top of page
Writer's picturesônamlyfra

Ble mae Boc? Ar goll yn y chwedlau - Huw Aaron

*Scroll down for English*


O na! Mae Boc ar goll eto! Llyfr chwilio llawn hwyl.

Oh no! Boc's gone missing again! Fun search book.

Llyfr chwilio (fatha Where's Wally? - ond gwell!)

Where's Wally? -style search puzzle book.

Addas i oed 6+

Suitable for ages 6+

 

Mae ‘Ble Mae Boc 2’ wedi glanio o’r diwedd! Roedd y llyfr cyntaf yn bestseller ac mae plant Cymru (a’u rhieni) wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am yr ail lyfr yn y gyfres boblogaidd. Diolch byth felly bod Huw wedi bod wrthi fel slecs yn gwneud yn siŵr ei fod yn barod erbyn y ‘Dolig.


Os nad ydych chi’n gwybod erbyn hyn, draig fach goch yw Boc sydd rywsut neu’i gilydd yn llwyddo i fynd ar goll ar hyd a lled Cymru a’ch tasg chi yw ei ffeindio ynghanol ym mhrysurdeb y tyrfaoedd.



Yn yr ail gyfrol, caiff Boc ei sugno i mewn i fyd y chwedlau a chael ei swyno gan yr hud a’r lledrith. Cawn ein tywys ar antur i leoedd rhyfeddol fel y ddinas o dan y dŵr ac i deyrnas y tylwyth teg. Mae lluniau Huw Aaron mor anhygoel a lliwgar - yn wledd go iawn i’r llygaid. Mi allwch chi dreulio oriau yn craffu ar y manylion bach difyr yn ogystal â chwilio am ein hoff gymeriad. Tydi o'n llwyddo i greu'r bydoedd mwyaf ffantastig? Mae o'n dod a'i hiwmor i bob un, sy'n esbonio pam mae ei luniau mor boblogaidd gyda phlant Cymru. Fy hoff olygfa yw Parti Llyfrau Plant sy’n ryw fath o homage mawr i lenyddiaeth plant. Llwydda Huw i stwffio dwn im faint o hen wynebau cyfarwydd fel Sali Mali, Rala Rwdins a Superted i mewn. Dwi hefyd yn gwerthfawrogi rhai o’r cymeriadau mwy niche fel Ifan Bifan, Sali Sws a Slici a Slac- ahhhhh....atgofion melys o fy mhlentyndod! #fideoAsbriAnimeiddio


Dipyn o'r broses creu Ble Mae Boc. Anodd credu fod y cyfan wedi ei lunio gyda llaw

Ers i’r Where’s Wally? cyntaf gael ei gyhoeddi yn y 1980au, mae llyfrau ‘chwilio’ o’r fath yn hynod o boblogaidd gan eu bod yn wych ar gyfer pasio’r amser gan hefyd gael hwyl. Ond yn fwy ’na hynny maen nhw’n ein trainio ni i gymryd sylw o fanylion, i werthfawrogi’r cyffyrddiadau bach, ac i astudio pethau’n fanwl. Oeddech chi’n gwybod fod ’na waith ymchwil sy’n awgrymu fod llyfrau chwilio hyd yn oed yn gallu helpu gyda sgiliau darllen? Rhywbeth i wneud gyda symudiad tracio’r llygaid yn ôl y sôn...



Mantais Ble Mae Boc?: Ar goll yn y Chwedlau dros lyfrau eraill tebyg yw ei fod yn cyflwyno chwedlau a thraddodiadau sy’n arbennig i ni yng Nghymru, fel Y Mabinogi a Chantre’r Gwaelod. Caiff draig-chwilwyr brwd ddigon o hwyl wrth chwilio’n unigol, ond beth am wneud pethau’n fwy o hwyl a chyflwyno elfen o gystadleuaeth? Ras am y cyntaf!


Rhieni - dyma fuddsoddiad doeth iawn, yn enwedig ar gyfer siwrneion hirfaith yn y car! Y gobaith yw y bydd y plantos yn rhy brysur yn chwilio am Boc i ffraeo yn y set gefn. Wir i chi, mae ’na oriau o ddifyrrwch i’w gael rhwng y cloriau gan fod ‘na 10 tudalen ddwbl a thros 200 o drugareddau eraill i’w darganfod- bargen y flwyddyn am £4.99 yn fy marn i! Pryd bynnag y bydd gynnoch chi amser sbâr - wrth ddisgwyl yn y syrjeri neu bnawn glawog o flaen y tân - dyma gyfaill ffyddlon sy’n werth ei gael yn agos. Yn bersonol, dwi’n hoffi posau o’r fath cyn mynd i’r gwely a does ‘na ddim byd mwy satisfying ‘na ffeindio’r ddraig o’r diwedd (fel arfer reit o dan fy nhrwyn!)


O ia - a pheidiwch â meddwl fod hwn yn llyfr i blant yn unig. Dyma gyfrinach i chi - mae lot fawr o ‘ffans’ Boc yn rhieni! Tybiaf y bydd Siôn Corn yn gadael nifer fawr o’r rhain mewn hosanau ar hyd a lled Cymru'r Nadolig hwn.

 

‘Ble mae Boc 2’ has finally landed! The first book was a bestseller and the children of Wales (and their parents) have been eagerly awaiting the second book in the popular series. Thankfully, Huw Aaron has been furiously drawing to make sure it’s ready in time for Christmas!


If you didn’t already know, Boc is a small red dragon that somehow manages to keep getting lost all across Wales and it’s your job to find her in the midst of all those crowds.



In the second volume, Boc is sucked into the world of legends by their magic. We are taken on an adventure to amazing places such as an underwater city and to the kingdom of the fairies. Huw Aaron's pictures are incredible — so busy and colourful—a real treat for the eyes. You can spend hours staring at the little details as well as looking for our favourite fiery friend. The worlds he creates are fantastical and also incorporate some humour. No wonder he's one of Wales's favourite illustrators! My best scene is the Children's Book Party which is a kind of great homage to Welsh children's literature. Huw managed to get the old familiar faces in such as Sali Mali, Rala Rwdins and Superted. I also appreciated some of the more niche characters such as Ifan Bifan, Sali Sws and Slici and Slac- bringing back some fond memories of my childhood!


Since Where's Wally? Was first published in the 1980s, 'search' books are extremely popular as they’re great for passing the time while also having a bit of fun. But more than that they teach us to pay attention to the detail, and to take the time to look carefully. Did you know that there are some experts who suggest that search books can even help with reading skills? Something to do with eye movement and tracking apparently…


Some behind-the-scenes of creating the book. Hard to imagine it's all done by hand

Ble mae Boc: Ar goll yn y Chwedlau’s advantage over similar books is that it presents legends and traditions that are special to us in Wales, such as The Mabinogi and the tale of Cantre’r Gwaelod. Keen dragon-hunters can have plenty of fun searching individually, but why not make things more fun and introduce a competitive element? A race to see who finds Boc first!



Parents - this is a wise investment, especially for long family journeys in the car! Hopefully, the kids will be too busy looking for Boc to start arguing in the back seat. Honestly, there are hours of amusement to be had here with 10 double pages and over 200 other bits ‘n bobs to keep your eyes peeled for – a bargain for £4.99 in my opinion! Whenever you have time to kill, such as waiting at the GP surgery or a rainy afternoon in front of the fire - this is a good companion to keep close by. Personally, I like such puzzles before going to bed and there's nothing more satisfying than finally finding that dragon (usually lurking right under my own nose!)


Oh, and don't think this is just a children's book. Here’s a secret for you – many of Boc’s 'fans' are parents! I suspect Santa will be leaving lots of these in stockings around Wales this Christmas. It’s definitely on my list of presents to buy for family.

 

Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £4.99

ISBN: 9781784619541

 

116 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page