Chwilio
306 items found for ""
- Gwil Garw a'r Carchar Crisial - Huw Aaron
*For English version, use language toggle switch on top of page* Oed diddordeb: 5+ Oed darllen: 6+ Argymhelliad oedran y cyhoeddwr: 7-12 Synopsis: Cyn hanes, cyn y chwedlau, roedd...GWIL GARW! Ei swydd: i gadw trefn ar greaduriaid hudolus y Sw Angenfilod. Y broblem: Does dim diddordeb o gwbl gyda Gwil mewn heddwch. Wedi i'w dymer a'i chwilfrydedd roi'r byd mewn perygl, mae'n rhaid i Gwil, rywsut, ffeindio ffordd i wella pethau, mewn antur epig, llawn hiwmor a rhyfeddodau. Cicio yn gynta', gofyn cwestiynau wedyn! Dyna 'di problem Gwil Garw, ond fedrwch chi'm helpu ond licio'r cythral bach! Gwil Garw a’r Carchar Crisial Ella’ch bod chi’n cofio ei weld gyntaf yng nghylchgrawn Mellten, ond nawr, mae Gwil Garw wedi cael ei ‘lyfr’ ei hun sy’n dod â’r anturiaethau at ei gilydd! Nofel graffig yw hon (sy’n croesi llyfr ffuglen gyda chomig). A be di'r canlyniad ‘da chi’n gofyn? Ffrwydrad o liwiau a chyffro sy’n llawn “FSSHHWMS,” “SBLWSHYS,” “CROMPS” a “DWMFFS!” Casglwr angenfilod dewr (a ‘chydig bach yn nyts) o oes y Celtiaid yw Gwil Garw, sy’n cael ei yrru ar bob math o anturiaethau gan ei fos, Hemi ap Heilyn, perchennog sw Y Bwystfilariwm! (dim gwobr am ddyfalu beth sydd yno!) Caiff Gwil nifer o run-ins gyda sawl creadur peryglus, ond tydyn nhw’n poeni dim arno! Ar un o’i helfeydd, daw ar draws crisial arbennig (a pheryglus) iawn, ac mae rhywun wedi rhoi swyn pwerus arni i sicrhau bod beth bynnag sydd tu fewn yn aros yno! O diar mi, gobeithio fod rhywun wedi rhybuddio Gwil Garw am hyn cyn ei bod hi’n rhy hwyr?! Mae’r llyfr ei hun, gan gynnwys y clawr a’r tudalennau, yn amlwg o ansawdd da iawn. Peth od i’w ddweud ella, ond mae’n teimlo’n satisfying iawn i'w ddal, heb sôn am ei ddarllen! Mi geith hwn pride of place ar fy silff yn Sôn am Lyfra HQ! Hwre! Mae gynon ni nofel graffig yn y Gymraeg! Un peth mae’n RHAID ei bwysleisio - mae comics yn awesome! Wyddoch chi fod ’na lwyth o oedolion yn hoffi eu darllen hefyd, y ogystal â phlant? Ar ôl nofelau ffuglen a llyfrau ffeithiol, cylchgronau yw’r dewis mwyaf poblogaidd o ddarllen. Felly, cofiwch, mae darllen comics YN cyfri fel darllen ‘go-iawn’ ac mae’n bryd i’r stigma o’u cwmpas ddod i ben! Mae nofelau graffig fel hybrid o lyfr a comig, gyda thipyn o waith darllen a dweud y gwir, ond y peth da yw ei fod yn cael ei dorri i mewn i ddarnau llai. Yn wir, mae’n brofiad darllen gwahanol - ond diddorol - iawn. Os ‘da chi ddim fel arfer yn darllen yn Gymraeg, neu ddim yn keen ar nofelau, beth am roi cynnig ar nofel graffig fel Gwil Garw a’r Carchar Crisial? Gyda llaw, mae’r ddau lyfr arall yn y gyfres yn werth eu darllen hefyd! #mwyplîs Waeth i mi fod yn hollol onest, doedd gen i fawr o fynadd darllen nofelau pan oeddwn i’n iau, ond mi faswn i wedi LLYNCU hwn!!! (btw – dwi wrth fy modd yn darllen erbyn rŵan!) Mwy o blant yn darllen ers lockdown Diddorol oedd darllen adroddiad gan y National Literacy Trust, sef Children and young people’s reading engagement in 2021. [yma] Yn ôl hwn, mae mwy o blant yn mwynhau darllen na chyn y cyfnod clo (cynnydd o 17%). Bosib fod hyn achos eu bod wedi cael mwy o lonydd ac amser sbâr adref i ddarllen ‘er pleser.’ Tra bod hyn yn newyddion da, mae’n bosib mai effaith dros dro yw hyn a rhaid i ni beidio gorffwys ar ein rhwyfau yn ein hymdrechion i gael mwy o blant yn darllen (yn enwedig bechgyn!) Dyna pam dwi’n hapus iawn i weld mwy o amrywiaeth yn y ddarpariaeth ar gyfer darllenwyr 7-12 oed... Gwasg: Llyfrau Broga Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781914303036 MWY YN Y GYFRES..
- Rhedeg yn gynt na'r cleddyfau - Myrddin ap Dafydd
*For English review, please change language toggle switch on top of page* Oed diddordeb: 15+ / oedolion Oed darllen: 12+ (darllenwyr aeddfed) *cyfeiriadau anuniongyrchol at ymosodiadau rhywiol a thrais “Doedd yr Uwch-gapten William Parlby ddim mewn tymer rhy dda. A dweud y gwir, roedd croen ei din ar ei dalcen ers ben bore.” Chwarae teg iddyn nhw, mae Gwasg Carreg Gwalch wedi bod yn brysur dros y blynyddoedd diwethaf yn rhoi lot o sylw i gynhyrchu trysorfa o lyfrau yn ymwneud â hanes Cymru dros wahanol gyfnodau. Mae hyn yn beth da iawn o ystyried y pwyslais fydd ar ddysgu am hanes a thraddodiadau ein gwlad yn y Cwricwlwm Newydd i Gymru. Mynd yn ôl i Oes Fictoria ydan ni’r tro hwn, i gyfnod terfysgoedd Beca yng ngorllewin a chanolbarth Cymru. Nid dyma’r tro cyntaf i ni ymweld â’r cyfnod cythryblus yma mewn llenyddiaeth i blant a phobl ifanc, gan i’r Brenin ei hun, T. Llew Jones, gyhoeddi nofel am y cyfnod ym 1974 o dan y teitl Cri’r Dylluan. Roedd honno’n chwip o nofel, felly tipyn o gystadleuaeth! Cefndir Hanesyddol Sydyn Heb fynd i ormod o fanylder a rhag ofn nad ydach chi’n gyfarwydd, dyma adeg lle'r oedd ffermwyr a gwerinwyr cefn gwlad Cymru yn gwrthryfela ac yn protestio yn erbyn tollau afresymol ar hyd lonydd Cymru. Yn y 1830au hwyr a’r 1840au cynnar, roedd gwerin bobl Cymru yn dlawd iawn. Roedd cyfres o gynaeafau gwael wedi arwain at gynnydd aruthrol yng nghostau byw ac roedd bywyd yn galed iawn. Ar ben hyn oll, roedd disgwyl iddynt dalu tollau uchel er mwyn cael defnyddio’r ffyrdd i symud nwyddau ac ati. Teimla’r ffermwyr eu bod yn cael eu trin yn annheg a’u gormesu, felly dyma fynd ati i weithredu. Roedden nhw’n mynd allan fin nos gan bardduo’u hwynebau a gwisgo dillad merched er mwyn llosgi’r tollbyrth, oedd yn arwydd o orthrwm, i’r llawr. beth sy'n digwydd? (heb sboilars) Mae’r dragŵns (milwyr) wedi cyrraedd ardal Sir Gaerfyrddin oherwydd yr anghydfod ynglŷn â’r protestiadau. Wrth i’r ffermwyr gyrraedd pen eu tennyn, mae mwy o’r tollbyrth yn cael eu chwalu a’u llosgi ac mae’r Cyrnol am eu gwaed. Mae’r milwr yno’n bla er mwyn dal criw ‘Beca’ in flagrante a rhoi stop arnynt unwaith ac am byth, ond mae Beca a’i ‘merched’, gyda’u rhwydwaith o negeseuon cudd, gam ar y blaen bob tro. Yn y stori, down i adnabod nifer o gymeriadau lleol fel teulu’r gof, teulu’r sipsiwn a theuluoedd y tafarndai. Mae’n amlwg fod pawb yn gwybod rhywbeth, ond does neb yn siarad am Beca. Canolbwyntia’r nofel ar Elin, merch pymtheg oed, sy’n byw yn Nhafarn y Wawr, Llangadog. Caiff ei thynnu i mewn i helynt y terfysg, ac mae ei bywyd mewn perygl o ganlyniad - yn llythrennol, bydd rhaid iddi redeg yn gynt na’r cleddyfau yn wir! Yng nghanol y cyffro, daw Elin i wybod mwy am ddigwyddiadau tywyll y gorffennol, am ei thad a’i mam, ac am newyddion a all chwalu ei bywyd teuluol yn llwyr. Daw i ddysgu fod hyd yn oed rhai o bobl fwyaf ‘parchus’ cymdeithas yn llawn cyfrinachau tywyll... I gloi Ella fod fy niffiniad i o ‘lyfr i blant’ yn wahanol i’r cyhoeddwr, ond faswn i ddim yn argymell y stori yma i blant cynradd, yn bennaf oherwydd bod y darllen yn rhy heriol i’r mwyafrif yn ôl fy mhrofiad i. ‘8-12 a hŷn’ medden nhw – dwi’n cytuno gyda’r darn olaf, ac yn meddwl mai cynulleidfa 15+ fyddai’n gwerthfawrogi’r nofel yma fwyaf er mwyn deall y cyd-destun yn llawn. A minnau’n reit hoff o hanes, dwi wedi bod yn llowcio nofelau ffuglen hanesyddol Myrddin ap Dafydd yn y blynyddoedd diwethaf gan fod sylw’r awdur at y ffeithiau hanesyddol yn drwyadl. Dwi’n hoff iawn o’r darnau yng nghefn y llyfr sy’n sôn am y broses/sbardun o greu’r stori. Er hyn, rhaid i mi gyfaddef, wnes i ddim mwynhau hon cymaint â Drws Du yn Nhonypandy a Y Goron yn y Chwarel. Doedd y stori ddim yn fy nghydio cystal am ryw reswm. Ella mod i'n gweld y plot yn araf yn datblygu. Wedi dweud hynny, mae nifer o’r negeseuon yn y llyfr yn berthnasol iawn i ni heddiw: “Ond alli di ddim osgoi mai politics yw gwreiddyn y drwg, bachan!” Dwi’n siŵr y byddai modd cael trafodaeth werthfawr yn y dosbarth ar ôl y darllen a chymharu rhai o anghyfiawnderau’r cyfnod gyda’n sefyllfa ni yng Nghymru heddiw. O ystyried y cynnydd diweddar mewn costau byw, y driniaeth ddirmygus o Gymru sy’n dod o gyfeiriad San Steffan a’r rhethreg ddiddiwedd am ‘nerth yr undeb’, dwi’n gobeithio y gwnawn ni’r Cymry cyffredin ffeindio ‘ysbryd Beca’ unwaith eto, er mwyn cwffio yn erbyn yr holl anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau (ond ella mewn ffordd wahanol i wisgo peisiau a llosgi adeiladau erbyn hyn!) Cân dda gan Tecwyn Ifan! Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £8 ISBN: 978-1-84527-820-5
- Mae pob uncorn yn hoffi enfys...Tybed? [Emma Adams a Mike Byrne, addas. Gwynne Williams]
*For English review, see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 5+ Oed diddordeb: 3+ Lluniau: Mike Byrne Fformat: Clawr Caled "Dwi ddim yn hoffi gwenu, dwi'n hoffi gwgu'n gas. Dwi ddim yn hoffi pethe neis -'sdim ots beth ydy'w blas." Be sy’n dod i’ch pen wrth i chi feddwl am unicorns? (neu uncyrn yn Gymraeg!) Yn aml iawn, maen nhw’n cael eu cysylltu gyda phethau pinc, hudolus, lliwgar, fflwfflyd, sbarcli ac wrth gwrs, fedrwn ni ddim anghofio’r pŵ amryliw! Mae uncyrn wedi bod yn boblogaidd ar hyd yr oesoedd, ac maen nhw’n ymddangos yn aml yn pop culture ac yn dipyn bach o craze hefo plant, yn enwedig genethod ifanc. Efallai eich bod chi’n meddwl bod chi’n gwybod sut mae uncyrn i fod i edrych, ond ‘da chi ‘rioed wedi cyfarfod yr un yma! Byddwch yn barod am sioc. Dyma uncorn hollol wahanol – welsoch chi ‘rioed un mor bad**s a hwn yn eich bywyd! Mae o’n yn dipyn o rebal yn ôl y golwg, a does dim ganddo i’w ddweud wrth pŵ bob lliw! Dyma lyfr sy’n ffrwydrad o liwiau, ac mae’r odl yn ddoniol iawn wrth i’r uncorn restru’r holl bethau “neis” tydi o ddim yn licio. Yn wir, mae gan yr uncorn yma ffordd unigryw iawn o wneud pethau ac mae’n ddigon hapus a hyderus i wneud pethau’n wahanol. Dwi’n licio sut mae’r awdur yn gwneud hwyl am ben y ddelwedd sterotypical o uncyrn ac yn troi’r syniad o ‘sut mae uncyrn i fod’ ar ei ben, ac yn herio’r drefn. Yn hytrach na phethau pinc a fflwfflyd, mae’n well gan hwn/hon wisgo dillad emo tywyll, ac yn lle canu caneuon carioci, mae’n well ganddo/hi ganu caneuon roc! A pham lai? Pwy sydd ddim yn licio dipyn bach o AC/DC neu Led Zep? Er yr hiwmor a’r tynnu coes, mae neges hollbwysig wrth wraidd y llyfr yma - mae pawb yn wahanol ac yn sbeshal, a does dim o’i le â hynny. Mae lle i ni gyd yn y byd, a dyliwn ni fod yn fwy parod i dderbyn ein gilydd a chlodfori’r amrywiaeth. Y brif neges yma yw byddwch yn hapus yn eich croen eich hun. Wedi ei ddarllen, tydw i dal ddim yn hollol siŵr os dwi’n licio teitl y llyfr. Ydio’n gwneud synnwyr yn y Gymraeg ‘dwa? Swnio dipyn bach yn chwithig i mi. Mae’r iaith yn ddeheuol, ond yn gwbl ddealladwy – hyd yn oed i Gog fel fi. Ar y cyfan, 7.5 allan o 10. Gwasg: Dref Wen Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781784231774
- Y Dyn Dweud Drefn [yn chwarae pêl-droed] - Lleucu Fflyr Lynch
*For English review, see language toggle switch on top of webpage* Oed diddordeb: 3-8 oed Oed darllen: 5+ Lluniau: Gwen Millward Mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei ôl, a’r bêl gron sy’n mynd a’i fryd y tro hwn. Fatha nifer ohonan ni, mae o’n meddwl ei fod o dipyn gwell am chwarae pêl-droed nac ydi o mewn gwirionedd! Yn amlwg tydi o heb newid dim, achos mae o’n fwy cranky nag erioed! Hwn yw’r trydydd llyfr yn y gyfres hoffus gan Lleucu Fflur Lynch, gyda lluniau gan Gwen Millward. Mae ei lluniau’n ysgafn ac yn hwyliog, ac yn cyfleu ystumiau’r cymeriadau’n dda. Gyda llaw, welsoch chi gi mwy ciwt ’rioed? Dwi’n licio’r gyfres yma. I feddwl bod y Dyn Dweud Drefn yn gallu bod yn hen foi bach pigog, fedrai’m helpu ond ei licio. Mae o fel petai o’n fy atogffa o rywun, ond fedra i ddim meddwl yn union pwy. Cyfuniad o wahanol bobl ella - cymeriadau sarrug fatha Mr. Wilson, y dyn drws nesa o Dennis the Menace, Victor Meldrew o’r sitcom One Foot in the Grave, a thipyn bach o Gru o Despicable Me hefyd. Un peth sy’n siŵr, mae o’n hynod o lwcus cael cyfaill mor ffyddlon a chlên â’r hen gi bach druan. Hyd yn oed pan mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei hwyliau gwaethaf (ac yn bod reit hyll weithia) mae Ci Bach wastad yno i helpu. Mae’n debyg fod y Dyn Dweud Drefn yn fwy o arddwr nac ydi o o beldroediwr, achos tydi o’n cael fawr o lwc gyda’r bêl nes i’r ci bach roi help llaw. Tybed a fydd y ci bach yn gallu gwireddu breuddwyd y Dyn Dweud Drefn o sgorio gôl y ganrif? Fydd ’na wên ar ei wyneb yntau dal i ddwrdio fydd o erbyn diwedd y stori? Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £4.95 ISBN: 9781845278243 HEFYD YN Y GYFRES... AM YR AWDUR Mae LLEUCU LYNCH yn enedigol o ardal Llangwm. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn 2017. Fel rhan o’i chwrs dilynodd fodiwl Ysgrifennu Creadigol, ble lluniodd bortffolio o lenyddiaeth i blant, ac yn portffolio hwnnw y gwelodd Y Dyn Dweud Drefn olau dydd am y tro cyntaf. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Swyddog y Wasg gydag S4C yng Nghaernarfon.
- Y Disgo Dolig Dwl - Gruffudd Owen
*For English review, select language toggle switch on top of webpage Gwaith Celf: Huw Aaron Oed diddordeb: 3+ Oed darllen: 7/8 Wel, mae bwrlwm a chyffro’r Nadolig wedi bod am flwyddyn arall, gan adael dim byd ond y January Blues felltith ’na. Ond peidiwch â phoeni, os ’di’r felan arnoch chi, fe allwch chi ailgydio yn hwyl yr ŵyl drwy fachu copi o Y Disco Dolig Dwl, gan Gruffudd Owen a Huw Aaron (Gwasg Carreg Gwalch.) Fel ‘da chi’n gwybod, ‘does ‘na neb yn gweithio’n galetach na Siôn Corn, Mrs Corn, y ceirw a’r corachod dros y flwyddyn. Ar ôl chwysu chwartiau’n adeiladu presanta drwy'r flwyddyn a’u deliverio nhw i gyd i mewn un noson - tydi hi ond yn iawn fod nhw’n cal clamp o office party wedyn i ddathlu! Does ‘na ddim covid-19 yng Ngwlad yr ia ‘da chi’n gweld, felly tydi cael parti mawr ddim yn dabŵ yn fanno! Dwi’n cofio cael discos gwirion yn y lounge hefo fy chwaer ‘stalwm, yn dawnsio i finyls, cd’s a chasetiau dad ar yr hi-fi. Weithia, fyddai’n dal i wneud hynny heddiw- jest sticio miwsig cheesy fatha Steps neu Abba ymlaen a dawnsio fel peth gwirion am ddim rheswm o gwbl! Rhowch gynnig arni rywbryd- mae o’n reit therapiwtig! Mae’r llyfr ar ffurf cerdd hi’r sy’n odli, ac mi fysa fo’n addas (yn ôl y cyhoeddwyr) at blant hyd at 8 oed “a phawb sy’n dymuno bach o hwyl Nadoligaidd!” Yn wir, mae o’n llawn petha gwirion – a pwy fasa’n meddwl fod rhaid i Mr a Mrs Corn dalu tacsys fatha pawb arall! Ein Quentin Blake Cymraeg ni’n hunain, Huw Aaron, sydd wedi benthyg ei dalentau i sbrinclo hwyl a sbri Nadoligaidd dros y llyfr, a fedra i ddim meddwl am berson gwell i wneud y gwaith celf gwyllt a gwallgo, sy’n cyd-fynd efo’r geiriau i’r dim. Mi ddaeth fy nghefndryd ifanc draw dros y ‘Dolig, ac fe wnaethon nhw fwynhau’r llyfr. Fe gawson ni crazy kitchen disco ein hunain wedyn! Os ‘da chi’n hiraethu am hwyl y Nadolig, neu’n berson hynod drefnus sy’n chwilio am stwff ar gyfer ‘Dolig nesa – mynnwch gopi. Gwasg: Carreg Gwalch Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.95 ISBN: 978-1-84527-842-7
- Shirley - Bethan Gwanas
*for English review, please see language toggle switch on website* ♥Llyfr y Mis i Blant: Rhagfyr 2021♥ Gwaith celf: Hanna Harris Oed darllen: 6/7+ Oed diddordeb: 3-7+ Hey Big Spender! Yn wahanol iawn i eiriau’r gân enwog gan Shirley ei hun, fydd dim rhaid i chi wario ffortiwn er mwyn cael mwynhau’r llyfr yma, sy’n rhan o gyfres newydd sbon danlli, sef ‘Enwogion o Fri’ gan y wasg ifanc, Llyfrau Broga. Cyfres yw hon sydd, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, yn rhoi sylw i enwogion ac unigolion amrywiol sydd wedi cyfrannu at neu ddylanwadu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ar ein hanes fel cenedl. Nid cyfres am ferched yn unig yw hon, ond penderfynwyd lansio gyda thair merch hynod er mwyn pwysleisio’r cyfraniad gwerthfawr maen nhw wedi ei wneud i’n byd. Bydd rhai unigolion yn fwy adnabyddus nac eraill, ond un peth sy’n sicr, maen nhw i gyd yn anhygoel ac yn amrywiol ac mae gen i deimlad y bydd y gyfres yma’n un lwyddiannus iawn. Yr ail lyfr yn y gyfres sy’n cael fy sylw yn y blog heddiw. Bethan Gwanas sydd wedi ’sgwennu Shirley, gyda darluniau modern a lliwgar gan Hanna Harris – llyfr hardd iawn, mae’n rhaid i mi ddweud. Rŵan, bydd pawb of a certain age wedi clywed am Shirley Bassey mae’n debyg, ond efallai ddim yn gwybod hanes ei magwraeth yma yng Nghymru. Ia wir, mae hi’n Gymraes! Gan mai cynulleidfa ifanc (oed 3-7) sy’n cael ei thargedu gan y gyfres, mae'n bur debyg na fydd y darllenwyr ifanc wedi clywed amdani eisoes, felly dyma gyfle gwych i ddangos pa mor bell mae rhai o’r Cymry wedi mynd, a be maen nhw wedi gallu ei gyflawni. Mae BG wedi gwneud job dda o wneud synnwyr o fywyd Shirley Bassey a’i gyflwyno mewn ffordd syml ond effeithiol sy’n sôn am y dyddiau cynnar yn Tiger Bay, Caerdydd hyd nes cyrraedd ei hanes diweddar ym Monaco. Roedd dysgu am ei bywyd yn hynod o ddiddorol - pwy fasa’n meddwl bod cantores sydd efo gymaint o bresenoldeb ar lwyfan wedi bod mor swil pan oedd hi’n blentyn? A wyddoch chi ei bod hi wedi cael trafferth fel cantores ifanc yn yr ysgol am fod ei llais hi’n RHY bwerus? Gwyliwch ei pherfformiad once-in-a-lifetime yn Glastonbury yn 2007. Waw. Jest waw. Dangosa’r llyfr yma sut wnaeth y Shirley ifanc oresgyn yr holl heriau oedd yn ei herbyn, er mwyn dod yn un o’r cantorion enwocaf yn y byd! Gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoliaeth ac yn rhoi gobaith i bobl eraill sy’n darllen y llyfr - gallwch wneud un rhywbeth os wnewch chi gredu yn eich hun. Gwasg: Broga Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £5.99 ISBN: 9781914303081
- Pam? - Luned Aaron a Huw Aaron
*For English review, please use language toggle switch on website* Oed diddordeb: dan 7 Oed darllen: 5+ Chwilio am lyfr amser stori sy’n mynd i ‘neud i chi giglo? Luned a Huw Aaron strike again! Mae’n edrych fel bod y cwpwl yma’n cael blwyddyn a hanner ‘lenni! Rhwng cyhoeddi dwn im faint o lyfrau a gweld gwasg Broga’n mynd o nerth i nerth, dwi’n siŵr eu bod nhw’n bobl prysur iawn! Ond mae hynny’n beth da iawn i chi a fi achos nhw sy’n gwneud y gwaith, tra ein bod ni, y darllenwyr, yn cael eistedd yn ôl a mwynhau ffrwyth eu llafur. Y tro hwn, maent yn cyhoeddi llyfr i blant ifanc gyda gwasg Y Lolfa. Mae’r unigolyn ar y clawr yn edrych fel sut dwi’n teimlo heddiw (a hithau’n fore Llun) a’r pwnc sydd dan sylw yw un o hoff eiriau pob plentyn - “pam?” Mi fydd y rheiny ohonoch sy’n deilo â phlant yn gyfarwydd iawn gyda’r cwestiwn yma, a dwi’n siŵr bod amryw i riant wedi cael eu gyrru o’u co’ wrth glywed y gair yn cael ei ailadrodd dro ar ôl tro... Mae’r llyfr ar ffurf penillion bach doniol sy’n odli, o safbwynt y prif gymeriad wrth iddo gwestiynu pam na chaiff o wneud fel y mynnai, fel yfad coca cola neu dormentio ei chwaer fach hefo trychfilod! Ond er yr holl holi ac achwyn ‘pam na cha ‘i...?’ yr un yw’r ateb bob tro gan y rhieni – NA! NO WÊ! Tydi bywyd mor annheg - yr hen oedolion diflas na’n sbwylio’r hwyl i gyd ynte! Wir i chi, chewch chi neb mwy gonest a di-flewyn ar dafod na phlant, ac mi oni’n giglo wrth feddwl am y plentyn bach oedd bron a marw isio dweud bob math o bethau am ben ôl anferth ei fodryb (cyn cael ei stopio gan ei riant!) Dwi’n siŵr bod nifer o rieni hefo profiadau embarassing, lle mae’r plant wedi dweud rhywbeth inappropriate, fel yr adeg ‘na nesh i ‘outio’ nain am wneud soup paced a thrio’i basio fo ffwrdd fel sŵp cartref, a hynny o flaen y Gweinidog! Wps! Mae ‘na lot o lyfrau lluniau doniol ar gael, ond mae nifer ohonynt yn addasiadau, tra bod rhai gwreiddiol Cymraeg yn brinnach. Dwi fatha broken record, ond maisho mwy o lyfrau ysgafn, doniol, llai serious! Rhain ydi’r llyfra bydd plant yn gofyn am gael eu darllen a’u hail ddarllen dro ar ôl tro. Llyfr digri iawn sydd yma a dwi’n gwybod bydd ‘na lot o biffian chwerthin wrth ddarllen ‘Pam?’ a bydd yn ffefryn mewn sawl tŷ dwi’n siŵr. Mi fasa hwn yn gwneud darn adrodd steddfod da iawn! Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: Awst 2021 Pris: £4.99 ISBN: 9781800990562
- Y Ddinas Uchel/The Builders - Huw Aaron
*For English review, see language toggle switch on webpage* Mae'n iawn i freuddwydio am rywbeth gwell... Its ok to dream for something better... Negeseuon positif: ◉◉◉◉◎ Themau trist,anodd: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn: ◎◎◎◎◎ Iaith gref: ◎◎◎◎◎ Rhyw: ◎◎◎◎◎ Oed darllen: 5+ Oed diddordeb: 3-7 Dyma lyfr lluniau gan yr arlunydd/cartwnydd talentog, Huw Aaron. Rydym ni’n gyfarwydd iawn gyda’i luniau a’i dwdls mewn nifer o lyfrau poblogaidd a’r cylchgrawn Mellten. Y tro hwn, Huw ei hun sydd wedi bod wrthi’n ysgrifennu’r stori yn ogystal â pheintio’r lluniau! Dywedodd Huw fod y stori wedi bod yn ffrwtian yng nghefn ei ben ers blynyddoedd - wel o’r diwedd, dyma hi! Stori yw hon am ferch fach o’r enw Petra, sy’n byw mewn dinas yn llawn pobl brysur iawn, iawn. Mae’r gweithwyr yn treulio drwy’r dydd, pob dydd yn adeiladu tyrrau uchel iawn sy’n ymestyn at yr awyr. Yn wir, mae’r gweithwyr yn fy atgoffa o forgrug gwyn, sy’n treulio eu bywydau’n adeiladu tomenni mawr. Mae Petra druan wedi diflasu gyda’r gwaith beunyddiol o adeiladu tyrrau. A dweud y gwir, mae hi’n hollol fed-up! Dechreua Petra gwestiynu’r drefn wrth iddi bendroni’r cwestiwn mawr athronyddol: oes 'na fwy i fywyd? Er bod 'na oedolion pwysig yn ei siarsio i ‘dyfu fyny’ a ‘derbyn y drefn,’ yn ei chalon tydi hi ddim yn gallu rhoi’r gorau i freuddwydio. Un diwrnod, pan ddaw dynes i lawr o’r cymylau mewn balŵn aer poeth fe ânt ar antur dros y byd, gan weld yr holl ryfeddodau sy’n bodoli. Tybed a fydd Petra’n gallu perswadio gweddill trigolion y ddinas fod mwy i fywyd na adeiladu tyrrau? Mae lluniau dyfrlliw Huw Aaron yn hyfryd o liwgar ac fe geir yma stori annwyl iawn gyda neges glir i blant ifanc (ac oedolion gwaetha’r modd!) fod hi’n gwbl dderbyniol i gwestiynu’r drefn. Mae’r llyfr yn cyfleu chwilfrydedd a rhyfeddod plant gyda’r byd o’u cwmpas. Bydd plant ac oedolion yn deall y neges fod rhyfeddodau lu i’w gweld yn y byd, ond i chi fentro mynd i chwilio. Ceir trosiad yn y llyfr sy’n dangos sut mae bywyd modern wedi’n cyflyru i frysio o un lle i’r llall, gan weithio’n ddi-stop, heb weithiau gymryd amser i werthfawrogi ein byd yn llawn. Ewch allan i weld y byd a mwynhau profiadau newydd -mae bywyd yn rhy fyr! Dwi'n falch bod y llyfr bellach ar gael yn ddwyieithog, fel bod mwy o bobl yn gallu ei fwynhau! Adolygiad oddi ai www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg/publisher: Atebol Pris/price: £6.99 Cyhoeddwyd/released: 2020 ISBN: 9781801060189
- Luned Bengoch - Elizabeth Watkin-Jones
*For English review, please see language toggle switch on top of page* Oed Darllen: 10+ Oed Diddordeb: 10+ Fel Hogan o Forfa Nefyn dw i wastad wedi bod yn ymwybodol o’r awdures arbennig, Elizabeth Watkin-Jones. Cyn i mi hydnoed ddarllen ei nofelau dwi’n cofio eu gweld ar y silff lyfrau yn nhŷ Nain a Taid. Lois… Esyllt… Y Dryslwyn… ond yr enwocaf oll o’r rhain ydi Luned Bengoch. Do, mae T. Llew Jones wedi ysgrifennu am arfordir gwyllt Ceredigion, ond mae Elizabeth Watkin-Jones hefyd wedi llwyddo i blethu antur, rhamant a pherygl yn gelfydd ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Mae hyn oll wedi’i grisialu ar glawr yr argraffiad newydd gan yr artist Efa Blosse-Mason – mae’n edrych fel poster ar gyfer ffilm epig. A coeliwch chi fi, mae hon yn stori epig y bydd pobl ifanc ac oedolion yn ei mwynhau. Rydym yn y flwyddyn 1401, ac mae’r cyfnod yn un arwyddocaol am ein bod ym mlynyddoedd cynnar gwrthryfel Owain Glyndŵr. Braf yw darllen nofel sydd ddim yn ofni dangos ei lliwiau cenedlaetholgar. Yn ogystal â’r cymeriadau yn y nofel sy’n deyrngar i Glyndŵr a’r achos i gael annibyniaeth i Gymru, ac er mai nofel hanesyddol ydi hi mae’n teimlo’n hynod amserol gan bod y ddadl dros annibyniaeth wedi dod fwyfwy i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Ond beth am gymeriadau’r nofel? Mae Luned yn ferch gref, anturus a tydi hi ddim yn gadael i’r ffaith ei bod yn ferch ei chyfyngu o gwbl, fel y byddai yn siŵr o fod wedi gwneud yn yr adeg honno. Mae’n benderfynol o ddilyn ei ffrind, Rhys ar daith i gyflwyno neges i Owain Glyndŵr yn ei wersyll ym Mhumlumon, a hynny drwy esgus bod yn fachgen. Ond ar y daith mae hi’n dwyn sylw sawl un, a fedr ei chap ddim cuddio’r cyrls fflamgoch, na’r nodweddion enwog hynny oedd gan deulu Caradog ab Merfyn Goch o Grafnant, Dyffryn Conwy. Pam bod perygl ym Mhlas Crafnant? Pwy yw Luned Bengoch? Dyma’r trydydd tro i’r nofel gael ei hargraffu. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1946, yna fe wnaeth nai yr awdures, Hugh D. Jones ddiweddaru’r testun ar gyfer argraffiad newydd yn 1983. Gobeithio wir y bydd pobl ifanc heddiw yn parhau i ymgolli yn yr antur hwn. Ewch gyda Luned a Rhys ar eu taith, o greigiau geirwon Nant Gwrtheyrn, i lethrau mynyddoedd Pumlumon ac i Ddyffryn Conwy. Mae Luned Bengoch wir y gorau o’r goreuon, does dim llawer o straeon yn cael eu hadrodd fel hyn heddiw. Mae Luned Bengoch yn glasur. Gwasg: Gomer@Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 (ond yn wreiddiol yn 1946, 1983) Cyfres: Gorau'r Goreuon Pris: £6.99 ISBN: 978-1-80099-135-4 WEDI MWYNHAU LUNED BENGOCH? BETH AM RAI O'R CLASURON ERAILL YN Y GYFRES? https://llyfrau.cymru/en/goraur-goreuon-cyflwyno-tair-stori-or-gorffennol/
- Sara Mai a Lleidr y Neidr - Casia Wiliam
*For English review, see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 8+ Oed diddordeb: 7-11 Gwaith celf: Gwen Millward Genre: #CymraegGwreiddiol #ffuglen #ditectif #cyfeillgarwch Dwi’n siŵr fod yr awdur, Casia Wiliam, wedi teimlo ’chydig o bwysau tro ’ma wrth fynd ati i ysgrifennu dilyniant i Sw Sara Mai, yn enwedig o ystyried llwyddiant ysgubol y gwreiddiol, aeth ymlaen i ennill Gwobr Tir na n-Og 2021. Nid gwaith hawdd ydi curo hynny! Dwi’n meddwl ei bod hi’n bendant wedi cadw’r safon, ac mi wnes i fwynhau’r ail nofel cymaint os nad mwy na’i rhagflaenydd. Mae’r cynhwysion wnaeth Sw Sara Mai mor boblogaidd i gyd yno, ond erbyn hyn, rydym yn fwy cyfarwydd â’r cymeriadau hoffus, ac fe gawn ein cyflwyno i nifer o gymeriadau newydd hefyd. Cafodd y nofel gyntaf ei chanmol am gyflwyno prif gymeriad hil gymysg a hefyd am gynnwys peth trafodaeth am hiliaeth. Wrth gwrs, mae hyn yn beth da – mae angen i’n llenyddiaeth adlewyrchu ein cymdeithas ni heddiw. I mi, llwyddiant y ddwy nofel ydi sut mae’r pynciau hyn yn cael eu cyflwyno mor naturiol. Yn y stori gyntaf, roedd dyfodol y sw ei hun dan fygythiad, ond y tro hwn, fel awgryma’r teitl, mae rhywun wedi dwyn neidr. Ond nid neidr gyffredin mo hon, o na, ond Peithon Albino Porffor prin. Bydd gofyn i Sara Mai droi’n dditectif er mwyn datrys y dirgelwch mawr: ‘pwy yw lleidr y neidr?’ Wrth ddechrau ei hymchwiliad, daw nifer o’i ffrindiau a’i chydweithwyr o dan amheuaeth. Ai person diarth sydd ar fai neu oes ’na ddihiryn yn cuddio reit o dan ei thrwyn hi? Dim mwy o sboilars gen i! Dwi’n meddwl mai penderfyniad doeth oedd lleoli’r stori mewn lle mor ddiddorol â sw. Wedi’r cyfan, mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi anifeiliaid, yn dydyn? Dwi’n gwerthfawrogi’r ffeithiau am wahanol anifeiliaid sy’n cael eu sbrinclo yma ac acw. Mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i ’rioed wedi clywed am pademelon gynt! Mae’r anifeiliaid yn darparu cyfleoedd er mwyn cyflwyno pynciau megis colled, galar a pherthnasau mewn ffordd sensitif. Roeddwn i’n hoffi sut mae’r awdur wedi troi pethau ar eu pen gyda’r nofel yma. Yn y nofel gyntaf, bu Sara Mai yn ddigalon gan fod rhywun wedi bod yn dweud pethau cas amdani. Y tro hwn, fe welwn nad ydi Sara Mai ei hun yn berffaith bob amser, ac mae hi’n dysgu neges bwysig am fod yn garedig a pharchu eraill, hyd yn oed os oes ganddynt ymddangosiad neu ddiddordebau gwahanol. Mae’r iaith naturiol, hawdd i’w darllen yn golygu bod llyfrau Sara Mai yn berffaith ar gyfer plant 7–11 oed, a byddwn yn argymell y rhain fel nofelau y dylai athrawon ystyried buddsoddi ynddynt. Adolygiad gan Morgan Dafydd Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru. Gwasg: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £5.99 ISBN: 9781800991170 YDYCH CHI WEDI DARLLEN Y LLYFR CYNTAF YN Y GYFRES? https://www.gwales.com/bibliographic/?newsize=300&tsid=7 ♥ Llyfr y Mis i Blant: Awst 2020 ♥ ♥ Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021 ♥
- Ffwlbart Ffred: Yn Dywyll fel Bol Buwch - Sioned Wyn Roberts
*For English, see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 6+ Oed diddordeb: 3+ Lluniau: Bethan Mai Insta:@bethan_mai Genre: #ffuglen #doniol #CymraegGwreiddiol Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf, dwi’n meddwl ein bod ni i gyd isio dipyn bach o light relief a rhywbeth i godi gwên. Mae hyn yn bwysicach fyth yn ein llyfrau i blant, achos pa ffordd well o fagu cariad at ddarllen ’na gyda chyfrolau doniol sy’n llawn hiwmor drygionus? Mi o’n i’n ffan mawr o’r llyfr cyntaf yn y gyfres, ac o’n i’n meddwl fod o’n syniad bril i gael storis bach digri yn esbonio tarddiad rhai o’n hidiomau enwocaf. Dwi’n falch o weld fod yr hen ffwlbart gwirion yn ei ôl i’n diddanu eto. Tro yma, ‘yn dywyll fel bol buwch’ sy’n cael sylw. Pan ’da chi’n ista ac yn meddwl am rai o’r idiomau ’ma, maen nhw’n hollol nyts dydyn? Pwy ddaeth i fyny hefo’r syniad fod rhywbeth mor dywyll â bol buwch? Ma’r iaith Gymraeg yn llawn rhyfeddodau bach fel ’na. Mi gewch chi hwyl wrth ddarllen y stori yma, gan ei fod o’n llawn cwpledi bach doniol sy’n odli, wrth adrodd hanes yr hen Anti Gyrti, sy’n reit flin gan fod y fuwch druan methu cynhyrchu llaeth! Be sydd gan hanner porc pei a Sbectol Nain Chwilog i wneud hefo hyn tybed? A sgwn i be fydd gan Dr. Ffwlbart i’w ddweud am yr holl beth? Rhybudd - mae digonedd o sôn am ben-ôl’s buwch a nicyrs a thronsys! Be gewch chi well? Mae’n debyg y basa hi’n anodd iawn dod ar draws unrhyw un sydd ddim yn licio’r stori yma. Mae lluniau cain Bethan Mai yn dod â hwyl a helynt y stori’n fyw. Dyma bartneriaeth arbennig rhwng awdur ac artist a dyfodd yn naturiol o gwrs yng Nghanolfan Tŷ Newydd. Gwych. Mae’r llyfrau yma’n naturiol ddoniol ac yn ddireidus, ac yn llawn hwyl dros-ben-llestri gwirion - jest y peth ’da ni ei angen ar y funud. Dwi’n edrych ymlaen at weld pa idiom fydd yn cael sylw’r llyfr nesa. Mae gen i ddau gefnder bach ifanc (sy’n ddau beth gwyllt ar brydiau) ac mae’n gallu bod yn anodd eu setlo lawr i wrando ar stori. Dwi’n GWYBOD y gwnawn nhw wirioni efo hon a dwi’n reit ffyddiog y gwneith y llyfr ffeindio’i ffordd i mewn i sach Siôn Corn ’leni! Y ‘verdict’ - un o fy ‘top 5’ llyfrau i blant 3-7 oed a gafodd ei gyhoeddi yn 2021. Mynnwch gopi! Gwasg: Atebol Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99 ISBN: 9781913245412 AM YR AWDUR: SIONED WYN ROBERTS Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am raglenni 'Cyw' a 'Stwnsh'. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac yn uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Cred Sioned bod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol. HEFYD YN Y GYFRES...
- O'r Tywyllwch (2021) -Mair Wynn Hughes
*For English, please see language toggle switch on top of page* Oed darllen: 11+ Oed diddordeb: 11+ Genre: #antur #hinsawdd #amgylchedd #ffuglen #scifi #dystopaidd Cyfres newydd ‘Gorau o’r Goreuon’ Swnio’n gyfarwydd? Mi ddylia fo, achos fe gafodd ‘O’r Tywyllwch’ ei gyhoeddi yn wreiddiol ym 1991. Efallai eich bod yn cofio ei weld o ar silff y siop lyfrau flynyddoedd yn ôl, neu ella mai hwn oedd eich llyfr darllen yn yr ysgol. Mae’r tair cyfrol gyntaf yng nghyfres Gorau’r Goreuon wedi cael eu hail-wampio a’u diweddaru, i sicrhau eu bod yn edrych yn ffres ac yn ddeniadol i ddarllenwyr heddiw - mae gan ddarllenwyr ddisgwyliadau uchel wyddoch chi! Mae pob un wedi cael clawr newydd sbon, ac mae’r rhain yn hynod o drawiadol. https://llyfrau.cymru/goraur-goreuon-cyflwyno-tair-stori-or-gorffennol/ Ydan ni wastad yn chwilio am rywbeth newydd o hyd? Maen nhw’n dweud nad yw stori dda’n dyddio. Ac i raddau, mae hynny’n wir. Ond mae llyfrau’n dyddio. Ac maen nhw’n bendant yn gallu cael eu hanghofio. Dyma ddigwyddodd yn achos O’r Tywyllwch gan Mair Wynn Hughes fwy na thebyg. Rhyw gwta flwyddyn yn ôl, prin fasa chi wedi medru bachu copi o’r gwreiddiol, heblaw am yr un copi ail law oedd ar ebay am dros £100! Y rheswm dros hyn - does na jest ddim llawer o gopïau ar ôl. A dydi hyn ddim yn broblem sy’n perthyn i O’r Tywyllwch yn unig chwaith. Mae ’na gannoedd o deitlau da, gwerth eu darllen, sydd allan o brint ac wedi mynd i ebargofiant erbyn hyn. Yn y byd cyhoeddi Prydeinig, maen nhw’n trysori llyfrau’r gorffennol ac maen nhw wastad i’w cael mewn print - dwi’n sôn am eich A Christmas Carol, Black Beauty, Charlotte’s Web, The Lion, the Witch and the Wardrobe ac ati. Caiff y teitlau hyn eu hystyried fel ‘clasuron,’ yn y Saesneg, ond mae rhai o ‘glasuron’ a chlasuron posib y Gymraeg yn eistedd yn hel llwch ar silffoedd siopau elusen, storefydd ysgolion, neu waeth yn cael eu taflu. Pam? Diffyg ymwybyddiaeth llwyr am lyfrau'r gorffennol. Ydan ni’n trysori, clodfori ac yn gwerthfawrogi digon ar lenyddiaeth plant y gorffennol (ac eithrio T. Llew Jones, wrth gwrs) neu ydan ni rhy sydyn i anghofio? Mae hyn yn fy arwain at gwestiwn mawr arall: ydi llyfrau Cymraeg i blant yn cael digon o sylw yn gyffredinol? Ai ail gyhoeddi yw’r ateb? Mae ’na wastad ddau safbwynt yn does. Bydd rhai yn dweud mai peth ffôl yw edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi bod. ‘Had it’s day,’ neu ‘past it’s best’ fasa rhai yn ddweud. Tybiwn y byddai ambell un yn dweud fod ail gyhoeddi hen lyfrau’n ddiog, am ein bod ni’n hesb o syniadau. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n anghytuno’n llwyr. Dwi o’r farn ei bod hi’n bwysig cael digon o ddewis ac amrywiaeth. Yn bendant mae ’na le i gydbwysedd rhwng yr hen a’r newydd. Stori dda ydi stori dda yn fy marn i, ac mae ’na ormod o lyfrau Cymraeg da ‘allan o brint’. Dyna pam dwi’n croesawu nostalgia digywilydd cyfres ‘Gorau o’r Goreuon’ ac yn dymuno pob llwyddiant iddi. Ella mod i ’chydig yn biased am fy mod i wedi bod ar y panel dethol, ond so what! Wrth reswm, tydi pob llyfr ddim yn addas i gael ei ail gyhoeddi. Mae rhai wedi dyddio’n erchyll ac yn cynnwys safbwyntiau ac ystrydebau sy’n gwbl anaddas heddiw. O’r Tywyllwch... yn ôl i’r goleuni! Wedi dweud hynny, mae ’na beth wmbredd o drysorau coll allan yna, sy’n disgwyl i gael eu cyflwyno i genhedlaeth newydd. Mae rhai hen straeon yn llawn haeddu cael eu hystyried yn ‘glasuron’ ac maen nhw’n dal i fod yn berthnasol iawn i ni heddiw, gydag ‘O’r Tywyllwch’ yn enghraifft dda iawn o hyn. Adolygiad Manon Steffan Ros O ran, ‘O’r Tywyllwch,’ ychydig iawn o waith newid oedd ei angen ar y stori mewn gwirionedd, sy’n destament i safon y gwreiddiol. Ychydig fisoedd yn ôl, fe drydarodd Manon Steffan Ros am y llyfr gwreiddiol ar ôl iddi hi ei ail ddarganfod, ac fe fuodd ddigon clên i ’sgwennu adolygiad i ni ar y pryd. Gan fod y stori fwy neu lai'r un fath, dyma ddetholiad o’i hadolygiad: Dwn i ddim sut yn y byd i mi anghofio'r nofel yma, achos wir i chi, mae hi'n wych. Rydw i'n ffan fawr o lyfrau gwyddonias (sci fi), ac yn arbennig o nofelau dystopaidd, ond mi fydda i'n teimlo'n aml eu bod nhw'n gallu bod yn rhy brysur, gormod yn digwydd a'r cymeriadau braidd yn fflat. Dydy O'r Tywyllwch ddim fel hyn o gwbl- y peth cyntaf i'ch tynnu chi i mewn ydy'r cyfeillgarwch rhwng y ddau brif gymeriad, Hywyn a Meilyr. Maen nhw'n byw yn ein byd ni, ond, efallai, yn y dyfodol- mae'r byd wedi poethi, ac mae'n rhaid i bobol wisgo siwtiau arbennig cyn mentro allan. Mae cynlluniau mawr ar droed- Mae pawb yn gorfod mynd i fyw mewn dinas arbennig yn y mynydd, a chau'r byd a'r awyr iach allan am byth. Dim pawb sydd eisiau mynd, ond does dim dewis. A dyna i chi ddechrau'r tensiwn yn y stori. Mae ail ran i'r stori yma hefyd, am y profiad o fyw yn y ddinas danddaearol genedlaethau ar ôl y mudo mawr. Cefais fy nychryn gan y rhan yma, a hynny achos ei fod yn creu'r byd newydd hunllefus yma mewn ffordd oedd yn teimlo mor real. Roedd 'na rannau ohono yn teimlo fel y byd yn nofel enwog George Orwell, 1984- ond i mi, mae O'r Tywyllwch yn fwy personol, yn fwy cyfarwydd, ac felly ganwaith yn fwy dychrynllyd. Dwi'n gwneud fy ngorau i beidio rhoi sboilars yma, ond dwi'n meddwl efallai y bydd y diwedd yn teimlo'n rhy benagored i rai. I fi, dwi'n hoffi'r ffaith nad ydy'r nofel yn gorffen gydag ateb pendant i bob cwestiwn. A dweud y gwir, mae'r diweddglo yn teimlo fel her i ni, y darllenydd- be' 'da ni'n mynd i'w wneud nesaf wrth i'r byd boethi? Cyhoeddwr: Y Lolfa Cyhoeddwyd: 2021 Cyfres: Gorau'r Goreuon Pris: £6.99 ISBN: 9781800991361 LLYFRAU ERAILL YNG NGHYFRES GORAU'R GOREUON...