♥ Llyfr y Mis i Blant: Mai 2024♥
(awgrym) oed darllen: 10+
(awgrym) oed diddordeb: 8-13
Lluniau: Lleucu Gwenllian https://www.studiolleucu.co.uk/
‘Da chi’m yn meddwl weithia y basa fo mor cŵl i allu stopio amser yn y fan a’r lle, neu hyd yn oed teithio yn ôl ac ymlaen mewn amser? Yn aml iawn, wrth fynd am dro, dwi’n ffeindio fy hun yn meddwl ‘tybed sut fasa fan hyn wedi edrych flynyddoedd yn ôl?’ (dwi’n meddwl hyn wrth yrru heibio Castell Conwy bob diwrnod!)
Wrth ymyl fy nghartref, mae safle Castell Deganwy, a does yna fawr ddim ar ôl erbyn heddiw ‘mond ambell i adfail truenus. Flynyddoedd maith yn ôl fodd bynnag, mi fyddai hwn wedi bod yn gastell godidog yn hawlio safle cryf ger yr aber ar ben mynydd Y Fardre. Byddai’n wych gallu mynd yn ôl a’i weld yn ei anterth.
Wel, does ‘na ddim peiriant amser yn Anturiaethau’r Brenin Arthur gan Rebecca Thomas- mae pethau’n digwydd y ffordd arall rownd yn y nofel yma. Yn hytrach na chymeriadau’n mynd nôl mewn amser, mae un cymeriad hanesyddol enwog yn deffro yn ein cyfnod ni.
Dyna i chi rywbeth arall sy’n croesi fy meddwl weithiau, yn enwedig wrth feddwl am gymeriadau enwog neu hanesyddol. Dychmygwch allu cwrdd ag ambell un - byddai mor ddifyr eu holi am eu profiadau. Sgwn i be fasen nhw’n feddwl wrth weld y byd modern heddiw? Petawn i’n gallu cwrdd â rhywun o’r gorffennol, pwy faswn i’n dewis? Elvis Presley? Guto Ffowc? Yn sicr fasa cael sgwrs hefo Owain Glyndŵr yn ddifyr. Dyna fysa parti random iawn ynde...
Rhwng y clawr lliwgar gan Lleucu Gwenllian a’r ychydig froliant ar y clawr cefn, mae plot y stori’n eithaf amlwg. Y mae grŵp o blant ysgol on a mision, a hynny i ddarganfod lle mae’r Brenin Arthur wedi bod yn cysgu ers canrifoedd. Ar ôl mynd i’r holl drafferth ei ddarganfod, does dim ond un peth amdani... ei ddeffro!
Os dwi’n bod yn gwbl onest, ychydig iawn wyddwn i am Arthur mewn gwirionedd. Dwi’n cofio gwylio’r ffilm The Sword in the Stone a chlywed fod Arthur yn cysgu mewn ogof gudd, yn barod i ddihuno pan ddaw'r amser. Heblaw am hynny, wyddwn i fawr fwy! Efallai y byddai dipyn o gyd-destun am bwy oedd Arthur wedi bod yn ddefnyddiol yma, ryw dudalen efallai. Ta waeth, mae’r boi yn dipyn o lej, a dyna pam mae gynnon ni Google a Chat GPT erbyn hyn de!
Ar ôl canrifoedd yn huno, ai nawr yw’r amser cywir i’w ddeffro o’i drwmgwsg? Wel, mae plant Blwyddyn 9 Bannau Brycheiniog yn credu hynny. Mae ein byd mewn sefyllfa go bryderus, ac mae’r argyfwng amgylcheddol yn fygythiad i ni gyd. Mae’r bobl ifanc yma’n deall hyn, ond tydi’r gwleidyddion a’r pwysigion ddim yn gwrando. Does neb yn cymryd llawer o sylw o grŵp o blant, ond tybed nawn nhw wrando ar neb llai ond y Brenin Arthur!
Byddwch yn barod am antur ddoniol, gydag elfennau comedi ‘fish out of water’ wrth i’r hen Frenin geisio dod i arfer gyda rhyfeddodau’r byd modern: dyfeisiadau hud, ffyrdd rhyfedd o siarad, dillad od ac wrth gwrs... crisps!
Dwi wastad yn mwynhau nofelau hanesyddol Gwasg Carreg Gwalch, ond yn aml iawn mae’r rhain yn heriol a swmpus iawn, ac yn gofyn am sgiliau darllen aeddfed er mwyn eu gwerthfawrogi’n iawn. Roeddwn yn hynod falch o weld llyfr byrrach, ysgafnach yn dod i’r farchnad sy’n llawer haws i blant oed cynradd i’w ddarllen. Yn sicr byddai’r llyfr yma’n un y byddwn yn argymell fel nofel ddosbarth yn nhop y cynradd/CC3. Y mae’n clymu hanes a hud y gorffennol gyda negeseuon gwyddonol am y dyfodol. Dwi hefyd yn licio’r graphics group chat ar ddechrau’r llyfr.
Oes, mae yna ddigon o hiwmor yn y stori yma, ac mae meddwl am Frenin mawreddog yn bwyta paced o cheese and onions ar gefn bws yn gwneud i mi wenu. Fodd bynnag, yng nghanol y doniolwch, mae yna neges ddifrifol am ddyfodol ein planed.
Os dim byd arall, mae’r llyfr yn gwneud i ni sylweddoli nad oes angen ffigwr arwrol i arwain y gad, gan fod y gallu i newid pethau yn bob un ohonom. Mae gobaith y dyfodol ar ysgwyddau ein plant a’n pobl ifanc. Dwi reit obeithiol y medran nhw sortio’r llanast ‘da ni wedi ei greu (cyn bod hi’n rhy hwyr!)
Dyma stori one-off digon doniol a difyr, sydd yn syniad eitha’ gwahanol a gwreiddiol. Dwi’n gweld fod disgyblion wedi bod yn rhan o broses gynllunio’r nofel, ac mae hynny’n beth ardderchog.
Gawn ni stori am Owain Glyndŵr neu Llywelyn ein Llyw Olaf nesaf?
Kommentare