Chwilio
304 items found for ""
- Y Bwbach Bach Unig - Graham Howells
*Scroll down for English & comments* Antur gyda'r Bwbach ryfeddol! House-hunting adventure with the Bwbach! Gwasg/Publisher: Gomer ISBN: 978-1-78562-282-3 Cyhoeddwyd/Published: 2018 Addasiad/Adaptation: Angharad Elen Level her/challenge level: ❖ ❖ Lluniau gwych, iaith mymryn yn heriol i ddarllenwyr ifanc, iawn os oedolyn yn darllen. Full of fantastic pictures but language a little on challenging side - ok if an adult reads. Er ei fod yn addasiad, mae hwn yn llyfr Cymraeg ei naws. Mae llawer o sôn am hud a lledrith ac am gymeriadau chwedlonol, fel Bwbachod a Brenin y Tylwyth Teg, Gwyn ap Nudd. Fel dwi’n deall, roedd bwbachod yn greaduriaid hud oedd yn byw gyda theuluoedd ac yn gwneud troeon da neu waith tŷ am fowlen o hufen. Er eu bod nhw’n rhyw fath o gremlins, mae’r creaduriaid Cymraeg yma’n ddireidus a chyfeillgar yn hytrach na’n broblem. Mae’r bwbach wedi bod yn byw mewn bwthyn ers amser hir, ond does dim teulu’n byw yno bellach ac mae’r lle wedi mynd yn adfail. Un diwrnod mae’r bwbach yn gweld dynion ac yn gobeithio bydd teulu newydd yn dod yno. Yn anffodus, er gwaethaf protestiadau’r bwbach druan, mae’r dynion yn dymchwel ei fwthyn ac yn ei gario ymaith. Beth arall mae bwbach i fod i wneud pan mae ei dŷ’n cael ei ddatgysylltu a’i symud o’i gwmpas? Wel, mynd i chwilio amdano wrth gwrs! Druan ohono… Tra mae’r Bwbach yn ddigartref, mae Brenin y Tylwyth Teg, Gwyn ap Nudd, yn dweud wrth y bwbach fod rhaid iddo fynd i chwilio am atebion drwy fynd ar daith at dai Ffagan yng Nghaer Didus (swnio’n gyfarwydd?) Yn y llyfr, da ni’n mynd ar antur gyda’r Bwbach i Gaer Didus, gan gyfarfod Dŵr-lamwr, llwynog a barcud ar y ffordd! Tipyn o antur! Yn ystod y siwrne, mae’r Bwbach yn cyfarfod teulu modern - sgwn i os all y Bwbach ryddhau’r teulu o’r hudlath sy’n eu caethiwo i ffenestri trydanol sgwâr? (eto, swnio’n gyfarwydd?) Ar ddiwedd ei daith hir, beth fydd yn disgwyl amdano yn Nhai Ffagan? Dwi’n siŵr y gwnewch chi gytuno, mae lluniau Graham Howells yn anhygoel. Maen nhw wirioneddol yn gwneud y stori yma, ac yn dod a’r hud yn fyw. Mae ganddo ddawn wrth greu cymeriadau hudol a rhyfeddol, yn enwedig bwystfilod afiach fel y dŵr-lamwr. Swni’n gallu prynu’r llyfr yma jyst am a darluniadau - bonws fod 'na stori dda ynddi hefyd. O edrych ar faint y llyfr (weddol fyr) a’r lluniau lliwgar mae’n hawdd meddwl fod y stori’n mynd i fod yn andros o hawdd, ond rhaid i mi gyfaddef, roedd yr iaith yn fwy heriol nac oeddwn yn disgwyl. Mae hyn yn beth da, yn sicr mae yna eirfa gyfoethog a phatrymau graenus ond efallai fod y rhain braidd yn rhy anodd i ddarllenwyr ifanc neu ddysgwyr. Dwi’n hoffi’r ffordd y mae’r awdur wedi cynnwys Amgueddfa Sain Ffagan yn y llyfr, a gobeithio y bydd y stori’n sbarduno plant i achwyn ar eu rhieni i fynd a nhw yno i weld Bwthyn Llainfadyn, sef y bwthyn mae’r stori wedi ei seilio arno. Oes 'na Fwbach yn byw yn eich tŷ chi? Although an adaptation of 'The Lonely Bwbach', this is a Welsh-themed book with much talk of magic and of mythical characters, such as legendary King of the ‘Tylwyth Teg’ , Gwyn ap Nudd. As I understand, Bwbachs were magical creatures who lived with families and did good deeds and housework in return for a bowl of cream. Although they are some sort of gremlins, these Welsh creatures are mischievous and friendly rather than problematic. The Bwbach has been living in a cottage for a long time, but no one lives there anymore and the place has become ruined. One day the Bwbach sees men near the cottage and hopes that a new family will come there. Unfortunately, despite his protests, the men demolish his cottage and carry it away, stone by stone. What else is a poor Bwbach to do when his house is dismantled and taken away? Well, go and look for it of course! Whilst homeless, the king of the fairies, Gwyn ap Nudd appears to the Bwbach and tells him that he must go and look for answers by going on a journey to the tai Ffagan in Caer Didus (sound familiar?) We then go on adventure with the Bwbach to Caer Didus, meeting magical and frightening creatures along the way. During the journey, the Bwbach meets a modern day family- will he be able to break the spell that has them hooked on strange square screens that run on electricity? (again, sound familiar?) At the end of his long journey, what will he be waiting for him at St Fagans? I am sure you will agree, Graham Howells's drawings are incredible. They really make the story here, as the magic comes alive. He has a talent in creating magical, amazing characters, especially scary monsters like the Dŵr-Lamwr. I could buy this book just for the illustrations- it’s a bonus that it's also a good story. Looking at the size of the (fairly short) book and the colourful pictures it is easy to think that the story is going to be easy, but I must admit, the language was more challenging than I expected. This is a good thing; there’s certainly a rich vocabulary but these may be rather too difficult for young readers or learners. I like the way the author has included the St Fagans Museum in the book, and I hope the story will inspire the children to nag their parents to take them there to see Llainfadyn Cottage, on which the story is based. Is there a Bwbach living in your house?
- Ffrindiau - Gareth F. Williams
*Scroll down to leave comments & for English* Mae 'na rhywbeth o'i le yn yr atig... Something's not right in the attic.. Gwasg: Gomer Cyfres: Whap! Cyhoeddwyd: 2008 ISBN: 978-1843239734 Stori tipyn yn ofnus - iath eithaf hawdd Little bit creepy - language level o.k. but may be too difficult for new learners. #arswyd #horror #creepy #ghosts #ysbrydion Mae’r ffaith fod y diweddar Gareth F. Williams wedi ennill Gwobr Tir na n-Og chwe gwaith yn cadarnhau ei le fel un o awduron gorau Cymru, ym myd llyfrau plant ac oedolion. Dyma’r llyfr cyntaf ganddo i mi ei ddarllen, ar ôl i mi ei spotio mewn siop elusen. Yn ôl Gwales.com, roedd yn llyfr y mis yn Hydref 2008. I feddwl fod y llyfr dros ddeng mlynedd oed bellach, mae’n edrych yn gyfoes iawn, ac mae’r clawr du a gwyn wedi'i ddylunio’n dda iawn. Mae’r lluniau a’r ysgrifen ar y clawr yn rhoi naws spooky iawn, ac yn wir, roedd hynny’n un o’r prif resymau y prynais i hi. (wnes i ddim edrych ar y broliant o be dwi’n cofio) Dwi wrth fy modd gyda straeon arswyd, ac roedd y clawr yn awgrymu y byddai hon yn fy siwtio i'r dim. Dwi’n meddwl fod ‘na ddau fath o lyfrau. Rhai sy’n mynd yn syth iddi, ac yn eich cydio’n syth, a rhai eraill sy’n fwy o slow-burners. Hynny yw, mae’n rhaid dyfalbarhau achos mae’n cymryd dipyn i'r stori gychwyn yn iawn. Roedd pennod gyntaf Ffrindiau wedi fy machu’n syth. Efallai fod hynny’n swnio ‘chydig bach yn cliché, ond wir i chi, roedd y cychwyn yn dda. Dwi wedi ei gynnwys yn y blog er mwyn i chi gael cipolwg. Cychwyn hynod o creepy. Dwi’n dal i gael shivers wrth glywed... “Blaaaaantoss... Blaaaantoooos...” Mae Tegwen yn mynd drwy gyfnod anodd yn ei bywyd personol. Mae ei Mam, Eirlys, a’i thad, Sam, wedi gwahanu bellach ac mae hi wedi gorfod symud i mewn i dŷ boyfriend ei mam, ac yn gorfod rhannu hwn gyda’i blant o. Maen nhw’n boen i Tegwen, ac mae hi’n hiraethu am ei hen gartref, ei hen lofft, a’i hen fywyd. Tydi pethau ddim yn wych rhwng ei Mam a’i Thad ac mae’r ddau yn cecru ar ei gilydd pob cyfle maen nhw’n cael. Mae hi wedi cael llond bol. Mae ei thad wedi prynu fflat newydd yn Stryd y Parc, ac mae hi’n edrych ymlaen ato orffen peintio’r atig er mwyn iddi gael aros yno - rhywle lle caiff hi lonydd oddi wrth ei theulu newydd niwsans. Y peth yw, nid atig cyffredin yw hwn ac mae rhywun yn cael teimlad annifyr wrth fod yno. Fel petai rywbeth yn eich gwylio. Buan iawn ‘da ni’n dod i sylweddoli fod yna rhywbeth mawr o’i le yn yr adeilad yma. Wrth i'r nofel fynd yn ei flaen, mae Tegwen yn dechrau datod rhai o gyfrinachau’r atig ac mae hi’n dod i ddarganfod y pethau erchyll sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn y gorffennol. Wrth iddi syrthio’n ddyfnach i mewn i fyd yr atig, mae ei bywyd hi wirioneddol mewn perygl. Ydi ffeindio’r gwir werth y pris bydd rhaid iddi dalu? Rhowch hi felma, fydd hi BYTH yr un fath wedyn! Mae yna dipyn o sôn am drais, marwolaeth, ysbrydion a naws arswydus drwy’r llyfr, ond mae’n gwbl addas i'r oedran. Mae’r awdur yn gynnil iawn wrth ddod ag is-themâu o fwlio a rhieni’n gwahanu i mewn. Os ‘da chi’n licio llyfrau sy’n rhoi ias oer lawr cefn eich gwddf, hwn ydi’r llyfr i chi. Mae’r iaith yn safonol, ond yn glir. Tydi o ddim mor hawdd i’w ddarllen a rhai llyfrau Cymraeg ond eto, doedd o ddim yn anodd chwaith. Mi wnes i hyd yn oed ddysgu ambell i air newydd - fel ‘decini’ a ‘llybindian.’ Mi oni’n hoff o’r ffordd mae’r penodau, a hyd yn oed darnau o fewn penodau yn neidio o gymeriad i gymeriad, o olygfa i olygfa. Dwi’n meddwl fod hyn yn torri’r stori i fyny’n dda. Er bod canol y stori braidd yn fflat gan nad oedd cymaint yn digwydd, roedd gen i groen gŵydd wrth ddarllen darnau o’r stori ac mae hyn yn destun i lwyddiant yr awdur, ei fod wedi llwyddo, drwy ddawn geiriau, i greu ymateb corfforol yn y darllenydd. Roedd darnau o’r stori yn gwneud i rywun deimlo’n reit annifyr - diolch byth fod gen i ddigon o olau yn y tŷ achos ron i'n reit nerfus wedyn am chydig. Roedd RHAID i mi gael gwybod beth oedd cyfrinach yr atig - mae’n werth parhau i ddarllen er mwyn cyrraedd y diweddglo. A dweud y gwir, roeddwn i'n ffeindio hi’n anodd rhoi’r llyfr i lawr a byddaf yn sicr o ddarllen mwy gan yr awdur. The fact that the late Gareth F. Williams has won the Tir na n-Og prize six times earns him his rightful place as one of the leading authors of Welsh children's, Young people's and indeed, adult literature. This is the First of his books for me to read, after I spotted it hiding on the shelf in a charity shop. According to Gwales.com, this was the book of the month in October 2008. To think that it’s over a decade old, it looks very contemporary and it’s Black and White cover is effective. The images and the writing give it a rather spooky vibe and this was one of the things that made me buy it. ( I didn’t even read the blurb as I recall). I love horror stories, and the cover suggested i would like this one. I think there are two types of stories. Ones that get straight to it and hook you immediately, and others that are slow burners. You’ve got to keep persevering with those ones. Ffrindiau had me intrigued right away. I’ve included a screenshot in the blog. It’s very creepy and God forbid I ever hear ‘Blaaaantos..... blaaaaanntoooos...” again! Tegwen is a Young girl who’s having a tough time of it lately. Her mother, Eirlys and her father, Sam have separated and she’s had to move into her mum’s boyfriend’s house with his two children. They get on her nerves and she longs for her old house, her old room and her old life. Things aren’t great between her parents and they argue and bicker every time they see each other. In other words, she’s had enough. Her Dad has bought a new flat on Stryd y Parc, and she’s looking forward to when he finally finishes painting the attic so that she can stay with him. Somewhere to have peace and quiet. The thing is, this is no ordinary attic and one gets an uneasy feeling from being there. The feeling that someone is watching. We quickly come to realise that all is not well in this old Building. As the novel progresses, Tegwen starts to unravel some of the mysteries of the attic and she comes to learn of past horrors and atrocities. As she ventures deeper into the world of the attic, her life is put in jeopardy. Is finding out the truth worth the price she must pay? Put it this way, she’ll never be the same again! There’s some talk of death, violence, ghosts and general creepiness throughout the book but it is age appropriate. The author Cleverly brings in sub themes of the challenges of a broken family and bullying/loneliness. If you like stories that give you a real chill, then this one’s for you. The language is of a high Standard, but it is clear. It’s not quite as easy reading as some of the books I’ve read, but it’s not difficult either. In fact, I learned a few new words myself! I liked the way the chapters go back and forth between different scenes and characters and I found it broke the story up nicely. Despite the middle being a little flat, I had goose pimples all over as I read some parts. This is a testament to the author; that he has been able to elicit a physical response in the reader, using only words. Some parts of the story make you feel really uneasy – thankfully I had enough lights in the house because I was a bit jumpy afterwards. I just HAD to find out what was going on in the attic – it’s worth persevering with the book for the payoff at the end. I did find it hard to put this book down actually and I will be looking for more books by this author.
- Dyddiadur Dripsyn: Y Trip ~ Jeff Kinney
*Scroll down for English & to leave comments* 50% geiriau, 50% cartwns, 100% hilêriys! 50% words, 50% cartoons, 100% hilarious! Addasiad: Owain Siôn Gwasg: Rily Publications Cyhoeddwyd: 2019 ISBN: 978-1-84967-091-3 Perffaith i ddarllenwyr amharod. Cymraeg hawdd iawn. Perfect for reluctant/new readers. The Welsh is really easy. Dyma addasiad Cymraeg Owain Siôn o’r llyfr Diary of a Wimpy Kid: The Long Haul, y nawfed mewn cyfres hynod o boblogaidd gan yr awdur enwog Americanaidd, Jeff Kinney. Mae gwylia’r haf i fod yn grêt - dim ysgol, dim gwaith a jyst llonydd i wneud beth bynnag ‘da chi isio! Dyna oedd gobaith Greg druan, ond mae gan ei Fam syniadau gwahanol! Cylchgrawn Trafod Teulu sydd wedi rhoi’r syniad iddi, ac roedd yn llawn lluniau o deuluoedd neis yn cael amser braf ar wyliau. Roedd hi’n gobeithio y bydden nhw’n gweld llefydd diddorol, trio bwydydd lleol a thyfu’n agosach fel teulu. No chance gyda’r rhain! Beth bynnag, pwy fydda eisiau darllen am drip teuluol lle mae popeth yn mynd yn iawn? Neb! Mae gan ei Fam druan obeithion mawr, ond mae’r trip yn sydyn mynd o ddrwg i waeth! Shambles llwyr! I ddechrau’r cyfan, maen nhw’n aros mewn gwesty rhad sy’n drewi o fwg sigaréts - rêl dymp! Cyn pen dim mae Greg wedi llwyddo i ffraeo gyda hen ddyn blewog mewn trôns ac mae’r teulu wedi mabwysiadu babi mochyn, sy’n byw yng nghefn y car! Rhwng ymosodiad gwyllt gan wylanod ffyrnig, ymweliad annisgwyl at filfeddyg a Rodric druan yn crashio’r car, mae ‘na ddigon o bethau gwallgo’n mynd o’i le i ddifyrru’r darllenydd! A dweud y gwir, mae ‘na gymaint o bethau’n mynd o chwith i’r teulu, mae’r peth yn hollol boncyrs a dros ben llestri! Mae'n cyrraedd y pwynt nad ydi o’n gredadwy- ond dim ots - mae’n ddoniol dros ben! Mi fydd y stori yma’n apelio’n fawr at blant gan fod y prif gymeriad, Greg, yn fachgen ifanc sydd braidd yn fed up, achos mae ei deulu mor niwsans. Mae’n adrodd ei hanes ac yn rhannu ei deimladau drwy’r llyfr ar ffurf dyddiadur. Maen nhw’n flashbacks am ddigwyddiadau sydd eisoes wedi bod. Dyma ffordd glyfar a gwahanol o adrodd stori, sy’n sicr yn golygu fod ni’n dod i ddeall sut mae Greg yn teimlo. Da ni’n gweld y cwbl o’i safbwynt o. Mae’r ‘sgwennu mor llafar ac anffurfiol yn y llyfr (fel mae dyddiadur i fod) ac mae hyn yn ei wneud yn hawdd IAWN i’w ddarllen. Mae’r awdur yn deall hiwmor plant i’r dim ac mae’r llyfr yn siŵr o wneud i unrhyw un chwerthin gan fod y digwyddiadau yn gyfarwydd ac yn berthnasol i fywydau plant. Un o fy hoff bethau am y llyfrau hyn yw’r layout. Mae hwn yn siŵr o apelio at ddarllenwyr amharod, yn enwedig hogiau! Mae 'na gartŵns ym mhob man ar bob tudalen ac mae hyn yn torri’r darllen i fyny i bytiau o baragraffau hylaw. Mae’r dwdls yn adio cymaint i’r stori ac yn helpu ni ddeall beth sy’n mynd ymlaen. Mae o fel hanner dyddiadur, hanner comig. Mae’r ffont llawysgrifen yn edrych yn dda ac yn plesio’r llygaid, gan edrych yn gwbl naturiol. Hwn yw’r llyfr cyntaf Dyddiadur Dripsyn i mi ddarllen, a dwi’n siŵr o fynd i dyrchu yn y llyfrgell am y gweddill! Un peth sy’n sicr – fydd mam Greg yn meddwl dwywaith cyn trefnu gwyliau eto! This is the Welsh adaptation of Diary of a Wimpy Kid: The Long Haul, the ninth in a hugely popular series by famous American writer, Jeff Kinney. The summer holidays are supposed to be great- no school, no work and plenty of time to chill and do whatever you want! That was what Greg was hoping for, but his mum had different ideas! Family Frolics magazine gave her an idea; it was full of pictures of nice families having a lovely time on holiday. She hoped that a getaway would help them grow closer as a family. No Chance with these lot! Who would want to read about a family trip where everything was fine? Nobody! His poor mother had high hopes, but the trip goes from bad to worse! A total shambles! To start with, they stay in a cheap motel that stinks of cigarette smoke- a right dump! Before long, Greg has managed to argue with an old bearded man in his underwear and the family has adopted a baby pig, who lives in the back of the car! With frenzied seagull attacks, a surprise visit to the vet and poor Rodrick crashing the car, there are plenty of crazy things going wrong to keep us entertained! In fact, it's just one disaster after another; it’s absolutely bonkers and over the top! It comes the point that it is almost unbelievable -but no matter- it is extremely funny! This story will really appeal to children because the main character, Greg, is a young lad who is a bit fed up, because his family are so annoying. He tells his story and shares his feelings throughout the book in the form of a diary. They are flashbacks about events that have already occurred. This is a clever and different way of telling the story, which certainly means that we get to understand how Greg feels. We see it all from his point of view. The writing is so colloquial and informal in the book (as a diary is supposed to be) and this makes it VERY easy to read. The author understands children's humour well and the book is sure to make anyone laugh as the events are familiar and relevant to children's lives. One of my favourite things about these books is the layout. This is bound to appeal to reluctant readers, especially boys! There are cartoons everywhere on every page and this breaks the reading up into chunks of manageable paragraphs. The doodles add a lot to the story and help us understand what’s going on. It's like half-diary, half-comic. The handwritten font looks good and is pleasing to the eyes, looking perfectly natural. It's the first Dyddiadur Dripsyn book that I’ve read, and I'm sure to go and search in the library for another. One thing is certain – Greg's mother will think twice before organising a holiday again!
- Cyfrinach Plas Hirfryn - Siân Lewis
*Scroll down for English & to leave comments* Nofel llawn dirgel a chyfrinachau. Mysterious novel full of secrets. Gwasg/Publisher: Gomer Cyfres: Swigod Cyhoeddwyd/Published: 2011 ISBN: 978-1-84851-399-0 *Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original* Iaith digon syml ond fwy addas i ddarllenwyr da Easy enough language but more suited for proficient readers. Yn ei guddfan crynai’r Tad Harri hefyd, a sŵn curiadau’i galon yn llenwi’r gell. Dim ots sawl gwaith oedd e’n cuddio fel hyn, roedd e’n dal i deimlo’n llawn arswyd. “Ry’n ni’n gwybod ei fod e yma,” chwyrnodd capten y milwyr. “Mae rhywun wedi’i i weld e...” Roeddwn ar bigau’r drain wrth ddarllen cychwyn nofel Cyfrinach Plas Hirfryn gan Siân Lewis. Gallwn deimlo’r panig a’r cynnwrf wrth i filwyr chwilio a chwalu drwy’r plasty - yn benderfynol o ffeindio’r dihiryn. Mae yntau’n cuddio mewn cwpwrdd cudd yng nghefn y lle tân, prin yn gallu anadlu gan fod y gofod mor gyfyng. I ddweud y gwir, ar ddechrau’r nofel yma, roeddwn yn meddwl mai nofel hanesyddol fyddai hon ond mi aeth i gyfeiriad reit annisgwyl. Heb ddweud gormod, mae’r nofel yn ymdrin â phwc llosg cyfoes iawn, mewn ffordd hawdd i’w ddeall. Yn y stori, rydym ni’n cyfarfod Hanna a Harri James, yr efeilliaid, sydd yn byw yn Llanaron. Mae pethau’n reit wael ar y teulu ers i’w tad golli ei swydd, ac mae eu mam wedi gorfod cymryd gwaith ychwanegol mewn gwesty lleol. Mae pres yn brin iawn. Mae eu hewythr, Wncwl Hef, yn gweithio i wylwyr y glannau, sydd wedi cael nifer uchel o alwadau brys yn ddiweddar. Mae’r hofrenyddion wedi bod allan yn ddiddiwedd ganol nos mewn tywydd garw... ond pam? Galwadau ffug tybed neu oes rhywbeth mwy sinistr yn mynd ymlaen yma? Dirgelwch yn wir... Mae byd y plant yn newid yn gyfan gwbl un diwrnod, wrth i’r teulu symud o’u cartref bychan yn Rhif 3, Stad Rhydwen i fynd i fyw mewn plas crand ar gyrion y pentref. Mae’r teulu yn symud ar ôl i’w tad dderbyn cynnig unwaith-mewn-bywyd gan ‘y wraig mewn Mercedes du’ ond dydi’r plant ddim yn hapus o gwbl. Sut fysa chi’n teimlo o glywed fod rhaid i chi adael eich cartref clyd i fynd i fyw mewn hen blasty oer? Ar ôl setlo yn eu cartref newydd, mae’r plant yn digwydd crwydro ar dir y plasty ac yn dod ar draws rhywbeth od iawn. Buan iawn y daw’r teulu i sylweddoli fod ‘na rhywbeth o’i le ym Mhlas Hirfryn... Rhaid i mi gyfaddef, roeddwn i wedi drysu ychydig tua’r diwedd ac roedd rhaid i mi ail ddarllen rhai darnau. Fodd bynnag, llwyddodd y stori i ddal fy sylw ac roedd rhaid i mi gael ateb i’r dirgelwch mawr. Enillodd Siân Lewis dlws Mary Vaughan Jones yn 2015 am ei holl waith ym myd llenyddiaeth plant. Yn wir, doeddwn i ddim wedi sylweddoli ei bod hi wedi bod mor weithgar ac wedi ysgrifennu 250+ o lyfrau! Mae Cyfrinach Plas Hirfryn yn ychwanegiad cyffrous i’r casgliad. I was on tenterhooks reading the start of Cyfrinach Plas Hirfryn, a novel by Siân Lewis. We can feel the panic and the agitation as soldiers ransack a mansion - determined to find the fugitive. He is hiding in a secret cupboard in the back of the fireplace, hardly able to breathe because the space is so confined. To tell the truth, at the beginning of this novel, I thought this would be a historic novel but it went in a surprising direction. Without saying too much, the novel deals with a very contemporary hot topic, but in an easy-to-understand way. In the story, we meet Hanna and Harri James, the twins, who live in Llanaron. Things are tough for the family since their dad lost his job, and their mum has even had to take on extra work at a local hotel. Money is scarce. Their uncle, Hef, works for the Coastguard, who have recently received a high number of emergency calls. The helicopters have been out endlessly at night in bad weather searching. But for what? And why? Are they hoax calls or is there something more sinister going on here? A mystery for sure… The children's lives are forever changed as the family move from their small home in No. 3, Rhydwen estate to go and live in a grand manor house on the outskirts of the village. The family must relocate after their father accepts a once-in-a-lifetime offer from 'the lady in a black Mercedes' but the kids aren't at all happy. How would you feel if you suddenly had to leave your cosy home to go and live in an old, cold mansion? Just as they are settling into their new home, the children happen to wander on the grounds of the mansion and encounter something very strange. The family will soon come to realise all is not as it seems in Plas Hirfryn… I must confess, I was confused a little towards the end and I had to re-read some passages. However, the story managed to sustain my attention throughout and I simply had to find the answer to the great mystery. Siân Lewis won the Mary Vaughan Jones award in 2015 for all her contributions to children's literature. Indeed, I didn't realise that she had been so active and had written 250+ books! Cyfrinach Plas Hirfryn is an exciting addition to the ever-growing collection.
- Edenia (Y Melanai) ~ Bethan Gwanas
*Scroll down for English & to leave comments* Diweddglo gyffrous i'r saga. Exciting climax to the fantasy saga Gwasg/Publisher: Y Lolfa Cyhoeddwyd/Published: 2019 ISBN: 978-1784617080 *Gwreiddiol Cymraeg - Original Welsh* Iaith naturiol, hawdd i'w ddarllen ond peth cynnwys mwy aeddfed. Easy to read language, but some mature themes Wel, dyma ni, y drydydd llyfr - a'r olaf - mewn trioleg hynod o boblogaidd, Y Melanai. Mae ‘na grynodeb byr ar ddechrau’r llyfr sy’n adrodd yr hanes hyd yma ond y gwir yw, llawer gwell fyddai ddarllen y llyfrau o’r cychwyn ac yn y drefn gywir. Mae’n gwneud llawer mwy o synnwyr, ac maen nhw mor dda. Mae’r prolog yn awgrymu nad yw pethau’n rhy dda ym Melania. Does neb wedi gweld y Frenhines ers tro ac mae’r blodau wedi gwywo ac mae’r gwenyn yn swrth. Ar ddiwedd Y Diffeithwch Du, mi gyrhaeddodd y Dywysoges Efa a’i chriw wlad arall, sef, fel mae’r teitl yn awgrymu, Edenia. Dyma wlad lle mae popeth yn iawn ac mae pawb yn hapus. Does ‘na ddim rheolau rhyfedd ynglŷn â lladd eich mam – diolch byth! A dweud y gwir, nid Brenhines sy’n llywodraethu yma, ond pwyllgor rheoli ddemocrataidd. Dim yn ddrwg o beth i gyflwyno ‘chydig o politics. Mae’r nofel yma’n parhau ar yr un cyflymder a’r ail nofel, ac er eu bod nhw wedi cyrraedd diogelwch (gymharol) Edenia, mae yna ddigon o beryglon i'r criw wynebu. Mae yna lyswennod anferth gyda dannedd miniog, a phryfaid cop anferthol i frwydro yn eu herbyn. Diolch byth fod ganddyn nhw ffrindiau newydd yn Edenia. Yn un peth, mae croeso mawr i'r bobl ifanc yn Edenia, ond does dim croeso i Id, y cawr. Mae gan bobl Edenia ofn y cewri ac maen nhw’n eu casáu. Tybed ydi Id, eu ffrind newydd, wedi bod yn dweud y gwir? Er bod y criw wedi dod drwy’r diffeithwch du gyda’i gilydd, mae yna her newydd wrth iddyn nhw gael eu gwahanu yn y nofel yma. A fydd perthynas pob un yn goroesi, neu bydd bod ar wahân yn golygu fod hi ar ben i rai? Mae’r criw ifanc yn setlo’n dda yn eu cartref newydd ac er bod pawb yn fodlon eu byd yn Edenia, mae ‘na rai o’r trigolion angen help. Tydi Prad, Efa a Dalian ddim yn meddwl dwywaith cyn gwirfoddoli i fynd ar rescue mission heriol a pheryglus – does dim sicrwydd y bydden nhw’n dod nôl yn fyw! Ar y daith yma, mae Efa’n gwneud darganfyddiad fydd yn newid ei bywyd am byth... Rŵan fod y drioleg allan yn ei chyfanrwydd, mae’n bosib cael darlun llawn. Mae’r trydydd llyfr yn cloi nifer o linynnau sydd wedi cael eu cyflwyno eisoes. Dwi’n meddwl fod Bethan Gwanas yn gwneud job dda o ddod a phopeth at ei gilydd yn daclus yn y llyfr olaf. Mae’r ddau lyfr cyntaf wedi bod yn arwain at y foment lle bydd Efa’n dychwelyd i Felania i achub y dydd, neu i wynebu ei ffawd. Mae popeth yn adeiladu ar gyfer y final showdown, neu’r epic battle ddisgwyliedig ar y diwedd llyfr 3, fel sy’n draddodiadol yn y genre yma. Yn anffodus, mae’r diweddglo wedi ei frysio braidd ac yn cael ei grynhoi i gyd mewn epilog. Roedd y drioleg wych yma’n haeddu diweddglo gwell - sawl pennod arall, a dweud y gwir. Ond fydd ‘na happy ever after i Efa a’i ffrindiau tybed? Wel, un peth sy’n sicr. Mae’r drioleg yma wedi apelio at fwy na dim ond plant yn eu harddegau, ac mae nifer o oedolion wedi ei mwynhau. Mae’r awdur wedi dangos fod ganddi ddawn ysgrifennu ym maes ffantasi ac nid yn unig ei bod hi’n deall y genre, ond yn amlwg yn ei fwynhau ei hun. Dwi’n meddwl fod yna fwy o straeon i'w hadrodd am Felania, Edenia, Pica a’r byd newydd ryfeddol mae Bethan Gwanas wedi llwyddo i’w greu. Dwi’n gobeithio wir y bydd hi’n ail ymweld â’r Melanai yn y dyfodol i ni gael darllen mwy am anturiaethau’r genhedlaeth nesaf. Well, here we go, the third – and last – in the popular trilogy, Y Melanai. There’s a quick re-cap at the start of the book that brings us up to date so far. I’d certainly recommend reading the two other novels First though, in correct order. It makes more sense, and they’re just so good. The prologue suggests that things aren’t too great in Melania. Nobody’s seen the Queen for some time and the flowers have wilted and the bees are lethargic. At the end of Y Diffeithwch Du, Princess Efa and her crew arrived in a new Country which is, the aptly named, Edenia. This is a land where everything’s fine and everyone’s happy. There are no rules about killing your mother, that’s for sure. No queen reigns here, but instead, a democratic council. Not bad - bringing in some politics. The novel maintains the pace of the previous, and despite them arriving in the relative safety of Edenia, there are still dangers facing the young friends. These include giant eels with sharp teeth and huge man-eating spiders. Thank goodness they have some new friends to help. They are welcomed into Edenia but there’s no welcome to their giant friend, Id. The inhabitants of Edenia hate giants. Is there something Id hasn’t been telling us? Despite their strong bonds from their previous adventures, these are put to the test now as they become separated. Will their relationships survive? The young crew settle well in their new home and even though everyone is quite content, some of Edenia’s people need help. Prad, Efa and Dalian waste no time in volunteering for a daring rescue mission – with no certainty that they will return alive! On this mission, Efa makes a startling discovery which will have big implications... Now that the full trilogy is out, it’s possible to reflect and get the full Picture. The last book ties up all the strings neatly. The first books have all been about building up to the big moment when Efa returns to her home country to either save the day or face the consequences of her actions. Everything has been building up to the final showdown, or the expected epic battle that is common in this genre. Unfortunately, the ending is very rushed and is all done in the epilogue. This excellent trilogy deserved a more fleshed out ending – a few more chapters, in my opinion. So, will there be a happy ever after for Efa and co? Well, one thing’s for sure. This trilogy has appealed to more than just a teenage audience. There are a number of adults who have also enjoyed it. The author shows she has a firm grasp of the fantasy genre, and not only does she understand it, but she enjoys it. I think there are more tales to be told from Melania, Edenia, Pica and the new world she has successfully crafted. I hope in future that we can return here to read about the next generation’s adventures.
- Teyrnas Kenzuke - Michael Morpurgo
*scroll down for English & to leave a comment* Antur ar y môr a brwydr i oroesi. A spellbinding tale of survival and self-discovery. Gwasg/publisher: Dref Wen Addasiad/adaptation: Dafydd Morse Cyhoeddwyd/published: 2009 ISBN: 978-1-85596-845-5 *Addasiad/adaptation from English* Lefel: ❖ ❖ ❖ Iaith ddim rhy anodd ond mae'n debyg y byddai'n well ar gyfer darllenwyr hyderus. Language not too difficult but probably best suited to more confident readers. Genre: #adventure #antur #hanesyddol #historical #ocean #môr Enillodd y llyfr gwreiddiol Saesneg ‘Kensuke's Kingdom’ y Wobr Llyfrau Plant 2000 a chafodd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Plant Whitbread a Carnegie. Mae wedi gwerthu dros 400,000 copi ar draws y byd. Mae’n un o fy hoff nofelau gan yr awdur enwog, Michael Morpurgo ac o'r diwedd, mae o yn Gymraeg. Dyma i chi stori o antur ar y moroedd mawr, a brwydr i oroesi wrth i’r prif gymeriad, Meilyr ffeindio’i hun wedi ei longddryllio ar ynys ryfedd ar ochr arall y byd. Mae’n gyfnod o newid llwyr i fyd cyfforddus Meilyr pan mae ei rieni yn colli eu swyddi yn y ffatri friciau. Yng ngeiriau Meilyr ei hun: “tan i’r llythyr ddod, roedd bywyd yn hollol normal.” Mwyaf sydyn, mae tad Meilyr yn datgan ei fod wedi gwerthu ei gar, a bod y teulu cyfan yn symud i Dde Lloegr. O na! Ac fel tase hynny ddim yn ddigon o sioc, mae o wedi prynu cwch, Y Ladi Wen ac maen nhw am fynd i hwylio’r byd. Dyna ddechrau ar yr antur fawr- Mam, Dad, Meilyr a Sali Mali'r ci, ar fwrdd y Ladi Wen. Nid yw’n fêl i gyd yn amlwg, fel mae'r llinell gyntaf yn awgrymu: “Diflannais y noson cyn fy mhen-blwydd yn ddeuddeg oed. Yr wythfed o ar hugain o Orffennaf, 1988.” O fewn dwy frawddeg o ddarllen, roeddwn i’n hooked. Yn benderfynol o ddarganfod beth ddigwyddodd i Meilyr. Mae’r awdur yn dod a chymaint o themâu a phynciau i mewn i’r llyfr, mae’n byrstio â gwybodaeth ddaearyddol am fyd natur, hanes a mordwyo. Yn ystod rhan gyntaf y fordaith mae gennym gyfeiriadau di-ri at anifeiliaid rhyfeddol y mae’r teulu’n dod ar eu traws, a phorthladdoedd mewn gwledydd pell. Yn glyfar iawn, mae’r awdur yn cyfleu’r doreth o wybodaeth yma ar ffurf lòg llong, sy’n rhywbeth go-iawn y mae morwyr yn gadw. Wrth ddarllen, dim gair o gelwydd, mi oedd gen i fap o’r byd, ac mi wnes i gadw trac o’r fordaith gan ddefnyddio ‘sticky dots.’ Roedd hyn yn weithgaredd hynod o ddiddorol i wneud wrth ddarllen. Dwi’n cofio hefyd defnyddio’r we i ddarganfod mwy am rai o’r anifeiliaid yn y stori, fel y Pysgodyn Hedegog a’r Heulforgi. Mae rhywun yn dysgu cymaint wrth ddarllen y llyfr yma, gan fwynhau stori wych ar yr un pryd. Mewn storm enfawr, mae Meilyr a’r ci yn cael eu taflu dros ochr y gwch. Mae hyn yn ddigwyddiad brawychus a fedrai ddim ond dychmygu pa mor ofnadwy o deimlad fyddai gweld eich teulu yn hwylio i ffwrdd a chithau yng nghanol y tonnau oer a ffyrnig. Wrth geisio cadw’n fyw ar yr ynys, mae Meilyr yn dod ar draws hen ddyn Japaneaidd, sef Kenzuke. Mae o’n gofalu am Meilyr, er nad ydynt yn ffrindiau nac yn debyg o gwbl. Ar y cychwyn, maent yn ffraeo, gan i Meilyr ei weld fel hen ddyn blin ac annifyr, ond tros amser, mae’r ddau yn tyfu’n agosach ac yn dod yn ffrindiau mawr. Mae canol y nofel yn eithaf araf, wrth i ni glywed am fywyd ar yr ynys, wrth iddyn nhw ddelio gyda phob math o drafferthion, fel y pobl ddrwg sy’n dod i’r ynys i aflonyddu ar yr anifeiliaid. Er fod cyflymdra’r stori yn arafach yma, mae’r awdur yn gwybod yn iawn beth mae’n ei wneud. Mae’n datblygu’r cymeriadau’n dda ac erbyn y diwedd rydym ni’n eu nabod yn well ac yn bwysicach, yn malio amdanynt. Heb sboilio’r nofel, mae ‘na ‘dwist’ mawr tua’r diwedd a phob math o ddatguddiadau wrth i ni ddarganfod mwy am Kenzuke, y dyn dirgel sydd ‘bia’r’ ynys. Mi wnâi eich rhybuddio am un peth - pan oeddwn yn darllen y llyfr am y tro cyntaf, doedd dim llygaid sych yn y dosbarth, ac roeddwn i’n cael trafferth dal y dagrau’n ôl. Emosiynol iawn. Os ydych yn hoffi anifeiliaid, antur, y môr, daearyddiaeth, hanes, a stori wych gyda chymeriadau bendigedig; yna darllenwch Teyrnas Kenzuke. Dwi’n synnu nad yw hwn wedi cael ei droi mewn i ddrama deledu a dweud y gwir, gan ei fod mor dda, ond mae llyfr yn curo’r TV pob tro! The original English version, ‘Kenzuke’s Kingdom’ won the Children’s Book Award 2000 and was shortlisted for the Whitbread Children’s Prize and the Carnegie Medal. It’s sold over 400,000 copies across the world and it’s my favourite Michael Morpurgo novel. At last, we have a Welsh version of this classic! This is a story of adventure on the high seas and desert Island Survival as the main character, Meilyr, finds himself shipwrecked on a strange Island on the other side of the world. Meilyr’s comfortable life is turned upside down when his parents lose their jobs in the local brickworks. In Meilyr’s own words; “life was normal until the letter came.” All of a sudden, his Dad sells the car and declares that the whole family is moving to Southern England. Oh no! And if that wasn’t enough, he’s bought a boat, and they are going to sail around the world aboard the Ladi Wen. Things won’t be plain sailing though as you can imagine from the First lines of the book: “I disappeared on the night before my twelfth birthday. 28th of July, 1988.” Within two sentences, I was hooked. I simply had to know what happened to Meilyr. The author brings so many themes and subjects into his book, that is almost bursts! It’s full of geographical and historical facts, nautical terms, animals and wildlife. In the First half of the novel we see many creatures and far-away destinations that they encounter on their world voyage. Cleverly, the author conveys this huge amount of information in the form of a ship’s logbook, a real-life diary that sailors would have kept. As I read, no word of a lie, I had a blank map of the world, that I used to chart their voyage with sicky dots – a really interesting activity to do whilst reading. I used the Internet to find out more about animals such as the Basking shark and the flying fish. One learns so much about the world from reading this book, whilst enjoying a brilliant story at the same time. A huge storm causes Meilyr and his dog to be thrown overboard. This is frightening and I can only imagine what it would be like to see your family sailing away as you are floating in the cold, vast ocean. As he adjusts to life on the Island, Meilyr comes across an old Japanese man, Kenzuke. He cares for Meilyr, even though they aren’t friends, or even remotely alike. To begin with, they quarrel and Meilyr sees him as an angry old man, whilst Kenzuke is annoyed with Meilyr for disturbing his peace. Over a long time, they get to know each other and become close friends. The middle of the novel could be described as quite slow, as we find out lots about day to day life on the Island. We hear of their struggles against ‘bad people’ who come onto the Island to disturb the wildlife. Despite the slower pace, the author knows exactly what he’s doing. He is telling the reader of the hardship of life on the Island and developing the characters into ones we really understand and care about. Without spoilers, there’s a huge twist at the end of the novel! Will we find out more about the mysterious Kenzuke and how he came to be on ‘his’ Island. I will warn you of one thing, when I read this story aloud for the first time, there was not a dry eye in the classroom and I struggled – and failed- to hold back the tears. Bottom line – if you like animals, adventure, the ocean, geography, history and a brilliant story with excellent characters, then read Teyrnas Kenzuke. I actually preferred the Welsh version. This story is so good that it will soon become an animated film, but trust me, read the book – they’re always better!
- Pluen ~ Manon Steffan Ros
*scroll down for English & to leave comments* "Stori emosiynol, gyda chymeriadau cryf a themâu heriol" "Emotional story, with strong characters and challenging themes." Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2016 ISBN: 978-1784613181 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ ❖ Nofel hawdd i'w darllen, easy to read. Emotional themes/themâu emosiynol. Genre: #hanes #history #dementia #friendship #ffrindiau Mae Manon Steffan Ros wedi llwyddo i blethu sawl thema gyda’i gilydd yn effeithiol dros ben sef heneiddio, salwch a’r Ail Ryfel Byd. Mae iaith yr awdur yn gyfoethog ond yn hawdd i’w ddeall a rhai darnau yn emosiynol iawn. Mae hi’n gallu mynd o dan groen cymeriadau ac mae hi’n deall sut mae ysgrifennu stori ar gyfer plant yn eu harddegau. Er mai’r oedran darged yw rhwng 10-14 oed, mi all unrhyw un fwynhau hon. Mae’r dudalen gyntaf yn eich cydio’n syth gyda’r frawddeg “Dwi ddim yn gwybod beth fyddwch chi’n ei feddwl o’r stori yma…Do’n ni ddim yn coelio mewn ysbrydion tan yr haf dwytha.” Prif gymeriad y stori yw Huw, bachgen cyffredin deuddeg oed sy’n agos iawn at ei nain ac rydym yn dilyn ei hanes dros gyfnod gwyliau’r haf. Ond nid nain gyffredin gwallt gwyn, ffedog a sbectol ydy hon. Er fod Nain yn wyth deg pump roedd hi’n ifanc iawn ei ffordd. Ers talwm roedd hi’n gwisgo dillad ffasiynol a sodlau uchel ac yn mwynhau rhedeg Ras yr Wyddfa ond erbyn heddiw mae hi wedi arafu ac mae tad Huw wedi sôn ei fod yn bryderus amdani gan ei bod yn anghofus weithiau. Er hynny mae gan Huw a Nain berthynas glos iawn a dydy Huw ddim yn poeni’n ormodol amdani’n anghofio pethau tan y diwrnod mae Nain yn ei groesawu a’i gyfarch fel Hywel. Brawd Nain oedd Hywel ac roedd o wedi marw yn yr Ail Ryfel Byd. Er i Huw holi doedd Nain ddim yn hoffi siarad am Hywel. Dirgelwch! Gwaethygu mae cyflwr Nain ac maen cael pyliau “anghofus” yn fwy aml. Un tro mae Huw yn dod o hyd i’w nain yn cuddio yn y cwt glo yn cysgodi rhag “awyrennau’r Jyrmans”. Weithiau dydy Nain ddim yn ‘nabod Huw neu yn meddwl mai Hywel ydy o. Yn sgîl hyn mae rhieni Huw yn penderfynu dylai fynd i gartref nyrsio i fyw. Er nad ydy Huw yn hapus am hyn ar y dechrau, buan iawn mae o’n gweld fod Nain yn hapus iawn yn y cartref ac yn mynd yno i’w gweld yn aml. Yn ystod un ymweliad i’r cartref nyrsio mae Huw yn cyfarfod un o ofalwyr y cartref- dyn caredig iawn sy’n dod ymlaen yn dda gyda Nain. Yn aml iawn mae pluen wen yn ymddangos yn hollol annisgwyl pan mae Huw yn ceisio ffeindio mwy o wybodaeth am Hywel... Mae nifer o droeon spooky yn y stori ac mae’r awdur yn gofalu fod y darllenwr, fel Huw, wir eisiau gwybod yr atebion i nifer o gwestiynau. Beth oedd hanes Hywel? Pam nad ydy Nain eisiau siarad amdanno? Beth ydy arwyddocâd y plu gwynion? Nofel hynod o annwyl y gallwn ei hargymell i unrhyw un. Manon Steffan Ros has succeeded in bringing together several sensitive themes effectively in this book. It discusses the Second World War, growing old and dementia. There’s plenty of rich language but at the same time it’s easy enough to understand and some parts are deeply moving and emotional. She gets under the skin of her characters and she knows how to write for the teenage audience. Despite this story being ideally suited for Young people aged between 10-14, anyone could – and would – enjoy this novel. The first page captures our interest straight away with the sentence: “Dwi ddim yn gwybod beth fyddwch chi’n ei feddwl o’r stori yma…Do’n ni ddim yn coelio mewn ysbrydion tan yr haf dwytha.” [I didn’t believe in ghosts; that is, until last summer] The main character is Huw, a regular 12-year-old who’s very close to his Nain as we follow his story over the summer holidays. His Nain isn’t your typical grandmother with White hair, an apron and glasses. Even though Nain is 85 years old she is very Young in her ways. A long time ago, she used to wear high heels and fashionable clothes. She even enjoyed running the Snowdon Race. By now of course, she has slowed down a little and Huw’s Dad is a little concerned as she has started getting a little forgetful. Despite this, Huw and Nain maintain a close friendship and Huw isn’t’ too worried until the day Nain calls him ‘Hywel’. The thing is, Hywel is Nain’s brother who died in the Second World War and she really doesn’t like to talk about him. This is a bit of a mystery... Nain’s condition worsens and she has more frequent forgetful episodes. One day, Huw finds Nain hiding in the coal box hiding from the ‘German planes.’ Sometimes, she doesn’t recognise Huw and she thinks it’s Hywel. For this reason, Huw’s parents decide that it’s time for her to go to a nursing home to live. Huw isn’t impressed with this decision to begin with but comes to realise how happy Nain is in the home once she’s settled. He goes there often to visit her. During one visit he meets one of the carers – a kind man who gets along well with his grandmother. Often, when Huw enquires about Hywel, a White feather appears... There are a few spooky turns in the story and the author makes sure that the reader, like Huw, desperately wants to know the answers to their questions. What was Hywel’s fate? Why doesn’t Nain want to talk about it? What’s the significance of the White feathers? An endearing novel: I can thoroughly recommend.
- Y Diffeithwch Du ~ Bethan Gwanas (Y Melanai)
*Scroll down for English & to leave comments* "Ffantasi ac antur. Brwydr i oroesi mewn tir estron." "Fantasy adventure. A battle for survival in strange lands." Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2018 ISBN: 978-1784616526 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ ❖ ❖ Iaith lafar, naturiol. Hawdd i'w ddarllen. (addas i ddysgwyr da) Spoken Welsh, easy to read. Suitable for learners. Genre: #antur #ffantasi #dyfodol #adventure #fantasy #future Wel, roeddwn i’n ysu i gael cychwyn Y Diffeithwch Du, sef ail nofel Bethan Gwanas yn y drioleg hynod o boblogaidd, Y Melanai. Roedd y nofel gyntaf yn ddigon clyfar i orffen ar cliffhanger fawr. Mae’r llyfr nesaf yn ail gydio’n syth, eiliadau wedi i ni weld y cymeriadau diwethaf. Yn gyfrwys iawn, mae’r awdur yn llwyddo i integreiddio crynodeb o’r antur hyd yma ar ddechrau’r stori er mwyn ein hatgoffa, ond mae’n digwydd mewn ffordd gwbl naturiol. Mae hynny’n golygu nad oes raid darllen y llyfr gyntaf (ond mi fyddwn i’n argymell i chi wneud!) Does dim angen i’r llyfr yma ein cyflwyno i’r cymeriadau, achos mae’r gwaith caled yma wedi ei wneud yn barod. Gall y llyfr yma fynd yn syth at y cyffro, wedi i Efa a’i chriw ddianc o Melania. Yn wir, er bod 'na gyfeiriadau tuag at eu mamwlad, nid ydym yn clywed mwy am drigolion Melania wedi’r seremoni fynd o chwith. Dwi’n ffeindio fy hun ar dân eisiau gweld ymateb y Frenhines wedi iddi sylweddoli fod ei merch wedi gwneud runner! Dwi’n siŵr bydd y pwynt yma’n cael sylw yn y drydedd nofel. Mae’r criw wedi dianc dros y moroedd, ac maen nhw on the run mewn gwlad anghyfarwydd, estron a pheryglus. Dyna yn y bôn yw prif linyn stori’r llyfr. Mae’n brawf o allu’r ffrindiau i gyd-weithio i ddygymod â sefyllfaoedd brawychus. Maen nhw’n trio cyrraedd ochr arall y diffeithwch du ond yn bennaf yn ceisio goroesi. Mae popeth yn eu herbyn. Mae’r ceffylau wedi eu hanafu ac mae Dalian yn ddifrifol wael. Tybed os allo ddod drwyddi? Wnâi ddim dweud mwy. Mae ‘na gymeriadau newydd yn cael eu cyflwyno yn y llyfr, ac roeddwn i’n falch o weld o leiaf un person yn dod i helpu’ grŵp, wrth iddynt ddioddef ymosodiad ar ôl ymosodiad gan greaduriaid dychrynllyd o bob math. Yn ogystal â’r anifeiliaid, mae’n rhaid iddynt ddelio gyda pheryglon o haint ac afiechyd ac mae hyd yn oed y dirwedd yn eu herbyn. (fel yr awgrymir gan y clawr effeithiol). Mae’r nofel yn dal sylw’r darllenydd drwyddi, ond o ddiwedd Pennod 19 hyd at ddiwedd y llyfr mae’r antur yn codi gêr. Mae’r tensiwn yn annioddefol wrth i ni ddisgwyl mewn distawrwydd i rywbeth ofnadwy ddigwydd: “Roedd Prad a Bilen wedi bod ar ddyletswydd ers bron i awr pan sylwodd Prad fod Brân wedi dechrau aflonyddu. Rhoddodd brociad sydyn i Efa. Deffrodd honno’n syth, sylweddoli mewn dim fod rhywbeth wedi gwneud y ceffylau’n nerfus. Funud yn ddiweddarach, roedd pawb yn gwbl effro ac yn craffu i berfeddion y goedwig.” Mae disgrifiadau o sŵn siffrwd y dail a phethau’n agosáu drwy’r coed yn fy atgoffa o Jurrassic Park, cyn i bethau fynd yn flêr. Scary stuff Bethan Gwanas. Dwi’n licio fo. Mae’r ail nofel yn ddidrugaredd efo’r cymeriadau ac yn eu gosod mewn sefyllfaoedd anobeithiol, dro ar ôl tro, ond rhywsut, mae eu cyfeillgarwch yn eu cadw’n fyw. Mwyaf sydyn, mae hi’n gorffen gyda darganfyddiad enfawr a fydd yn newid bywyd Efa a’i chriw am byth. Dwi dal ddim yn hollol siŵr os dwi’n hoff o’r ffaith fod y llyfr wedi ei osod yn y dyfodol ar ein daear ni, mae’n teimlo llawer mwy fel byd canoloesol neu ar blaned arall. Fy nheimladau personol i yw'r rhain. Mae’r awdur yn awgrymu mai ni’n hunain sy’n gyfrifol fod y ddaear wedi cyrraedd y stad yma yn y dyfodol. Mae’n awgrymu cyfnod ôl-dechnolegol yn y dyfodol lle mae’r bobl wedi mynd yn ôl i fyw oddi ar y tir mewn ffordd fwy cynaliadwy. Ydi’r awdur yn awgrymu mai dyma’r ffordd orau ymlaen i ni? Cryfder y nofelau yma yw’r cymeriadau a’r ffyrdd y maen nhw’n rhyngweithio a'i gilydd. Mae digon ohonynt i gadw pethau’n ddiddorol. Dwi’n falch iawn fod yr awdur yn portreadu'r merched fel cymeriadau cryf sy’n gallu amddiffyn eu hunain. Wrth gwrs, mae’r bechgyn yn helpu gyda hyn (achos nhw yw’r gwarchodwyr) ond mae’n braf gweld y merched yn arwain ac yn gofalu am eu hunain (a’r dynion ar brydiau) yn hytrach na sgrechian fel damsels in distress yn disgwyl am help. Mae rhai o’r themâu yn y llyfr yn mynd i apelio’n fawr at gynulleidfa yn eu harddegau, ond mae apêl ehangach i’r gyfres yma, a dwi wedi clywed am nifer o oedolion sydd wedi mwynhau’r llyfr yn fawr- gan gynnwys fi! Dwi’n hoffi’r syniad o roi sneak preview o’r llyfr nesaf ar y diwedd hefyd, i gael ni’n barod at y nesaf... Well, I couldn’t wait to get started on Y Diffeithwch Du, the second novel by Bethan Gwanas in the popular fantasy trilogy, Y Melanai. The First novel was clever enough to finish on a cliff-hanger. The next book immediately picks up where the last one left off. The author has Cleverly Managed to integrate a recap or summary of what’s happened so far into the start, so don’t worry if you missed the First novel, you can still enjoy this one. (although I do recommend you try and read them in order!) This book doesn’t need to introduce characters, so it can get straight to the action. And it does. They’ve just escaped from Melania. In fact, apart from a few mentions we don’t visit Melania at all in this book so we have no idea the look on the Queen’s face when she realises her daughter’s done a runner. I’d love to see her reaction; hopefully this will be addressed in the next book. The Young gang have fled over the seas and they’re on the run in a foreign and unforgiving new land. This is the main plot thread in the story. It’s a testament to the friends’ ability to work together to defeat the odds. They are trying to cross Y Diffeithwch Du (dark desert/wilderness), but ultimately, they are trying to survive. Everything is against them. The horses are injured and Dalian is gravely ill. Can they pull through? I won’t say anymore. New characters are introduced in the book, and I was glad to hear of at least one person who comes to their aid as they encounter attack after attack by strange and frightening creatures, both big and small. As well as animals on the loose, they must deal with the dangers of illness and infection with limited medical Supplies. With raging volcanoes around and steam vents, even the landscape has turned on them. The novel maintains the readers interest throughout and is well paced. From chapter 19 until the end of the novel things really move up a gear as the author ramps it up ready for the climax. The tension is unbearable as we wait in silence for something to happen (which we know inevitably will). The descriptions of rustling noises coming from the forest, as it draws nearer, reminds me a lot of Jurassic Park. The calm before the storm as it were. Quite scary stuff actually. I like it. This book is unrelenting and merciless with it’s characters as it puts them in several hopeless situations, but hopefully, their friendship will keep them alive. All of a sudden, the novel ends with a huge discovery that will possibly change their lives forever. I'm still not sure that I like the fact that the book is set in a future on our earth. It just feels more suited to a middle-earth type location or on another planet. This is just my opinion. The author, with some use of social commentary and moral lessons (I’m not that keen on; they’re a bit forced) suggests that it was our actions that resulted in this sort of post-technological future. At least humans have ditched their planet-destroying ways and have gone back to living off the earth in a more sustainable way. Is the author hinting that this could this be the best way forward for us as a species? The strength of this novel is its characters and the way they interact together. There’s a large cast which keep things interesting with plenty of variety. I’ m glad the author has chosen strong lead female characters who can defend themselves. Of course, the lads help out here (they are the protectors after all!) but it’s refreshing to see the girls leading and taking care of themselves. They are the stars here. This is much better and modern than the traditional damsel in distress routine. The themes such as young love etc. will appeal to the teenage audience, but the book has a wider appeal. I’ve heard of many adults, including Welsh learners, who have really enjoyed it – including me! I liked the idea of giving us a sneak preview of the next instalment to whet our appetite...
- Na, Nel! ~ Meleri Wyn James
*Scroll down for English & comments* Mewn brawddeg: Anturiaethau gyda'r ferch fach ddrygionus! In a nutshell: Adventures with a loveable but mischievous girl! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2014 ISBN: 978-1-84771-895-2 *Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original* Lefel: ❖ Iaith hawdd/pennodau byr Easy, clear text/short chapters Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ☆ Genre: #antur #adventure #mischief #direidi Mae Nel wedi glanio ar y ddaear!! Mi ddaeth i’r byd ar lawr archfarchnad gredwch chi fyth! A tydi bywyd erioed wedi bod yn ddiflas ers i Nel gyrraedd! Dyma’r llyfr cyntaf yng nghyfres Na, Nel gan Meleri Wyn James! Dyma’r geiriau mae oedolion wastad yn gweiddi ar Nel wrth iddi greu hafoc o gwmpas y lle! O safbwynt oedolyn (diflas!) mae Nel yn gallu ymddangos fel rêl poen weithiau gyda’i holl antics a blerwch! O safbwynt plant, mae hi’n ymeising! Mae’r gyfres yma, ond yn hytrach, cymeriad Nel, wirioneddol wedi cydio ym mhlant Cymru ac mae o bellach wedi dod yn un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd. Mewn amser byr iawn, mae hi wedi datblygu i fod yn glasur! I ddechrau, fel dwi’n deall, gŵr Meleri Wyn James sydd wedi dylunio’r clawr a rhaid i mi ddeud, mae o wedi gwneud job bril. Mae 'na ddigon o liw i ddenu’r llygaid ond eto mae o’n syml hefyd. Mae lluniau John Lund hefyd yn wych ac yn adio cymaint i’r llyfr e.e. weithiau maen nhw’n dod gyda speech bubbles doniol! Mae’r ysgrifen yn reit fawr ac yn amlwg gyda phenodau byrion sy’n gwneud y gwaith darllen yn haws. Mae ‘na dair stori fer o fewn y cloriau ac mae hyn yn gweithio’n berffaith! Mae’n gweithio fel llyfr yr all rhieni ddarllen i blant iau, a hefyd fel llyfr i ddarllenwyr 'chydig yn hŷn. Mae’n nodi yn rhywle fod o’n addas i blant 7+ i ddarllen yn annibynnol ond 5+ os oes rhywun arall yn darllen. Mae’r cynnwys yn addas beth bynnag ac mae antics Nel yn sicr o apelio at fechgyn a merched, er ei fod yn mynd i apelio mwy at ferched, dybiwn i. Dydi Meleri Wyn James ddim yn ofn defnyddio hiwmor toiled (sydd wastad yn mynd lawr yn dda gyda phlant - ac oedolion fel fi!) ac mae 'na ddigon o sôn am chwerthin cymaint nes mae hi’n gwlychu ei nicyrs! Mae Nel yn llawn bywyd ac mae hi’n gwibio o gwmpas fel corwynt! Mae’r golwg ar wyneb ei rhieni yn dweud y cyfan!! Mi wnân nhw un rhywbeth dros Nel - ac mae hi’n gwybod hynny’n iawn! Mae ‘na ddigon o hiwmor yn y llyfr a digon o lanast wrth i Nel drio gwneud cacen ben-blwydd! Mae’r awdur yn llwyddiannus iawn wrth roi ‘blas’ Gymraeg i’r straeon gyda chyfeiriadau at y Capel, Sali Mali, Pobl y Cwm a Straeon y Wibli-wobli!! (Mabinogi!!) Mae 'na debygrwydd rhwng y gyfres yma a Horrid Henry yn y Saesneg. Mae Nel weithiau yn gwylltio ei rhieni yn racs ac yn hollol anhylaw, ond un peth sy’n sicr, mae hi’n hoffus iawn, iawn. Mae hi wedi dysgu’r dric o siffrwd ei hamrannau er mwyn cael ffordd ei hun! Ar ôl i mi ddarllen Na Nel, dwi’n gweld apêl y llyfr yn syth! Efallai tydi Nel ddim y role model gorau, ond dyna pam mae hi mor boblogaidd! Edrych ymlaen at yr anturiaethau nesaf!! Nel has landed! Would you believe that she was in such a rush to get here, she was born in a supermarket aisle? Life has never been boring- or indeed the same -since she arrived! This is the first book in the ‘Na, Nel!’ series by Meleri Wyn James. These are the words adults are always shouting at Nel as she goes about like a hurricane creating havoc wherever she goes! From a (boring) adult’s standpoint, I’m sure Nel can be a right pain with all her antics and messiness. From a child’s viewpoint, I’m sure she’s amazing! This series, or rather, Nel’s character, has totally gripped the children of Wales and this has quickly become one of the most recognizable and popular children’s book series. In a short space of time, this has developed into a children’s classic! To start, as I understand, it’s the author’s husband who designed the covers and I have to say what a good job he’s done of it. Plenty of colour to catch the eye but also quite simple too. John Lund’s illustrations are great and add so much to the book. I love the ones that come with funny little speech bubbles. The writing is in a large, easy to read font and its short chapters make it much easier to read. There are three short stories contained within the book and this works perfectly. It works as a book that parents and children could enjoy together at bedtime, but also as a book for independent reading. It states somewhere that it is appropriate for ages 7+ to read alone, but I would say that it is appropriate for ages 5+ of someone else is reading. The content is perfect for that age group and although boys and girls across Wales have enjoyed reading these books, I’d say they will appeal more to girls. Meleri Wyn James isn’t afraid to use toilet humour (always goes down a treat with children, and indeed some adults like myself!) There’s plenty of mention of laughing so hard that she wets her knickers! Nel is full of life! Full of energy! She seems barely able to sit still! The look on her parent’s faces says it all! They would do absolutely anything for Nel – and she knows this and has them wrapped around her little finger. There’s plenty of humour and mess as Nel tries to make a birthday cake! The author is very good at giving these books a distinctly ‘Welsh’ flavour, with references to going to chapel, Sali Mali, Pobl y Cwm and the Wibli-Wobli! (Y Mabinogi) There are similarities between this series and the popular English titles Horrid Henry by Francesca Simon. Nel sometimes infuriates her parents and brother and is completely unmanageable at times, but one thing is for sure, she’s very, very likeable. She has learned the eyelash fluttering trick to get away with it too! As soon as I read this book I could see it’s appeal. Maybe Nel isn’t the perfect role model for children, but I think that’s why she’s so popular! Bring on the next Na,Nel adventure!
- Efa (Y Melanai) ~ Bethan Gwanas
*Scroll down for English & comments* "Tywysoges vs Y Frenhines: antur a ffantasi" "Princess vs The Queen: Fantasy adventure." Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2017 ISBN: 978-1-78461-502-4 Lefel: ❖ ❖ ❖ --Cymraeg Gwreiddiol-- Stori gyda iaith naturiol, ond fwy addas i ddarllenwyr hynStory with easy-to-read, natural language, but more suitable for older readers Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ★ Dyma ni gyfres newydd i bobl ifanc yn eu harddegau gan Bethan Gwanas. Y Melanai yw’r enw ar y drioleg, ac ‘Efa’ yw’r stori gyntaf. Petawn i’n gorfod crynhoi’r gyfres, byddwn i’n dweud cyfuniad o Lord of the Rings, Hunger Games a Game of Thrones efo ychydig bach mwy o hiwmor. Mae’n wir i ddweud fod y stori yma’n cydio o’r dudalen gyntaf. Mae Bethan yn amlwg wedi dysgu gan y meistr o fyd ffantasi ei hun, J.R.R. Tolkein ac mae hi wedi creu byd newydd ei hun - ac mae 'na fap ar ddechrau’r llyfr. Gwych! Mae o’n rhoi rhyw fath o gyd-destun i’r llyfr cyn dechrau darllen ac erbyn i ni glywed am y llefydd yma yn y stori, ma’ na deimlad lled-gyfarwydd. Un peth o’n i’n licio oedd y rhestr cymeriadau ar y dechrau. Dwi ddim wedi gweld hyn mewn llyfr o’r blaen, ac i fod yn onest, mae o’n handi! Mi o’n i’n gweld fy hun yn troi at y rhestr cymeriadau o dro i dro i atgoffa fy hun. Syniad da iawn, yn enwedig mewn llyfr gyda nifer o gymeriadau ag enwau anghyfarwydd. Mae’r prolog yn wych. Mae’r awdur yn llwyddo i greu naws anghyfforddus a creepy yn syth gyda’r seremoni farbaraidd. Yn nheyrnas Melania, ‘da chi’n gweld, mae’n rhaid i ferch (y dywysoges) ladd ei Mam (Y Frenhines) ar ei phen-blwydd yn un ar bymtheg oed. Dyma’r rheolau ers canrifoedd. Mae hyn yn hollol normal yn Melania. Dwi’n hoff o’r ffordd mae’r awdur yn normaleiddio’r traddodiad ofnadwy yma yn y llyfr, ond i ni, fel y darllenwyr, da ni’n gwybod pa mor farbaraidd a hurt ydi o go iawn. Y peth ydi, mae o’n reit scary o beth i ddychmygu a dweud y gwir, achos ma’ 'na bethau tebyg wedi digwydd go iawn, mewn defodau paganaidd, lle'r oedd gwneud aberthau creulon drwy dywallt gwaed yn beth cyffredin. Mae traddodiadau o’r fath yn fy atgoffa o’r arferion hynafol o foddi neu losgi gwrachod. Y peth oedd, fel pobl Melanai, maen nhw’n meddwl fod nhw’n gwneud y peth iawn. Dyna sy’n frawychus. Mae’r disgrifiad o’r seremoni yn amser y presennol yn effeithiol wrth greu’r teimlad ein bod ni yno ar y funud honno. Y dorf yn gweiddi a’r drymiau yn curo. Pawb yno i wylio’r lladdfa. Mae’n rhoi croen gŵydd i mi wrth feddwl am y peth. Dwi’n falch fod Bethan Gwanas yn cynnwys y disgrifiad erchyll, gwaedlyd i ni ar y dechrau. Dydi hi ddim yn trio sensro’r peth. Wrth ddarllen y geiriau am y ferch sydd: “gyda sgrech o boen yn plannu’r gyllell yng nghalon y fam,” mi ydw i’n hooked. Flashback oedd hynny. Mae’r bennod gyntaf yn dod a ni’n ôl i’r presennol. Rydym ni’n cyfarfod Efa, y darpar frenhines, a’i ffrindiau. Mae Efa’n agosáu at yr amser lle bydd gofyn iddi ladd ei mam ei hun gyda chyllell er lles y wladwriaeth. Dyna i chi goblyn o benbleth i’r hogan i ddweud y lleiaf! Yn ystod y stori, da ni’n dod i’w nabod a buan iawn ’da ni’n ffeindio fod hi’n anghyfforddus iawn gyda’r disgwyliadau mawr yma. Daw Efa i’r canlyniad fod y drefn ym Melania yn farbaraidd ac mae’n bryd i bethau newid. Yn anffodus, er pa mor greulon ydyw, dyma yw cyfraith y wlad ac mae’r gosb o beidio ufuddhau yn waeth. Felly, mae hi’n penderfynu (reit sydyn a dweud y gwir) i ddianc. Dyma yn y bôn, yw’r stori. Mae’n bwysig nodi fy mod i’n fachgen sy’n llawer hŷn na chynulleidfa darged y nofel hon ond serch hynny, rydw i wedi mwynhau’r stori’n arw. Wrth gwrs, mae ’na ddarnau sy’n ei gwneud yn amlwg mai llyfr i bobl ifanc yn eu harddegau yw hwn, a bydd y sôn am filwyr hunky, plorod, fflyrtio a chusanu o bosib, yn apelio’n fwy at ferched yn eu harddegau na bechgyn, rwy’n tybio. Mae 'na ddigon o antur yma i ddal fy sylw drwy’r nofel i gyd. Mae’r geiriau a’r brawddegau yn llifo mor naturiol ac mae dawn Bethan Gwanas gydag iaith lafar, Cymraeg dydd-i-ddydd yn gryf yma. Mae o mor hawdd i’w ddarllen. Dwi’n teimlo y gallai’r stori fod wedi gweithio’n well mewn byd ar blaned arall, neu ar y ddaear mewn rhyw oes hudol a fu ond ella mai barn personol ydi hyn. Weithiau, mae ychydig o’r social commentary am y morfilod glas a’r llygru plastig yn teimlo dipyn yn preachy. Er hynny, dwi’n cydnabod fod o’n neges bwysig! Mae’r nofel yma’n llwyddo i’n cyflwyno i wlad Melania, ac erbyn y diwedd rydym yn teimlo’n hen gyfarwydd ag Efa, wrth i ni weld y byd drwy ei llygaid hi. Mae Bethan yn ein cyflyru i falio am y cymeriadau, a da ni’n invested go iawn erbyn y diwedd. Dwi wir isio gwybod os fydd Efa a Dalian yn cael efo’i gilydd!! Mae’r nofel yma’n gosod pethau’n berffaith ar gyfer y llyfr nesaf yn y gyfres ac mae’r awdur yn gwybod yn union beth mae hi’n wneud drwy orffen y llyfr gyda wopar o cliffhanger. Dwi’n falch mod i’n darllen y rhain ar ôl i’r drioleg gyfan gael ei gyhoeddi neu mi fysa hi’n dipyn o job disgwyl am yr un nesaf! Here we are: a new series for teenagers by well-known author, Bethan Gwanas. Y Melanai is the name for the trilogy, and ‘Efa’ is the First novel. If I had to summarise, I’d say a blend of Lord of the Rings, Hunger Games and Game of Thrones with a bit of humour thrown in. Safe to say, this story is gripping from the word go. Bethan has obviously learned from the master of fantasy himself, J.R.R. Tolkein and she’s created a new fantasy world – with a map at the start. Brilliant! It gives a sort of context before reading and by the time we hear of these places, they feel vaguely familiar. One thing I did like was the character list at the start. I haven’t seen this in a novel before, and to be honest, it’s handy! I found myself using it now and then to remind myself. A good idea, especially with so many new main characters. The prologue is brilliant. The author creates an uncomfortable and creepy ambience with the violent ceremony. You see, in the land of Melania, the daughter (the princess) must kill her mother (the Queen) on her sixteenth birthday. These are the rules. I love the way the author makes it seem so normal in Melania, but we, as readers realise how crazy this is. The thing is, it’s quite scary to think about it because similar things have happened in history. Blood was often spilled in ritual pagan sacrifices. It reminds me of the traditions of drowning or burning witches. It’s scary because we, like the people of Melania, used to think this was the right thing to do. The description of the ceremony in real time is effective in creating the feeling that we are there, witnessing the horror. The crowd shouting and the drums beating. It gives me goosebumps thinking about it. I’m glad that Bethan Gwanas has kept the gory details at the start. She doesn’t try and censor it. As soon as I read about the girl who, “with a scream of pain, plunges the knife deep into her mother’s heart,” I’m hooked. That was a flashback. The first chapter brings us back to the present day. We meet Efa, the princess and soon-to-be Queen. She is nearing that time when she must kill her own mother for the sake of the country. What a dilemma for the poor girl to say the least! During the story, we get to know her and we soon find out that she’s not comfortable at all with what is being asked of her. She comes to the conclusion that this tradition is barbaric and it’s time things changed. Despite it’s apparent cruelty, this is the law, and the punishment for refusal is worse. She decides (rather suddenly really) that she must escape. This is the story in a nutshell. It’s important to note that I’m a man who’s much older than the target audience for the book, but despite this, I’ve enjoyed it thoroughly. Of course, there are parts that make it obvious that this book is aimed at teenagers. All the talk of hunky soldiers, spots, flirting and kissing will no doubt appeal to the book’s intended audience. It perhaps would appeal more to girls than most boys. There’s plenty of action here to sustain my interest throughout the book. The sentences flow easily and Bethan Gwanas is skilled in using natural, informal, everyday Welsh. It’s so easy to read. I feel the story could have worked well on another planet or set in the past, in a magical age, rather than the future, but this is personal taste. Sometimes the social commentary about blue whales and plastic feels a bit preachy and on-the-nose. Even so, it is an important message. This novel introduces us to the country of Melania, and by the end we are very familiar with Efa, as we see life through her eyes. Bethan forces us to care about the characters, and we are genuinely invested by the end. I really want to know if Dalian and Efa get together! This novel sets things up perfectly for the next one and the author knows exactly what she’s doing by finishing the first instalment with a whopper of a cliff-hanger. I’m glad that I’m reading these after all three novels have been released otherwise it would be a long wait!
- Gwalia ~ Llŷr Titus
*Scroll down for English* "Antur yn y gofod, archwilio bydoedd estron rhyfeddol" "Space adventure discovering strange new worlds." Gwasg: Gomer Cyhoeddwyd: 2015 ISBN: 978-1785620492 Lefel: ❖ ❖ ❖ --Cymraeg Gwreiddiol-- Stori gyda iaith naturiol, ond fwy addas i ddarllenwyr hyn Story with easy-to-read, natural language, but most suitable for older readers Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ★ ☆ Dyma i chi adolygiad gonest o nofel gyntaf Llŷr Titus, Gwalia, sy’n ychwanegiad hir-ddisgwyliedig i’r genre ffuglen wyddonol yn y Gymraeg. Dw i ddim yn expert o bell ffordd, a megis dechau ar fy siwrnai o ddarganfod llyfrau Cymraeg ydw i, ond dw i’n dal i deimlo fod ’na fwlch yn y farchnad Gymraeg i lyfrau o’r math yma – a ’da ni angen mwy! Awduron – ewch ati i ’sgwennu mwy plîs! Ers pan oeddwn i’n 9 oed, pan ddaeth Star Trek: Voyager ar y teledu, dw i wedi bod yn obsessed efo Sci-Fi. Dw i wrth fy modd efo unrhyw beth i wneud gyda’r gofod. Star Trek, Star Wars... you name it. Felly, roedd hi’n reit amlwg fod y nofel yma’n mynd i apelio ata i. Ond, mae’r ffaith fy mod i wedi gwylio cymaint o raglenni ffuglen wyddonol yn golygu fod gan Llŷr Titus dipyn o waith i drio fy mhlesio; roedd gen i ddisgwyliadau annheg o uchel a dweud y gwir. Stori antur ydi hon. Mae’n dilyn hanes Elan, merch sy’n byw ac yn gweithio ar fwrdd llong ofod y ‘Gwalia’. Yn wahanol i straeon Sci-Fi rhaglenni fel Star Wars a Star Trek lle mae’r cymeriadau naill ai yn rhan o frwydr neu ar fwrdd llong ofod sy’n archwilio’r gofod, llong fasnachol ydi’r Gwalia, sy’n symud a danfon cargo o blaned i blaned. Felly, yn hytrach na’r Milenium Falcon yn brwydro’r gelynion yn Star Wars: Force Awakens, mae’r Gwalia yn debycach i Parcel Force. Ond, peidiwch â phoeni, dydi hynny’n amharu dim ar yr antur. Yn syth wrth i mi ddarllen am y Gwalia dw i’n meddwl am Futurama, y cartŵn gan Matt Groening oedd yn dilyn anturiaethau doniol Philip J Fry, y delivery boy bach syml, gyda’i griw o gymeriadau eclectig ac unigryw. Mae’r nofel yn dechrau trwy fynd â ni yn syth i ganol y digwydd - In Media res fel petai (Lladin: “in the midst of things”) - ac mae o fel gwylio crash scene cyffrous mewn ffilm sy’n digwydd cyn yr opening credits. I feddwl mai darllen am drafferthion yr Athro Hans Reiter roeddwn i, wrth i’w long ofod blymio tuag at y blaned, roedd y dweud yn sinematig ei naws, yn enwedig gyda’r effaith cyfri lawr y mae’r awdur yn ei ddefnyddio. Rydan ni wedyn yn neidio i’r presennol ym mhennod 2, ac yn cyfarfod Elan, (hi yw prif gymeriad y stori, - wna i ddim mynd mor bell â dweud ei bod hi’n arwres, achos dw i’m yn meddwl fod na un yn y stori hon. Ar ddechrau’r stori, mae hi’n dod drosodd ychydig bach yn anaeddfed i fod ar long ofod, gan ei bod hi’n paffio ac yn pwdu y rhan fwyaf o’r amser. Rydan ni hefyd yn cyfarfod cymeriadau eraill o’r bennod hon ymlaen, fel Capten Ari, Dewyrth, Titsh, Doctor Jên, Mel a Tom. Mae ’na deimlad cartrefol ar fwrdd y Gwalia a phawb fel un teulu mawr. Mae popeth yn dda, yn rhy dda, ac roeddwn i'n dechrau meddwl fod rhywbeth yn siŵr o fynd o’i le yn hwyr neu’n hwyrach. Arafodd y stori gryn dipyn yma, wrth i Llŷr Titus ein cyflwyno i’r cymeriadau i gyd a disgrifio eu rhinweddau a’u bywydau ar fwrdd y llong. Mae’n cymryd ei amser i ddisgrifio sut beth yw bywyd yn y dyfodol – ac mae’n gwneud hyn yn dda iawn gan roi llawer o fanylion sy’n help i ni ddychmygu’r byd hwn. Rhaid i mi ddweud mai yma y gwnes i ddechrau diflasu mymryn, gan fy mod yn awyddus i’r stori symud yn ei blaen, ond dw i’n deall bod angen cyflwyno’r cymeriadau i gyd cyn i'r stori ddatblygu. Llyfr ydi o wedi’r cwbl, a rhaid disgrifio er mwyn i ni fedru creu’r byd futuristic gyda’n dychymyg. Roedd y trip i blaned Kansas gyda’r gwartheg yn teimlo fel tipyn o distraction oddi wrth y prif stori, ond roedd yn gyfle da i gyflwyno Milo a Rob, sef y ddau gymeriad sy’n gwrthdaro ag Elan. Drwyddi, mae Llŷr Titus yn llwyddo i’n bachu gyda’r stori gefndirol am yr Athro Hans Reiter, a’r darganfyddiad mawr y mae o wedi’i wneud. Erbyn y diwedd roeddwn i ar bigau’r drain eisiau gwybod mwy amdano. Pwy yn union oedd o? Beth wnaeth o ei ddarganfod? Lle mae o? Heb eich siomi gormod, tydan ni ddim yn cael atebion i’r cwestiynau yma, ac os rhywbeth, mae’r llyfr yn gorffen gan ein gadael gyda mwy fyth o gwestiynau. Posibilrwydd am sequel tybed? Gobeithio wir. Wna i ddim sbwylio pethau, ond am ryw reswm neu’i gilydd, mae’r prif gymeriadau yn mynd yn styc, yn marooned ar blaned estron. Rŵan mae’r stori wir yn symud yn ei blaen. Llwydda’r awdur i adeiladu’r byd estron rhyfeddol yma’n wych, gyda chreaduriaid od fel octopysau’r coed. But all is not as it seems. A diolch byth am hynny neu diflas iawn fasa petha! Mae digon o beryglon a phethau dirgel i ddal ein sylw yn yr ail ran. Daw’n amlwg fod yr awdur wedi gwneud ei waith cartref a’i fod yn gwybod cryn dipyn am Sci-Fi. Mae’r stori a’r disgrifiadau’n llifo, does dim byd yn teimlo'n forced (sy’n gallu digwydd pan mae rhywun yn sgwennu am rywbeth sy’n anghyfarwydd iddyn nhw) ac mae’n addas iawn ar gyfer y gynulleidfa darged. Mae o’n cyflwyno cysyniadau eithaf cymhleth ar brydiau, ond mae ganddo ffydd y bydd y darllenwyr yn eu deall. Dydi o byth yn patronising. Fe wnes i addo y byddai’r adolygiad yn un gonest yn do? Felly, os oes yna wendid yn perthyn i'r nofel, efallai mai’r diffyg datblygiad yn y cymeriadau yw hynny. Ydi’r profiadau wedi eu newid nhw? Erbyn cyrraedd diwedd stori, dw i eisiau teimlo fy mod i'n gwybod mwy am y cymeriadau, a’u bod nhw erbyn hyn yn hen ffrindiau cyfarwydd, ond erbyn cyrraedd diwedd Gwalia dw i’n dal i deimlo nad ydw i’n nabod y cymeriadau’n iawn. Dw i isio gwybod mwy am eu cefndir nhw. Sut ddaru Milo, Rob ac Elen ddod yn rhan o griw’r Gwalia? Mae ’na gyfle yma i lenwi’r bylchau, a dw i’n eithaf sicr y bydd o’n gwneud hyn yn y nofel nesaf. Croesi bysedd eniwê. Dw i’n ddiolchgar iddo am ddau reswm. Yn gyntaf, am ysgrifennu llyfr ffuglen wyddonol Gymraeg newydd a gwreiddiol, roedd gwir angen un, ac roedd yn llwyr haeddu ennill gwobr Tir na n-Og. Yn ail, am agor fy llygaid i’r byd llyfrau Cymraeg. Dw i isio darllen mwy rŵan a gweld beth arall sydd allan yno (yn debyg iawn i syniad y stori mewn ffordd). Here is an honest review of Llŷr Titus’s first novel, ‘Gwalia’ a long-needed addition to the Welsh Sciene Fiction genre. Now I don’t proclaim to be an expert at all, as I’m only just starting my journey of discovery of Welsh books, but even so, I feel that there’s agap in the market here and that we are crying out for more novels of this type! Authors– please go and write some more! Since I was 9 years old, I remember when Star Trek: Voyager came to BBC2 and I was hooked. I’ve been obsessed with Sci-Fi ever since. Star Trek. Star Wars. You name it. So, it was a pretty safe bet that I would like this new novel. But, in another way, the fact that I’d watched so much Sci-Fi on tv meant that poor Llŷr Titus had a pretty tough job to try and impress me with this book and I may even have had unfairly high expectations. At it’s core, this is a tale of and adventure in space. Of that there is no doubt. It follows the trials and tribulations of Elan, a girl who lives on board the ‘Gwalia,’ spaceship. But this story doesn’t quite follow the conventional Star Wars or Star Trek path, because the ship is a commercial cargo ship, that delivers much-needed supplies between the planets. So, instead of a Millennium Falcon battling it out against villains in epic space duels like in Star Wars: The Force Awakens, what we get here is more akin to Parcel Force. But fear not, because there’s plenty of action to be had here. As I read, I instantly think of ‘Futurama’, the other cartoon series by Simpsons creator, Matt Groening. That followed Philip J Fry, the hapless delivery boy with his band of unusual and eclectic shipmates. A very similar premise. The novel gets to it straight away- In Media res you could say. (Latin: “in the midst of things”) It’s like watching those high-octane crash scenes in films that happen just before the opening credits. To think that I was just reading about Prof. Hans Reiter’s troubles as his ship hurtled towards a planet, the writing was cinematic in nature, especially with the countdown style the author used to convey time running out. As we jump to the present, we meet Elan, (I’ll say main character – I won’t go as far as saying hero, because I don’t really think there is one). At the start of the story, she comes across a little immature with her fighting and sulking. There are other characters too such as Capten Ari, Dewyrth, Titsh, Doctor Jén, Mel and Tom. There’s a strong sense of family on the ship and one gets the feeling that everything is going too well and that something’s about to go wrong. The story slowed down quite a bit here as the author introduces us to the other characters and describes their daily routines on board. It takes time to build up the future world and he obviously knows how to do this. I have to say, it’s here that I got just a little bored, as I was keen to see the story progress, but I understand why he takes his time. It is a book after all, and needs to use words to convey this futuristic world to the readers. The trip to Kansas planet with the cows felt a little distracting, but it was a good chance to introduce the two supporting characters, Milo and Rob, who clash with Elan. Throughout, Llŷr Titus has us hooked with his background story about Professor Hans Reiter and his epic discovery. By the end, I was dying to know more about this. Who was he? What else did he find? Where is he now? Without spoiling things, we don’t really get to find answers and indeed, we probably end the story with more questions that ever. The possibility of a sequel perhaps? I hope so. For one reason or another, the main characters find themselves stuck on an alien planet. Now the story gets going again. The author has the skill here to world-build and describe in detail the planet and it’s weird and wonderful alien environment. His imagination knows no bounds with tree octopus creatures and the like. But all is not as it seems. And thank god for that, otherwise it could be quite boring! There are plenty of dangers and mysteries that the young characters must survive in the second half. It’s clear that the author’s done his homework and he is knowledgeable in this field. The story and it’s vivid descriptions flow naturally, they are not forced (like a writer trying to write about something they are not familiar with). It’s perfect for the young-ish target audience, and although it introduces some quite complex scientific concepts at times, there are clear explanations and a faith in the reader to understand. The author never patronises the audience as some do. I promised this would be an honest review didn’t I? So, here goes. If I had to name a shortcoming of this book, I’d perhaps say that there’s a lack of character development throughout the story. Did their experiences on the planet change them somehow? I like to think that I know the characters better after reading a novel, and that they are more like old familiar friends, but on this occasion, I felt that I hadn’t really gotten to know them as much as I would have liked. I want to know more of their backstories. How did Milo, Rob and Elan come to find themselves on the Gwalia? There’s plenty of room to fill in these gaps, and I’m sure he will be doing this in the next novel. Cross my fingers anyway. I’m grateful to Llyr for two reasons. First, for writing a Welsh Sci-Fi novel that was much needed, and worthy of winning the Tir na n-Og prize. Secondly, for opening my eyes to the world of Welsh books. I now want to go out and read more, to discover what else is out there. (Much like the characters in our story.)
- 'Y Dyn Dweud Drefn' gan Lleucu Fflur Lynch
*Scroll Down for English* "Stori fer am ddyn blîn" "Short story about an angry little man" Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2019 ISBN: 978-1-84527-645-4 Lefel: ❖ Stori fyr, hawdd. Short story, easy to read. Dyfarniad/Verdict: ★ ★ ★ ☆ ☆ Wel, mi wnes i fwynhau darllen y stori fach yma! Llyfr newydd a llyfr cyntaf gan Lleucu Fflur Lynch. Dwi’n siwr ein bod ni gyd yn ‘nabod o leiaf un person blin neu bigog sydd wastad yn cwyno fod rhywbeth o’i le. Efallai eich bod chi’n gweld dipyn o’r ‘Dyn Dweud Drefn’ ynoch chi’ch hun! Mae’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn dwrdio rhywbeth neu rywun drwy’r dydd, bob dydd. Mae ei baned yn rhy oer, mae’r tywydd rhy boeth, neu mae hi’n rhy fuan i godi. Be bynnag yw’r mater dan sylw, mae’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn flin. Bod yn flîn yw ei fywyd, hynny yw, nes bod rhywbeth mawr yn newid yn ei fywyd un diwrnod. Darllenwch y llyfr i ffeindio allan, beth sy’n llwyddo i feddalu calon y dyn bach annifyr. Stori syml iawn yw hon, sydd ddim yn rhy hir ac mae ‘chydig o hiwmor ynddo hefyd, er bod ganddo neges reit bwysig. Mae’r lluniau minimalist Gwen Millward yn werth chweil ac yn adio cymaint i’r stori - maen nhw’n fy atgoffa o’r gyfres Ifan Bifan, gan Gunilla Bergstrom. Yn wir, er nad oes ganddo enw, mae’r Dyn Dweud Drefn yn edrych yn debyg iawn i Gru o Despicable Me! ‘Da ni gyd yn euog o fod mewn hwyliau drwg weithiau, efallai ar ôl codi ar ochr anghywir y gwely, a dwi fy hun yn gallu bod yn bigog - yn enwedig yn y bora! Mae stori’r ‘Dyn Dweud Drefn’ yn ein hatgoffa fod 'na bethau pwysicach mewn bywyd na dwrdio a dweud drefn. Relax! Chill out man! Fel ma’ nhw’n ddweud yn y Saesneg! Yn lle bod yn flin, beth am roi’r egni yna mewn i rywbeth mwy cynhyrchiol? Mae bywyd rhy fyr i fod yn flîn. Mae 'na rywun neu rywbeth allan yn y byd sy’n llwyddo i gael bob person blîn i wenu yn y diwedd! Well, I enjoyed this short little story! This brand new book is Lleucu Fflyr Lynch’s first. I’m sure we all know or can think of at least one person who’s always angry and complaining about things not being right. Maybe you see yourself in the ‘Dyn Dweud Drefn’ (The Telling Off Man). The ‘Dyn Dweud Drefn’ is always angry about something or someone. His tea is too cold, the weather’s too hot or it’s too early to get up. Whatever the issue, you can guarantee that the ‘Dyn Dweud Drefn’ won’t be impressed. Being angry about things is his life. That is, until something happens which changes his life forever. Read the book to find out what’s the one thing that manages to melt the heart of this miserable little man. This is a really simple story, not too long and it’s got a touch of humour to it even though I think it holds an important message. The minimalist illustrations by Gwen Millward are brilliant and they add so much to the story – they remind me of the Ifan Bifan series from the 80s by Gunilla Bergstrom. Even though we don’t know what he’s really called, the ‘Dyn Dweud Drefn’ looks a lot like Gru from Despicable Me! We’re all guilty of being in a bad mood sometimes, maybe we’ve just woken up on the wrong side of the bed that day. I myself can be a bit ratty at times- especially in the mornings! This story reminds us that there are more important things in life than being angry all the time. Relax! Chill out Man! Instead of being angry, why not put that energy into something more productive? Life’s too short to be in a bad mood. This book proves that there’s always something or someone that can manage to make an angry person smile in the end!