top of page

Chwilio

309 results found for ""

  • Pawb a Phopeth: Llyfr Mawr Geiriau / Welsh all around - Elin Meek

    (awgrym) oed diddordeb: 2+ (awgrym) oed darllen: 4+ DISGRIFIAD GWALES Yn weledol drawiadol gyda dyluniad bras, mae'r llyfr clawr caled hwn yn cyflwyno geiriau Cymraeg gydag arlunwaith hyfryd gan Valériane Leblond. Cychwynnir gyda'r Wyddor Gymraeg, rhifau, siapiau a lliwiau, cyn symud ymlaen i dudalennau am yr Adeiladau, Parti, Teulu a Swyddi. Trysor o gyfrol i'w throsglwyddo ar hyd y cenedlaethau. ADOLYGIAD GAN DIANE EVANS, ATHRAWES YMGHYNGHOROL Y GYMRAEG Mae’r llyfr Pawb a Phopeth i bob pwrpas yn eiriadur lliwgar sy’n siŵr o apelio at blant cynradd Camau Cynnydd 2 a 3. Mi fydda hwn hefyd yn gwneud anrheg Nadolig bendigedig i blentyn ifanc. Mae gen i ambell ffrind di-Gymraeg sy’n dysgu'r iaith am fod eu plant mewn ysgol Gymraeg, felly mi fyddai llyfr o’r fath yn handi iawn iddynt. Syniad presant ‘Dolig wedi ei sortio! Gellir chwarae gemau iaith wrth ddefnydio’r llyfr yma ac mae'n adnodd hyblyg iawn. Dyma syniadau am dasgau sy’n defnyddio’r llyfr: *Oedolyn/athro i roi gair Saesneg a’r plentyn i bwyntio at y llun cywir gan weiddi “Sblat!” *Oedolyn/athro i roi gair yn Saesneg a’r plentyn i bwyntio at y llun cywir ac enwi yn Gymraeg mor gyflym a phosib gan weiddi “Sblat!” * Dewis tudalen e.e.Yn y Ddinas. Plentyn i gael amser i edrych ar y geiriau/lluniau am 30 eiliad ac yna gweld faint ohonyn nhw maen gallu cofio. *Dewis un o’r lluniau fel pwll nofio ond peidio dweud p’run. Plentyn arall i geisio dyfalu gan ofyn “Wyt ti yn y theatr?” Ydw / Nac ydw. Mae hyn yn dysgu patrymau iaith holi ac ateb. Mae ‘na lun, enw Cymraeg a fersiwn ffonetig ar gyfer pob gair yn y llyfr yn ogystal a’r Saesneg. Nid oes côd QR yn y llyfr hwn, ond mi fyddai hyn wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer defnydd mewn cartref/ysgol di-Gymraeg yn fy marn i, yn enwedig os yw rhai angen help ychwanegol gyda'r ynganiad. Yn y llyfr mae banc o eirfa i’w gael o dan 42 pennawd gan ddechrau gyda’r wyddor, sy’n cynnwys pethau fel chwaraeon, diddordebau, teithio ,amser, geiriau gwneud, parti, swyddi, y gofod a llawer, llawer mwy! Mae’r ddau lyfr yn addas ar gyfer plant cynradd ond yn lyfrau trwm iawn i ddwylo bychain gan mai llyfrau clawr caled ydyn nhw. Yn fy marn i byddai fersiynau clawr meddal yn haws i’w defnyddio ac yn cymryd llai o le yn yr ystafell ddosbarth ble mae gwagle’n brin. Er hynny, dwi’n credu dylai pob ystafell ddosbarth, yn enwedig ein hysgolion ail iaith, gael copi o’r llyfr yma. I grynhoi, dyma lyfr lliwgar a defnyddiol gan Rily sy’n wych ar gyfer y cartref a’r ysgol. Mae'n llawn lluniau a geirfa handi ar gyfer gwaith cartref neu ar gyfer ehangu geirfa personol. Mae'n amlwg fod cymaint o waith wedi mynd i mewn i greu a dylynio'r llyfr hardd iawn yma. Yn bennaf wedi ei anelu at siaradwyr newydd/dysgwyr ond mae ganddo ddefnydd ar gyfer siaradwyr cynhenid ifanc hefyd, megis plant ifanc. Mae’r tudalennau prysur a lliwgar yn siŵr o annog trafodaeth. Mi fydda i yn argymell y llyfr yma i athrawon sydd â sgiliau Cymraeg cyfyngedig ond sy’n gorfod addysgu’r Gymraeg fel pwnc. Dwi wedi rhoi ‘chydig o syniadau o dasgau posib, ond wir yr, mae’r posibiliadau’n ddi-ben draw hefo adnodd mor hyblyg. Anrheg gwych i rywun sy'n dysgu Cymraeg, boed hynny'n blentyn neu'n riant. Cyhoeddwr: Rily Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £12.99 Fformat: Clawr Caled AM YR AWDUR: ELIN MEEK https://llyfrgelloedd.cymru/wp-content/uploads/2023/12/Elin-Meek-Ion_C1-scaled.jpg

  • Ble Mae Santa / Where's Santa? - Pip Williams [addas. Luned Whelan]

    (awgrym) oed darllen: 5+ (awgrym) oed diddordeb: 0-5 Disgrifiad Gwales: Llyfr chwilio-a-chanfod hud lle gall plant chwilio am gymeriadau Nadoligaidd trwy gyfrwng 'ffenest glyfar' ar bob tudalen. Ceir pum golygfa dymhorol, a thrwy ddefnyddio'r torts hud ar ffurf cerdyn rhwng y tudalen a'r 'ffenest glyfar', caiff plant eu swyno a'u rhyfeddu gan y darluniau cudd a ddatgelir. Un o’r pethau mwyaf diddorol wnes i yn 2023 oedd cael job mewn llyfrgell. Dwi wrth fy modd yng nghanol y llyfrau, ac mae’n gyfle grêt i ffeindio allan am rai bach da. Dyma sut wnes i glywed am Ble mae Santa/ Where’s Santa? – pan ddaeth plentyn a fo at y ddesg er mwyn cael ei fenthyg. Roeddwn i’n meddwl fod y llyfr yn cŵl ac yn wahanol iawn. Dyma chydig o bwyntiau bwled amdano: Mae'r llyfr yn ddwyieithog felly yn grêt os 'da chi'n dysgu Cymraeg neu isio helpu eich plentyn. Os 'da chi'n gallu siarad Cymraeg yn barod, wel, 'da chi'n cael bargen - dau stori am bris un! Mae steil y llyfr yn gyfoes ac yn lliwgar Mae'r stori yn cynnwys tortsh er mwyn chwilio am wahanol gymeriadau - bydd hyn yn siŵr o wneud darllen yn hwyl - yn enwedig os 'da chi'n cael trafferth cael eich plentyn i eistedd lawr i wrando ar stori. Rhaid i chi lithro'r tortsh rhwng y tudalenau er mwyn ei ddefnyddio. Mae'r tortsh yn rhyngweithiol ac yn rhoi rhywbeth i'r plant wneud wrth ddarllen. Gwyliwch y clip fideo isod i weld sut mae'n gweithio: Gwasg: Rily Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99 Fformat: Clawr Caled

  • Mari a Mrs Cloch - Caryl Lewis

    (awgrym) oed diddordeb: 3+ (awgrym) oed darllen: 7+ Lluniau: Valériane Leblond https://www.valeriane-leblond.eu/home.html Bob blwyddyn mae sawl llyfr Nadolig yn ymddangos, ond hwn yw’r un sydd wedi tynnu fy sylw eleni, ac mae’n un o’r rheiny fedrwch chi fynd yn ôl ato dro ar ôl tro, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn sicr mae’n un i’w gadw. Yntydi o’n llyfr hardd? Mae o’n haeddu bod ar ffurf clawr caled. Mae’r bartneriaeth rhwng Caryl Lewis (awdur) a Valériane Leblond (darlunydd) wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol, gan roi i ni berlau fel Sgleinio'r Lleuad a Merch y Mêl. Mae rhywun yn gallu adnabod steil Valériane yn syth, ac mae paru ei lluniau â geiriau Caryl yn gweithio’n dda iawn. Dwi’n hoffi’r cyferbyniad clir rhwng oerni’r nos a chynhesrwydd tŷ Mari/Mrs Cloch. Mae’r Nadolig gwyn ar y clawr yn rhoi delwedd o Nadolig traddodiadol, hen ffasiwn - fel sut mae rhywun yn dychmygu sut oedd ‘Dolig ers sdalwm. Dwi’n dal i groesi bysedd gawn ni ‘Ddolig gwyn rhywbryd, ond dwi wedi bod yn gwneud hynny ers 2010! Yn brysur yn pobi mins peis ar noswyl Nadolig mae Mari a’i Mam, ac wrth i’r ferch fach syllu drwy'r ffenest, mai’n sylwi ar fwthyn bach rhyfedd iawn drws nesaf, gyda waliau igam-ogam, to whimil-whamal a ffenestri wili-nili! (Dwi wrth fy modd gyda’r holl ansoddeiriau bendigedig ‘ma – gawn ni ddefnyddio nhw’n fwy aml plîs?) Mae hen ddynes, Mrs Cloch, yn byw yn y tŷ, ond dydi Mari ‘rioed wedi gweld neb yn galw yno i’w gweld. Gyda’r tŷ bach yn edrych yn unig ac mewn tywyllwch, mae hyn yn llenwi’r ferch fach â thristwch. Mae hyn yn thema berthnasol iawn yn yr oes sydd ohoni.  Faint ohona ni sy’n gallu deud bod ni’n nabod ein cymdogion? Fyddwch chi’n galw heibio yna dros y Nadolig? Dwi’n cyfri fy hun yn hynod o lwcus fod gen i deulu o fy nghwmpas, a’n bod ni gyd yn dod at ein gilydd dros yr ŵyl. Ond tydi pawb ddim yn cael yr un fraint, a dwi’n siŵr y bydd nifer yn unig dros y Nadolig, yn enwedig ymysg yr henoed. O ran y stori, dwi’m cweit yn siŵr os dwi’n credu’r syniad y byddai plentyn mor ifanc yn cael mynd allan i’r nos ar ben eu hunain gan ei rieni, ond dwi’n deall fod hyn yn bwysig ar gyfer y naratif felly dwi’n fodlon anghofio am hyn! Pan mae Mari’n cyrraedd y bwthyn, a hithau’n oer ac yn dywyll tu allan, mae hi’n cael y croeso mwyaf gan Mrs Cloch, sy’n hynod falch o’i gweld. Dwi’n meddwl hynny am fy Nain a Taid fy hun weithiau. Gyda'r dyddiau’n gallu bod yn hir a diflas yn y tŷ drwy’r dydd, mae cael cwmni ni’r wyrion/wyresau yn llonni eu diwrnod. Ac wrth i mi fynd yn hŷn, nid yr anrhegion sy’n bwysig i mi bellach, ond treulio amser hefo’r bobl fwyaf pwysig yn fy mywyd. Wrth i Mrs Cloch fwynhau cwmnïaeth y ferch fach, a Mari’n mwynhau cael helpu i addurno, disgwyl maen nhw am ymweliad gan fab Mrs Cloch. Pwy all hwnnw fod tybed? Wel, mae o’n hwyr yn cyrraedd – a hynny am ei fod o’n brysur iawn yn ei waith ar Noswyl Nadolig, ac yn gorfod gwneud dipyn o deithio! You work it out! Mae ‘na dipyn o lyfrau Nadolig i blant yn cael eu rhyddhau bob blwyddyn, ac mae Mari a Mrs Cloch ymysg y goreuon. I mi, neges amlwg y stori yw carwch eich cymydog, a byddwch garedig. Os ydych chi’n gwybod am rywun sy’n fregus, yn fethedig, neu’n unig, ewch draw i’w gweld o dro i dro, yn enwedig adeg Y Nadolig. Bydd eich cwmpeini yn ddigon dwi’n siŵr – ond fasa mins pei deu ddwy yn syniad da hefyd! Credaf fod gan hwn y potensial i ddod yn un o’r clasuron Nadoligaidd, fatha The Snowman gan Raymond Brigg yn Saesneg. Mi gaiff le ar y silff yn Sôn am Lyfra HQ am flynyddoedd i ddod, a dwi’n edrych ymlaen at ei rannu gyda fy mab mewn ychydig flynyddoedd. Nodyn: Y dyddiad wrth i mi bostio’r adolygiad yma ydi Ionawr 15  (nes i anghofio gwneud cyn ‘Dolig! Wps) – efallai fod Dolig 2023 wedi hen fynd a dod, ond cofiwch tydi hi byth rhy fuan i ddechrau prynu llyfrau Nadolig. Bachwch gopi ar gyfer ‘Dolig nesaf! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £7.99 Fformat: Clawr Caled

  • Babi Cyffwrdd a Theimlo: Nadolig / Baby Touch and Feel: Christmas

    (awgrym) oed diddordeb: 0+ Genre: #ffeithiol #dwyieithog #babi Mi ddes i a’r llyfr yma adref o’r llyfrgell i fy mab pum mis a hanner. Tyfais i fyny hefo llyfrau DK felly roeddwn i’n ‘nabod ac yn ymddiried yn y brand. Mae’r gyfres ‘Babi Cyffwrdd a Theimlo’ yn lyfr dwyieithog sy’n helpu babis adnabod geiriau newydd, gweld patrymau difyr a theimlo gweadau gwahanol. Mae’r llyfr yma yn lliwgar ac yn llawn hwyl y Nadolig. Mae maint poced y llyfr yn handi ar gyfer dod a fo hefo ni yn y pram, ac mae’r clawr caled (ond sy’n reit squishy hefyd) yn addas iawn ac yn ddigon gwydn i ddelio â lot o ddribls– mae’n rhaid iddo fod achos mae popeth yn cael ei gnoi ar hyn o bryd! ‘Da ni yn y phase yna. Dwi wrth fy modd yn gweld yr edrychiad o ryfeddod wyneb y bychan am bob dim. Fel oedolion, ‘da ni’n gallu anghofio weithiau fod popeth yn newydd ac yn fascinating i fabis. Yn y llyfr, mae sêr pefriog, dyn eira rhewllyd, pengwin ciwt, tedi fflwffiog a mwy. Mae rhai yn disgleirio ac mae gan eraill ddarnau bach o ddefnydd gwahanol i ddwylo bychan gael ‘cyffwrdd a theimlo’ a phrofi pethau newydd. Os yn ‘darllen’ yn annibynnol fel arfer mae’r bychan jest yn hoffi dal y llyfr ac ymarfer pigo i fyny, gafael, troi ambell dudalen ac ati. Tydi’r ffaith nad ydio wir yn cymryd sylw o gynnwys y llyfr ddim yn fy mhoeni o gwbl, mae o’n archwilio’r llyfr ac yn dod i arfer gafael a thrin llyfrau, sy’n datblygu’r sgiliau motor man ac yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Fel llyfr o’r llyfrgell, roedd hwn am ddim, ac mi wnaeth y tro yn iawn. Mae Broc wrth ei fodd yn gafael ynddo ond dwi dipyn bach yn siomedig. Dwi’n meddwl fod y gweadau cyffwrdd angen dipyn mwy o amrywiaeth – mae nhw gyd reit ddiflas ac yn eithaf unremarkable. Wedi deud hynny, mae o ddigon bodlon felly who cares ynde. Dwi’n meddwl fod fersiwn newydd, mwy diweddar o’r llyfr wedi cael ei ryddhau leni, o dan y teitl Babi Cyffwrdd a Theimlo: Nadolig Llawen / Baby Touch and Feel: Merry Christmas. Ella fod gan y fersiwn yma fwy i’w gynnig, ond dwi heb ei weld fy hun. https://www.gwales.com/bibliographic/?newsize=350&tsid=16 Gwasg: Dref Wen Cyhoeddwyd: 2011 Pris: £3.99 (allan o brint) Fformat: Clawr caled

  • Yr Ardd Anweledig - Valérie Picard [addas. Luned Aaron]

    Finalist at the Prix des Libraires Jeunesses 2018 - Category 0-5 years old. Lux Prize 2018 - CHILDREN'S BOOK (awgrym) oed darllen: 5+ (awgrym) oed diddordeb: 3-7+ Arlunio: Marianne Ferrer https://www.instagram.com/marianneferrer.jpg/ Rhywbeth bach gwahanol Fel y rhan fwyaf ohona ni sydd ynghlwm â’r diwydiant llyfrau yng Nghymru mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ‘da ni’n neud o am ein bod ni’n caru llyfrau ac yn angerddol am gael pobl yn darllen- yn sicr dydan ni ddim yn neud o am y pres! Yn ddiweddar, mi ddes i ar draws rhyfeddod bach rhyngwladol ar y silff lyfrau. Dim yn aml y gwelwch lyfr cloth bound y dyddiau yma. Yn dipyn o curiosity, dwi’m yn rhagweld y bydd y llyfr yma’n gwerthu cannoedd o gopïau, ond mae’n llyfr bach diddorol ac yn ychwanegu at yr amrywiaeth o lyfrau gwahanol sydd ar gael. Mae’n dda bod gweisg fel Llyfrau Broga yn fodlon cymryd risg bob hyn a hyn, a chyhoeddi llyfrau sydd ychydig yn wahanol, a rheiny yn deillio o wledydd eraill heblaw Lloegr. Dwi’n meddwl mai yn Ffrangeg gafodd y llyfr ei chyhoeddi gynta, o dan y teitl Le Jardin Invisible. Am eich £12.99 rydych chi’n cael llyfr o safon uchel, sy’n sicr o bara am flynyddoedd i ddod. Wedi deud hynny, mewn cost of living crisis, mae pob ceiniog yn cyfri. Os yw’r gost yn broblem, cofiwch am eich llyfrgelloedd lleol sy’n fwy na pharod i helpu. Oes angen geiriau? Gan mai Luned a Huw Aaron sy’n rhedeg gwasg Llyfrau Broga, dwi’n siŵr mai gwaith celf hyfryd Marianne Ferrer apeliodd atynt yn y lle cyntaf wrth benderfynu cyfieithu’r llyfr i’r Gymraeg. Wrth drafeilio o’r ddinas mewn car, hola ferch fach  “ydyn ni bron yna?” wrth iddi nesáu at goedwig fawreddog. Mewn llannerch yn y coed, mae tŷ bach coch yn sefyll allan. Tŷ Nain ydi hwn, ac mae’n ben-blwydd arni. Wedi diflasu a sgyrsiau diflas yr oedolion (gweld dim bai arni) mae Elsi’n cael ei hel i’r ardd allan o’r ffordd. Mewn ffordd, mae’r ferch fach yn anweledig i’r oedolion yn y parti. I gychwyn, mae hi wedi diflasu yna hefyd. Ond pan mae carreg fechan yn mynd a’i sylw, mae hyn yn agor y drws i antur ryfeddol, sy’n mynd a hi dros y mynyddoedd, o dan y dŵr, i hedfan gyda phryfaid anferthol. Y pryfaid sy’n fawr neu’r ferch sy’n fach erbyn hyn? Pwy a ŵyr? Ydi hi yn yr ardd yntau breuddwyd yw’r cyfan? Dim ots -mae’r cyfan yn teimlo fel breuddwyd gyffrous sy’n gwibio o un sefyllfa ryfeddol i’r llall. Ydi hi wedi mynd yn ôl mewn amser? Nid yw’n glir. Bosib. Mae’r dinosoriaid yn awgrymu ei bod hi. Mae llawer o’r golygfeydd yn agored i ddehongliad, ac mae’n debygol y bydd pob darllenydd yn gweld rhywbeth gwahanol. Mae’r llyfr yn ein tywys ar siwrne i feddwl plentyn. Unwaith mae hi yn yr ardd, a’i dychymyg yn rhydd i grwydro, mae’r posibiliadau yn ddi-ri. Yn wir, mae’r stori yn gallu teimlo dipyn yn ddryslyd ar brydiau gan ei fod o’n symud o un peth anghredadwy i’r llall, ddim yn rhy annhebyg i Alice in Wonderland! Y tric yw i beidio â gor-feddwl pethau, a jest go with it, gan adael i ddychymyg Elsi fynd a chi ar antur. Wrth ddarllen, cefais fy atgoffa o fynd i dŷ fy hen nain yn Llanrwst. Dros y blynyddoedd, roedd yr ardd wedi tyfu yn rhyw anghenfil mawr, ac roeddwn i wrth fy modd yn mynd yno i archwilio. Un diwrnod, yng nghanol y deiliant, mi ffeindiais fan Austin Maestro, a hen doiled ‘tu allan’ ym mhen draw’r ardd wedi eu gorchuddio mewn iorwg. Am hwyl – doedd dim xbox na playstation ar fy nghyfyl diolch byth! Prin iawn yw’r ysgrifen yn y llyfr. Dim mwy na ryw 30 gair tybiwn i, jest digon i wthio’r ‘stori’ yn ei flaen. Hyn yw cryfder y llyfr, a rhan o’i wendid hefyd, yn dibynnu pa ochr o’r ffens ‘da chi’n sefyll. Dwi’n meddwl fod hwn yn llyfr sy’n debygol o hollti barn. I’r rhai creadigol, dychmygol sy’n licio’r math yma o lyfrau, mae’r testun prin yn gadael i’r lluniau wneud y siarad, ac mae’r stori mor agored, y bydd yn darllen yn wahanol bob tro, yn dibynnu ar y darllenydd. Yn sicr mae’r amwysedd yn gadael digon o le i gael sgyrsiau lu am wahanol bethau megis y cyferbyniad rhwng bywyd y ddinas a bywyd cefn gwlad neu sut mae goresgyn diflastod. Un cwestiwn fyddwn i’n gofyn i ddarllenwr ifanc er mwyn ennyn sgwrs yw ‘ai breuddwyd oedd y cyfan?’ Does dim ateb cywir nac anghywir i hyn, cofiwch. Wrth gwrs, mi fydd rhai yn teimlo nad oes digon o strwythur i’r stori na chwaith digon o gig ar yr asgwrn. Debyg fod hyn yn dibynnu os ydych chi wedi arfer hefo llyfrau di-air (wordless picturebooks). Mae ffans ohonynt yn gwybod eu bod yn gallu bod yn adnoddau defnyddiol, pwerus a hyblyg tu hwnt. https://www.booktrust.org.uk/booklists/w/wordless-picture-books-for-children/ Gwasg: Broga Cyhoeddwyd: Medi 2023 Pris: £12.99 Fformat: Clawr caled (defnydd)

  • Gladiatrix - Bethan Gwanas

    (awgrym) oed diddordeb: 15+ (awgrym) oed darllen: 15+ Genre: #ffuglen #antur #hanes Themau: ymladd, trais, gwaed, dienyddio, cyfeiriadau rhywiol ADOLYGIAD GAN REBECCA ROBERTS Stori am ddwy chwaer, Rhiannon a Heledd, ydi Gladiatrix - stori sy’n ein tywys ni o Ynys Môn dan reolaeth derwyddon yr Orddwig i Rufain a Halicarnassarus yn Nhwrci. Ar ôl i fyddin Rufeinig  dan arweiniad Suetonius Paulinus lladd gweddill eu llwyth, mae’r milwyr yn atal dienyddio Heledd a Rhiannon oherwydd eu dewrder wrth ymladd. Nid marw ar faes y gad yw eu tynged, ond cael eu hyfforddi i fod yn gladiatrix a brwydro am eu bywydau o flaen gynulleidfa’r amffitheatr. Dydw i ddim yn un am grynhoi plot straeon mewn adolygiadau, felly wna i fodloni ar ddweud bod y plot, fel ymhob stori gan Bethan Gwanas, yn dynn ac mae pob pennod yn llawn emosiwn a chyffro a thensiwn. Wnes i lowcio’r llyfr - unwaith ti ddechrau darllen mae’n anodd ei roi i un ochr. Wnes i grio a dyrnu’r awyr sawl tro. Mae’r prif gymeriadau’n unigryw ac yn fyw, ac ro’n i wirioneddol yn drist ar farwolaeth sawl un. (Dim spoilers gen i - bydd yn rhaid darllen i weld pwy sy’n goroesi a phwy sy’n diweddu efo tryfer trwy ei g/chalon!). Mae’n nofel hanesyddol, a wnes i wir fwynhau’r ffordd wnaeth Gwanas llwyddo i blethu hanes rhai o bobl bwysicaf y cyfnod - Suetonious, Buddug, Caradog, Spartacus - i’r naratif ac i bortreadu bywyd beunyddiol Ynys Môn a Rhufain heb arafu gormod ar y plot.  Yn amlwg, mae hi wedi gwneud ei gwaith ymchwil yn drylwyr iawn, a wnaeth ffrwyth ei dychymyg (gan nad oes cofnodion ysgrifenedig gan y derwyddon) argyhoeddi. Mae’r arddull yn apelio i’w synhwyrau ac ar brydiau teimlais fy mod i’n sefyll ochr yn ochr â’r cymeriadau. Er erchylltra’r cyfnod, er tristwch y cymeriadau wrth iddyn nhw orfod gwylio’u teulu a’u cyfoedion yn marw fesul un, nid yw’n  nofel ddwys na phrudd. Mae’n nofel am chwaeroliaeth a dysgu sut i faddau a goroesi.  Os nad ydi’n amlwg erbyn rŵan, ro’n i wrth fy modd. Anhygoel, Gwanas - yn fy marn i, dyma ydi dy nofel orau hyd yn hyn. ADOLYGIAD GAN MORGAN DAFYDD “Father to a murdered son. Husband to a murdered wife. And I will have my vengeance, in this life or the next.” Os ‘da chi’n nabod y linell eiconig yna, fyddwch chi’n gwybod mai o’r ffilm Gladiator y daw o. Ffilm arbennig a chofiadwy iawn. Wel, anghofiwch am Russell Crowe, achos mae gynon ni lyfr Cymraeg rŵan yn adrodd hanes cyfnod gwaedlyd iawn yn ein hanes, ac mae o'n wych. Ma'n dangos pa mor dda mae llyfrau #gwreiddiol yn gallu bod. Roedd yr ychydig wybodaeth oedd gen i am y Gladiatoriaid yn deillio o gartŵns fel Asterix vs Julius Caesar. Doeddwn i ddim wedi deall mai caethweision oedden nhw mewn gwirionedd, ac yn sicr doeddwn i ‘rioed wedi clywed fod merched wedi bod yn Gladiatoriaid hefyd! Cŵl! (neu druan ohonynt, dwi’m cweit yn siŵr!) Dyma yw ystyr y teitl, Gladiatrix, sef y gair ar gyfer Gladiatoriaid benywaidd – ac mae’n deitl arbennig ar gyfer llyfr os ga i ddeud, ac yn sefyll allan fel un reit wahanol ymysg silffoedd o lyfrau Cymraeg undonog. O ran y Derwyddon sydd hefyd yn ymddangos yn y nofel, heb law mod i wedi clywed y gair o’r blaen, wyddwn i lai fyth am eu hanes nhw! (ond i fod yn deg, does neb yn hollol siŵr amdanynt, achos mae’r tystiolaeth reit brin). Dwi’m yn awgrymu am eiliad fod nofel ffuglen fel Gladiatrix am roi cyfrif hanesyddol manwl gywir o’r cyfnod, achos nid dyna ei bwrpas. Er hyn, dwi’n teimlo mod i wedi dod i nabod y cyfnod cythryblus yma yn hanes Cymru  fymryn yn well, ac os rhywbeth, mae o wedi fy ngwneud yn awyddus i ddysgu mwy. A minnau’n byw dafliad carreg i ffwrdd o Gaerhun (Canovium oedd yr enw Rhufeinig), mae eu hôl yn dal o’n cwmpas ym mhobman, os ‘da chi’n gwybod lle i chwilio. Fel mae Bethan ei hun yn dweud, mae llawer o’n gwybodaeth am y cyfnod cynnar yma yn dameidiog iawn, a weithiau does ‘na ddim cofnodion o gwbl. Wrth reswm felly, mae hi wedi cymryd darnau bach o hanes, a hefo ‘chydig bach o fill in the blanks a thipyn go lew o greadigrwydd, wedi llwyddo i wehyddu stori ardderchog a chwbl gredadwy o gwmpas y ffeithiau prin. Yn sicr, mae ôl gwaith ymchwil manwl i’w weld yma (tua dwy flynedd gymerodd i sgwennu’r nofel yn ôl sôn), ac mae’r attention to detail yn glodwiw. Gan ddweud dim llawer mwy na’r broliant rhag i mi sbwylio gormod, roedd dwy chwaer ifanc, Rhiannon a Heledd, yn byw’n fodlon a chytûn ar Ynys Môn, gyda gweddill llwyth yr Orddwig a’u harweinwyr, y Derwyddon ‘doeth.’ Hynny yw, tan mae negesydd annisgwyl yn glanio hefo rhybudd fod byddin y Rhufeiniaid dafliad carreg i ffwrdd o Fôn. O feddwl pa mor ddifrifol yw’r neges, digon chwerthinllyd yw ymateb y Cymry brodorol! Wrth i Suetonius Paulinus a’i filwyr brysuro i gyfeiriad yr ynys, cymryd rhan mewn rhyw ddefnodau digon rhyfedd mae’r Derwyddon, yn y gobaith bydd eu hoffrymau i’r Duwiau’n ddigon i’w cadw’n saff. O nefoedd... ‘Craduriaid. Toes ganddyn nhw ddim syniad am y storm sydd ar y gorwel, ac mae rhyw eirioni tywyll i ymateb anwybodus trigolion yr Ynys - ‘Doedd gan y Rhufeiniaid ddim gobaith!’ medden nhw... Wedi i’r ynyswyr ddod wyneb yn wyneb â grym milwrol cadarn a didrugaredd y Rhufeiniaid, cael eu dal mae’r chwiorydd a’u gwerthu fel da byw. Ar ôl cael eu hel i wlad estron, cânt eu gorfodi i ymladd fel entertainment ar gyfer y byddigion Rhufeinig. Carcharorion ydyn nhw bellach, ac mae’n rhaid gadael fynd o’u bywydau gynt. Efallai byddai marwolaeth wedi bod yn fendith iddynt, achos mae hyn yn swnio’n llawer gwaeth... Pan mae Gladiatoriaid yn cwrdd yn yr arena, a’r dorf yn ysu am waed, dim ond un sy’n debygol o ddod allan yn fyw. Kill or be killed ydi hi ym myd yr amffitheatr ac mae gwendid yn angheuol. Tybed pa mor bell fydd y ddwy chwaer yn fodlon mynd? Dduda i ddim mwy ‘blaw’r  ffaith fod BG yn llwyddo i’ch taro oddi ar eich hechel sawl tro. Roeddwn i ar bigau’r drain drwy rhan fwyaf o’r nofel ac roedd darnau ohoni yn ddigon i godi cyfog bron! (er, rhaid i mi gyfaddef, dwi wrth fy modd efo’r gwaed a’r gyflafan!) Pwy di’r gynulleidfa? (wel, unrhywun, fwy neu lai) Dyma bwnc sy’n ennyn dipyn o drafodaeth ymysg llyfrbryfaid, sef pwy yw cynulleidfa darged llyfr? Yn achos y llyfr yma, daw o dan label ‘llyfr OI!’ (oedolion ifanc), ond oes rhaid cael label o gwbl? Ia, genod yn eu harddegau yw’r prif gymeriadau, ond mi fydd gan y llyfr apêl ehangach ‘na arddegwyr yn unig. Rhaid i mi bwysleisio cymaint y byddai’r llyfr hefyd yn apelio at oedolion, ac mi fyddai’n biti mawr petai oedolion ddim yn ei ddarllen, am ei fod o ar silffoedd ffuglen Oedolion Ifanc. Os rhywbeth, mae llyfrau yn y categori yma’n well o lawer – mwy o antur a llai o falu cachu! Mae’r awdur eisoes wedi profi ei hun yn giamstar ar ‘sgwennu straeon antur / ffantasi sy’n cydio o’r dudalen gyntaf ac yn gadael y darllenydd yn ysu am fwy. Roedd cyfres Y Melanai yn wych, ond mae Gladiatrix yn mynd gam ymhellach ac yn fwy aeddfed ac yn fwy gwaedlyd. Bechod ar y diawl fod gan S4C ddim cyllideb Hollywood, achos mi fasa’r nofel yn gwneud cracar o ffilm! Gawson ni hwyl yn ystod y lansiad yn trafod pa actorion Cymraeg fysa’n gallu chwarae’r gwahanol gymeriadau! Mici Plwm fel cadfridog Rhufeinig pompous tybed? Oes 'na le i Martin Sheen? Pwy fasa'n gallu chwarae'r chwiorydd tybed? Oherwydd yr ymladd, y trais, y gwaed, y dienyddiadau a’r perfeddion di-ri, fydd y llyfr ddim at ddant pawb, ond os ‘da chi’n licio pethau fel Vikings, Game of Thrones, The 300, Spartacus ac ati, wel, mi gewch chi fodd i fyw yn ei ddarllen. Ond, cofiwch, yng nghanol erchylltra’r sefyllfa, stori am ddwy chwaer - eu cyfeillgarwch, eu nerth a’u hysfa i oroesi yw hon yn y bôn. Tydw i ddim wedi cael yr awydd i ddarllen ryw lawer yn ddiweddar, go debyg  am mod i methu cadw fy llygaid ar agor erbyn 8pm (babi 5 mis oed yn y tŷ – need I say more?). Ond, hwn oedd y llyfr i newid hynny, mi ddarllenais i hi mewn ychydig ddyddiau, a dwi wedi cael cic yn dîn i ail gydio yn y darllen. Diolch Bethan. Dim gair o glwyddau; fy hoff nofel o 2023. Gwaed, gyts a Gladiators - be gewch chi well?! Gwasg: Lolfa Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £9.99

  • Llyfr Bath: Ffrindiau'r Fferm / Farm Friends [addas. Elin Meek]

    (awgrym) oed darllen: 5+ (awgrym) oed diddordeb: 0+ Genre: #bathbook #babi #llyfrcyntaf #fferm Mae amser bath gyda babi bach yn gallu bod yn bleser neu’n hunllef! Yn achos ein mab 4 mis oed, diolch byth, mae o wrth ei fodd yn y dŵr yn sblashio ac yn socian ei rieni! Er nad ydi o wedi deutha fi ei hun, oni bai am amser bwyd, dwi’n meddwl mai dyma ei hoff adeg o’r dydd. Weithiau mae ‘na bethau’n codi, ond gan amlaf, ‘da ni’n trio rhoi bath iddo bob nos fel rhan o’i bedtime routine. Ddoe, mi gafodd o’r llyfr yma, Ffrindiau'r Fferm / Farm Friends, fel anrheg gan ei Nain, ac mae o wrth ei fodd. Llyfr bath ydi o, felly mae o wedi ei wneud o blastig meddal wipe clean, ac felly’n hollol saff i’w wlychu. Ers ryw bythefnos, ma’r bychan yn rhoi BOB DIM yn ei geg. Dyna’r ffordd mae babis yn dod i nabod y byd apparently. Os dio’n gallu cael gafael mewn rhywbeth, mae o’n mynd i gael ei gnoi. Garantîd. Peth da felly fod y llyfr yma ddigon gwydn i ddelio â hynny. Yn y llyfr, mae ‘na luniau lliwgar byd y fferm, ac yn handi iawn, testun dwyieithog sy’n addas i unrhyw un sy’n awyddus i gyflwyno dipyn o’r Gymraeg i’w plant. Pan mae fy ffrindiau yn cael babis, llyfrau bath y gyfres yma yw fy go-to ar gyfer anrhegion syml, defnyddiol a rhad. A nid dim ond amser bath mae’r llyfr yn cael defnydd chwaith, ‘da ni wedi dechrau mynd a fo yn y pram ar ein outings hefyd gan ei fod o’n ysgafn ac yn seis go fach. Mae o jest yn rhywbeth handi iddo gael yn ei law i chwarae hefo a cadw ei sylw. (dio’m yn rhy keen ar fynd yn y sêt car, felly mae unrhyw beth sy’n ei gadw fo’n dawel yn ffab!) Ar hyn o bryd, dwi’n poeni dim nad ydi o actually yn darllen y llyfr, ond mae o definitely yn archwilio’r peth hefo’i geg ac yn mwynhau syllu ar y lluniau llachar. Y peth pwysig ydi fod o’n ymgyfarwyddo hefo dal llyfrau. Mi ddaw bopeth arall yn ei dro... Hefyd yn rhan o’r gyfres mae llyfr anifeiliaid y môr, Ffrindiau’r Cefnfor. Dwi am brynu copi o hwnnw hefyd i’w gadw yn Tŷ Nain. Gwasg: Dref Wen Cyfres: Llyfr Bath Pris: £6.00

  • Dysgu am dyfu a theimlo'n wych - Llawlyfr i Fechgyn - Dr. Ranj [addas. Catrin Wyn Lewis]

    (awgrym) oed diddordeb: 10-15 (awgrym) oed darllen: 10+ Genre: #ffeithiol #rhyw #corff #tyfu #bechgyn #addasiad Darluniau: David O'Connell http://davidoconnell.uk/ Gwasg: Rily Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £9.99 Fformat: clawr meddal Dwi’m yn cofio mam a dad byth yn eistedd i lawr hefo fi a fy chwaer i gael “y sgwrs” am y “birds and the bees.” Ar un llaw, ella fasa hynny wedi bod yn eithaf useful, ond wedi meddwl yn iawn, dwi meddwl fasa fo wedi bod yn rhy cringey ac awkward! Yn y dyddia’ hynny (a dwi ond yn sôn am y 90au) doedda chi jest DDIM yn trafod sex yn gyhoeddus, a DEFFO ddim hefo’ch rhieni. Dwi ddim yn cofio’n iawn sut wnes i ddod i ddeall ‘sut mae pethau yn gweithio’ ond dwi’n bendant o un peth – doedd o ddim o ganlyniad i’r gwersi sex ed yn ‘rysgol achos roedd heina’n hopeless! Mae gen i ryw gof o ffeindio encyclopaedia reit fanwl ar y silff adra a chael agoriad llygad go iawn! Wrth gwrs mae isio dysgu am y ‘bioleg’ tu ôl i’r cyfan, ond mae llawer mwy iddi ‘na hynny. Yn wahanol i’r llyfrau llychlyd, hen ffasiwn oedd ganddo ni, mae’r llyfr deniadol, modern yma yn sôn am nifer o bynciau cyfoes fel iechyd meddwl, rhywedd, cyfryngau cymdeithasol, teuluoedd cyfunol, gorbryder, catfishing a phethau felly- llawer mwy ‘na jest dysgu am sut mae sberm ac wy yn dod at ei gilydd (ond, ie, mi fyddwch chi’n falch o glywed fod 'na ddiagramau o’r bits and bobs yna yn rywle!) Gweld y llyfr yma wnes i yn Saesneg gyntaf, a chlywed wedyn fod Rily wedi gwneud addasiad o lyfr poblogaidd Dr Ranj - Dysgu am Dyfu: Llawlyfr i Fechgyn. Mae’n bwysig nodi nad llyfr am ryw yn unig yw hwn. Mae’n cynnwys gwybodaeth am lwyth o bethau defnyddiol a difyr sydd yn ymwneud â thyfu i fyny, a’r holl newidiadau crazy sy’n digwydd yn ystod y glasoed. Stwff fel hylendid personol, perthnasau, chwaraeon, cadw’n iach, iechyd meddwl, seibrfwlio, ffrindiau, hormonau, emosiynau a mwy... mae’r rhestr yn parhau! Yn siarad o brofiad, mae bechgyn yn aml iawn yn cael bad rep am fod yn ‘blentyniadd’ neu’n anaeddfed pan mae’n dod i ryw, ond dwi’n meddwl fod hynny’n annheg braidd. Mae bechgyn eisiau dysgu am y pethau ‘ma i gyd, ond mae angen iddyn nhw gael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n mynd i apelio. Dwi’n cofio bod yn curious iawn am y corff ac am ryw o oedran weddol ifanc, (tua 10 oed ish) ond yn teimlo mod i ddim yn cael gofyn i neb am ei fod o’n teimlo fel rwbath weird neu embarassing i fod â diddordeb mewn pethau o'r fath. Mae’n bechod mod i wedi gorfod darllen llyfrau am sex yn slei bach yn y llyfrgell ysgol yn hytrach na gallu eu prynu neu eu benthyg â balchder! Mi fasa Morgan unarddeg oed wedi llowcio llyfr fel hyn, dwi’n gwybod hynny. Dwi’n falch fod ni fel cymdeithas yn siarad yn fwy agored am ryw a materion fel rhywedd a iechyd meddwl erbyn hyn. Er mai bechgyn yn amlwg yw’r gynulleidfa darged, dwi’n falch fod ‘na adran yn sôn am ferched hefyd. Mae’n hollbwysig fod bechgyn yn deall sut mae’r newidiadau yn effeithio ar ferched hefyd- bydd hyn y magu empathi a pharch at ein gilydd. Hogia – dwi’n siŵr newch chi sgorio pwyntia’ hefo’r gennod drwy fod yn informed am y petha ‘ma! I rywun fel fi, sydd fel arfer yn dewis gwneud pethau eraill yn hytrach na darllen, mae canllaw cynhwysfawr a difyr fel hwn jest y peth i ddwyn perswâd i ddarllen. Gyda’i steil ysgafn a’r hiwmor, golyga hyn nad yw’r llyfr yn teimlo fel gwers ABCh ddiflas. Mae tôn yr awdur yn gyfeillgar ac yn agos atoch chi hefyd – dydi o byth yn pregethu ‘na bod yn patronising. ‘Sneb isio hynny! Gydag unrhyw lyfr sy’n trafod rhyw, mae gan bawb farn wahanol am ba oedran sy’n addas. Fel bachgen, cyn-athro a rhiant bellach, dwi wastad wedi teimlo ewch chi ddim yn wrong drwy ddysgu am y pethau ‘ma cyn gynted â phosib. Mae gadael cwestiynau heb eu hateb, neu osgoi eu trafod am fod nhw’n ‘embarassing’ yn gallu bod yr un mor niweidiol. Dyna sut mae myths a chamsyniadau’n cychwyn! Fydd pawb ddim yn cytuno gyda fi wrth gwrs, ond mi fyswn i’n argymell y llyfr yma i fechgyn rhwng 10-15 oed. Crynodeb: Dyma lyfr hynod o ddifyr a defnyddiol, sy’n ganllaw gwerthfawr i unrhyw fachgen sy’n awyddus i ddeall y newidiadau i’r corff a sut i fagu hyder ac i ymfalchïo yn eu hunain. Yndi, mae tyfu i fyny yn gallu bod yn anodd, ond mae’n gyfnod cyffrous hefyd (fydd o ddim am byth, gaddo!). Dylai’r llyfr yma fod yn hosan Nadolig pob bachgen ar eu prifiant!

  • Secs ac Ati - Y Stori'n Llawn - Laurie Nunn [addas. Llio Maddocks]

    (awgrym) oed diddordeb: 13-18 (agwrym) oed darllen: 13+ Themau: #canllaw #ffeithiol #rhyw #perthnasau #iechydalles Canllaw oed: 14+ (medd y cyhoeddwr) Gwales: Y llyfr sy'n dod â'r stori'n llawn ac yn creu gofod saff i drafod sut i fyw efo rhyw. Secs - Cyngor am ddim! Cwestiynau am dy gorff? Emosiynau newydd yn dy ddrysu? Neu boeni bod hyn ddim yn normal? Wel, dwyt ti ddim ar ben dy hun! Mae Otis, Maeve a'u ffrindiau yn gwybod bod mwy i'w ddysgu am BOB agwedd o gariad. A'r canlyniad? Canllaw gonest, cynhwysol, a llawn ffeithiau am secs! ADOLYGIAD GAN LLIO MAI Gyda chyfres olaf un y rhaglen Sex Education newydd gael ei ryddhau fis yma, a finnau wedi binge wylio’r bedwaredd gyfres yn barod mewn mater o ddyddiau, dyma’r cyfle perffaith i drafod y gyfrol Secs ac ati. Yn ei rhagair i’r gyfrol mae Laurie Nunn - crëwr y rhaglen - yn nodi ei bod am i’r gyfres fod yn ‘fyd i bobl ifanc’ ac yn le i roi ‘cymorth i bawb sydd wedi cael gwersi Addysg Rhyw ddiflas a diffygiol yn yr ysgol.’ Efallai nad ydw i’r union target audience ar gyfer y gyfrol yma, a finna bellach yn fy nhridegau a newydd ddod yn fam, ond dw i yn teimlo fod y gwersi addysg rhyw ges i yn yr ysgol yn sicr yn gadael llawer o le i wella! Mi fyddai llyfr fel hwn wedi bod yn grêt, a dw i’n credu y bydd yn grêt i unrhyw un, yn enwedig unrhyw berson ifanc, wrth geisio dysgu mwy am berthnasau, secs, rhywioldeb, y corff, iechyd meddwl, heintiau, safe sex a llawer mwy. Yn gyntaf, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n falch o weld bod cymaint o bynciau cysylltiedig â pherthnasau a secs yn cael eu trafod yma. Oes, mae yna lot o wybodaeth, ond mae’r gyfrol yn llawn lliw, lluniau, a chyfeiriadau at gymeriadau’r rhaglen deledu, ac o’r herwydd, mae’n hawdd iawn i’w ddarllen. Mae’r gyfrol hefyd wedi’i hysgrifennu mewn Cymraeg clir sy’n hawdd i’w ddeall, ac wedi llwyddo i osgoi defnyddio gormod ar dermau a geiriau dieithr. Prin iawn iawn ydi’r llyfrau Cymraeg sydd ar gael sy’n trafod secs mewn modd mor agos atoch chi. Cymraeg yw iaith y nefoedd, ond nes i ’rioed deimlo ei bod hi’n iaith yr o’n i’n gallu ei defnyddio’n hawdd i siarad am secs. Mae rhai geiriau Cymraeg a’r cyfieithiadau o rai o’r termau yn gallu swnio’n drwsgl, yn od ac yn annaturiol. Llio Maddocks oedd y person perffaith i gyfieithu’r llyfr, ac mae hi wedi gwneud joban dda a gofalus wrth wneud, gan osgoi termau hen ffasiwn neu cringe. Yn ogystal â rhoi lot o wybodaeth ddefnyddiol i ni, mae'r gyfrol hon hefyd yn rhoi’r eirfa inni drafod secs yn llawer mwy naturiol yn y Gymraeg, yn fy marn i. Pan oeddwn i yn yr ysgol, doedd y gwersi sex ed ddim yn grêt i fod yn onest. Mae gen i ryw gof o weld fideo gwyddonol am y broses atgenhedlu ym mlwyddyn 6. Rhai blynyddoedd wedyn yn yr ysgol uwchradd dw i’n siŵr y gwnaeth yr athrawes demonstratio sut i roi condom ymlaen gan ddefnyddio banana. Dw i’m yn cofio llawer mwy na hynny. Doedd yna ddim digon o wybodaeth i ni ar y pryd ac roedd y wybodaeth a gawsom yn reit arwynebol. Lle’r oedd y sgyrsiau am rywedd, hunaniaeth, hunan ddelwedd, cydsyniad, perthnasau iach a phethau felly? Er bod yna wastad le i wella, dw i’n falch o weld fod pethau’n wahanol erbyn heddiw. Mae pobl ifanc yn fwy parod i drafod materion yn ymwneud â rhyw yn agored, ac mae’n ymddangos eu bod nhw’n fwy informed ar y cyfan. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio addysg rhyw, ac mae bellach yn cynnwys addysg am berthnasau iach. Pwnc arall dw i'n falch o'i weld yn cael sylw yn y gyfrol ydi secstio a rhyw yn y byd ar-lein. Mae'n hynod bwysig fod pobl ifanc yn gwybod sut i gadw'n saff ar-lein a'u bod nhw'n gwybod ei bod hi bellach yn anghyfreithlon i rannu unrhyw luniau noeth neu rywiol o rywun heb eu caniatâd. Os ydach chi’n ffans o Sex Education (sydd wedi bod yn gyfres hynod o boblogaidd), ac yn dal yn yr ysgol, dw i’n meddwl wnewch chi werthfawrogi’r llyfr yma, sy’n cadw tôn ysgafn a doniol y gyfres wrth daclo’r pynciau mae pobl ifanc yn teimlo yn rhy embarassed i siarad gyda’u rhieni amdanynt! Fy unig bryder yw, pan mae llyfrau yn cyd-fynd â chyfresi teledu, mae yna dueddiad i’r byd symud ymlaen yn sydyn a buan iawn mae pethau’n colli eu hapêl. Tybed fydd pobl ifanc ymhen deg mlynedd yn dal i sôn am Sex Education? Pwy a ŵyr? Ydi, mae cysylltiadau â chyfresi teledu poblogaidd yn helpu i ‘shifftio’ llyfrau, ond fy mhryder i yw ei fod ar yr un pryd yn ‘dyddio’r’ llyfr cyn ei amser. Tybiaf i’r llyfr gael ei ‘sgwennu rhwng y gyfres gyntaf a’r ail, sy’n golygu fod nifer o’r cymeriadau newydd ar goll. Byddai’n drueni petai’r llyfr ddim yn cael ei brynu, achos mae o wir yn werth ei ddarllen. Cyhoeddwr: Rily Cyhoeddwyd: 2022 Fformat: Clawr meddal Pris: £12.99 Mae'r tŷ wnaeth serennu yn y gyfres ar werth! Sgynoch chi filiwn neu ddau yn sbâr? https://www.housebeautiful.com/uk/lifestyle/property/a45458048/sex-education-house-for-sale-herefordshire/

  • Criw'r Coed a'r Draenogod - Carys Glyn

    (Awgrym) oed diddordeb: 3-7 (awgrym) oed darllen: 6+ Themau: #amgylchedd #ffuglen #anifeiliaid #cadwraeth Lluniau: Ruth Jên http://www.ruthjen.co.uk/ruthjen.co.uk/croeso___welcome.html Mae’n teimlo fel dim ond ddoe pan oedd Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll yn cael ei lansio! Anodd credu fod tair mlynedd wedi mynd heibio. Yn y llyfr hwnnw, daeth gwenynen druenus i ofyn am gymorth criw o anifeiliaid y goedwig. Efallai fod amser wedi mynd heibio, ond mae effaith andwyol dynoliaeth ar fyd natur yn parhau – ac yn gwaethygu os rhywbeth! (jest sbïwch ar Rishi Sunak yn mynd yn ôl ar ei air am y targedau carbon). Roedd y llyfr cyntaf yn boblogaidd oherwydd ei fod yn taclo pwnc llosg perthnasol iawn, ac yn gwneud hynny mewn cyfrol lliwgar a hwyl. Allan o’r pryfaid i gyd, mae gwenyn yn cael dipyn bach o bad rep, ac mae pawb yn dechrau sgrechian pan mae nhw’n dod rhy agos. Y gwir yw mae nhw’n superstars byd natur! Dyna pam roedd neges y llyfr cyntaf mor bwysig, gan ei fod yn tynnu sylw plant at y rôl hollbwysig mae creaduriaid bach yn chwarae yn ein hecosystemau. Casgliad digon random o anifeiliaid y goedwig ydi Criw’r Coed. Yn rhan o’r giang, mae ‘na eryr, tylluan, carw, deryn du ac eog. Yn debyg iawn i’r A-Team (dangos fy oed) neu’r Avengers, mae nhw’n dod at ei gilydd i helpu anifeiliaid sydd mewn angen. Ond dim jest anifeiliaid arferol yw’r rhain – heb sôn am fod yn hynod o ddoeth, mae nhw’n gallu rapio hefyd! Cŵl de! Dim gwenyn sydd angen help y tro hwn, ond y draenogod. Dwi mor falch fod yr awdur wedi dewis yr anifail yma, achos does ‘na ddim hanner digon o sôn amdanynt a’u sefyllfa fregus. Yndi, mae Brian May, gitarydd Queen, yn caru draenogod ac wedi agor hedgehog sanctuary ar ei dir, ond yn anffodus tydi hynny ddim yn ddigon i atal y dirywiad! Mae rhai ffynonellau yn dweud fod y boblogaeth wedi cwympo hyd at 75%! Mae’r rhesymau dros hyn yn gymhleth iawn, ond mae un peth yn sicr – ‘da ni wedi chwarae rhan yn hyn. Yn aml iawn, mae ein ffensys, ffyrdd a waliau yn rhwystro’r creaduriaid bach ciwt yma rhag teithio o gwmpas y wlad i chwilio am fwyd. Yn fwy na hynny, mae ein gerddi taclus a’n hoffter o slug pellets wedi lleihau’r bwyd sydd ar gael iddynt. Ac os gofiwch chi eiriau cân Crysbas, mae llawer o ddraenogod yn dod i ddiwedd digon anffodus dan deiars ein ceir! Fel y gwenyn, mae’r draenogod i gyd yn diflannu. Diolch byth felly fod Criw’r Coed ar gael i roi cyngor doeth ac i droi’r trai. Drwy weithio a’u gilydd, daw’r criw o hyd i syniadau i achub y creaduriaid bach hoffus a phigog. Byddai wedi bod yn ddefnyddiol rhoi cwpwl o ‘tips’ yng nghefn y llyfr ar y pethau gallwn ni wneud gartref i helpu draenogod. Dyma linc am rai syniadau:https://www.gardenersworld.com/plants/10-ways-to-help-hedgehogs/ Apêl y gyfres yw’r cyfuniad o negeseuon amgylcheddol bwysig a’r hwyl sy’n deillio o’r cymeriadau cyfoes a chŵl. Dim yn aml welwch chi gwdi hŵ yn gwisgo hwdi! (syniad hawdd ar gyfer gwisg Diwrnod y Llyfr!) Ond yn fwy na’ hyn, gallwch weld fod Carys, awdur y gyfres ac athrawes brofiadol, yn hollol egnïol ac angerddol am achub bywyd gwyllt ac am ledaenu’r negeseuon ymysg plant ifanc. Mae ei brwdfrydedd yn pefrio drwy’r llyfr i gyd. Jest edrychwch ar y lluniau isod o’r lansiad yn ddiweddar – mae’n edrych fel noson gwerth chweil gyda llawer o chwerthin! Mae hi’n fy atgoffa o’r Energizer Bunny -mae ei hangerdd yn contagious! Sgwn i pa anifeiliaid gwyllt fydd angen help Criw’r Coed tro nesaf? ADNODDAU DYSGU: Mae'r awdur, sy'n athrawes brofiadol, wedi bod yn brysur yn creu adnoddau dysgu ar gyfer y meysydd dysgu a phrofiad newydd sy'n cyd-fynd â'r llyfr. Mae hyn mor handi! Dyma'r syniadau gwersi a'r caneuon - dilynwch y lincs isod: https://drive.google.com/drive/folders/1zeT6JYikaWunG9hzuSVMOfOhSAQec7gD?fbclid=IwAR0R9tiPR5dGlGCcxadXL2zKr7K9XJRO-tlNqp4wSUfQvjGvJY8C6ogSndo https://drive.google.com/drive/folders/1zeT6JYikaWunG9hzuSVMOfOhSAQec7gD?fbclid=IwAR0R9tiPR5dGlGCcxadXL2zKr7K9XJRO-tlNqp4wSUfQvjGvJY8C6ogSndo Cyhoeddwr: Lolfa Cyhoeddwyd: 2023 Pris: £6.99 Cyfres: Criw'r Coed Fformat: Clawr meddal

  • Laura - Bywyd Mentrus Laura Ashley [Mari Lovgreen]

    (awgrym) oed darllen: 6/7+ (awgrym) oed diddordeb: 4+ Genre: #hanes #Cymru #ffeithiol Lluniau: Sara Rhys https://www.sararhys.co.uk/ Roedd Covid yn gyfnod anodd i lawer o fusnesau, ac yn 2020 mi aeth cwmni arall adnabyddus a chyfarwydd i mewn i drafferthion ariannol mawr: Laura Ashley. Roedd ei siopau ar hyd a lled Prydain yn gwerthu dillad a nwyddau cartref moethus. (Dwi’n siŵr mai papur wal Laura Ashley sydd yn y llofft gynnon ni!) Ar y funud olaf, camodd NEXT i mewn i achub y ‘brand’ ac maent bellach wedi ei ymgorffori fel rhan o deulu Next. Mae hyn yn golygu fod dyfodol Laura Ashley yn saff am y tro, ac fe fydd ei henw yn parhau ar y stryd fawr mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Ond tybed faint ohonoch oedd yn gwybod fod ganddi gysylltiad Cymreig? Oedd,roedd hi’n Gymraes! Dwi’n cofio darllen amdani yng nghyfres ‘Storïau Hanes Cymru’ gan y Dref Wen flynyddoedd yn ôl. Mae’r llyfrau hynny (er yn parhau i fod yn ddefnyddiol) wedi dyddio erbyn hyn, ac roedden ni’n overdue am lyfr newydd am yr unigolyn hynod yma. Erbyn hyn, mae merched cryf ac ysbrydoledig ym mhobman o’n cwmpas, ac mae sawl chief executive yn fenywod. Ond yng nghyfnod Laura, mae’n debyg fod hyn yn rhywbeth anghyffredin. Mae’n destament i’w phenderfynolrwydd (di hwnna’n air dwa?) ei bod hi wedi llwyddo i sefydlu busnes hynod o lewyrchus a magu teulu ar yr un pryd. Ac er llwyddiant ei chwmni a'r holl brysurdeb a ddaeth gyda hyn, ei theulu oedd yn dod gyntaf iddi. Bechod y bu iddi farw mor ifanc a sydyn mewn damwain yn y cartref. Dwi’n hoff iawn o’r gyfres ‘Enwogion o Fri,’ sy’n ffocysu ar unigolyn rhyfeddol o Gymru bob tro, gan daflu goleuni ar unigolion efallai sydd heb gael y sylw haeddiannol tan rŵan. Mae ‘na gysondeb yn y gyfres – testun sy’n llifo ac yn hawdd i’w ddarllen, wedi ei baru â lluniau hardd sy’n cyfoethogi’r stori yn ddi-ben-draw. Ond mae ‘na wahaniaethau yn y gyfres hefyd, a be dwi’n hoffi yw’r ffaith fod pob cyfrol yn unigryw gan fod cyfuniad newydd o awdur/arlunydd wrth y llyw bob tro, gan sicrhau fod pob un yn ffres ac yn wahanol. Fedra i weld pam fod y gyfres yma wedi bod mor boblogaidd gydag athrawon – mae’n adnodd defnyddiol ar gyfer gwasanaethau boreol, (mae’n diwallu rhai o ofynion y Siarter Iaith a’r Cwricwlwm Newydd, er enghraifft). Gall fod yn adnodd ar gyfer tasg ymchwil annibynnol - ydi, mae’r we yn grêt, ond mae diffyg gwefannau Cymraeg felly mae llyfrau fel hyn yn grêt. Yn ogystal â hanes bywyd Laura Ashley, mi ges i gopi o Ann drwy’r post hefyd. Mae gen i gywilydd i ddweud mod i ‘rioed wedi clywed amdani. Yn sicr mi wnes i ddysgu lot o ffeithiau newydd wrth ddarllen y llyfr yma. Ond, os dwi’n bod yn onest, roedd yn well gen i’r llyfr am fywyd Laura. Dim byd yn erbyn Ann Griffiths, ond pen yn erbyn y postyn, petai rhaid i mi ddewis, byddwn i’n dewis llyfr Laura Ashley. Roedd gen i fwy o ddiddordeb personol yn ei hanes. Dwi wedi pasio’r hen ffatri yng Ngharno sawl tro ar y ffordd i lawr i Gaerdydd ar yr A470 a dwi’n siŵr i mi ddefnyddio’r cwmni fel astudiaeth achos ar gyfer fy mhrosiect TGAU busnes. Mae digon o ddewis o unigolion yn y gyfres, a phry’n bynnag lyfr brynwch chi, chewch chi ddim eich siomi. Llyfr Betty Campbell dwi isio’i ddarllen nesa... SCREENSHOTS O LYFR ANN: Gwasg: Broga Cyhoeddwyd: Mehefin 2023 Pris: £5.99 Cyfres: Enwogion o Fri Fformat: clawr meddal HEFYD YN Y GYFRES: AM YR AWDUR: (O Gwales) Mae Mari Lovgreen wedi cynhyrchu llyfrau llawn hwyl i blant gyda gweisg amrywiol, gan gynnwys 'Llanast' (Gwasg Gomer), 'Syniadau Slei' (CAA), ynghyd â chyfrannu cerddi i gyfrolau o gerddi. Hi hefyd oedd yn gyfrifol am y gyfrol 'Brên Babi' (Y Lolfa) - cyfrol sy'n trafod y newid byd a wynebodd ei chydnabod a hithau wrth iddynt ddod yn famau am y tro cyntaf. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae Mari wedi sgriptio droeon ar gyfer rhaglenni teledu i blant, gan gynnwys y rhaglenni poblogaidd Chwarter Call a Cacamwnci. Yn ogystal, mae ganddi flynyddoedd o brofiad yn cyflwyno rhaglenni i blant. AM YR ARLUNYDD: Artist cyfrwng cymysg yw Sara Rhys sy'n defnyddio ystod eang o gyfryngau i greu ei gwaith gweledol trawiadol. Dechreua pob prosiect gydag agwedd chwareus a meddwl agored wrth iddi geisio darganfod y dull gorau o gyfleu’r stori. Yn ganolbwynt i'w gweithiau i gyd, mae'r cymeriadau, boed y cymeriadau hynny'n bobl neu'n greaduriaid.Graddiodd mewn Celf Fodern fel myfyrwraig aeddfed gan dreulio amser i ddechrau fel gwneuthurwraig gemwaith. Yn nes ymlaen yn ei gyrfa doreithiog, dychwelodd at ei hoffter mawr o arlunio. Mae Sara yn gredwr cryf bod llyfrau ar gyfer plant ac oedolion a'u bod yn blatfformau gwych i rannu straeon a syniadau. Ym mis Chwefror 2020, dewiswyd Sara fel arlunydd arbennig y Society of Children's Writers & Illustrators, ac yn 2021, derbyniodd nawdd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr er mwyn ei galluogi i ddatblygu ei gyrfa. Ar hyn o bryd, preswylia Sara yn yr Alban, ond mae wedi treulio cyfnodau mewn nifer o lefydd ar hyd a lled Prydain. Yn ystod ei chyfnod yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, bu'n mwynhau dysgu mwy am hanes ei theulu Cymraeg sy'n parhau i fod yn rhan bwysig o'i hunaniaeth.

  • Ffoi rhag y ffasgwyr - Myrddin ap Dafydd

    (awgrym) oed darllen: 12+ (awgrym) oed diddordeb: 15+ (ac oedolion) Thema: #WWII #ffuglen #hanes #Cymru #antur ‘Dau yn ffoi o’r Almaen ar y trên olaf cyn y Rhyfel - ond beth am y brawd mawr?’ O geiriad a dyluniad y clawr, caiff Ffoi rhag y Ffasgwyr ei chyflwyno fel nofel am deulu yn ffoi o’r Almaen a gorthrwm y Natsïaid, ond ar y clawr mewnol welwn y disgrifiad: ‘Nofel am Aberystwyth ac Urdd Gobaith Cymru yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd’. Felly ar ddechrau’r nofel doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl - stori am anturiaethau Steffan a’i deulu, neu stori am Aberystwyth ac Urdd Gobaith Cymru? Wel, fel mae’n digwydd, cawn y ddwy o fewn cloriau un llyfr! Mwy am hynny maes o law. Ar ddechrau’r nofel cawn restr o’r prif gymeriadau - 13 ohonyn nhw! A map o dref Aberystwyth, yn nodi prif leoliadau’r nofel. Ond prif gymeriadau’r stori yw’r teulu Steinmann - tad Gerhad, a’i blant Steffan, Anton a Lotti, gan drwy eu llygaid a’u profiadau nhw cawn ein cyflwyno i Gymru ar drothwy’r Ail Ryfel Byd. Mae’n anodd i mi grynhoi’r plot yn dwt ac yn daclus, heblaw am ddweud yn fras iawn bod y stori yn ymwneud â’r teulu yn ffoi i Gymru a chreu bywyd newydd yma, a’r effaith gaiff Urdd Gobaith Cymru ar eu bywydau, a bywyd Steffan yn benodol. Ond mae hyn yn gor-symleiddio pethau – mae’n nofel llond ei chroen. Mae’n nofel sy’n sboncio’n hyderus o un lle i’r llall, yn symud o un criw o gymeriadau at y nesaf, o’r ysgafn i’r dwys. Ar adegau mae’n darllen fel nofel antur, ar adegau eraill mae’n nofel hanesyddol. Mae yna ddarnau wirioneddol arswydus lle wnes i ddal fy anadl wrth ddarllen a chrynu gan ofn. Ond mae yna hefyd darnau lle mae’r stori yn symud ymlaen yn hamddenol, yn tindroi hyd yn oed. Mae naws y llyfr yn newid o bennod i bennod, sy’n fy atgoffa i o nofelau Louis de Berniers (dangos fy oed rŵan - dwi’n cofio’r hype o amgylch Captain Corelli’s Mandolin!) yn y ffordd mae’r awdur fel camera yn ceisio portreadu cymdeithas gyfan yn hytrach na chanolbwyntio ar daith un arwr yn benodol. Mantais hyn yw bod yna amser a lle i archwilio pethau fyddai fel arall yn cael eu hanwybyddu - effeithiau polio, er enghraifft; neu’r ffaith fod hiliaeth a rhagfarn hefyd yn bresennol yma yng Nghymru, sefydliad addysg cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth, ac wrth gwrs, hanes mudiad yr Urdd. Wnes i fwynhau’r cipolwg ar sut effaith gafodd yr Ail Ryfel Byd ar fywydau pobl gyffredin, a wnes i fwynhau darnau arafach y nofel lle mae cymeriadau Caffi Lewis yn trafod y blacowt a chyfyngiadau teithio llawn cystal â’r darnau mwyaf cyffrous lle mae Steffan yn ceisio dianc o Bielefeld. Mae’r diweddglo yn glyfar iawn wrth ein hatgoffa pam fod hanes y cyfnod a chenhadaeth yr Urdd yn parhau’n bwysig hyd heddiw… ond bydd yn rhaid i chi ddarllen y llyfr eich hun i weld pam! Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Mai 2022 Pris: £8.00 Fformat: clawr meddal

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page