top of page
Writer's picturesônamlyfra

Afallon - Lleucu Roberts

*Scroll down for English & comments*


Gwasg/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2019

Pris: £6.99

ISBN: 978-1-78461-709-7


Lefel her/challenge level: ❖ ❖ ❖

Iaith heriol, themau aeddfed.

Challenging language, mature themes.


☆ ☆ Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original ☆ ☆

 

Afallon - y nofel olaf yng nghyfres Yma gan Lleucu Roberts. Lle hud yn y gorllewin ydi Ynys Afallon sy’n cael ei gysylltu â chwedlau am y Brenin Arthur. Caiff ei ddisgrifio fel gwlad ieuenctid bythol, gwledda a ffrwythlondeb. Mae’r llyfr yma’n disgrifio rhywle sy’n bopeth ond hynny! Dyma nofel dywyllach na’r ddwy arall yn y gyfres, sy’n cynnwys elfennau sy’n ein hatgoffa o glasuron fel ‘1984’ a ‘Handmaid’s Tale.’



Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers y nofel ddiwethaf, mae Anil ar goll a does dim all neb ei wneud i godi calon Cai. Bellach mae gweddill yr ynyswyr a’r Niaid wedi dysgu i gyd-fyw ac yn dechrau cyfathrebu’n well. Erbyn y nofel hon, mae Bwmbwm wedi cael ei ddad-goroni’n llwyr a chaiff ei bortreadu fel creadur reit pathetig bellach.


Trafoda’r awdur ladd anifeiliaid mewn ffordd matter of fact, di-ffwdan. Mae’n rhan o fywyd bellach – rhaid hela er mwyn byw. Ym mhennod 5 ceir disgrifiad graffig o hela ebol bychan. Mae’r disgrifiad yn cyfleu realiti anodd bywyd yng Nghymru bellach. Dwi’n falch nad yw Lleucu yn osgoi trafod pethau naturiol fel marwolaeth:



“Nesaodd Freyja at yr ebol a wingai mewn poen… ei lygaid yn erfyn am drugaredd… osgôdd Freyja’r llygaid a phlannu ei phicell rhwng asennau’r anifail.”


O’r pwynt lle mae Gwawr yn cael ei chipio, mae’r stori yn cael ei rhannu rhwng Cymru ac Afallon. Down i ddeall fod cyfrinach sinistr a thywyll y tu ôl i arwyneb ffals gwlad Afallon. Nid paradwys mohoni o bell ffordd. Caethwas yw Anil ac mae Gwawr yn wynebu treulio gweddill ei bywyd mewn cawell.

Rheolir Afallon gan Y Llyw, dyn cymhleth a chreulon, sydd wir yn credu fod yr hyn mae o’n ei wneud yn iawn. Yn Afallon, maen nhw wedi llwyddo i ddal eu gafael ar dechnoleg, ac yn defnyddio awyrennau i grwydro’r byd yn dwyn merched ifanc, ffrwythlon er mwyn cynaeafu eu hwyau. Mae’r ‘fferm’ yn bychanu’r merched i ddim byd mwy nag ieir mewn cytiau. Mae’n syniad tywyll ac yn hynod o anghyfforddus. Bechod na chafodd ei archwilio ymhellach a’i wneud hyd yn oed yn fwy tywyll. Er popeth a ddigwyddodd iddi, doeddwn i byth yn teimlo fod Gwawr mewn perygl go iawn. Tybed a fyddai diweddglo anhapus wedi bod yn fwy o sioc?!


Roedd penodau Afallon yn llawer mwy diddorol na phenodau criw’r Ynyswyr yng Nghymru. Mewn ffordd, roedd y cymeriadau yma’n ‘spare parts’ wrth i’r brif stori symud ymlaen at Afallon. Yn bersonol, roeddwn i’n gweld y darn ar y cwch ym Mae Aberystwyth yn ddiflas, ac yn tynnu oddi ar y brif stori. Great White Sharks yn Abertyswyth? Rili?! Ddweda i ddim mwy.



Yn sicr, hwn yw llyfr cryfaf y drioleg. Mae’r awdur yn llwyddo i blethu nifer o themâu aeddfed fel cariad, gwrthdaro, natur, cynaladwyedd, trais, sexism, gwleidyddiaeth, cam-drin a sawl un arall. Sgil yr awdur yw eu cynnwys yn rhan naturiol o’r stori, gan wneud sylwadau, yn hytrach na phregethu.

Am ryw reswm dwi’n ffafrio diweddglo anhapus i stori - efallai mai fi sy’n od. Ond er y diweddglo ‘happy ever after’ mae Lleucu yn llwyddo i gloi’r drioleg yn effeithiol ac yn daclus, gan ateb y rhan fwyaf o’r cwestiynau a oeddem yn eu gofyn i ni’n hunain wrth i’r drioleg ddatblygu.


Mae iaith y nofel yn heriol, waeth i mi fod yn onest. Roedd rhaid i mi ganolbwyntio dipyn wrth ddarllen. Dwi’n meddwl y byddai’n rhaid i ddarllenwr ifanc fod yn reit hyderus i fwynhau’r nofel yn llawn. Mae’n bosib ei fod yn llyfr a fyddai’n well ei astudio yn yr ysgol, o dan arweiniad athro/awes, gyda mwy o gyfle i drafod a gwneud synnwyr ohono.




 

Afallon -The last novel in the ‘yma’ series by Lleucu Roberts. Afallon Island is a magical place in the West that is linked to legends about King Arthur. It is described as a country of evergreen youth, plenty and fertility. This book describes somewhere that is anything but that! This is a darker novel than the other two in the series, which contains elements that remind us of classics such as 1984 and Handmaid's Tale.


A year has passed since the last novel, Anil is missing and no one say or do anything to cheer Cai up. The rest of the Islanders and the Niaid have by now learned to live together and can just about communicate. Bwmbwm, the former leader, has have been de-throned and is now portrayed as quite a pathetic character.



The author discusses killing animals in a very matter of fact way. It is now a part of everyday life – they must hunt to live. In Chapter 5 there’s a graphic description of killing a young foal. The description shows us the difficult reality of life in Wales. I am pleased that Lleucu does not shy away from discussing natural things like death.


From the point at which Gwawr is captured, the story switches between Wales and Afallon. We come to understand that there is a dark and sinister secret behind the pleasant facade of Afallon. It is by no means paradise! Anil is a slave and Gwawr faces spending the rest of her life in a cage.

Afallon’s leader, ‘Y Llyw,’ is a complex and cruel man, who really believes what he is doing is right. In Afallon, they’ve somehow managed to hold on to technology. They use their solar planes to roam the globe looking for young, fertile girls in order to harvest their eggs to maintain the population. The ' farm ' reduces the girls to nothing more than chickens in battery cages. This is a dark concept and is extremely uncomfortable. It’s a shame that it was not explored further and made even darker. Despite everything that happened to her, I never felt that Gwawr was truly at risk. I wonder if an unhappy ending would have been more of a shock?!



The chapters which took place in Afallon were much more interesting than those with the islanders back in Wales. In a way, these characters felt like 'spare parts ' as the main story progressed to Afallon. Personally, I found the bit on the boat in Aberystwyth Bay boring, and distracting from the main story. Great White Sharks in Aberystwyth? Really? C’mon!


This is certainly the strongest entry in the trilogy. The author manages to bring in a number of mature themes such as love, conflict, nature, sustainability, violence, sexism, politics and domestic abuse amongst others. The author's true skill is to include them as a natural part of the story, making observations, rather than preaching.


For some reason I prefer an unhappy ending to a story –perhaps it’s just me that's strange. But despite the happy ever after ending, Lleucu manages to bring the trilogy to a neat and effective end.


The language of the novel is challenging, I may as well be honest. I had to concentrate quite a bit whilst reading. I think a younger reader would have to be quite confident to enjoy the novel in full. It may be a book that would be better suited to studying at school, led by a teacher, with more opportunity to discuss and make sense of it.


BOX SET AVAILABLE £15



28 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page