top of page

Brenin y Trenyrs - Pryderi Gwyn Jones

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

*Scroll down for English*


Os 'da chi'n caru trenyrs, hwn yw'r llyfr i chi!

If you love trainers, then this is the book for you!

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◎◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◉◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎

Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎

Oedran/Age: 11-14


Arlwunwaith/Artwork: Huw Richards


 

Adidas, Nike, Puma, Vans, Converse, Reebok, New Balance, Asics… does ’na drenyrs di-ri yn y byd… a does ’na neb wedi gwirioni gyda nhw mwy na phrif gymeriad y llyfr. Wrth ymweld yn rheolaidd â ’sgidlocyr, sef siop sgidiau mwyaf cŵl y dref, glafoeria am gael un par yn enwedig – yr Adidas ZX100000!


Dwi’n gallu dallt penbleth y prif gymeriad yn iawn, achos mi ydw i’n ffan fawr o drenyrs fy hun ac yn fussy dros ben wrth siopa am bâr newydd. Weithiau, gall gymryd misoedd i ffeindio’r pâr perffaith! Fy hoff rai ERIOED yw’r rhai sydd gen i ar hyn o bryd, sef y Nike Pegasus 36. (oni'n super chuffed fod Manon Steffan Ros wedi deud bod nhw'n neis!) Ella fod hyn dipyn bach yn sad ond dwi’n eu ‘llnau nhw’n fisol er mwyn eu cadw nhw’n edrych ar eu gorau. Dwi’m yn meddwl fod y car yn cael gymaint o sylw hyd yn oed!


Fy hoff bar o drenyrs... erioed!!

Ta waeth – gan fy mod i’n dipyn bach o trainer geek fy hun, apeliodd y teitl a’r clawr yn syth. Roedd y clawr yn lliwgar ac iddo deimlad eithaf ‘retro.’


Yn y stori, dilynwn hynt a helynt y bachgen 13 oed, wrth iddo feddwl am ffyrdd dyfeisgar o hel y pres sydd ei angen i brynu’r pâr o drenyrs delfrydol. Does ganddo ddim gobaith o gael swydd, ac mae’r pres poced mor bitw, chaiff o byth mo’r trenyrs fel hyn. Gyda’i fêt gorau, Dyl, mae’r bechgyn yn dyfeisio cynllun er mwyn hel yr arian at ei gilydd. Cynllun fydd yn eu harwain at guddfan arbennig, yn y to uwchben swyddfa’r athrawon ymarfer corff! A wyddoch chi i ble mae’r twll yn y nenfwd yn arwain? ’Stafelloedd newid y genethod! O diar!


Mae ambell is-naratif wedi eu clymu i mewn i’r brif stori, ac mae ’na dipyn o ‘love story’ rhwng y prif gymeriad a Lowri, merch olygus sydd yn yr un flwyddyn ag o. Yn anffodus, mae ’na ddwylo blewog o gwmpas a chawn wybod bod ’na leidr yn yr ysgol! Sut fydd hyn yn effeithio ar gynlluniau ein prif gymeriad? Bydd yn rhaid i chi ddarllen i ffeindio allan!



Gall ennyn person ifanc i ddewis llyfr a’i ddarllen fod yn sialens ynddo’i hun yn aml iawn, ac os bydd darllenwr wedi cwblhau’r llyfr a’i fwynhau, yna gall yr awdur fod yn fodlon iawn â hynny. Job done. Dyma lyfr ysgafn iawn, sy’n osgoi bod yn rhy ddwys a phregethwrol, er bod yr awdur wedi llwyddo i gynnwys ambell i neges. Dyma lyfr gyda ’chydig o hiwmor y gallwn ei fwynhau heb ormod o waith meddwl– ac mae hyn reit brin yn y Gymraeg. Mae plant a phobl ifanc yn dweud fod llyfrau Cymraeg yn rhy serious, ac yn galw am fwy o hiwmor! (Gweler adroddiad Rosser, 2017). Dyma awdur sydd wedi gwrando ar y gynulleidfa, yn ôl pob tebyg. Mi wnes i fwynhau’r trivia am rai o’r prif frandiau (siŵr o ddod yn handi mewn pub quiz rhyw ddydd!) a’r ffaith fod sgidia velcro yn cael gymaint o stick! (mor wir!) Faswn i ddim wedi meiddio cael rhai velcro yn yr ysgol uwchradd!



Dyma stori reit wahanol, sy’n ychwanegu at yr arlwy o lyfrau a straeon amrywiol sy’n bwydo diet llenyddol cytbwys pobl ifanc. Ni cheir yma stori o hud a lledrith mewn arall fydoedd pell, ond yn hytrach, pwnc digon cyfarwydd a down-to-earth gydag iaith naturiol a thafodiaith Ogleddol. Athro uwchradd yw’r awdur, felly mae’n amlwg wedi treulio digon o amser yng nghwmni pobl ifanc i ddeall yr hyn sy’n apelio i ddarllenwyr ifanc - ond nid rhy ifanc. A fydd y nofel yn plesio? Cawn weld - mae’r grŵp oedran 11-14 yn un anodd i’w blesio!


Yn bersonol, doeddwn i ddim wedi rhagweld dilyniant i’r nofel, felly bydd hi’n ddiddorol gweld lle fydd y stori nesaf yn mynd. Bydd Kaiser y Trenyrs allan ddiwedd y flwyddyn yn ôl y sôn.


 

Adidas, Nike, Puma, Vans, Converse, Reebok, New Balance, Asics... there’s no shortage of trainers in the world... and no one is more obsessed with them than our main character. He often frequents the coolest shoe shop in town, ‘Sgidlocyr, and dreams of owning the best (and most expensive) pair in the shop – the Adidas ZX100000. Cue God-like beams of light and choral music!


My fav pair of trainers.. ever!

I ‘get’ the main character’s love of trainers, because I'm a big fan of them myself and rather fussy when it comes to selecting a new pair. Sometimes, it can take months to find the perfect pair! My favourite trainers ever are the ones I have currently, the Nike Pegasus 36. You might think it a bit sad but I’ll clean them regularly to keep them looking at their best. I don’t think the car even gets that much attention!


So, as I’m a bit of a trainer freak myself, the title and cover appealed. It’s a colourful front cover, if not a little retro.



In the story, we follow the 13-year-old boy as he devises ingenious ways scrimp and save the money he needs to get those trainers. He hasn’t got a job, and the pocket money is quite dire, so greater measures are called for! With his best mate, the lads come up with a plan – a plan that somehow leads them to a hidden loft space above the PE teacher’s office. And do you know where that opening in the roof leads? The girl’s changing rooms! Oh dear!


We have a few sub-stories within the main narrative including a bit of a romance with a pretty girl in his year. There’s also the matter of the school thief. How will this affect the boys’ plans? You’ll have to read to find out!


Engaging young teens in reading can often be a challenge in itself, and if a reader picks up, finishes and enjoys this book, the author can sleep easily. This is a very light-hearted book, which avoids being too preachy and ‘deep’, although the author has managed to include a few messages. This is a book with a sense of humour that we can enjoy without too much thinking. Children and young people say that Welsh books are too serious, and call for more humour! (See Rosser report, 2017). This is a writer who has tried listening to the audience. I liked the bits of trivia about some of the well-known brands (sure to come in handy one day in a pub quiz!) and the attention to little details. For example, the teens’ perceptions of Velcro shoes – (so true!) – you wouldn’t have dared to wear Velcro when I was in high school!



This story is a bit different, which adds to variety that feeds into young people's balanced literary diet. We don’t get magical fantasies in faraway lands here, but what we do get is familiar and down-to-earth subject matter. The writing is natural and uses Northern dialect. The author is a secondary school teacher, so has obviously spent enough time with young people to understand what appeals to young readers - but not too young. Will the novel appeal? We shall see - the 11-14 age group is a tough one to crack!


Personally, I hadn't anticipated a follow-up to the novel, so it will be interesting to see where the next story will go. Kaiser y Trenyrs will follow towards the end of the year.

 

Gwasg/publisher: Gwasg Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £6.95

 

AM YR AWDUR:


Er iddo gael ei eni yn Aberystwyth, magwyd PryderiGwyn Jones yn Llansannan,

Dyffryn Clwyd ac ym Mangor. Wedi cyfnod yn teithio de America ac Ewrop,

symudodd i’r canolbarth wedi iddo briodi merch o Lanbryn-mair, a bellach

mae’n dad i ddwy o ferched. Treulia ei ddyddiau ym Maldwyn yn dysgu yn Ysgol

Uwchradd Caereinion, ac ymddiddora’n fawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêldroed!

Ymhlith ei lwyddiannau eisteddfodol mae coron Eisteddfod Powys 2004 a

2011, a Stôl Stomp Tegeingl 2012. Brenin y Trenyrs yw ei nofel gyntaf.

 

146 views0 comments

Recent Posts

See All

留言

評等為 0(最高為 5 顆星)。
暫無評等

新增評等
bottom of page