(awgrym) oed diddordeb: 0+
Genre: #ffeithiol #dwyieithog #babi
Mi ddes i a’r llyfr yma adref o’r llyfrgell i fy mab pum mis a hanner. Tyfais i fyny hefo llyfrau DK felly roeddwn i’n ‘nabod ac yn ymddiried yn y brand. Mae’r gyfres ‘Babi Cyffwrdd a Theimlo’ yn lyfr dwyieithog sy’n helpu babis adnabod geiriau newydd, gweld patrymau difyr a theimlo gweadau gwahanol. Mae’r llyfr yma yn lliwgar ac yn llawn hwyl y Nadolig.
Mae maint poced y llyfr yn handi ar gyfer dod a fo hefo ni yn y pram, ac mae’r clawr caled (ond sy’n reit squishy hefyd) yn addas iawn ac yn ddigon gwydn i ddelio â lot o ddribls– mae’n rhaid iddo fod achos mae popeth yn cael ei gnoi ar hyn o bryd! ‘Da ni yn y phase yna.
Dwi wrth fy modd yn gweld yr edrychiad o ryfeddod wyneb y bychan am bob dim. Fel oedolion, ‘da ni’n gallu anghofio weithiau fod popeth yn newydd ac yn fascinating i fabis. Yn y llyfr, mae sêr pefriog, dyn eira rhewllyd, pengwin ciwt, tedi fflwffiog a mwy. Mae rhai yn disgleirio ac mae gan eraill ddarnau bach o ddefnydd gwahanol i ddwylo bychan gael ‘cyffwrdd a theimlo’ a phrofi pethau newydd.
Os yn ‘darllen’ yn annibynnol fel arfer mae’r bychan jest yn hoffi dal y llyfr ac ymarfer pigo i fyny, gafael, troi ambell dudalen ac ati. Tydi’r ffaith nad ydio wir yn cymryd sylw o gynnwys y llyfr ddim yn fy mhoeni o gwbl, mae o’n archwilio’r llyfr ac yn dod i arfer gafael a thrin llyfrau, sy’n datblygu’r sgiliau motor man ac yn paratoi ar gyfer y dyfodol.
Fel llyfr o’r llyfrgell, roedd hwn am ddim, ac mi wnaeth y tro yn iawn. Mae Broc wrth ei fodd yn gafael ynddo ond dwi dipyn bach yn siomedig. Dwi’n meddwl fod y gweadau cyffwrdd angen dipyn mwy o amrywiaeth – mae nhw gyd reit ddiflas ac yn eithaf unremarkable. Wedi deud hynny, mae o ddigon bodlon felly who cares ynde.
Dwi’n meddwl fod fersiwn newydd, mwy diweddar o’r llyfr wedi cael ei ryddhau leni, o dan y teitl Babi Cyffwrdd a Theimlo: Nadolig Llawen / Baby Touch and Feel: Merry Christmas. Ella fod gan y fersiwn yma fwy i’w gynnig, ond dwi heb ei weld fy hun.
Comments