top of page

Ble Mae Santa / Where's Santa? - Pip Williams [addas. Luned Whelan]

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra


(awgrym) oed darllen: 5+

(awgrym) oed diddordeb: 0-5


 

Disgrifiad Gwales:

Llyfr chwilio-a-chanfod hud lle gall plant chwilio am gymeriadau Nadoligaidd trwy gyfrwng 'ffenest glyfar' ar bob tudalen. Ceir pum golygfa dymhorol, a thrwy ddefnyddio'r torts hud ar ffurf cerdyn rhwng y tudalen a'r 'ffenest glyfar', caiff plant eu swyno a'u rhyfeddu gan y darluniau cudd a ddatgelir.



 

Un o’r pethau mwyaf diddorol wnes i yn 2023 oedd cael job mewn llyfrgell. Dwi wrth fy modd yng nghanol y llyfrau, ac mae’n gyfle grêt i ffeindio allan am rai bach da. Dyma sut wnes i glywed am Ble mae Santa/ Where’s Santa? – pan ddaeth plentyn a fo at y ddesg er mwyn cael ei fenthyg. Roeddwn i’n meddwl fod y llyfr yn cŵl ac yn wahanol iawn.



Dyma chydig o bwyntiau bwled amdano:


  • Mae'r llyfr yn ddwyieithog felly yn grêt os 'da chi'n dysgu Cymraeg neu isio helpu eich plentyn. Os 'da chi'n gallu siarad Cymraeg yn barod, wel, 'da chi'n cael bargen - dau stori am bris un!

  • Mae steil y llyfr yn gyfoes ac yn lliwgar

  • Mae'r stori yn cynnwys tortsh er mwyn chwilio am wahanol gymeriadau - bydd hyn yn siŵr o wneud darllen yn hwyl - yn enwedig os 'da chi'n cael trafferth cael eich plentyn i eistedd lawr i wrando ar stori. Rhaid i chi lithro'r tortsh rhwng y tudalenau er mwyn ei ddefnyddio.

  • Mae'r tortsh yn rhyngweithiol ac yn rhoi rhywbeth i'r plant wneud wrth ddarllen.

lle bach handi i storio'r tortsh. Mae o'n styc felly wneith o ddim mynd ar goll!

Gwyliwch y clip fideo isod i weld sut mae'n gweithio:




 

Gwasg: Rily

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £6.99

Fformat: Clawr Caled

 

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page