ôl eu hamgylchedd nac yn malio am fyd natur, does dim lle i hapusrwydd a does dim lle i liw. Does dim ond angen un person i ddechrau newid hynny, fel yr ydan ni wedi’i weld efo gwaith pobl nodweddiadol fel Greta Thunberg. Does dim ond angen un person ac un weithred, a fesul tipyn mae’r newid hwnnw’n dechrau lledaenu. Mae’r stori’n gwneud inni feddwl am ein perthynas ni efo’r amgylchedd, ac yn berthnasol iawn i’r holl drafodaethau sydd wedi bod am gyflwr yr amgylchedd. Gorffenna’r llyfr ar nodyn o obaith, gyda’r dyfodol yn nwylo’r bobl ifanc. Dyma lyfr gwych i addysgu plant am bwysigrwydd edrych ar ôl ein hamgylchedd ac am ein perthynas â natur. Dyma rai o’r prif themâu, ond fe sylwch fod na nifer o rai eraill yn cuddio o dan y wyneb hefyd fydd yn sbarduno trafodaethau lu. Here’s another great book by Nicola Davies that has been translated into Welsh, this time by Mererid Hopwood. This story is really lovely and it’s about our relationship with the world around us, with an important message for children and adults alike. A young girl narrates the story, and she begins by depicting an ugly, harsh and somewhat cruel world with it’s grey and bleak landscape brilliantly depicted by Laura Carlin. The people within the city are are as ugly and brutal as their surroundings. One night the young girl steals a bag from an old lady. The bag is full and the old lady puts up a bit of a fight before eventually letting the bag go. She tells the young girl she will let the bag go if she 'promises to plant them'. This means nothing to the young girl and she escapes with her prize and dreams of all the material things she can buy with the money that is bound to be in the bag. What is contained within the bag completely changes the young girl's life. The contents are so much more valuable than money – acorns, and lots of them! The girl comes to realise (somewhat suddenly) what the 'promise' she made meant, and she decides that she must keep that promise. She begins planting. Planting and planting all over the city in the grey, colourless spaces. Little by little, she transforms the city and the vibrancy of the colours and greenery contrasts effectively with the initial lifelessness and dullness, again, expertly done by by Laura Carlin. This is a story that’s very relevant to the world we live in today. The emphasis has been, and still is to some extent, on growing buildings instead of our forests, on growing our ambitions instead of greenery, and on growing wealth instead of happiness. The author brings this to our attention very with this story and gets us thinking, providing a stimulus for great discussions and questions. In a world where people don’t look after the environment or care about nature, there’s no room for happiness and no room for colour and all it’s richness. The book shows that you only need one person to start to make a change, as we've seen with the work of remarkable people like Greta Thunberg, for instance. One person, with small and simple acts, can make a change and spread the word. The story makes us think about our relationship with the environment, and is very relevant in today’s world where we face a climate and biodiversity catastrophe. Unlike some similar books. This one ends with some hope and optimism, with the future in the hands of our young people. What a wonderful book to teach children about the importance of looking after our environment and our relationship with nature. Those are the main themes but you’ll find lots of other subtler ones hiding under the surface too. Cyhoeddwr/publisher: Graffeg Cyhoeddwyd/released: 2021 Pris: £7.99 ISBN: 9781914079344
- Bolgi a'r ŵyn bach - Anni Llŷn
*Scroll down for English* ♥Llyfr y Mis: Ebrill 2021♥ ♥Book of the Month: April 2021♥ Oed darllen/reading age: 5+ Oed diddordeb/interest age: 3-7 Dyma lyfr newydd arall yng nghyfres hynod o boblogaidd Cyw, wedi ei ysgrifennu gan yr awdur profiadol, Anni Llŷn. Dyma gyfle eto i fynd i fyd cyfarwydd Cyw a chwrdd eto â hen ffrindiau fel Llew, Plwmp, Deryn, Jangl ac wrth gwrs Bolgi’r ci. Mantais y gyfres yw bod plant yn hen gyfarwydd gyda Cyw a’i ffrindiau yn barod ac mae’n frand sy’n adnabyddus i rieni. Y tro hwn, mae Bolgi yn diogi ac yn gorweddian ar y soffa tra mae pawb arall yn helpu i lanhau. Does dim byd yn ei blesio, tan mae Cyw yn cyhoeddi bod Guto’r Ffermwr am i Cyw a’r criw ofalu am oen bach newydd. Mae Bolgi’n codi’n sydyn ac yn cyffroi’n lan wrth iddo hel atgofion melys o’r cyfnod diwethaf pan ddaeth oen bach i aros. Neges bwysig, hynod amserol am amrywiaeth, cydraddoldeb ac aml-ddiwylliannedd sydd dan sylw yn y llyfr hwn ac fe gaiff ei gyfleu mewn ffordd syml, annwyl ac effeithiol. Yn wahanol i’r oen bach diwethaf, oedd yn wyn, mae’r oen newydd yn ddu, gyda chot o wlân tywyll a chyrliog. Dydi Bolgi ddim yn siŵr iawn a fydd yr oen newydd yn hoffi’r un pethau â’r oen diwethaf ddaeth i aros, ond buan y daw i sylweddoli fod yr oen hwn hefyd yn hoffi peintio, padlo a chael stori. Maen nhw’n mwynhau gwneud yr un pethau a chaiff y ddau oriau o hwyl. A dweud y gwir, gwna’r oen bach newydd ambell beth yn wahanol hefyd, sydd yn gyfle i gael hyd yn oed mwy o hwyl. Am ffordd fendigedig o ddangos i blant ifanc bod amrywiaeth yn rhywbeth i’w drysori a'i fod yn cyfoethogi bywyd mewn cymaint o ffyrdd. Wrth ddod ar draws sefyllfaoedd newydd neu anghyfarwydd, mae’n bosib y bydd plant ifanc yn chwilfrydig am bobl sy’n wahanol iddyn nhw. Bydd y llyfr lliwgar yma’n helpu i ddangos iddynt na ddylid ofni rhywbeth newydd neu wahanol a bod y gwahaniaethau rhyngom yn bethau i’w dathlu a’u clodfori. This is yet another book in Cyw's extremely popular series, written by experienced author, Anni Llŷn. This is another opportunity to delve into the familiar world of Cyw and meet up with old friends such as Llew, Plwmp, Deryn, Jangl and of course Bolgi the dog. The advantage of this series is that children are already well acquainted with Cyw & co from the tv series and it’s a well-established and trusted brand. This time, Bolgi is being lazy and lying on the sofa whilst everyone else helps to tidy up. He’s in one of those moods where nothing pleases him, that is until Cyw announces that Guto the Farmer wants them gang to care for a little lamb. Bolgi instantly perks up and is very excited about his visitor as he reminisces fondly of the last time a little lamb came to stay. This book contains an important and very timely message about diversity, equality and multiculturalism and is conveyed in a lovely, simple, yet highly effective way. Unlike the last lamb, which was white, this one is black, with a beautiful coat of dark and curly wool. Initially, Bolgi isn't sure whether the new lamb will like the same things as him, but he soon comes to realise that his new friend also likes to paint, paddle and have a story. They enjoy doing the same things and both have hours of fun. In fact, the new little lamb also does a few things differently, which is a chance to have even more fun. What a wonderful way of showing young children that diversity is something to be treasured and that it enriches life in so many ways. When encountering new or unfamiliar situations, young children may be curious about people who are different to them. This colourful book will help to show them that something new or different should not be feared and that the differences between us are things to celebrate and praise. Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/Released: 2021 Pris: £3.95 ISBN: 978-1-80099-059-3