Chwilio
306 items found for ""
- Mi wnes i weld mamoth / I did see a mammoth! - Alex Willmore [addas. Casia Wiliam]
*For English review, see language toggle switch on top of web page* (agwrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 3-6 Genre: #ffuglen #doniol #dwyieithog Presanta ‘Dolig! Adeg yma o’r flwyddyn, dwi fel arfer mewn mad dash yn chwilio am lyfrau i roi’n anrhegion i’r plantos bach yn y teulu. Tydi ‘lenni ddim gwahanol. Dwi ddim yn cael trafferth ffeindio rhywbeth i’r ferch, ond mae’r hogia yn anoddach i’w plesio rhywsut lle mae darllen yn y cwestiwn. Llyfr i neud i ni chwerthin oedd y nod. Llynedd, Disco Dolig Dwl aeth a hi, ond ‘lenni, Mi wnes i weld Mamoth sy’n tynnu fy sylw. Llyfr perffaith fel stocking filler. Fel arfer dwi’m yn rhy keen ar lyfrau Nadolig-benodol, ond dim llyfr am y Nadolig ydi hwn per se, (ond mae ‘na eira ynddyfo) felly mi wneith y tro os ‘na dyna ‘da chi isio! Peidiwch â meddwl mai llyfr dwys, difrifol gewch chi fan hyn; yr unig beth sydd yma ydi dipyn bach o hwyl wirion a diniwed... a lot fawr o bengwiniaid! Croeso i’r Antarctig! Ar expedition (alldaith yw’r gair Cymraeg apparently!) i’r Antarctig, mae criw dewr yno’n brwydro’r oerni er mwyn astudio pengwiniaid. Lot fawr o bengwiniaid. Pengwiniaid o bob math. Ond does gan un anturiaethwr ifanc ddim mynadd efo rheiny – tydi o ddim wedi dod yno i weld adar, o na, achos mae o yn benderfynol ei fod am weld rhywbeth arall! Oh no he isn’t... oh yes he is! A dyna’r plot mewn gwirionedd. (oni’n deud fod ‘na ddim byd dwys yma doeddwn!) Mae’n stori ddoniol, ac yn un sy’n siŵr o apelio at y plant, wrth i’r creadur ymddangos o dro i dro mewn sefyllfaoedd gwallgo. Er i’r bachgen daeru’n daer, does dim o’r oedolion yn barod i’w gredu (siŵr fydd plant yn uniaethu â hyn). Mae’r syniad yn un hen ac yn un syml -ond effeithiol - sy’n chwarae ar y ffaith nad ydi oedolion yn gwrando ar blant. Jest fatha mewn panto! Wrth gwrs, mae popeth yn newid pan mae pawb yn gweld... M..m..m MAMOTH!!! Ddudish i do! Mae’r llyfr yn lliwgar, ac mae’r steil yn gyfoes ac yn egnïol, bron fel darllen comic. Dydi’r stori ddim yn un hir ac mae’n gwneud i’r dim fel stori sydyn cyn mynd i’r gwely. Bydd digon o hwyl i’w gael yn edrych ar y pengwiniaid a’u hystumiau digri, a hwythau ddim rhy hapus fod ‘na eliffant blewog yn hawlio’r sylw i gyd! Mae ‘na ddigon o sgôp i ‘neud dipyn bach o leisiau a dramatics wrth ddarllen, sy’n siŵr o’i neud yn fwy o hwyl. Roedd y twist mawr ar y diwedd yn ddisgwyliedig, ond roedd rhywbeth ar goll yn y diweddglo i mi. Mi fydd ‘na rai oedolion fydd yn meddwl bod y stori’n un twp, a bod ail adrodd diddiwedd y gair ‘mamoth’ yn mynd yn annoying, ond dwi’n meddwl fydd plant ifanc iawn yn gweld yr ail adrodd yn help i gyd-ddarllen. Y ffaith ydi, mae plant yn hoff o ail adrodd. Dwi’n licio’r dudalen olaf sy’n rhoi ‘chydig o ffeithiau am y creaduriaid go iawn – doeddwn i ddim yn gwybod nad oedden nhw’n byw yn yr Antarctig. Wel, does ‘na ddim tystiolaeth beth bynnag. Mi oni’n darllen yn ddiweddar bod 'na wyddonwyr yn trio gneud clones o famothiaid (gair da, = mwy nac un mamoth) Pwy a ŵyr? Os fydd y gwyddonwyr yn llwyddiannus, ella gawn ni weld mamoth eto rhyw ddiwrnod... Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99
- Hedyn - Caryl Lewis [addas. Meinir Wyn Edwards]
*For English review, see language toggle switch on top of webpage* (awgrym) oed darllen: 9+ (awgrym) oed diddordeb: 9+ Genre: #ffuglen #antur #ffantasi #magicalrealism Lluniau: George Ermos https://thebrightagency.com/uk/childrens-illustration/artists/george-ermos Themâu sy’n cael eu trafod: · Bwlio · Teuluoedd/perthnasau · Byddardod/ anabledd · Iechyd meddwl – celcio /OCPD · Tlodi Nofel gyntaf Caryl Lewis ar gyfer yr oedran yma: Diolch byth mod i wedi cofio pacio Hedyn yn fy hand luggage achos mi oeddwn i’n hynod falch ohono i basio’r amser ar y flight pymtheg awr yn ôl o Japan! Hedyn (o obaith) Un dipyn bach yn eccentric yw Tad-cu Marty, dyfeisiwr sy’n hoff iawn o dreulio’i amser yn yr allotment. Dim rhyfedd felly, ei fod yn dewis rhoi hedyn i Marty ar ei ben-blwydd, er mawr siom i’r bachgen ifanc! ‘Da chi’n gwybod y gwyneb ‘na ‘da chi’n gorfod ei wneud wrth i chi smalio bod yn ddiolchgar ar ôl derbyn anrheg sâl, fel pâr o sanau diflas? Wel dyna’n union sy’n mynd drwy feddwl Marty ar ôl derbyn yr hedyn di-nod. Er yn ymddangos fel unrhyw hedyn arferol, mae hwn ymhell o fod yn arferol. Os rhywbeth, mae hwn yn hedyn anarferol iawn. Buan iawn daw’r ddau i sylweddoli fod hwn yn blanhigyn arbennig iawn, ac mae hyn yn rhoi syniad i Tad-cu am antur ryfeddol. Mae ganddo gynlluniau mawr, ond cyn hynny, bydd rhaid bwydo’r egin blanhigyn gyda chymysgedd ffiaidd ac afiach (ond gwbl effeithiol) Taid er mwyn ei dyfu’n fawr ac yn gryf. Dyna pryd mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd... Teulu ydi teulu I mi, prif gryfder y nofel yw’r gwaith cymeriadu gan yr awdur. Ydyn, maen nhw’n mynd ar antur gyffrous, ond yn fwy pwysig ‘na hynny, mae’r awdur yn llwyddo i greu cymeriadau rydych chi wir yn malio amdanynt, ac isio pethau fod yn ok! Mae Tad Marty wedi hen ddiflannu, ac mae yntau’n byw gyda’i Fam wrth iddyn nhw grafu byw. Caiff y pwnc iechyd meddwl ei drin yn ofalus yn y nofel, wrth i ni sylweddoli’n gynnar fod mam Marty’n casglu llawer llawer iawn gormod o eitemau, nes bod y tŷ yn orlawn - rhywbeth sy’n rhoi eu perthynas dan straen. Dim rhyfedd bod treulio amser yn y rhandir gyda’i Dad-cu yn ddihangfa iddo. Bachgen tawel yw Marty, sy’n awyddus i gadw’i hun i’w hun, ond mae’r bwlis yn gallu synhwyro hyn yn syth ac yn gwneud ei fywyd yn anoddach. Y mae ei weld yn tyfu mewn hyder dros gwrs y nofel yn wych i’w weld. Mae llawer o hyn diolch i Gracie, ei ffrind newydd, sy’n berson cryf a phenderfynol, sy’n gweld y ffaith ei bod hi’n fyddar ac yn gwisgo cochlear implant fel pŵer arallfydol, unigryw yn hytrach na rhywbeth i’w bitio. Mae hi’n gallu edrych ar ôl ei hun yn siŵr, ond er ei bod hi’n ymddangos yn tough ar yr wyneb, mae ‘na ochr arall iddi hefyd. Mae ganddi freuddwyd i fod yn ddawnsiwr, nid bod ei thad wedi trafferthu i sylwi. Mae gan y cymeriadau i gyd eu trafferthion personol, ond mae’n hyfryd eu gweld yn goresgyn y rhain, yn datblygu ac yn dod at ei gilydd. 10/10 am y clawr! Mae’r clawr yn cael sgôr uchel gen i; go debyg ei fod yn un o’r cloriau gorau ‘lenni. Yn sicr mae ‘na high production value iddo ac mae’n gosod y bar yn uchel ar gyfer llyfrau Cymraeg. Rhaid buddsoddi mewn cloriau deniadol does, os ‘da ni am fachu darllenwyr! Cariad, gobaith a breuddwydion Dyma nofel hyfryd a chofiadwy sydd yn ein hannog i fod yn ddewr ac i ddilyn ein breuddwydion, no matter what! Os oes rhaid i mi gymharu, roedd o’n gymysgedd hudolus rhwng James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Cinderella, Jac a’r goeden ffa a’r ffilm Pixar, Up! Os mai stori ffantasi/antur real sy’n apelio atoch, ond fod y cymeriadau'r un mor bwysig - Hedyn (neu’r fersiwn Saesneg, Seed) yw’r llyfr i chi. Bydd hwn yn cael ei gysidro’n glasur modern yn siŵr i chi. Bechod wir na chafodd ei ysgrifennu yn Gymraeg yn wreiddiol, achos mi faswn i wedi rhoi pres arno’n gwneud yn dda yng Ngwobrau Tir na n-Og Cymraeg! Dyna ddigon gen i - barn y plant sy'n bwysig 'de: ADOLYGIAD GWALES (ENID EVANS, 12 oed) Neidia'r clawr o'r silff gan fynnu fy sylw o'r cychwyn cyntaf. Holais i mi fi hun yn syth beth fyddai cynnwys y llyfr, cyn darllen y broliant, hyd yn oed! Mae'r broliant yn dweud llawer am Marty, ei dad-cu a'i fam, ond heb ddatgelu gormod. Mae'r nofel yn dechrau'n dda ac yn mynd o nerth i nerth wrth fynd yn ei blaen, yn enwedig o ganol y llyfr. Yn fy marn i, mae'r stori'n un dda ac yn addas i blant 9 oed ac yn hŷn. Mae'n addas iawn i blant sy'n hoffi antur ac sydd â dychymyg mawr, byw. Mae sawl neges bwysig yn y stori. Un neges yw y gall eich breuddwydion ddod yn wir, ond rhaid i chi weithio'n galed i'w gwireddu. Er gwaetha'r gwaith caled, peidiwch â rhoi fyny! Rydw i'n rhoi 5 seren i'r stori hon gan ei bod hi'n ardderchog. Dylech chi brynu copi a dechrau ei ddarllen yn syth bin, a chael antur, hwyl a sbri wrth ei ddarllen. Ewch i ddarganfod beth gall un hedyn bach ei wneud i wireddu eich breuddwydion. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: Mai 2022 Pris: £7.99 ADOLYGIAD JON GOWER O NATION.CYMRU: https://nation.cymru/culture/review-seed-by-caryl-lewis/
- Y Poenisawrws / The Worrysaurus - Rachel Bright [addas. Endaf Griffiths]
*For English review, see language toggle switch on top of webpage* Lluniau: Chris Chatterton (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 2+ Genre: #poeni #pryder #iechydalles #ffuglen #empathi #dwyieithog Cymylau Duon Mae Rachel Bright, awdur y llyfr hynod o lwyddiannus, Y Llew Tu Mewn, yn ei hôl gyda llyfr arall sydd yr un mor annwyl. Oes gennych chi boenwr bach yn eich tŷ chi? Os felly, dyma lyfr delfrydol i gynnal sgwrs am yr hen deimladau annifyr ‘na sy’n gallu codi i’r wyneb o dro i dro. Dyma stori fach charming am ddinosor bach sy’n edrych ymlaen at antur gyffrous a phicnic blasus. Ond yn fuan iawn, daw’r cymylau duon i dywyllu ei ddiwrnod a rhoi stop ar ei hwyl. Oes ganddo ddigon o fwyd? Fydd o’n cael niwed yn y goedwig fawr? Mae pob math o bryderon yn chwyrlio yn ei ben. Caiff y teimladau anxious yma eu mynegi fel ‘pili-palod’ yn y bol -cysyniad digon syml y bydd plant yn gallu ei ddeall. Dwi’n licio fod y llyfr yn defnyddio’r syniad yma fel trosiad i helpu i esbonio a thrafod pwnc sy’n gallu bod yn anodd ei ddisgrifio. Wedi dweud hynny, efallai bydd rhaid esbonio i’r plant lleiaf na fydd pili pala go iawn yn hedfan allan o’u bol! (dwi’n cofio darllen cerdd ‘sdalwm am hogyn o’r enw Bili Bolyn oedd yn bwyta lot o afalau - mi oni’n convinced wedyn fod 'na goeden fala am dyfu drwy fy mol os faswn i’n llyncu un o'r hadau!) Mam y dinosor bach sy’n achub y dydd, ac mae ganddi gyngor doeth i’r poenwr bach. Dwi wedi colli cownt ar y nifer o weithiau mae mam a dad wedi dweud geiriau o gysur wrthyf pan roedd y felan arnaf. Weithiau, mae jest lleisio’ch pryderon a chael rhywun yno’n gwrando’n gwneud byd o wahaniaeth. Pili-palod ‘Da ni gyd wedi eu profi nhw yn do? Teimladau rhyfedd neu anghyfforddus. Boed hynny ar ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol neu ar ôl symud tŷ - mae unrhyw sefyllfa newydd, annisgwyl neu’r unknown yn gallu deffro’r pili-palod yn y stumog. A wyddoch chi be? Mae bod yn nerfus neu boeni am bethau weithiau yn gwbl naturiol, ond wrth gwrs mae rhai unigolion yn poeni’n fwy nac eraill. Yn ôl rhai ffigyrau, mae gor-bryder yn cynyddu ymysg plant a phobl ifanc, ac roedd hynny cyn y pandemig! Yn sicr bydd y llyfr yma’n hanfodol i unrhyw un sydd â phlentyn ifanc sy’n poeni dipyn am wahanol bethau, ond i fod yn onest, ‘da ni gyd yn poeni o dro i dro, felly mae’r llyfr yn addas i’w ddarllen gydag unrhyw blentyn. Mae’n cynnig y sbardun i gael sgwrs am y teimladau hyn; sut i’w hadnabod a sut i geisio delio â hwy. O ran y lluniau, maen nhw’n ddigon del. Wyddwn I ddim llawer am gelf i fod yn onest, a dwi un ai yn hoffi lluniau mewn llyfr, neu ddim. Mae’r rhain yn ciwt ac mae’r defnydd o liw yn effeithiol, gyda lliwiau tywyll yn disgrifio’r pryderon, tra bod lliwiau’n llenwi’r tudalennau wrth i’r poenau ddiflannu. I mi, mae rhai o’r tudalennau’n teimlo reit ‘brysur’ oherwydd y ddwy iaith, ond dwi’n meddwl fod hynny’n bris bychan i’w dalu am gael llyfr dwyieithog. Mae’r galw am lyfrau fel hyn yn cynyddu, yn enwedig gan rieni di-Gymraeg neu rhai sydd â sgiliau Cymraeg cyfyngedig ond sy’n awyddus i helpu eu plant and I’m all for it! Drwy gynnig y stori yn y ddwy iaith, ochr yn ochr, gall hyn agor y drws i fwy o bobl at fwy o lyfrau Cymraeg. Ideal. Mae sefyllfaoedd stressful yn anochel mewn bywyd, ac mi fydd pawb yn poeni am rywbeth rhywdro neu'i gilydd. Mae’n rhaid i blant wybod fod hi’n ok i deimlo fel hyn weithiau, ond iddyn nhw beidio gadael i’r teimladau yma fod yn drech na nhw. I ddefnyddio syniad Rachel Bright -weithiau, rhaid i ni beidio dal ein gafael ar ein pili palas poeni, a rhaid eu gollwng yn rhydd! Pen ar y bloc, roedd yn well gen i Y Llew Tu Fewn, ond mae Y Poenisawrws yn llyfr da, defnyddiol gyda neges bwysig i’r oes sydd ohoni ac mae’r lluniau’n neis! Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris:£6.99
- Cranogwen - Anni Llŷn
*For English review, please use language toggle switch on top of web page* (agwrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 3-6 Lluniau: Rhiannon Parnis http://www.rhiannonparnis.com/ ADOLYGIAD GAN LLIO MAI Dyma gyfrol gyntaf y gyfres ‘Enwogion o Fri’ gan wasg Llyfrau Broga - cyfres sy’n cyflwyno bywydau ysbrydoledig unigolion o Gymru. Dw i wir yn croesawu’r gyfres yma, ac yn falch o weld ymdrech i dynnu sylw ein cenhedlaeth ifanc ni at rai o enwogion anhygoel Cymru, a’r dylanwad y mae eu gwaith arbennig nhw wedi’i gael, yn y wlad yma a thu hwnt. Pwy well i ganolbwyntio arnyn nhw ar gyfer cyfrol gyntaf y gyfres na Cranogwen, neu Sarah Jane Rees i roi ei henw iawn iddi. Un o Langrannog oedd Sarah, ac yno y dechreuodd ei diddordeb mawr yn y môr ac mewn llongau. Er nad oedd nifer yn credu fod bwrdd llong yn le i ferch ifanc, doedd Sarah ddim am adael i hynny ei hatal rhag gwireddu ei breuddwyd. Fe weithiodd yn galed ac aeth yn ei blaen i ddysgu llawer iawn mwy am longau a rhannu ei diddordeb a’i gwybodaeth gydag eraill trwy gyfrwng ei gwaith fel athrawes. Roedd Sarah hefyd yn hoff iawn o farddoni, a hi yw’r ferch gyntaf un a enillodd wobr am ysgrifennu’r gerdd orau yn yr Eisteddfod Genedlaethol! Tipyn o gamp ac ysbrydoliaeth i nifer o ferched a ddaeth ar ei hôl yn sicr. A thrwy ei barddoniaeth yr ydym yn ei hadnabod yn well fel Cranogwen erbyn hyn, gan mai dyma’r enw yr oedd hi’n ei defnyddio fel ei ffugenw neu ei henw barddol. Yn un a fu’n torri stereoteipiau’r dydd ac yn gwthio’n gyson yn erbyn rhagfarnau eraill, fel sy’n cael ei nodi yn y llyfr, roedd Cranogwen yn ‘gwneud beth roedd hi eisiau ei wneud, nid beth roedd pawb arall yn meddwl y dylai hi ei wneud’. Treuliodd lawer o’i hamser yn cefnogi merched eraill, ac mae’r neges honno’n glir iawn ar ddiwedd y llyfr hwn. Mae bywyd a gwaith ysbrydoledig Cranogwen wedi’i grynhoi’n dda iawn yn y gyfrol hon gan Anni Llŷn, ac mae darluniau hyfryd Rhiannon Parnis yn gymorth i’n tywys yn ôl ac i’w dychmygu hi wrth ei gwaith. Mae Cranogwen yn rhywun y dylai pob plentyn a pherson ifanc fod yn ymwybodol ohoni. Mae hi’n enghraifft arbennig o rywun a lwyddodd i oresgyn rhwystrau er mwyn dilyn ei breuddwydion, ac a ddefnyddiodd ei llwyddiant i helpu eraill. Prynwch gopi - mi fyddwch chi’n siŵr o fod wedi’ch ysbrydoli ar ôl darllen y gyfrol hon, ac yn barod i fynd i’r afael â’ch breuddwydion chi! Gwasg: Broga Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £5.99
- 'Dolig Diflas y Dyn Dweud Drefn - Lleucu Lynch
*For English review, please see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 6/7+ (awgrym) oed diddordeb: 4-7 Lluniau: Gwen Millward https://www.gwenmillward.com/ ADOLYGIAD GAN LLIO MAI Os oes yna unrhyw un sy’n casáu’r Nadolig, y Dyn Dweud Drefn ydi hwnnw! O fod wedi darllen y llyfrau blaenorol, dw i’n siŵr ein bod i gyd wedi gallu dyfalu na fysa’r Dyn Dweud Drefn yn ffan mawr o holl ffỳs, sŵn a goleuadau’r ŵyl. Rhywun sy’n hoff iawn o’r Nadolig ydi’r Ci Bach. Eleni, rhywsut neu’i gilydd, mae’r Ci Bach wedi llwyddo i berswadio’r Dyn Dweud Drefn i roi cynnig ar ddathlu’r Nadolig - heb ddweud y drefn! Tipyn o sialens i’r Dyn Dweud Drefn yn wir! Tybed a fydd y Dyn Dweud Drefn yn llwyddo i beidio dweud y drefn trwy gydol y dydd? Mae’n sicr yn cael ei herio sawl gwaith yn ystod y diwrnod. Caiff ei ddeffro’n gynnar, a tydi hynny ddim yn ddechrau da iawn i ddiwrnod Nadolig y Dyn Dweud Drefn. Bydd yn rhaid i chi brynu copi o’r llyfr er mwyn gwybod a fydd y diwrnod yn llwyddiant, ac os ydi’r Ci Bach yn llwyddo i gael y Dyn Dweud Drefn i fwynhau’r Nadolig, heb ddweud y drefn. Dw i’n hoff iawn o’r gyfres yma gan Lleucu Fflur Lynch. Mae cymeriad y Dyn Dweud Drefn yn wych, ac mae ei berthynas efo’r Ci Bach yn rhoi deunydd am straeon lu i’n diddanu. Caiff y ddau eu portreadu’n wych unwaith eto trwy luniau hoffus a swynol Gwen Millward. Dyma lyfr gwych i’w ddarllen dros gyfnod y Nadolig (ac unrhyw bryd arall a dweud y gwir)! Mae’n stori am gyfeillgarwch ac am yr hyn all ddigwydd pan mae rhywun yn mentro gwneud rhywbeth yn wahanol ac yn camu allan o’u comfort zone. Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £4.95 HEFYD YN Y GYFRES...
- Yr Anweledig/The Invisible - Tom Percival [addas.Elin Meek]
For English review, see language toggle switch* (agwrym) oed darllen: 5+ (awgrgym) oed diddordeb: 3-7 Genre: #ffuglen #dwyieithog #empathi ♥Llyfr y Mis i Blant: Medi 2022♥ Dyma stori annwyl am ferch ifanc sy’n llwyddo i wneud un o’r pethau anodda’ sy’n bosib: gwahaniaeth. Mae Erin yn gweld eira’r gaeaf yn hardd iawn, ond mae hi hefyd yn teimlo’r oerni. Mae hynny oherwydd nad oes gan ei rhieni ddigon o bres i gynhesu’r tŷ. Er nad oes ganddyn nhw lawer, mae digon o gariad yn y tŷ (ac mae hynny’n bwysicach na dim dydi!) Ond, yn anffodus, fel y mae’r teulu’n prysur ddarganfod, tydi cariad ddim yn talu’r biliau, ac mae’n rhaid i’r teulu adael eu cartref a symud i ben arall y ddinas i dŵr o fflatiau. Mae’r newid yn dipyn o sioc i Erin, ac mae hi’n isel ei hysbryd am hir. Teimla mor anobeithiol - fel ei bod hi’n diflannu o flaen ein llygaid. Dyna pryd mae hi’n sylweddoli ar yr holl bobl eraill anweledig sydd o gwmpas ei chartref newydd. Yr Anweledig rai Ond pwy yw’r bobl anweledig yma? Nhw yw’r bobl sydd wedi cael eu gwthio i ymylon ein cymdeithas – y tlawd, yr henoed, mewnfudwyr, y digartref. Unrhyw un sydd ddim yn ‘perthyn’. Cânt eu hanwybyddu a’u hanghofio. Dyma pam mae syniad Tom Percival o droi’n anweledig yn gweithio mor dda i gyfleu sut ‘da ni methu gweld rhai pethau, neu’n dewis peidio sylwi, neu troi ein cefnau arnynt. Meddyliwch- faint o weithiau ydach chi wedi cerdded heibio person sy’n cysgu o flaen drws siop? Wnaethoch chi stopio i’w gyfarch neu cerdded yn eich blaenau? Harddwch ymhobman Er bod ei chartref newydd yn ymddangos yn llwm ar yr arwyneb, llwydda Erin i ddarganfod harddwch ymhobman o’i chwmpas. Penderfyna ei bod hi’n mynd i helpu, felly fe aiff ati i blannu blodau ac i wneud cymwynasau o amgylch y lle. Mae’r gwaith celf yn arbennig. Dechreua’n oer ac yn llwydaidd, ac fe ddaw’r lliw yn ôl wrth i’r gymuned ddod yn fyw, nes bod y tudalennau olaf yn disgleirio â lliw a chynhesrwydd. Mae ymdrechion Erin i wella ei hardal leol yn heintus, a buan iawn y daw’r gymuned at ei gilydd. Gwneud gwahaniaeth Mae neges y llyfr yn bwerus -nid oes raid gwneud pethau mawr, ond mae gweithrediadau bach fel gwneud cymwynas yn gallu cael effaith fawr. Gobeithio y bydd y llyfr yn dangos i blant nad yw arian a chyfoeth yn fesur o’u gwerth, ond fod caredigrwydd a thosturi yn llawer pwysicach. Profiadau’r awdur Daw sbardun y stori o brofiadau uniongyrchol yr awdur o orfod byw ar ddim mewn carafán pan oedd yn ifanc. Rhanna ei brofiadau o dlodi mewn nodyn yng nghefn y llyfr. Mae o’n awyddus – ac wedi llwyddo yn fy nhyb i – i dynnu sylw at y rheiny sydd yn llai ffodus na ni yn y gymdeithas, ond sydd ddim llai pwysig. Yn ôl y Joseph Rowntree Foundation, mae bron i 15 miliwn o oedolion yn byw mewn tlodi yn y DU, gan gynnwys 4.3 miliwn o blant. Gyda chostau a biliau yn cynyddu pob dydd, nid yw hyn yn rhywbeth sy’n mynd i ddiflannu ac mae’n bur debyg y bydd yr anghyfartaledd yn cynyddu. Yn aml rydym ni’n osgoi trafod y peth, efallai oherwydd diffyg dealltwriaeth neu embaras, ond mae’r llyfr yn caniatáu i gychwyn sgwrs, mewn ffordd empathetig, gyda’r plant lleiaf. Rhaid i ni ddangos cariad a pharch at ein gilydd, gan gynnig cymorth i’r rhai sy’n profi cyfnod anodd– dydach chi byth yn gwybod pryd fyddwch chi angen help llaw eich hun... Gwasg: Dref Wen Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99
- Darganfod! Newid Hinsawdd - DK [addas. Sioned Lleinau]
*For English review, see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 7+ (awgrym) oed diddordeb: 6+ Genre: #ffeithiol #amgylchedd #newidhinsawdd Argyfwng yr amgylchedd “It is unequivocal.” Mae newid hinsawdd yn digwydd. Dyna mae adroddiad diweddaraf yr IPCC (2022) yn ei ddweud. Does dim amheuaeth ei fod yn effeithio ar ein planed erbyn hyn -mae angen i ni weithredu, a hynny cyn ei bod hi’n rhy hwyr! Gyda chymaint o bethau eraill yn digwydd yn y newyddion, fel y rhyfel yn Wcráin, y cost of living crisis ac ati, hawdd yw anghofio’r argyfwng amgylcheddol a’i wylio’n llithro lawr yr agenda. Dim ond heddiw, dywedodd prif weinidog newydd y DU na fydd o’n teithio i’r gynhadledd enfawr COP27 eleni – pa fath o esiampl mae hynny’n ei osod? Yn ddiweddar, erfyniodd y cyflwynydd enwog, Syr David Attenborough, arnom i roi stop ar newid hinsawdd er mwyn achub y blaned. Mae’r fideo yn ddirdynnol ac yn werth ei gweld – rhan o gyfres Frozen Planet II ar y BBC. Llyfrau ffeithiol DK Pan oeddwn i'n blentyn - llyfrau Dorling Kindersley oedd fy ffefryn. Yn wir, roeddwn i’n eu llowcio. Llongau. Trenau. Adeiladau. Ymlusgiaid. Adar. Roedd gen i’r cyfan! Heb os, rhain YW'r llyfrau ffeithiol gorau sydd ar y farchnad - o ran eu delwedd a’u cynnwys. Maen nhw mor llachar a gweledol gyda lluniau eye-catching i ddenu sylw cenhedlaeth o blant ifanc sydd wedi tyfu i fyny o flaen sgriniau. Nid gwerslyfrau llychlyd a diflas mo’r rhain! Mae’r gwaith dylunio a gosod yn ardderchog - gyda thudalennau yn orlawn â ffeithiau diddorol ond wedi eu gwahanu’n dameidiau bach mewn ffont amlwg. Dwi wedi bod fatha tôn gron yn sôn am y diffyg llyfrau ffeithiol Cymraeg da sydd ar gael. Nid pawb sydd eisiau darllen storis am dylwyth teg neu’r Mabinogi. Fedra i ddim pwysleisio pa mor bwysig ydi cael cyfresi ffeithiol difyr, sy’n gallu bwydo chwilfrydedd ac awydd plant ifanc am wybodaeth. O edrych ar beth sydd ar gael ar y silffoedd yn y Gymraeg ar hyn o bryd - da ni ar ei hôl hi braidd. Lle mae’r llyfrau ffeithiol wedi mynd? ‘Sad’ efallai, ond mi wnes i ecseitio pan welais i fod Rily wedi addasu un o lyfrau DK o’r gyfres wych Find Out! / Darganfod! Be wnei di ddarganfod? Mae’r llyfr yn cychwyn o’r cychwyn - gan esbonio beth yn union ydi ‘hinsawdd.’ Mae’r llyfr yn olrhain hanes a newidiadau’r hinsawdd drwy'r oesoedd a sut y cyrhaeddon ni’r sefyllfa bryderus ’da ni ynddi heddiw. Mae’n esbonio’n glir sut mae dyn wedi effeithio ar y systemau cain sy’n cadw’r blaned yn iach ac yn gytbwys. Yn ogystal â thrafod yr achosion, cawn enghreifftiau o’r goblygiadau os na wnawn ni newid ein ffyrdd. Does dim yn portreadu’r argyfwng hinsawdd yn fwy na’r ddelwedd o’r arth wen sydd ar y clawr. Mae ’na linell denau rhwng dweud y gwir yn onest a chodi ofn heb fod angen, a dwi’n meddwl fod y llyfr yma’n taro’r cydbwysedd yn iawn. Os ydym am weld gwir newid, rhaid i ddynolryw newid ei hagwedd a’i hymddygiad. Mae newid hinsawdd – a sut i’w ddatrys – yn broblem hynod o gymhleth, ac yn un sy’n gofyn am gydweithio byd-eang. Tydi hi ddim yn rhy hwyr eto – drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn droi’r trai ar y newidiadau pellgyrhaeddol! Mae graddfa’r broblem fyd-eang mor fawr ei fod yn anodd i ni ei brosesu weithiau. Dyna pam dwi’n hoffi’r ffaith fod y llyfr yn cynnig syniadau ymarferol am yr hyn y gallwn NI ei wneud, ar lefel bersonol. Dewi Sant ddywedodd “Gwnewch y pethau bychain” ynte. Pan mae’r amgylchedd yn y cwestiwn- roedd o’n llygaid ei le. Rhaid i bob un ohonom ni chwarae ein rhan, hyd yn oed os yw hynny’n golygu troi’r thermostat i lawr ambell i radd, neu sychu’r dillad ar y lein yn lle eu taflu mewn i’r tumble dryer. Mwy Mwy Mwy! Dwi wedi gwirioni efo’r llyfr yma - plîs plîs Rily wnewch chi addasu mwy o’r gyfres? Dwi wedi archebu sawl un o’r llyfrau Saesneg yn barod (Engineering, Reptiles a Space Travel!) ac mi fasa’n grêt cael mwy o’r gyfres yn y Gymraeg. Dyma lyfr fydd yn hynod o ddefnyddiol yn yr ystafell ddosbarth, i wneud gwaith daearyddiaeth ar gynhesu byd eang neu gynaliadwyedd, er enghraifft. Fel athro fy hun, gallaf dystio bod y llyfr yma’n cynnig llawer iawn o gyfleoedd am waith ymchwil annibynnol ac am drafodaethau difyr. Y genhedlaeth nesaf fydd yn etifeddu’r blaned, (neu be fydd ar ôl ohoni!) felly mae’n hynod o bwysig iddyn nhw gael dealltwriaeth gadarn o’r sefyllfa a sut y gallan nhw ysgogi newid – jest fel Greta a’r miliynau o blant aeth ar streiciau ysgol dros yr amgylchedd yn 2019. Gyda’n gilydd, fe allwn ni stopio newid hinsawdd. Mae’n rhaid i ni! Gwasg: Rily Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2022 Pris: £6.99 ADRODDIAD YR IPCC https://report.ipcc.ch/ar6/wg2/IPCC_AR6_WGII_FullReport.pdf IPCC, 2022: Climate Change 2022: Impacts, Adaptation and Vulnerability. Contribution of Working Group II to the Sixth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [H.-O. Pörtner, D.C. Roberts, M. Tignor, E.S. Poloczanska, K. Mintenbeck, A. Alegría, M. Craig, S. Langsdorf, S. Löschke, V. Möller, A. Okem, B. Rama (eds.)]. Cambridge University Press. Cambridge University Press, Cambridge, UK and New York, NY, USA, 3056 pp., doi:10.1017/9781009325844
- Dyddiau Cŵn - Gwen Redvers Jones
*For English review, see language toggle switch on top of webpage* ♥Enillydd Gwobr Tir na n-Og 1998♥ Cynulleidfa: #oedolionifanc #arddegau Genre: #ffuglen #CymaregGwreiddiol Des i ar draws copi o ‘Dyddiau Cŵn’ yn Siop Clwyd a theimlai fel petawn i’n cyfarch hen ffrind do’n i ddim wedi ei weld ers yr ysgol uwchradd. Doedd hynny ddim yn bell o’r gwir - yn yr ysgol ddarllenais Dyddiau Cŵn, a dwi’n ei chofio fel un o’r unig nofelau Cymraeg y gwnes i’w gwirioneddol mwynhau. Pryd hynny roedd nifer o gloriau nofelau yn gartwnaidd, ac yn edrych braidd yn ‘ifanc’ i rywun yn ei harddegau. Ond roedd rhywbeth am glawr Dyddiau Cŵn a pherodd i mi godi’r llyfr. Roedd yna ddyn noeth ar y dudalen gyntaf! Nid llun, yn amlwg, ond disgrifiad. Dechrau addawol, i laslances llawn hormonau! Darllenais Dyddiau Cŵn a’i mwynhau digon i’w chodi oddi ar y silff rhyw ugain mlynedd (ish) yn ddiweddarach. Dyma stori Sera, Cymraes ddeunaw oed yn byw gartref â’i rhieni. Mae hi’n cyfarfod Dan, teithiwr ifanc a golygus, ac yn syrthio mewn cariad â fo yn syth. Arweinia hyn at wrthdaro rhyngddi hi a’i rhieni, ac mae Sera yn gadael y nyth i deithio Cymru efo Dan a’i ffrindiau, sydd hefyd yn deithwyr yn benderfynol o fyw bywyd ‘rhydd’. Daw tensiwn y nofel o’r gwrthdaro rhwng magwraeth draddodiadol Sera a dyhead Dad i fod yn rhydd o ddisgwyliadau cymdeithas - yn rhydd o’r cyfrifoldeb o dalu rhent a threth, ac i garu’n rhydd, heb ymrwymiad na chyfrifoldeb. Cryfder y stori yw nad yw Gwen Redvers Jones yn pregethu na’n cyflwyno’r un cymeriad fel cymeriad ‘da’ neu ‘ddrwg’. Mae Dan yn gymeriad hudolus, carismatig ar un llaw, ond yn hynod hunanol ar adegau eraill. Ar ddiwedd y nofel wyneba Sera benderfyniad anodd, tyngedfennol ynglŷn â’r ffordd orau iddi fyw. Wna i ddim datgelu’r diweddglo, heblaw am ddweud bod y neges yn un cadarnhaol am hunan benderfyniad ac annibyniaeth sy’n parhau’n berthnasol hyd heddiw. Sut mae’r nofel wedi goroesi traul amser? Mewn un ffordd, roedd yn braf i gael fy atgoffa o gyfnod cyn y we, cyn ffonau symudol (cyhoeddwyd y nofel yn 1997). Ar y llaw arall, ymddangosa agweddau o’r nofel, yn enwedig ‘pearl clutching’ ac agwedd gysetlyd Mam Sera at ‘hipis’ yn chwerthinllyd o hen ffasiwn. Tybiaf ei bod hi’n ymddangos yn gor-amddiffynol hyd yn oed pan gyhoeddwyd y nofel - ar adegau teimlai fel petai reolau ac agweddau’r teulu yn dyddio o’r pumdegau! Doedd y gwrthdaro rhwng Sera a’i rhieni ddim gwastad yn taro deuddeg chwaith - roedd Sera yn rhy bwdlyd a phlentynnaidd o lawer am ddynes ifanc ddeunaw oed. Y peth gorau am y stori oedd y portread o ffrindiau Dan, y teithwyr, a’u ffordd o fyw. Cymeriadau crwn a byw, pob un - a’r dafodiaith! Ar brydiau teimlai fel petawn i’n gwrando ar ddrama radio, mor fyw oedd y lleisiau. Hyfryd. Mwynheais ddarllen am amser Sera gyda’r criw o deithwyr yn fawr, a braf oedd ei gwylio hi’n aeddfedu ac yn dod yn fwy annibynnol dal adain y cymeriadau benywaidd hŷn. Er bod y nofel hon yn ymwneud â pherthynas rywiol cyntaf dynes ifanc ac yn cynnwys ambell gyfeiriad at ddefnydd cyffuriau, mae yna ddiniweidrwydd yn perthyn iddi sy’n ei gwneud yn addas i’r arddegau ifanc. Oherwydd hynny efallai na fyddai’n apelio cymaint i’r rhan fwyaf o ieuenctid heddiw, ond mae pleser hiraethus i’w gael o ail-ymweld a’r nawdegau o fewn cloriau llyfr. Gwasg: Gomer Cyhoeddwyd: 1997 Pris: Allan o brint - llyfrgell/ ail law yn unig
- Y Cwilt - Valériane Leblond
*For English review, see language toggle switch on top of page* Gwledd o luniau arbennig a stori hyfryd. A treasure trove of pictures and a lovely story. *Gwreiddiol Cymraeg - Welsh Original* Yn aml, y geiriau sy’n bwysig mewn llyfr, ond yn sicr y lluniau sy’n hawlio’r sylw yn y stori yma. Llyfr hyfryd, sy’n cynnwys arlunwaith bendigedig gan Valériane Leblond. Fel arfer, gwneud lluniau ar gyfer eraill mae hi, ond dyma’r llyfr cyntaf iddi fod yn gyfrifol am y stori a’r lluniau ei hun. Stori yw hon am deulu tlawd sy’n gadael Cymru er mwyn chwilio am fywyd gwell yn America bell. Wrth i hiraeth godi a’r plentyn yn dyheu am ei hen gartref, mae’r cwilt y gwnïodd ei Fam yn dod a chysur mawr iddo. Yn ogystal â mwynhau’r stori, oedd yn gynnil a chain, cymerais oes i ddarllen y llyfr byr gan i mi fod yn edrych ac yn astudio’r lluniau hardd yn fanwl. Ar ei gwefan, soniai’r awdur/arlunydd am ei gwaith: “Yn aml, bydd fy ngweithiau’n trafod y perthynas sy rhwng pobol â’u cartref, y lle alwan nhw’n gartre. Mae i’r rhan fwyaf o’m gweithiau fanylion ac hanesion cyfochrog a welir wrth inni graffu’n fwy ofalus arnyn nhw.” Dwi’n tueddu i gytuno â hi – mae ei defnydd o batrymau yn glyfar iawn, ond i chi edrych yn ddigon agos. Drwy'r oesoedd, mae pobl Cymru wedi ymfudo dros y môr wrth chwilio am fywyd newydd. Mae nhw’n wynebu siwrne faith, a heriau di-ri wrth frwydro i sefydlu bywyd newydd mewn tir estron. Mae’r llyfr yn sôn am hyn mewn ffordd hyfryd, sy’n gwbl addas i blant ifanc. (Nid yw’r geiriau cweit mor syml a mae’r llyfr yn awgrymu i ddechrau – efallai bydd angen help oedolyn i’w ddarllen ar blant ifanc iawn.) Clawr caled ydi o sy’n gweddu’r llyfr i’r dim. Bargen am £5.99! ADOLYGIAD GWALES: Dyma drysor. Wir i chi, mae ’na rywbeth am y gyfrol hon yr ydw i, fel oedolyn, eisiau ei drysori. Mae hyd yn oed ansawdd y tudalennau’n teimlo’n werthfawr. Rydan ni wedi arfer gweld gwaith arbennig yr artist Valériane Leblond mewn gweithiau celf o bob math, gan gynnwys lluniau mewn llyfrau, ond yma mae hi’n troi ei llaw at yr ysgrifennu hefyd. Stori teulu sy’n ymfudo gan fynd â'u cwilt gyda nhw a geir yma. Mae hi’n darllen fel cerdd i mi, ac mae’r darluniau yn hynod annwyl ac yn creu awyrgylch unigryw. Darllenais drwyddi ac yna mynd o glawr i glawr eto, gan edrych ar y lluniau yn unig. Mae’r stori’n cael ei hadrodd ddwywaith yn hyn o beth. Wnes i ddim ei darllen i fy merch – mae hi’n rhy ifanc, dwi’n credu (nid yw eto'n ddwy oed). Ond bydd hon yn gyfrol y byddwn ni’n troi ati gyda’n gilydd ac yn sicr yn gyfrol y bydd Martha’n gallu ei mwynhau wrth ei darllen ar ei phen ei hun pan fydd hi'n hŷn. Mi faswn i’n awgrymu ei bod hi'n addas i blentyn ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd. Mae hi’n stori dawel ac annwyl sy’n rhoi rhyw deimlad personol iawn iddi. Mae'n llyfr perffaith i blentyn tawel sy’n hoff o gael pum munud o lonydd i ymgolli mewn llyfr. Mae Valériane yn profi ei bod hi’n feistres ar ddarlunio gyda phaent a geiriau yn y gyfrol fendigedig yma. Anni Llŷn Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2019 ISBN: 9781784617974 Pris: £5.99
- Cwestiynu Popeth! - Susan Martineau a Vicky Barker [addas. Llinos Dafydd]
*For English review, see language toggle switch on top of page* (awgrym) oed darllen: 9-11, 11-14 (awgrym) oed diddordeb: 8+ Genre: #ffeithiol #hunanhelp #ymchwil #fakenews #addasiad “We live in an information jungle. How can we help young readers to navigate safely through it to explore the world confidently and safely? They need to be armed with some essential critical literacy skills to find their way to reliable sources of information, to ask questions and to think for themselves.” - Susan Martineau [awdur y llyfr gwreiddiol] Peidiwch â chael eich camarwain gan faint bach y llyfr yma - mae o’n llawn dop o gyngor doeth iawn i ymchwilwyr ifanc! Oes ddigidol Er gwell neu er gwaeth, ‘da ni’n byw mewn oes ddigidol lle mae technoleg yn symud yn ei flaen ar gyflymder aruthrol. Does dim dadlau ein bod ni’n byw mewn oes newydd – yr oes ddigidol, ac mae hynny’n dod gyda manteision ac anfanteision. Meddyliwch cymaint y mae bywyd wedi newid ers dyfodiad y we, a pa mor ddibynnol ydym ni arno erbyn hyn. Mae o wedi treiddio i bob rhan o’n bywydau ac mae ‘na fwy o wybodaeth allan yno rŵan na fu erioed o’r blaen yn ein hanes – i gyd ar flaenau’n bysedd. Dwi’n siŵr eich bod chi wedi clywed am ‘Fake News’ - term sydd wedi cael mwy o sylw yn y blynyddoedd diwethaf. Yn anffodus, tydi popeth sydd allan yno ddim bob amser yn wir, a rhaid gwneud dipyn o waith ditectif weithiau, i wneud yn siŵr eich bod yn gallu ymddiried yn yr hyn ‘da chi’n darllen. Efallai nad ydi o’n swnio’n broblem fawr, ond mae newyddion ffug yn gallu bod yn beryglus. Yn enwedig pan mae pobl jest yn ‘derbyn’ pethau yn oddefol heb fod yn gritigol a chwestiynu pethau. Sut mae’r llyfr yn helpu? Mae’r llyfr yn ein helpu i wneud synnwyr o’r cymhlethdod. Bydd yn cyflwyno sgiliau ymchwil i ti, fydd yn dy alluogi i feddwl dros dy hun a dod i benderfyniad. Ydi’r ffynhonnell yn saff? Ydi o’n ddibynadwy? Ydi o’n gywir? Dyma ond rhai o’r cwestiynau y dylen ni gyd ofyn i’n hunain bob tro rydan ni’n darllen unrhyw beth (a dim jest ar y cyfrifiadur chwaith). Bydd yn dy ddysgu di pa gwestiynau sydd angen i’w gofyn, a sut i bwyso a mesur y wybodaeth cyn penderfynu beth i’w wneud. Mae'r rhain yn sgiliau hanfodol ar gyfer gwaith ysgol neu ar gyfer unrhyw waith ymchwil pellach yn y brifysgol. A dweud y gwir, mae’r llyfr yma yn ddefnyddiol i unrhyw un ar gyfer bywyd bob dydd. Be sy’n dda am y llyfr? I gychwyn, mae’n llawn lluniau steil digidol modern, sy’n helpu i gyflwyno’r holl wybodaeth mewn ffordd hawdd i’w ddarllen. Mae’r llyfr yn ein cynghori, ond byth mewn ffordd nawddoglyd neu un sy’n ceisio codi ofn. Os am ddefnyddio’r llyfr fel gwerslyfr yn y dosbarth, mae cyfres o dasgau hefyd er mwyn ymarfer y sgiliau meddwl newydd. Byddai’r llyfr yma’n adnodd gwych i wneud darllen grŵp, gan sbarduno trafodaeth ar hyd y ffordd. Defnyddiol oedd cynnwys glossary i esbonio’r termau - yr unig beth faswn i wedi hoffi gweld yw’r geiriau Saesneg yno hefyd - ‘sa hynny wedi bod yn handi. Athrawon- dyma lyfr defnyddiol sy'n cysylltu gyda rhai o'r 'Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig' o'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Gall helpu disgyblion i "Feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i ddehongli’n feirniadol a diduedd yr hyn y byddan nhw’n ei glywed, ei ddarllen a’i weld er mwyn rhyngweithio’n effeithiol fel dinasyddion galluog, gwybodus yng Nghymru a’r byd." https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/ieithoedd-llythrennedd-a-chyfathrebu/datganiadau-o-r-hyn-sy-n-bwysig/?fbclid=IwAR22prKiblNiZADjnWe88CJ6F3-apjpWt6xumVVGeDetjTUh1eRdZecf2dU Beth alla i wneud? Gobeithio, erbyn i ti orffen darllen y llyfr, y byddi di’n teimlo’n fwy hyderus i feddwl dros dy hun, i gadw’n saff ar-lein a sut i lywio dy ffordd drwy’r doreth o wybodaeth neu gam-wybodaeth sydd o’n cwmpas. Cofia brif neges y llyfr - paid derbyn unrhyw beth - cwestiyna bopeth! Gwasg: Rily Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £5.99 BLOG CILIP (saesneg yn unig) SGWRS GYDA'R AWDUR GWREIDDIOL: https://www.cilip.org.uk/blogpost/1637344/354077/Life-in-the-Information-Jungle--Susan-Martineau
- Diwrnod y Sioe / Show Day - Llenwedd Lawlor a Jessica Wise
*For English review, see language toggle switch on top of webpage* (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 3-7 Genre: #gwreiddiol #ffuglen #llyfrallun #anifeiliaid #amaeth #iechydalles NEGESEUON: cymryd rhan sy'n bwysig, hunan-hyder, nerfusrwydd, dyfalbarhad, ceisio, dewrder, ♥Llyfr y Mis i blant: Gorffennaf 2022♥ Barn Sôn am Lyfra Mae’n dda gweld amrywiaeth o lyfrau yn cyrraedd y farchnad, ac mi fydd hwn yn sicr o apelio at y darllenwyr hynny sy’n hoff o anifeiliaid, ceffylau, amaeth a marchogaeth. Does dim prinder o sioeau gwledig gennym ni yn yr ardal yma - Sioe Llanrwst, Sioe Eglwysbach, Sioe Cerrigydrudion i enwi ond rhai! Mae darllen y llyfr yma’n codi hiraeth arnaf am ddyddiau’r haf yn mwynhau gwylio’r anifeiliaid a’u perchnogion yn cystadlu. Mae Ladi, y ceffyl Shetland, yn poeni’n ofnadwy am ei sioe gyntaf. ‘Da ni gyd yn gyfarwydd efo’r teimlad annifyr yn ein boliau pan da ni ar fin gwneud rhywbeth newydd, a tydi ceffylau ddim yn eithriad! I wneud pethau’n waeth, ar ôl profiad anffodus gydag un o’r cyd-gystadleuwyr, mae Ladi’n barod i roi’r ffidil yn y to a’i heglu hi am adref. Ond, er y nerfau a’r ansicrwydd a’r diffyg hyder ar y cychwyn, mae Ladi (a Cit) yn dyfalbarhau ac yn cael modd i fyw. Tybed wnaethon nhw ennill? Bydd rhaid i chi brynu neu fenthyg y llyfr i gael gwybod... Y mae’n stori wreiddiol, sydd wedi cael ei gyhoeddi yn ddwyieithog. Dwi’n hapus i weld cyflenwad da o lyfrau fel hyn, achos maen nhw’n boblogaidd gyda rhieni sy’n awyddus i gefnogi darllen Cymraeg eu plant. Dwbl y llyfr am yr un pris! Fy unig criticism (a hynny ond am fy mod yn gwneud ymchwil ar lyfrau dwyieithog ar hyn o bryd) yw bod angen gwahaniaethu'r ieithoedd yn well - mae nhw'n rhy agos, yn rhy debyg, sy'n achosi ddryswch i'r llygaid, yn enwedig i ddarllenwyr ifanc. Stori annwyl sy’n dangos fod dyfalbarhau yn bwysig ac, yndi, mae o’n neges cliche, ond yn un hollbwysig – rhoi cynnig arni a chymryd rhan sy’n bwysig – nid ennill! PEIDIWCH A CHYMRYD EIN GAIR NI, 'DRYCHWCH AR BETH SYDD GAN GWALES I'W DDWEUD: ADOLYGIAD GWALES Fel gyda phob llyfr stori-a-llun, mae cael clawr deniadol yn hanfodol, ac mae clawr chwareus y llyfr hwn yn sicr o ddenu’r llygad, gyda dwy lygad daer Ladi’r ceffyl sioe wedi’u hoelio’n sgleiniog arnoch chi. Mae’r stori wedyn yn ein cyflwyno i nifer o anifeiliaid bach eraill wrth i Cit, perchennog Ladi, ddechrau ar y paratoadau ar gyfer y sioe lle bydd hi’n cystadlu. Cyflwyna’r stori safbwynt Ladi wrth fynd i’r sioe - ei chyffro, ond wedyn ei phryder a’i hansicrwydd hefyd wrth gyrraedd cae’r sioe a gweld cymaint o bobl a chreaduriaid yno. Ac os oeddech chi’n meddwl bod yna gythraul ym myd y canu, mae’r un peth yn wir hefyd ym myd y ceffylau, gydag ymddangosiad y ceffyl hynod fawreddog, Concyr, sy’n ddigon i godi braw ar unrhyw geffyl bach diniwed arall. Drwy lwc, gan y beirniad mae’r gair olaf, a heb ddatgelu gormod, mae Ladi a Cit yn gwneud sioe dda iawn ohoni. Mae yna foeswers fach wedi’i gwau i mewn i’r stori, wrth gwrs, ond mae honno’n ddigon cynnil yn y stori. Dyma lyfr stori-a-llun gwreiddiol hyfryd o waith yr awdur Llanwedd Lawlor a’r arlunydd Jessica Wise sy’n rhoi tipyn bach o bopeth i chi – stori ddifyr, lluniau lliwgar a thestun dwyieithog ar yr un pryd. Rhywbeth ar gyfer pawb, felly! Mae gosodiad y testun yn y llyfr yn ddigon creadigol, gyda chwarae â ffontiau o ran lliw, math a maint. Erbyn hyn, mae’r gynulleidfa yng Nghymru’n ddigon cyfarwydd â chael llyfrau dwyieithog, gyda’r testun Saesneg yn ymddangos mewn ffont llai ar yr un dudalen â’r fersiwn Gymraeg. Does dim rhaid i chi sylwi o gwbl ar y fersiwn Saesneg os nad ydych chi’n dymuno, ond gall weithio fel arf hynod ddefnyddiol ar gyfer rhieni di-Gymraeg a dysgwyr, yn ôl yr angen. Efallai y buaswn i wedi ffafrio gweld y ffont Saesneg mewn italig, er mwyn dangos mwy o wahaniaeth fyth rhyngddo â’r testun Cymraeg, rhag i’r llygaid gael eu tynnu’n ormodol ato. Yn naturiol, denu’r llygad yw diben y lluniau mewn llyfr stori-a-llun hefyd, ac yn sicr mae’r defnydd o liwiau trawiadol a chyferbyniol ar wahanol dudalennau’n hybu diddordeb. Mae lluniau Jessica Wise yn dwt a glân ac yn ychwanegu’r diddordeb disgwyliadwy. Llyfr gwreiddiol gwerth chweil, er y gallai’r pris gwerthu fod ychydig yn heriol i ambell gadw-mi-gei. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.99
- Cnwcyn - Meinir Pierce Jones
*For English review, please see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 4+ Genre: #ffuglen #gwreiddiol #llyfrllun #natur Trwbl yn y goedwig... Stori newydd, berthnasol i’r oes sydd ohoni gan awdur sy’n hen law ar ’sgwennu straeon difyr. Dwi’n licio’r enw ‘Cnwcyn’ - enw bach doniol sy’n gweddu’n iawn i gnocell y coed - aderyn rydych yn siŵr o’i glywed cyn i chi ei weld! Mae Cnwcyn (a’i ffrindiau) yn byw yng nghoedwig Pen-y-Bryn yn ddedwydd eu byd, nes i’r dynion mewn hetiau caled ddod i darfu ar eu heddwch. A dweud y gwir, maen nhw’n gwneud mwy na hynny, achos wedi dod i chwalu a dinistrio’r goedwig maen nhw, gan wneud Cnwcyn yn ddigartref yn y broses. Er iddo ofyn i sawl un o’i gymdogion cyfagos am lety, does ’na neb eisiau rhoi to uwch ei ben. Cnwcyn druan. Mae ei sefyllfa anffodus ar ôl colli ei gartref yn ein taro hyd yn oed yn fwy ar hyn o bryd, a ninnau’n gweld sefyllfa dorcalonnus pobl Wcráin sydd hefyd wedi gorfod codi eu pac a chanfod eu hunain heb gartref. Mynd o ddrwg i waeth mae pethau ym Mhen-y-Bryn. Pan mae tân mawr yn bygwth yr anifeiliaid eraill, pwy sydd yno’n syth i helpu? Cnwcyn siŵr iawn. A buan iawn daw’r anifeiliaid eraill i sylwi mai trwy weithio gyda’i gilydd a chael dipyn bach o ffydd mae goresgyn unrhyw her. Tybed fydd Cnwcyn yn llwyddo i ddod o hyd i gartref newydd? Negeseuon cyfoes Llyfr gwreiddiol Cymraeg yw hwn, gyda naws ‘traddodiadol’ ond sy’n cynnwys negeseuon cyfoes fel datgoedwigo, yr amgylchedd a digartrefedd yn ogystal â rhai bythol-bwysig fel cyfeillgarwch a chydweithio. Swnio fel lot o themâu i’w cynnwys mewn un stori? Wel, maen nhw’n slotio i mewn yn daclus ac yn naturiol i’r stori, heb gael eu gorfodi. Dwi’n deall fod plant yn gweld y byd yn fwy du a gwyn nac oedolion, ac mae na limit i be fedrwch chi gynnwys mewn llyfr i blant bach, ond oes ‘na dueddiad i bortreadu’r dynion torri coed braidd yn ystrydebol fan hyn fel y big bad guys? Ella mai fi sy’n gorfeddwl – ond mae gweithwyr coedwigaeth angen byw hefyd does! Ella bod y neges o ddatgoedwigo cynaliadwy braidd yn heriol ar gyfer llyfr o’r fath, ond o bosib, byddai wedi bod modd tynnu sylw ato rhywsut? Cyfeillgarwch a gweithio fel tîm yw prif negeseuon y llyfr, fodd bynnag. Yn ôl rhai ystadegau, ’da ni’n colli 10 miliwn hectar o goedwigoedd bob blwyddyn ar draws y byd (sy’n lot fawr, ac yn bryderus iawn!) Gorau po gyntaf y gallwn addysgu’r rhai lleiaf am y problemau sy’n wynebu byd natur – gan obeithio y gwnawn nhw well job o ofalu amdano na wnaeth ein cenhedlaeth ni. Bargen! Mae’r gwaith celf cartŵnaidd yn drawiadol ac yn lliwgar, ac mae’n stori ddigon sylweddol – sy’n golygu gwerth am arian am eich £6.99! Stori ‘nos da’ perffaith sy’n galw am oedolyn i helpu gyda’r darllen, ac i fod yno i gael sgwrs am rai o’r pynciau difyr sy’n codi. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: Medi 2022 Pris: £6.99