top of page
Writer's picturesônamlyfra

Cadi a'r Celtiaid - Bethan Gwanas

*Scroll down for English & comments*


Antur yn oes y Celtiaid!

Time-travel adventure with the Celts!


llun ddim cweit wedi sganio'n iawn!

Gwasg/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2019

Pris: £5.99

ISBN: 978-1-78461-744-8


Lefel her/Challenge Level: ❖ ❖

More text than one might expect, but the result is a richer story.


☆ ☆ Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original ☆ ☆

 

Mae’r bedwaredd stori yng nghyfres Cadi wedi glanio. Cadi a’r Celtiaid. Dwi’n tybio fod y teitl yn gliw i chi lle mae Cadi’n mynd ar yn antur yma! Yn ôl mewn amser…



Mae Cadi’n ferch fach ddireidus, busneslyd, ond hoffus ar yr un pryd! Tro ‘ma, mae’r antur yn cychwyn wrth i Cadi, ei Mam a’i brawd fynd i gampio yn Sir Fôn. Mi fydd pobl yr ynys yn siŵr o ‘nabod y domen ar y clawr, sef Bryn Celli Ddu. Neolithic Burial chamber ydi o i mi, ond fel gwnes i ddysgu yn y llyfr, Ystafell Gladdu yn y Gymraeg!


Ar ôl sleifio allan o’r dent yn fuan iawn, heb ganiatâd ei Mam, mae Cadi’n cael ei chludo gyda hud a lledrith i Oes y Celtiaid, i weld sut oedd bywyd adeg hynny. (Licio sut mae’r llyfr yn hollol ‘PC’, gan ein hatgoffa fod gwneud hyn yn beryglus go iawn! Cyfrifol iawn.) Ers i mi fod yn blentyn, dwi wedi breuddwydio am gael y gallu i fynd nôl mewn amser i weld y byd fel ac yr oedd... Dwi heb lwyddo eto!



Mae Cadi’n cael cyfle i baratoi bwyd, i wneud gwaith metel A llwyddo i achub y pentref rhag y llwyth peryg drws nesa! Tipyn o gamp mewn cyn lleied o amser! Ar y daith, mae hi’n dysgu sgiliau pwysig fel canolbwyntio, dyfalbarhad ac yn sylwi pa mor anodd oedd bywyd heb bethau moethus modern! Dwi’n falch fod Bethan Gwanas heb wneud Cadi’n berffaith o’r cychwyn, a bod ganddi dal bethau i ddysgu/meistroli.


Mae lluniau Janet Samuel yn hyfryd ac yn gweddu’r llyfr i’r dim. O ran y ‘sgwennu, oes, mae 'na dipyn go lew ohono. Ar ei blog personol, mae’r awdur yn esbonio fod hyn yn fwriadol. Doedd hi ddim isio’r llyfr allu cael ei orffen mewn un eisteddiad, ond yn hytrach ei fwynhau mewn tameidiau dros sawl noson. Dwi’n cytuno Bethan. Dechrau cael y plant i arfer gyda thestun hirach. Wrth gwrs, os oes darllenydd llai hyderus , yna digon hawdd yw mwynhau’r llyfr drwy gyd-ddarllen gydag oedolyn.



Het athro ymlaen eto: mae’n stori dda ar gyfer dechrau uned o waith ar Oes y Celtiaid, ac yn sbardun efallai ar gyfer mynd ar drip bach i ardal Llanddaniel Fab! Ar ôl darllen am gadwyn Cadi, mi es i wneud ‘chydig o ‘googlio’ am ystyr y Drisgell. Roedd y rhif 3 yn bwysig i’r Celtiaid, ac yn ôl un gwefan diddorol…


Possible meanings include:

· Three stages of life: life, death, and rebirth

· Three elements: The Father, the Son, and the Holy Spirit

· Three domains: earth, sea and sky, past, present and future.



 

The fourth story in the Cadi series has landed. Cadi a’r Celtiaid [Cadi & Celts]. I suppose the title is a big clue for where Cadi is going on her next adventure! Back in time...


Cadi is a nosey, mischievous little girl but most likeable! The adventure begins whilst Cadi, her mum and brother go camping in Anglesey. Island folk will no doubt be familiar with the mound on the cover, namely Bryn Celli Ddu, a Neolithic Burial Chamber.



After sneaking out of the tent very early in the morning without her mum's permission, Cadi is transported back to the time of the Celts, to see what life was like at that time. (I like that the book remains totally ' PC 'by reminding us that doing this is really dangerous! Very responsible advice.) Since I was a child, I've dreamed of having the ability to go back in time to see the world as it once was... I haven't succeeded yet!


Cadi has the opportunity to prepare food, do some metalwork and even finds time to save the village from the neighbouring tribe! Quite some feat in so little time! On the trip, she learns important skills such as concentration and perseverance. Good qualities for anybody to learn. She also realises how tough life used to be without modern luxuries! I'm glad that Bethan Gwanas has not made Cadi perfect from the start, and there are still things she needs to learn.



Janet Samuels ' drawings are lovely and suit the book. As for the writing, well yes, it has quite a lot of text. On her personal blog, the author explains that this is deliberate. The book is not one to be rushed and finished in one sitting, but rather, enjoyed over several nights. I agree Bethan. Start getting the kids used to longer texts. Of course, should someone be a less confident reader, then it a good book to enjoy with an adult.


Putting on my teacher hat again: It's a good story for starting an unit of work on the Celts and maybe even as a springboard for a small class outing to Llanddaniel Fab! After reading about Cadi’s necklace I went googling the meaning of the triskele symbol. The number 3 was important to the Celts, and according to one interesting website...


Possible meanings include:

· Three stages of life: life, death, and rebirth

· Three elements: The Father, the Son, and the Holy Spirit

· Three domains: earth, sea and sky, past, present and future.



88 views0 comments

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page