
(awgrym) oed diddordeb: 6 mis+
(awgrym) oed darllen: 5+
Pynciau: #anifeiliaid #fflapiau
Adolygiad gan Esyllt Roberts (rhiant) ar ran Saran Roberts (18 mis oed)
Llyfr deniadol o'r clawr i'r cefn! O gacennau Dolig i grocodeil yn dawnsio wrth y goeden, dyma lyfr llawn hwyl a direidi.
Yn syth wedi i'm merch agor y dudalen gyntaf, dechreuodd chwilio am Smot. Heb os, y nodwedd orau am y llyfr yw'r amryw o labedi i'w codi yng nghanol y lluniau lliwgar, er mwyn canfod Smot. Er iddi efallai fod yn rhy awyddus i godi rhai ohonynt (!), dyma ffordd hwyliog o gynnal diddordeb y plentyn wrth iddynt deimlo'n rhan o'r antur a datblygu sgiliau symud manwl.

Gan fod y stori'n sôn am nifer o draddodiadau teuluol adeg y Nadolig, a hynt a helynt Smot yng nghanol y paratoadau am y diwrnod mawr, mae'n ffordd wych o gyflwyno'r Ŵyl i blant bach. Yn ogystal, cawn ambell ymwelydd braidd yn annisgwyl i'r parti Nadolig... sy'n ychwanegu elfen o hiwmor i fabis!
Mae'r lluniau o faint ac ansawdd da, sy'n sicr yn ychwanegu at apêl y llyfr i blant bach. Mwynhaodd fy merch enwi'r hyn roedd hi'n ei weld hefyd, felly'n gyfle euraidd i ddatblygu sgiliau cyfathrebu ac ymarfer rhai o eiriau cyntaf babi.
Mae hi bellach yn dipyn o ffrind i'r hen Smot a dwi'n siŵr mai dim dyma'r tro olaf i ni ddarllen am ei anturiaethau difyr. 10/10 ac ymlaen i'r nesa!


Comentarios