*For English review, see language toggle switch*
(awgrym) Oed diddordeb: 0-7
(awgrym) oed darllen: 4+
Genre: #doniol #wyddor #ffuglen #llyfrlluniau #odli
Disgrifiad Gwales: Cerdd hollol hurt a doniol gan yr artist Huw Aaron yn cymeriadu'n lliwgar holl lythrennau'r wyddor.
ADOLYGIAD GAN LLIO MAI
Dw i am ddechrau’r adolygiad yma trwy ddweud yn blwmp ac yn blaen mod i WRTH FY MODD efo’r llyfr yma! Mae rhai llyfrau sydd jest yn grêt does – yn llawn hwyl, dychymyg pur a llond trol o greadigrwydd.
Mae prif gymeriad yn y llyfr yma yn cael parti pen-blwydd, ond mae’r gwesteion sydd wedi cael gwahoddiad yn rhai, wel... maen nhw’n rhai anghyffredin iawn, a dweud y lleiaf! Fyddech chi’n ddigon dewr i wahodd llond gwlad o angenfilod i’ch parti pen-blwydd? Cawn ein cyflwyno i’r gwesteion fesul un, fel maen nhw’n cyrraedd y parti, ac mae pob un yn unigryw iawn!
Dyma lyfr wnaiff i chi chwerthin allan yn uchel, ond mae hefyd yn llyfr sy’n wych ar gyfer dysgu’r wyddor i blentyn, gan fod anghenfil ar gyfer pob llythyren. Gellir hefyd ddefnyddio’r llyfr ar gyfer creu gweithgaredd wedyn, e.e. creu eich anghenfil eich hun, ac efallai ei enw ar ôl llythyren gyntaf eich enw chi! (Rydan ni wedi rhoi cynnig arni yma yn Sôn am Lyfra HQ!) Fedrwch chi feddwl am enw gwirion ar gyfer pob un?
Dw i’n arbennig o hoff o ddarluniau Huw Aaron o’r angenfilod amrywiol, ac mae’r enwau’n hollol wych hefyd - maen nhw mor ddoniol, boncyrs a chreadigol a doeddwn i methu disgwyl i gael troi’r dudalen a datguddio’r anghenfil nesaf. Tybed pa un ydi’ch ffefryn chi? Fy hoff un i ydi’r Gwibno-bwm!
Fyswn i wir yn argymell y llyfr yma - mae’n gaddo andros o hwyl i blant o bob oedran, ac i’r oedolion hefyd! Mynnwch gopi, dw i’n sicr na chewch chi’ch siomi.
Gwasg: Carreg Gwalch
Cyhoeddwyd: Medi 2021
Pris: £6.95
Bywgraffiad Awdur:
Mae Huw Aaron yn gartwnydd, arlunydd ac awdur o brofiad, ac wedi cyfrannu cartwnau i gannoedd o lyrau a chylchgronau yn Nghymru a thu hwnt. Cafodd Ble Mae Boc? a Y Ddinas Uchel eu henwebu ar restr fer gwobr Tir na n-Og yn 2019 a 2020, ac enillodd Yr Horwth gan Elidir Jones ac a ddarluniwyd ganddo gategori plant a phobl ifanc gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020. Sefydlodd Huw y comic poblogaidd, Mellten yn 2016, a chafodd 11,000 o gopïau o’i lyfr comic Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd, ei ddosbarthu i ysgolion ledled Cymru yn 2019. Yn ystod cyfnod clo 2020, sefydlodd Huw y sianel YouTube ‘Criw Celf’, gyda’i fideos wedi eu gwylio dros 100,000 o weithiau. Mae Huw hefyd yn cyd-gyflwyno'r rhaglen ‘Cer i Greu’ ar S4C, yn dysgu ac ysbrydoli plant i arlunio a chreu celf eu hunain. huw@huwaaron.com
Comentários