Chwilio
306 items found for ""
- Adref heb Elin - Gareth F. Williams
*For English review, please see language toggle switch* ♥Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2007♥ (awgrym) oed darllen: 12+ (awgrym) oed diddordeb: 12+ Genre: #dirgel #ffuglen #teulu #arddegau #OI Clasuron wedi mynd yn angof Dwi’n cofio darllen yn rhywle fod ’na dros 100 o gyhoeddiadau i blant a phobl ifanc yn cael eu cyhoeddi yng Nghymru bob blwyddyn, a gyda chymaint o deitlau newydd yn cyrraedd y farchnad, hawdd iawn yw anghofio am rai a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl, heb sôn am bron i ugain! Mae ’na glasuron coll yn llechu ar y silffoedd w’chi. Ar ôl penderfynu y baswn i’n chwilota yn y llyfrgell am lyfr hŷn i’w ddarllen, dwi newydd orffen darllen Adref Heb Elin, gan y diweddar Gareth F Williams (lej) a’r unig beth alla i ddweud ydi, mam bach, dwi angen lie down ar ôl hynna. Hunllef Dyma nofel sy’n adrodd hanes hunllef waethaf pob rhiant: plentyn yn diflannu heb esboniad. Fel sy’n amlwg o’r teitl, mae Elin, merch sydd bron yn ddwy ar bymtheg oed, wedi mynd, a does dim golwg ohoni. Mewn nofel sydd wedi cael ei rhannu’n dair rhan, cawn ein tywys gan yr awdur trwy brofiad erchyll y teulu yn y dyddiau cyntaf, hyd at ddwy flynedd ar ôl y diwrnod. Mae’r stori i gyd o safbwynt Ceri Mai, chwaer Elin, sy’n gorfod wynebu’r sefyllfa gyda’i rhieni ar ôl i Elin fynd yn AWOL. Teimla’r dyddiau cyntaf fel corwynt – yr Heddlu gyda’u cwestiynau diddiwedd, y papurau newydd, a’r sïon anochel sy’n mynd o amgylch y pentref. Yn fuan iawn yn y nofel, cyn i’r teulu sylweddoli beth sydd wedi digwydd, mae’r darllenydd yn dechrau gweld sut mae pethau am fynd i fod yn llawer gwaeth i’r teulu druan. Wrth iddyn nhw baratoi i eistedd i lawr i fwyta, mae cwestiwn diniwed y fam, ‘be ydi hanas dy chwaer, dywad?’ yn gwneud i ni riddfan – y teimlad annifyr ’na sy’n tyfu, lle mae rhywun yn trio peidio â phoeni ac yn trio actio’n calm, cyn sylweddoli fod rhywbeth o’i le. Trwy lygaid Ceri, rydan ni’n profi sefyllfa fasa neb yn dewis gorfod ei hwynebu. Y diffyg atebion ydi’r peth gwaethaf siŵr o fod. Oni bai am nofel fel hyn, dwi’m yn meddwl y baswn i’n gallu dychmygu’r fath beth. Mae Ceri, a’i theulu, yn profi pob emosiwn dan haul, o hiraeth anobeithiol hyd at atgasedd pur. Yn y dyddiau cyntaf ar ôl y diflaniad, mae ’na ymdrech fawr gan yr awdurdodau a’r teulu i ddod o hyd iddi, ond yn raddol, mae’r gobaith yn pylu, ac mae’r chwilio’n dirwyn i ben. Tra mae pobl eraill yn dechrau cario ’mlaen efo’u bywydau, mae poen y teulu yn parhau, ac yn dyfnhau, os rywbeth. Hunllef ddi-baid. Mae’r effaith ar y teulu yn sylweddol ac fe ddangosai'r gorau a’r gwaethaf o wahanol aelodau o’r teulu. Wrth i Ceri a’i thad dyfu’n agosach, ymbellhau a wna’r fam, a gallant wneud dim ond gwylio’n ddiymadferth wrth iddi lithro’n ddyfnach i dywyllwch enbyd: “Yn fuan ar ôl hynny mi dda’th y niwl, yn do? Tra oeddech chi allan yn yr ardd yn tynnu dillad oddi ar y lein, rhyw hen niwl oer ac annifyr oedd yn gwrthod codi o gwbl; doeddech chi ond yn ca’l ambell gip trwyddo fo bob hyn a hyn, dim digon i chi weld nad oedd pethau fel y dylan nhw fod. Roedd o fel ’sa chi wedi dŵad adra a ffeindio fod rhywun sbeitlyd wedi newid ’ych dodrafn chi i gyd am rei diarth, a bod neb arall wedi sylwi ond chi.” Er cof am Gareth F Gareth F yw fy hoff awdur Cymraeg, a does dim rhyfedd ei fod wedi ennill Gwobr Tir na n-Og cymaint ag y gwnaeth. Petai dal yma, dwi’n sicr y byddai wedi cyhoeddi sawl clasur arall. Dwi’n cynghori unrhyw un i fynd i ddarganfod ei nofelau. Mae ganddo ddawn dweud syml a chlir, ac mae rhai darnau yn sefyll allan ac wedi aros gyda mi: “Mae breuddwydion cas yn well o lawer am setlo yn y cof, ond dydi’r rheiny, chwaith, ddim yn digwydd pan ’dach chi’n eu disgwyl nhw... Dod yn slei a wnâi pob un hunllef, heb angen unrhyw ffilm na ddigwyddiad i’w sbarduno.. Ond mae’r breuddwydion casaf un yn dod pan ’dach chi’n effro, a dydi’r rhain ddim yn diflannu wrth i chi agor eich llygaid.” Mae gan yr awdur y gallu i swyno a chyfareddu’r darllenydd â’i eiriau, ac yna, yn ddisymwth, eich taro chi’n fflatnar oddi ar eich echel. Dros gwrs y nofel, gwna hyn sawl tro, ond mae’r drydedd act yn mynd a hyn i’r eithaf. Mae’r nofel dros bymtheg mlwydd oed erbyn hyn, ac oes, mae ’na ambell i reference fel Pop Idol sydd wedi heneiddio, ond tydyn nhw’n effeithio nemor ddim ar y stori, ac o ganlyniad, dyma lyfr sy’n dal ei dir yn gadarn yn 2022. Roedd ’na ambell beth faswn i wedi’i newid, fel rhai o resymau’r cymeriadau dros ymddwyn sut wnaethon nhw, ac roedd y cyfeiriad at y ‘peth’ yn y ffenest ar y dudalen olaf-ond-un braidd yn ddiangen yn fy marn i. (Mae’r awdur yn wych am sgwennu stwff creepy, ond nid fama oedd y lle). Mân bethau yw’r rhain. Ar y cyfan, dyma stori gripping ac ysgytwol. I ddyfynnu geiriau Ion Thomas (Gwales) - “clatsien o nofel.” Cytunaf 100%. Diolch byth, fe gawn atebion i rai o’n cwestiynau erbyn diwedd y nofel, ond mae’r rollercoaster o emosiynau wedi ’ngadael i’n wag ac yn drained ar y diwedd. Yr unig beth dwi’n siŵr ohono; dwi byth isio profi’r fath beth go iawn. Gwasg: Gomer@Lolfa Cyhoeddwyd: 2006 Cyfres: Whap! Pris: £6.99 (neu ym mhob llyfrgell!) E-lyfr: https://www.ffolio.wales/9781785623585/cyfres-whap-adref-heb-elin/ MWY O LYFRAU DA YNG NGHYFRES WHAP!
- A am anghenfil - Huw Aaron
*For English review, see language toggle switch* (awgrym) Oed diddordeb: 0-7 (awgrym) oed darllen: 4+ Genre: #doniol #wyddor #ffuglen #llyfrlluniau #odli Disgrifiad Gwales: Cerdd hollol hurt a doniol gan yr artist Huw Aaron yn cymeriadu'n lliwgar holl lythrennau'r wyddor. ADOLYGIAD GAN LLIO MAI Dw i am ddechrau’r adolygiad yma trwy ddweud yn blwmp ac yn blaen mod i WRTH FY MODD efo’r llyfr yma! Mae rhai llyfrau sydd jest yn grêt does – yn llawn hwyl, dychymyg pur a llond trol o greadigrwydd. Mae prif gymeriad yn y llyfr yma yn cael parti pen-blwydd, ond mae’r gwesteion sydd wedi cael gwahoddiad yn rhai, wel... maen nhw’n rhai anghyffredin iawn, a dweud y lleiaf! Fyddech chi’n ddigon dewr i wahodd llond gwlad o angenfilod i’ch parti pen-blwydd? Cawn ein cyflwyno i’r gwesteion fesul un, fel maen nhw’n cyrraedd y parti, ac mae pob un yn unigryw iawn! Dyma lyfr wnaiff i chi chwerthin allan yn uchel, ond mae hefyd yn llyfr sy’n wych ar gyfer dysgu’r wyddor i blentyn, gan fod anghenfil ar gyfer pob llythyren. Gellir hefyd ddefnyddio’r llyfr ar gyfer creu gweithgaredd wedyn, e.e. creu eich anghenfil eich hun, ac efallai ei enw ar ôl llythyren gyntaf eich enw chi! (Rydan ni wedi rhoi cynnig arni yma yn Sôn am Lyfra HQ!) Fedrwch chi feddwl am enw gwirion ar gyfer pob un? Dw i’n arbennig o hoff o ddarluniau Huw Aaron o’r angenfilod amrywiol, ac mae’r enwau’n hollol wych hefyd - maen nhw mor ddoniol, boncyrs a chreadigol a doeddwn i methu disgwyl i gael troi’r dudalen a datguddio’r anghenfil nesaf. Tybed pa un ydi’ch ffefryn chi? Fy hoff un i ydi’r Gwibno-bwm! Fyswn i wir yn argymell y llyfr yma - mae’n gaddo andros o hwyl i blant o bob oedran, ac i’r oedolion hefyd! Mynnwch gopi, dw i’n sicr na chewch chi’ch siomi. Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Medi 2021 Pris: £6.95 Bywgraffiad Awdur: https://www.huwaaron.com/ Mae Huw Aaron yn gartwnydd, arlunydd ac awdur o brofiad, ac wedi cyfrannu cartwnau i gannoedd o lyrau a chylchgronau yn Nghymru a thu hwnt. Cafodd Ble Mae Boc? a Y Ddinas Uchel eu henwebu ar restr fer gwobr Tir na n-Og yn 2019 a 2020, ac enillodd Yr Horwth gan Elidir Jones ac a ddarluniwyd ganddo gategori plant a phobl ifanc gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020. Sefydlodd Huw y comic poblogaidd, Mellten yn 2016, a chafodd 11,000 o gopïau o’i lyfr comic Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru yn 2019. Yn ystod cyfnod clo 2020, sefydlodd Huw y sianel YouTube ‘Criw Celf’, gyda’i fideos wedi eu gwylio dros 100,000 o weithiau. Mae Huw hefyd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen ‘Cer i Greu’ ar S4C, yn dysgu ac ysbrydoli plant i arlunio a chreu celf eu hunain. huw@huwaaron.com
- Weithiau Dwi’n Gandryll / Sometimes I am Furious -Timothy Knapman [addas. Casia Wiliam]
*For English review see language toggle switch* (awgrym) oed diddordeb: 1+ (awgrym) oed darllen: 5/6+ Genre: #iechydalles #emosiynau #datblygiadpersonol Lluniau: Joe Berger A ninnau ar ganol gwyliau’r haf, dwi’n siŵr y bydd sawl rhiant ar hyd a lled Cymru’n hen gyfarwydd ag wynebau pwdlyd, blin fel sydd ar y clawr, yn enwedig os ’da chi’n rhiant i blentyn bach! Temper tantrums. Cranky pants. Llyncu mul. Colli’ch limpyn. Gwylltio. Mynd yn grac. Cael mỳll. Strancio. Troi’n wallgo – mae ’na gymaint o ffyrdd gwahanol o ddweud bod rhywun yn flin! Mae bywyd yn braf pan mae petha’n mynd yn iawn tydi. Ond weithia, tydi bywyd jest ddim yn deg nadi? Dio’m ots pa mor ‘calm’ a ‘chilled’ ’da chi’n meddwl ydach chi, mae ’na rhywbeth sy’n siŵr o wylltio pawb yn y pen draw, o bryd i’w gilydd. Weithia, pethau sy’n mynd o chwith, neu ar adegau eraill mae pobl yn gwneud pethau sy’n eich gwneud chi’n GANDRYLL! I mi, mae’r ‘anghenfil’ neu’r ‘red mist’ yn dod pan dwi’n dreifio. Jest weithiau. Daw’r road rage i’r golwg pan mae gyrwyr eraill yn gwneud pethau hollol dwp a gwirion ar y lôn. Wrth gwrs, tra mae’r rhan fwyaf o oedolion a phlant hŷn wedi dysgu sut i reoli eu teimladau, tydi pawb ddim mor ffodus. Mae plant bach yn enwedig, yn ei chael hi'n anodd rheoli a mynegi'r teimladau pwerus yma. Ac wrth gwrs, mae 'na rai sydd yn tyfu i fyny ac yn dal i gael trafferh gyda'r teimladau overwhelming. Dyma lyfr, ar ffurf mydr ac odl, sy’n cadarnhau fod bywyd yn gallu bod yn anodd weithiau, a’i bod hi reit naturiol i fod yn flin o dro i dro. Drwy stori ysgafn, fe welwn ferch fach sy’n cael trafferth rheoli ei thymer pan nad yw pethau’n plesio. Mae yma gyfle da i gynnal trafodaeth ar deimladau cymysglyd fel ‘bod yn flin.’ Gallaf weld y llyfr yma fel arf defnyddiol yn y dosbarth ac yn y cartref, nid yn unig gyda phlant yn y Cyfnod Sylfaen, ond gyda disgyblion hŷn fyddai’n buddio o’r cyfle i drafod yr emosiynau hyn. Yn sicr mae hwn yn adnodd defnyddiol i unrhyw riant sy’n ceisio cynnal sgwrs am y teimladau hyn. Er bod y llyfr yn ddefnyddiol, dwi’n meddwl ei fod o’n colli’r cyfle i gynnig mwy o strategaethau defnyddiol ar gyfer rheoli’r tymer. Mi faswn i wedi hoffi gweld mwy am fy £12.99 os dwi’n bod yn onest. llyfr i’w fenthyg o’r llyfrgell fydd hwn i mi, debyg. Un peth yn y llyfr sy’n hollol wir – mae cwtsh neu ‘hyg’ gyda rhywun annwyl yn gallu gwneud gwyrthiau. Does ’na ddim byd gwell na chofleidiad mawr er mwyn tawelu’r dyfroedd nagoes! Nodyn: Fel a nodir ar y clawr, rhaid cofio fel nifer o lyfrau dwyieithog, mai addasiad o’r gwreiddiol yw’r llyfr, ac er bod y testun Cymraeg a’r Saesneg wrth ymyl ei gilydd, tydyn nhw ddim bob amser yn dweud yr un peth gan nad ydynt yn gyfieithiad uniongyrchol. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £12.99 Clawr: Caled
- Sedna a'i neges o'r Arctig - Jess Grimsdale [addas. Mari huws]
*For English review, see language toggle switch on top of webpage* (awgrym) oed darllen: 7+ (awgrym) oed diddordeb: 5+ Genre: #llyfrlluniau #amgylchedd #neges #plastig #ffuglen Effaith dyn ar yr amgylchedd A ninnau wedi mwynhau (neu ddioddef, yn dibynnu ar eich safbwynt) cyfnod o dywydd braf iawn yn ddiweddar, fe dorrwyd record yng Nghymru, gyda’r tymheredd uchaf erioed yn cael ei gofnodi – 37.1°c ym Mhenarlâg, Sir y Fflint. Er bod nifer yn mwynhau’r cyfnod o dywydd braf, does dim amheuaeth fod ein hinsawdd yn newid... Yndi, mae dylanwad dyn bellach yn ymestyn ar draws pob cwr o’r blaned, ac os nad yw llygru’r ddaear yn ddigon drwg, ‘da ni wedi cychwyn gadael ein llanast yn y gofod hefyd! (ta waeth, stori arall yw honno!) Dyma felly gyflwyno llyfr newydd Jess Grimsdale, sy’n trafod mater amgylcheddol hynod o bwysig, ac un fydd yn dod yn gynyddol bwysicach, llygredd plastig yn y môr. Cafodd y llyfr ei ysbrydoli yn dilyn taith yr awdur fel rhan o griw Sail Against Plastic (@amessagefromthearctic), casgliad o ymchwilwyr sy’n edrych ar fygythiad micro blastigion yn y môr o amgylch Svalbard. Mari Huws, yr ymgyrchwyr amgylcheddol a warden presennol Ynys Enlli sydd wedi darparu’r geiriau Cymraeg – alla i ddim meddwl am neb mwy addas i wneud y gwaith addasu. Beth yn y byd yw’r peli bach rhyfedd? Ar gychwyn y stori, mae pobl mewn pentref yn yr Arctig yn rhyfeddu wrth i’r peli bach lliwgar ymddangos yn y dŵr a ger y lan. I ddechrau, chwilfrydedd ynglŷn â’r gronynnau bach sydd gan bawb, ond buan iawn aiff pethau’n sur wrth i rai o’r trigolion ddechrau teimlo’n sâl. Rhaid i Sedna a’i chriw fynd ar fordaith anturus a pheryglus i ffeindio tarddiad y peli bach, ac unwaith y dônt i wybod y gwir, mae Sedna’n cymryd y baich o geisio lledaenu’r neges ar draws y byd. Dwi’n siŵr eich bod chi wedi clywed am ficro-blastigion ar y telibocs, a’r effaith andwyol maen nhw’n ei gael ar fywyd gwyllt. Yn wir, mi glywais i ar bodcast yn ddiweddar, fod nhw wedi ffeindio microplastics yn ein cyrff ni erbyn hyn!! Dwi wrth fy modd yn dysgu pethau newydd wrth ddarllen, ac mi wnes i ddysgu dipyn o bethau, a dweud y gwir. Nurdles ‘da chi’n galw’r peli bach ‘na. Darnau reit fach o blastig ydyn nhw, yn mesur tua maint lentil. Y peth gwaethaf am y rhain yw, nid plastig sydd wedi cael ei dorri’n fan gan donnau’r môr yw Nurdles, ond peledi bach sydd wedi cael eu creu’n fwriadol ydi’r rhain! BETH?!?!?! Os am wybod mwy, mae’r awdur wedi cynnwys darn hynod o ddiddorol ar ôl y stori. Gwaith celf sy’n cydio Rŵan ta, rhaid sôn am y gwaith celf. Anhygoel. Yn sicr mae hwn yn un o’r llyfrau deliaf i gael ei gyhoeddi ‘lenni. Mae safon yr arlunio yn uchel iawn, ac mae ‘na ôl gwaith go iawn yma. Dwi’n meddwl fod pob llun wedi cael ei wneud gyda darnau bach o bapur wedi eu rhwygo a’u gludo. Tydi darlunio llyfrau plant ddim yn jôc - mae o’n dalent, ac yn waith caled iawn o be wela i. Dwi’n siŵr i mi weld ar ei chyfrif Instagram (@jessgrimsdale) fod y broses gyfan wedi cymryd sawl blwyddyn! I mean, jest ‘sbiwch ar y llun yma – mi faswn i’n prynu hwn fel print i’w fframio adref, mae o mor dda. Wrth wisgo fy het athro, dwi’n gweld sut y byddai hwn yn llyfr ardderchog i’w astudio yn yr Ysgol – digon o gyfleoedd i wneud gwaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, a’i gysylltu hefo gwaith celf yn efelychu’r arddull. Heb os, mae hwn yn ychwanegiad pwysig i’r stôr o lyfrau am argyfwng amgylcheddol yr oes sydd ohoni. Dwi ond yn gobeithio y bydd y llyfr yn ysbrydoli ‘arwyr amgylcheddol’ y dyfodol i daclo’r llanast mae ein cenhedlaeth ni wedi ei greu! *cywilydd* Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: Mehefin 2022 Pris: £6.95 LLYFRAU ERAILL YN SÔN AM LYGREDD PLASTIG: Adolygiad ar ein gwefan: https://www.sonamlyfra.cymru/post/pwy-sy-wedi-llyncu-ll%C5%B7r-sarah-roberts-adds-gwynne-williams
- Sawl Bwci Bo? - Joanna Davies a Steven Goldstone
*For English review, see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 5+ (awgrym) oed diddordeb: 0-5 Genre: #blynyddoeddcynnar #dwyieithog #cyfri #rhifau Anghofiwch y Minions, achos mae’r bwci bo’s wedi cyrraedd! Hwn yw’r llyfr slic a thrawiadol gan y tîm tu ôl i Joey Bananas Handmade. Hwn fydd yr unig lyfr fydd angen arnoch er mwyn dysgu sut i gyfri. Os nad ydach chi’n gyfarwydd a’r angenfilod bach drygionus, ewch i wefan https://www.joeybananashandmade.co.uk/ i gael cipolwg ar eu casgliad o nwyddau lliwgar ac eco-gyfeillgar. Y tro hwn, mae’r awdur, Joanna Davies, a Steven Goldstone, y dylunydd wedi troi eu llaw at lyfr dwyieithog sy’n helpu plant bach i gyfri. Pwy ddywedodd fod dysgu’n gorfod bod yn waith caled? Cewch ddigon o hwyl yn dysgu i gyfri at ddeg gyda’r creaduriaid bach doniol a blewog. Ar ôl mynd drwy’r llyfr a chyrraedd 10, mae ‘na gyfleoedd ymestyn hefyd fel cyfri’r coesau neu cyfri’n ôl i lawr. Digon o gyfleodd i roi’r sgiliau cyfri newydd ar waith. Mae’r darlunio yn fodern iawn, ac yn amlwg wedi cael ei wneud i safon uchel iawn gan ddylunydd proffesiynol. Ambell waith, fe gewch chi lyfrau sy’n reit brysur, ond dwi’n teimlo fod na gydbwysedd da yma, ac mae’r tudalennau yn syml, minimalist ac yn glir. A finna’n ymchwilio llyfrau dwyieithog ar hyn o bryd, tynnodd y llyfr yma fy sylw am y ffaith ei fod wedi gosod y testun yn glir yn y ddwy iaith (sydd ddim yn digwydd bob amser). And don’t just take it from me - mae’n raid fod elusen BookTrust yn hoff o’r bwci bo’s hefyd, achos cafodd y llyfr ei ddewis i fod yn rhan o gynllun ‘Dechrau Da’ sy’n rhoi llyfrau am ddim i bob plentyn 2-3 oed yng Nghymru. Heblaw am y ffaith fod dros 30,000 o gopïau wedi cael eu printio (sy’n dipyn o gamp, chware teg), oeddech chi’n gwybod mai hwn oedd y llyfr gwreiddiol Cymraeg cyntaf i gael ei ddewis i fod ar y cynllun ers... fel... erioed! Cŵl de! Crynodeb: · Llyfr dysgu i gyfri at 10 · Lliwgar, modern a slic · Llyfr sy’n odli Cyhoeddwr: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £6.99 GWEITHGAREDDAU AM DDIM GAN ATEBOL: LLIWIO: https://80720c4558f091813bd2.b-cdn.net/wp-content/uploads/Documents/Sawl%20Bwci%20Bo%20-%20How%20Many%20Bwci%20Bos%20-%20Lliwio.pdf FFEINDIO LOLIPOPS: https://80720c4558f091813bd2.b-cdn.net/wp-content/uploads/Documents/Sawl%20Bwci%20Bo%20-%20How%20Many%20Bwci%20Bos%20-%20Lollipops.pdf DARLLENIAD O'R STORI (gwefan BookTrust) https://soundcloud.com/booktrust/sawl-bwci-bo-how-many-bwci-bo
- Oes yr Eira- Elidir Jones a Huw Aaron
For English review, see language toggle switch. (awgrym) oed diddordeb: 11+ (awgrym) oed darllen: 13+ Genre: #ffantasiuchel #epig #gwreiddiol #ffuglen #antur “Rhoddodd ei chorff un hyrddiad, ei phen yn cael ei daflu’n ôl. Yna gollyngodd ei gafael ar frys, gan ddisgyn ar ei chefn a brwydro’n flêr ar ei thraed. “Rhedwch!” sgrechiodd Amranwen gan ddiflannu i mewn i’r bryniau cyn gynted ag y medrai. “Rhedwch rŵan!” Yn ôl i fyd y Copa Coch... Os wnaethoch chi fwynhau Yr Horwth (enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020: categori Plant a Phobl Ifanc) a’r dilyniant, Melltith yn y Mynydd, mae’n gwneud synnwyr y byddwch chi’n cael eich plesio gan y trydydd ychwanegiad i gyfres Chwedlau’r Copa Coch, Oes yr Eira. Mae’n wahanol, ond yn gyfarwydd ’run pryd. Pwy di’r gynulleidfa? Os ’da chi’n anghyfarwydd â’r llyfrau, cyfres ffantasi epig/high fantasy Gymraeg ydi hon. , Yr amryddawn Elidir Jones ydi’r awdur, ac mae’r darluniau gan the one and only, Huw Aaron. Gan amlaf, mae’n well gen i beidio cymharu llyfrau Cymraeg â rhai Saesneg, ond er mwyn rhoi syniad o vibes y gyfres, mi faswn i’n dweud bod y gyfres yn ymdebygu i lyfrau The Hobbit a The Lord of the Rings, gyda llawer iawn o ddylanwadau amrywiol eraill yn y pair. Er bod ’na debygrwydd i waith Tolkein, mae ’na rywbeth Cymreig iawn am y llyfrau yma, sy’n eu gwneud nhw’n wahanol ac yn unigryw. Er bod gwefan Atebol yn nodi mai llyfrau i gynulleidfa 11-14+ yw’r rhain, dwi’n meddwl bod y ‘+’ yn bwysig iawn, achos mewn gwirionedd, does dim terfyn oedran ar gyfer pwy wnaiff fwynhau’r rhain. (Dwi’n 31, a dwi’n licio nhw). Mi faswn i’n dweud, fodd bynnag, o’u cymharu â llyfrau eraill ar gyfer yr oedran yma, fod yr iaith mymryn yn heriol. Mae dull ysgrifennu Elidir Jones yn raenus, ac er ei fod yn llifo’n naturiol, bydd angen darllenwr go hyderus i daclo rhai o’r geiriau yn y nofelau er mwyn ‘dallt y dalltings’, heb sôn am gael y stamina angenrheidiol i ddarllen nofelau reit swmpus a phrysur. Antur rhif 3: Oes yr Eira Y tro hwn, rydym yn gadael y Copa Coch ac yn mynd ar drywydd gwahanol, wrth i’r criw o arwyr deithio i Deyrnas gyfagos Bryn Hir. Ar ôl teithio yno ar gais arweinydd dinas Crug y Don, daw’r criw i sylweddoli’n fuan nad ydi pethau’n iawn ym Mryn Hir. Yn ôl y sôn, mae un o’r Duwiau wedi mynd yn wallgo ac wedi troi’r tywydd yn arf yn erbyn ei bobl. Who you gonna call pan mae ’na Dduw wedi mynd yn rhonco? Arwyr y Copa Coch siŵr iawn! Wrth ymchwilio’r dirgelwch, sylweddola’r arwyr nad yw pawb o reidrwydd yn dweud y gwir, ac efallai fod pobl Crug y Don yn cuddio rhywbeth. Dydi’r criw o arwyr erioed wedi wynebu cymaint o her. Sut yn union mae mynd ati i goncro Duw?! Os ydych am wybod pa gyfrinachau tywyll o’r gorffennol sy’n cuddio yn y cysgodion ewch i nôl copi. Erbyn hyn, y drydedd antur, rydym yn fwy cyfarwydd â’r cymeriadau a’u byd, ac mae’n teimlo fel bod yr awdur wedi dod i ryw fath o rythm wrth ysgrifennu ar eu cyfer. O’r diwedd, cawn weld datblygiadau yn y berthynas rhwng rhai o’r cymeriadau e.e. y will they/won’t they rhwng Nad a Sara. Wrth gwrs bod ’na le i ’chydig o ramant mewn nofelau ffantasi! Beth nesaf? Ar ddechrau’r stori, gofynnodd Ffion wrth Orig “fydda i rywfaint callach?” am beth ddigwyddodd i bentre’r Copa Coch (sydd bellach yn wag, gyda llaw). Chawn ni ddim atebion i hynny yn y gyfrol yma yn anffodus, ond mae’n edrych yn bur debyg y caiff hyn sylw yn y llyfr nesaf. Dwi, fel Ffion, yn ysu i gael gwybod beth aeth o’i le, a lle mae ein harwyr dewr ni erbyn hyn. Yn ôl Elidir, mae ganddo gynlluniau mawr ar gyfer y bydysawd y mae wedi ei greu ym myd chwedlonol y Copa Coch, a does dim prinder o gymeriadau a lleoliadau amrywiol i ysgrifennu amdanynt. Digon ar gyfer sawl nofel arall dduda i. Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.99 CANMOLIAETH I'R GYFRES
- Tyllau - Louis Sachar [addas. Ioan Kidd]
★Ar restr BBC Big Read Top 100★ (awgrym) oed darllen: 11+ (awgrym) oed diddordeb: 10+ Genre: #dirgel #ffuglen #antur #clasurmodern #magicalrealism Mae yna ambell i nofel sy’n serio ar y cof gan ddylanwadu ar y darllenydd. Un o’r rheiny yw Holes gan yr Americanwr Louis Sachar, teitl a bleidleisiwyd rai blynyddoedd yn ôl ymysg llyfrau dethol y BBC Big Read Top 100. ADOLYGIAD CATRIN DAFYDD Mae Stanley Yelnats wedi'i gyhuddo ar gam o ddwyn pâr o sgidiau. Oherwydd hyn, mae e’n cael ei anfon i Wersyll Glaslyn. Nid Stanley sydd ar fai, mae e a’i deulu wedi bod yn anlwcus ers blynyddoedd lawer. Ond, mae ymweliad â’r gwersyll rhyfedd hwn yn atgyfnerthu cymeriad Stanley ac yn newid ei fywyd am byth. Mae addasiad Ioan Kidd o nofel Louis Sachar yn dal sylw’r darllenydd o’r dechrau un. Mae’r dirgelwch a berthyn i Wersyll Glaslyn yn eich gyrru i wibio drwy’r penodau. Caiff y darllenydd gyfle i ddeall teithi meddwl y prif gymeriad ac ymdreiddio’n llwyr i’w fyd. Mae cyfosod realiti bob dydd a straeon swreal yn cynnig cydbwysedd braf i’r nofel. Yr hyn sydd fwyaf trawiadol am y nofel yw ei symlrwydd hi. Mae yma weledigaeth lân a thwt gydag uniongyrchedd y dweud yn taro dyn dro ar ôl tro. Mae’r stori'n dynn, yn debyg i hen alegorïau, ac eto’n gwbl fodern. Yn ddi-os, dyma nofel sy’n dangos datblygiad cymeriad, yn dangos mewn modd cynnil sut mae cyfeillgarwch yn cael ei ffurfio a sut mae modd gwneud y gorau o sefyllfa wael. Nofel sy’n tanlinellu anghyfiawnderau yn ogystal â dangos sut mae dycnwch a dyfalbarhad yn gallu sicrhau canlyniadau. Yn fwy na dim, er mai nofel gryno a phwrpasol yw hon, heb unrhyw emosiwn, bron; dyma lyfr fydd yn gadael ei ôl ar bob un darllenydd am ei fod yn cyffwrdd â’r gwirionedd. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. GWYBODAETH YCHWANEGOL GAN Y CYHOEDDWR: Twll o le! Wedi ei throsi i ffilm Disney a’i chyfieithu i nifer o ieithoedd, mae Gwasg Gomer newydd gyhoeddi Tyllau, y fersiwn Cymraeg gan Ioan Kidd. Texas chwilboeth ganol haf sbardunodd yr awdur i greu’r nofel hon nid sefyllfa, plot a chymeriadau arbennig. Yng ngeiriau Louis Sachar, mae’r lle fel uffern ar y ddaear ym mis Gorffennaf, felly dychmygwch balu twll yn yr haul tanbaid! Er y cefndir estron, syniad Gwersyll Glaslyn oedd y byddai bachgen drwg yn troi yn fachgen da wrth ei orfodi i wneud twll yn y ddaear bob dydd. Y bachgen dan sylw yn y nofel hon yw Stanley Yelnats ac mae ei deulu ef wedi bod yn anlwcus ers cenedlaethau. Dyw hi ddim yn syndod felly ei fod yn cael ei gyhuddo ar gam o ddwyn a’i ddanfon i Wersyll Glaslyn. Rhaid i’r bechgyn sydd yno balu twll bob dydd yn y pridd sych a chaled sydd ar wely llyn Glaslyn. Rhaid i’r twll fesur pum troedfedd o led a phum troedfedd o ddyfnder. ‘Adeiladu cymeriad’ yw’r nod yn ôl y Warden. Ond cyn hir, sylweddola Stanley fod llawer mwy i’w ddarganfod o dan yr wyneb. Goroesi yw’r prif thema ac fe blethir hanesion am gyn-deidiau’r prif gymeriad i’r nofel. Daw’r melltith a roddwyd ar y teulu hwn i’w uchafbwynt ganrif yn ddiweddarach yn hanes Stanley a Zero. Gall darllenwyr o bob oed gael eu llyncu i mewn i’r stori hon sy’n llawn cynnwrf, difrifoldeb a digrifwch wedi ei hadrodd mewn brawddegau byrion, bachog. Tan yn ddiweddar, roedd Ioan Kidd o Gaerdydd yn olygydd Ffeil, y rhaglen newyddion i blant ar S4C ac mae ef bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun. Tipyn o dasg felly oedd addasu’r nofel enwog hon i’r Gymraeg, sydd yn ôl un cylchgrawn yn “un o lyfrau gorau’r ddeng mlynedd diwethaf”. Byd lle mae cyfeillgarwch a chariad yn trechu popeth yw byd Tyllau, ond a fydd darllenwyr yn darganfod eu hunain a chanfod gwell byd wedi ei ddarllen? Pwy a ŵyr? Dyna ddirgelwch a grym nofel dda! Gwasg: Gomer@Lolfa Cyhoeddwyd: 2007 Pris: Gostyngiad i £2 ar Gwales (bargen!) https://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781843238409&tsid=9
- Cors Caron- Meleri Wyn James
*For English review, see language toggle switch* ♥Llyfr y Mis i Blant: Mehefin 2022♥ (awgrym) oed darllen: 11-14+ (awgrym) oed diddordeb:11+ Genre: #dirgel #ffuglen #gwreiddiol #antur Disgrifiad: Nofel ddirgelwch sy'n symud yn gyflym rhwng dau fyd, ac am berthyn, cariad a'r newid yn ein hagwedd at yr amgylchedd. ADOLYGIAD ELIN WILLIAMS (14 oed) Nofel fyrlymus yw hon, sy'n adrodd stori merch bymtheg oed o'r enw Caron a aiff ar goll ar Gors Caron yng Ngheredigion. Mae hi'n dioddef o epilepsi ond nid yw hi'n gweld hyn fel gwendid. I'r gwrthwyneb – mae'n rhywbeth sy'n ei diffinio hi ac yn ei gwneud hi'n arbennig. Y gors yw dihangfa Caron pan nad yw bywyd yn ei thrin hi'n garedig, ac mae'n adnabod pob rhan o'r tir fel cledr ei llaw. Dyma sy'n achosi'r penbleth mwyaf i'w thad, Rhys, pan nad yw Caron yn dychwelyd adre ar gyfer ei swper na chwaith yn ateb ei ffôn fach. Mae Rhys yn gweithio ar y gors ac yn rhannu'r un agwedd â'i ferch amdani. Ar y pwynt hwn yn y stori cawn wybod bod corff wedi ei ddarganfod ar dir y gors, corff sydd wedi bod yno ers canrifoedd lawer. Wrth i'r stori fynd yn ei blaen, a Caron yn dal ar goll, ry'n ni'n dysgu am fywyd y ferch yn ei harddegau trwy gyfrwng dryswch ei theulu a'i ffrindiau, a'u hymdrechion nhw i ddod o hyd iddi. Yma, mae'r nofel yn ymrin ag agweddau o fywyd bob dydd sy'n cael effaith ar bawb – ffrindiau, yr ysgol, cariadon, tyfu i fyny ag un rhiant, y cyflwr epilepsi a'i heriau, yn ogystal â'r broblem o newid hinsawdd a'r angen i ddiogelu natur ac amddiffyn Cors Caron. Yn y cyfamser, mae Caron ar antur. Cliwiau yn unig sy'n awgrymu ei bod hi wedi teithio yn ôl mewn amser – i gyfnod diwedd y 19eg ganrif pan oedd bwriad i osod rheilffordd yn ardal Tregaron a fyddai'n golygu dinistrio'r gors. Yn y byd rhyfedd, cyfochrog yma mae Caron yn cwrdd â Twm, bachgen gweithgar a thriw sy'n anghytuno'n chwyrn â'r datblygiadau, a daw tensiwn i'r stori am fod y bobl leol yn dibynnu ar y gwaith a ddaw wrth adeiladu'r lein am eu bywoliaeth. Wrth i Twm a'i deulu gynnig llety iddi a gofalu amdani, sylweddola Caron mai eu dyletswydd nhw yw achub y gors a newid cwrs y dyfodol ... ond ai hunllef yw'r cyfan, a beth yw rôl y corff ddarganfuwyd yn y gors yn hyn i gyd? Rwy'n hoff iawn o ddyluniad clawr y llyfr, ac mae'r lluniau a'r delweddau lliwgar yn cyfleu bywyd gwyllt y gors ond hefyd dryswch Caron. Heb os, mae'r awdur wedi llwyddo i adrodd stori dda, amlhaenog – mae'n hwylus i'w darllen, mae'n gafael o'r dudalen gyntaf, ac mae'r ddeialog yn cynnwys iaith lafar ardal Tregaron sy'n gwneud y cymeriadau yn rhai realistig. Gyda'r Eisteddfod yn dod i ardal y stori, darllenwch hon, da chi! Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.99
- Y Mamoth Mawr - David Walliams [addas. Dewi Wyn Williams]
*For English review, see toggle switch* (awgrym) oed darllen: 9-14 (awgrym) oed didordeb: 7+ Genre: #ffuglen #doniol #hanesyddol Gwybodaeth am y llyfr: Addasiad Cymraeg gan Dewi Wyn Williams o The Ice Monster gan David Walliams. Pan fo Elsi yn clywed bod mamoth o Begwn y Gogledd yn crwydro strydoedd y dre, mae hi'n benderfynol o ddarganfod mwy! LLUNDAIN 1899 - Stori am berthynas plentyn amddifad deng mlwydd oed a mamoth deng mil o flynyddoedd oed ... Plentyn amddifad sy’n byw ar strydoedd Llundain yn Oes Fictoria yw Elsi. Pan mae’n clywed am y Mamoth Mawr – creadur gwlanog a ddarganfuwyd ym Mhegwn y Gogledd – mae hi’n benderfynol o ddarganfod mwy amdano ... Yn fuan, daw Elsi wyneb yn wyneb â’r mamoth hynafol, a dyma gychwyn antur fythgofiadwy – o Lundain, ar draws y moroedd mawr, i Begwn y Gogledd. Mae’r stori gyffrous hon yn dangos bod arwyr i’w cael ym mhob lliw a llun! ADOLYGIAD GAN NEL GUEST, YSGOL Y CREUDDYN Rydw i Nel wedi adolygu’r llyfr yma ar ôl i fy Athrawes Gymraeg Mrs Sioned Bevan ei argymell. Mae’r llyfr yn sôn am hogan ifanc amddifad o’r enw Elsi sydd yn byw ar strydoedd Llundain. Mae’n clywed pobl yn siarad am y Mamoth Mawr ac eisiau chwilota am fwy o wybodaeth. Yn y diwedd mae Elsi yn dod o hyd iddo ac mae rhywbeth anobeithiol yn digwydd.. Fy hoff ddarn o’r llyfr yw pan roedd hi’n bwrw glaw ac wnaeth Elsi ddringo peipen ddŵr i do yr amgueddfa ac roedd y dorf i gyd yn clapio a llongyfarch, dyna pryd wnes i fwynhau y llyfr mwyaf gan ei fod yn brofiad hwyliog. Mae’n ymddangos i mi mai fy hoff gymeriad oedd Dot y ddynes glanhau’r amgueddfa gan ei bod hi wedi ffeindio Elsi yn y cwpwrdd ac heb alw’r gwarchodwyr ac yn lle mi wnaeth hi wneud yn siŵr bod Elsi yn iawn ac edrych ar ei hol. Mi wnaeth y llyfr gadw’n ddiddorol gan fy mod eisiau gwybod beth oedd yn digwydd yn y diwedd gan ei fod yn stori mor anturus. Yn fy marn i hoffais y llyfr llawer iawn ac roeddwn yn falch ei fod yn yr iaith Gymraeg felly roedd o’n haws i’w ddeall. Credaf os ydych yn chwilio am lyfr hwylus, anturus, cyffrous a doniol dyma’r llyfr i chi!! Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2020 Pris: £9.99
- Siani Pob Man - Valériane Leblond a Morfudd Bevan
*For English, see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 6+ (awgrym) oed diddordeb: 4+ Genre: #hanes #lleol #Cymru Dyma lyfr newydd gan Valériane Leblond. Efallai eich bod chi’n gyfarwydd â gwaith celf Valériane ar ôl darllen ei llyfr hyfryd Y Cwilt. Mae’r llyfr yma, Siani Pob Man, yr un mor drawiadol ac yn nodweddiadol o waith celf gain a sylwgar Valériane. Mae lliwiau’r gynfas yn ein hatgoffa’n gryf o dywod y traeth, ac fe gewch chi wybodaeth ddiddorol yng nghefn y llyfr am y broses o beintio’r darluniau. Awdur y testun yw Morfudd Bevan, curadur yn y Llyfrgell Genedlaethol, sydd â chysylltiadau a'r ardal. Cyn darllen y stori, mi wnâi gyfaddef, wnes i ddim sylweddoli mai stori am hanes person go iawn oedd hon. Roedd Jane Leonard, neu ‘Siani Bob Man’ fel yr oedd hi’n cael ei hadnabod, yn gymeriad adnabyddus o ardal Cei Bach, Ceredigion ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn aml iawn, byddai Siani i’w gweld yn eistedd tu allan i’w bwthyn gwyngalchog ger y traeth, yn amlach na pheidio, gyda’i ieir. Yn dipyn o gymeriad ecsentrig, daeth yn boblogaidd gydag ymwelwyr ac yn ôl y sôn, byddai’n canu rhigymau neu’n dweud ffortiwn yr ymwelwyr, yn ogystal â gwerthu cardiau post. Mae hi mor bwysig ein bod ni’n cofio unigolion hynod fel Siani Pob Man, ac maen nhw’n rhan bwysig o’n hanes lleol. Fedra i feddwl am ambell i gymeriad lleol o fy ardal i sydd bellach wedi’n gadael ni, a does neb fawr callach eu bod nhw erioed wedi bod. Dwi’n falch felly, bod yr awdur wedi penderfynu rhannu’r stori yma, i sicrhau bod stori Siani Pob Man yn parhau drwy’r oesoedd wrth i ni ddarllen amdani. Diolch i waith ymchwil dyfal yr awdur a gwaith celf Valériane sy’n dod â’r stori’n fyw, mae hanes Siani’n cael ei rannu gyda gweddill Cymru, tu hwnt i ardal Ceredigion. Yn sicr, mae darllen y llyfr yn esgus da i ymweld â.Chei Newydd tro nesaf dwi’n yr ardal. Gwasg: Y Lolfa Fformat: Clawr Caled Cyhoeddwyd: 2022 Pris: £7.99
- Dirgelwch y Dieithryn - Elgan Philip Davies
*For English see language toggle switch* (awgrym) oed darllen: 8+ (awgrym) oed diddordeb: 7+ Disgrifiad Gwales Pan mae Iwan, Mair a’i ffrindiau’n gweld dyn dieithr, blin yn y tŷ gwag wrth y parc maen nhw’n gwybod yn syth beth yw e – lleidr! Eu tasg nhw dros wyliau’r haf yw ei ddal. Rhaid cael cynllun, a hynny ar unwaith – ymunwch â’r ffrindiau yn eu hantur gyffrous! ADOLYGIAD GAN ELA GRIFFITH, BLWYDDYN 9, YSGOL Y CREUDDYN Mae’r llyfr Dirgelwch y Dieithryn gan Elgan Philip Davies yn llyfr gwych llawn antur a hwyl. Mae’r llyfr yn wych i deuluoedd neu i ddarllen yn annibynnol . Yn fy marn i byddwn yn argymell ar gyfer yr oedran 6 - 11 oed oherwydd mae’n fyr ac yn hawdd i ddarllen. Mae’r stori wedi cael ei lleoli yn ardd un o’r ffrindiau ac yn dilyn Iwan, Mair a’i ffrindiau wrth iddynt gael profiad nad ydynt wedi ei gael o’r blaen. Mae dyn newydd dieithr wedi cyrraedd, ond mae yna rhywbeth amheus ynghylch y dyn yma. Ydy o’n leidr ? Ydy o’n droseddwr ? Ydy o’n fôr-leidr? Eu tasg nhw yw ei ganfod ac ei ddal! Fy hoff gymeriad yw Mair oherwydd mae hi yn gymeriad tebyg i fi. Mae hi’n hoff iawn o antur ac yn benderfynol a phendant. Mae’n helpu Iwan a’i ffrindiau drio dal y dieithryn arswydus a chadw pawb yn saff! Yr unig beth negyddol am y llyfr yw dechrau deall y stori ar y cychwyn. Fel disgybl ym mlwyddyn 9 roeddwn yn teimlo fod y llyfr yn eithaf ifanc. Ond pan rydych yn darllen fyddwch yn teimlo fel un o’r ffrindiau ac ar antur eich hun i geisio dal y dieithryn. Felly darllenwch ‘Dirgelwch Y Dieithryn’ ac ymunwch hefo Iwan, Mair a’u ffrindiau ar eu hantur! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 (1993) Cyfres: Gorau'r Goreuon Pris: £5.99 ISBN: 9781800991378 Beth yw cyfres Gorau'r Goreuon? GORAU’R GOREUON: CYFLWYNO TAIR STORI O’R GORFFENNOL I GYNULLEIDFAOEDD IFANC 2021 Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio tri theitl cyntaf Gorau’r Goreuon, detholiad o lyfrau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bwriad Gorau’r Goreuon yw cyflwyno detholiad o lyfrau a ystyrir yn glasuron ym maes llenyddiaeth plant a phobl ifanc i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr. Erthygl llawn: https://llyfrau.cymru/goraur-goreuon-cyflwyno-tair-stori-or-gorffennol/ MWY O LYFRAU YNG NGHYFRES GORAU'R GOREUON...
- Yn gynnar yn y bore - Lawrence Schimel ac Elīna Brasliņa [Addas. Mari Siôn ac Elin Haf]
Genre: #amrywiaeth #teulu #iechydalles Oed diddordeb: 0-3 Llyfrau syml a lliwgar sy’n cyfleu amrywiaeth ein teuluoedd. Meddwl oeddwn i faswn i’n tynnu’ch sylw chi at y llyfrau bwrdd (boardbooks) bach ciwt yma i blant ifanc dan 3. Wedi cael eu cyfieithu o’r Sbaeneg maen nhw ac roeddwn i’n meddwl eu bod nhw’n enghreifftiau gwych o amrywiaeth yn ein llenyddiaeth plant. Mae un llyfr ar gyfer deffro’r bore, ac mae’r llall ar gyfer amser mynd i’r gwely. Yn Yn gynnar yn y bore, fe welwn fachgen bach yn deffro cyn ei rieni (sefyllfa hen gyfarwydd dwi’n siŵr!) ac fe ddilynwn y bachgen, a’i gath yn ystod y morning routine. Yn yr ail lyfr, Dim Chwarae, Mot! Mae’r ferch a’i chi yn llawn egni, er ei bod hi’n hwyr. Llawer gwell ganddynt chwarae ‘na mynd i’r gwely. Mae’r llyfr yn cynnwys parau rhieni un-rhyw ac fe gaiff hyn ei gynnwys yn ddiffwdan ac yn naturiol fel rhan o’r stori. Grêt! Prin fod angen sôn am y peth neu dynnu sylw iddo o gwbl, oni bai mod i heb ei weld o’r blaen mewn llyfr Cymraeg. Da fod yr amrywiaeth yng Nghymru gyfoes yn cael ei adlewyrchu yn ein llyfrau a bod hyn yn normaleiddio’r syniad o ‘mami a mami’ neu ‘dadi a dadi’ o’r crud. Ar gael yn Saesneg hefyd o dan y teitlau Early One Morning a Bedtime, Not Playtime! Gwasg: Canolfan Peniairth Pris: £5.99 https://siop.peniarth.cymru/index.php?route=product/product&product_id=445