*Scroll down for English*
♥Llyfr y Mis: Ebrill 2021♥
♥Book of the Month: April 2021♥
Oed darllen/reading age: 5+
Oed diddordeb/interest age: 3-7
Dyma lyfr newydd arall yng nghyfres hynod o boblogaidd Cyw, wedi ei ysgrifennu gan yr awdur profiadol, Anni Llŷn. Dyma gyfle eto i fynd i fyd cyfarwydd Cyw a chwrdd eto â hen ffrindiau fel Llew, Plwmp, Deryn, Jangl ac wrth gwrs Bolgi’r ci. Mantais y gyfres yw bod plant yn hen gyfarwydd gyda Cyw a’i ffrindiau yn barod ac mae’n frand sy’n adnabyddus i rieni.
Y tro hwn, mae Bolgi yn diogi ac yn gorweddian ar y soffa tra mae pawb arall yn helpu i lanhau. Does dim byd yn ei blesio, tan mae Cyw yn cyhoeddi bod Guto’r Ffermwr am i Cyw a’r criw ofalu am oen bach newydd. Mae Bolgi’n codi’n sydyn ac yn cyffroi’n lan wrth iddo hel atgofion melys o’r cyfnod diwethaf pan ddaeth oen bach i aros.
Neges bwysig, hynod amserol am amrywiaeth, cydraddoldeb ac aml-ddiwylliannedd sydd dan sylw yn y llyfr hwn ac fe gaiff ei gyfleu mewn ffordd syml, annwyl ac effeithiol. Yn wahanol i’r oen bach diwethaf, oedd yn wyn, mae’r oen newydd yn ddu, gyda chot o wlân tywyll a chyrliog.
Dydi Bolgi ddim yn siŵr iawn a fydd yr oen newydd yn hoffi’r un pethau â’r oen diwethaf ddaeth i aros, ond buan y daw i sylweddoli fod yr oen hwn hefyd yn hoffi peintio, padlo a chael stori. Maen nhw’n mwynhau gwneud yr un pethau a chaiff y ddau oriau o hwyl. A dweud y gwir, gwna’r oen bach newydd ambell beth yn wahanol hefyd, sydd yn gyfle i gael hyd yn oed mwy o hwyl. Am ffordd fendigedig o ddangos i blant ifanc bod amrywiaeth yn rhywbeth i’w drysori a'i fod yn cyfoethogi bywyd mewn cymaint o ffyrdd.
Wrth ddod ar draws sefyllfaoedd newydd neu anghyfarwydd, mae’n bosib y bydd plant ifanc yn chwilfrydig am bobl sy’n wahanol iddyn nhw. Bydd y llyfr lliwgar yma’n helpu i ddangos iddynt na ddylid ofni rhywbeth newydd neu wahanol a bod y gwahaniaethau rhyngom yn bethau i’w dathlu a’u clodfori.
This is yet another book in Cyw's extremely popular series, written by experienced author, Anni Llŷn. This is another opportunity to delve into the familiar world of Cyw and meet up with old friends such as Llew, Plwmp, Deryn, Jangl and of course Bolgi the dog. The advantage of this series is that children are already well acquainted with Cyw & co from the tv series and it’s a well-established and trusted brand.
This time, Bolgi is being lazy and lying on the sofa whilst everyone else helps to tidy up. He’s in one of those moods where nothing pleases him, that is until Cyw announces that Guto the Farmer wants them gang to care for a little lamb. Bolgi instantly perks up and is very excited about his visitor as he reminisces fondly of the last time a little lamb came to stay.
This book contains an important and very timely message about diversity, equality and multiculturalism and is conveyed in a lovely, simple, yet highly effective way. Unlike the last lamb, which was white, this one is black, with a beautiful coat of dark and curly wool.
Initially, Bolgi isn't sure whether the new lamb will like the same things as him, but he soon comes to realise that his new friend also likes to paint, paddle and have a story. They enjoy doing the same things and both have hours of fun. In fact, the new little lamb also does a few things differently, which is a chance to have even more fun. What a wonderful way of showing young children that diversity is something to be treasured and that it enriches life in so many ways.
When encountering new or unfamiliar situations, young children may be curious about people who are different to them. This colourful book will help to show them that something new or different should not be feared and that the differences between us are things to celebrate and praise.
Comentarios