*Scroll down for English*
16 o rigymau poblogaidd Cymraeg!
16 traditional Welsh nursery rhymes and modern-day, songs
Dyma lyfr prydferth gan yr artist, Leonie Servini, sy’n cyflwyno rhai o hwiangerddi gorau Cymru ar eu newydd wedd.
Mae’r llyfr clawr caled yn lliwgar, yn ffresh, yn fodern ac yn rhoi spin newydd ar yr hen rigymau traddodiadol. Am ffordd wych o gyflwyno diwylliant cyfoethog Cymru i blant ifanc iawn. Yn wahanol i rai llyfrau, mae hwn yn cyflwyno rhai o’r hen ganeuon gyda rhai mwy cyfoes hefyd - cydbwysedd perffaith!
Dwi’n cofio gorfod canu ‘Dacw Mam yn Dŵad’ o flaen pawb yn yr ysgol feithrin hefo fy ffrind gorau, a dydi hi ond yn iawn fod y genhedlaeth nesaf yn cael yr un profiadau! Mae o fel rite of passage i blant Cymru!
Doedd dim yn well gen i pan oni’n ifanc na mynd i gysgu yn gwrando ar gasét Cwm Rhyd y Rhosyn, a chael fy swyno i gysgu gan leisiau Dafydd Iwan ac Edward. Mae un o fy hoff ganeuon o’r tapiau anhygoel ‘na wedi cael ei gynnwys yn y llyfr yma - ‘I mewn i’r arch a nhw’. Clasur.
Mae’n bechod fod 'na ddim CD i gyd-fynd â’r llyfr, felly rhaid i ni obeithio fod yr oedolion fydd yn darllen a chanu yn cofio’r tiwns. Wedi dweud hynny, mae’n siŵr fod y miwsig ar gyfer pob un ar gael ar You Tube erbyn hyn.
Bydd plant, rhieni ac athrawon wrth eu bodd â’r llyfr yma ac yn cael môr o hwyl yn cyd-ganu’r caneuon - dylai pob plentyn yng Nghymru gael y cyfle i fwynhau’r rhain.
This is a beautiful book by the artist, Leonie Servini, which presents some of Wales's best-known nursery rhymes, albeit with an up-to-date new look.
The hardcover book is colourful, fresh, modern and is a new take on the traditional old rhymes. What a great way to introduce very young children to the rich culture of Wales. Unlike some books, this one combines the new with the old, so we get a few contemporary songs too - a perfect balance!
Although it was a long time ago, I still fondly remember having to sing 'Dacw Mam yn dwâd’ in front of the nursery class with my best friend, and it's only right that the next generation get to do the same sort of thing. Singing these songs is like a rite of passage for the children of Wales!
There was no better way of getting to sleep when I was a kid, than listening to the Cwm Rhyd y Rhosyn cassettes, being soothed to sleep by the voices of Dafydd Iwan and Edward. One of my favourite songs from these tapes has made it into this book – ‘I mewn i’r arch a nhw.’ Classic.
It’s just a shame that there’s no CD to accompany the book, so we’ll just have to cross our fingers that whoever reads/sings them will remember the tunes! Having said that, if you aren’t familiar with some of the songs, the music is probably on You Tube these days anyway.
Children, parents and teachers will love this book and have plenty of fun singing the songs – every child in Wales should at least get the opportunity to enjoy these.
Comentarios