top of page
Writer's picturesônamlyfra

Criw'r Coed a'r Gwenyn Coll - Carys Haf Glyn

*Scroll down for English*


'Cofiwch y gwenyn' yw'r neges fawr!

'Remember the bees' is the take-home message!

 

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎

Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎


Lluniau/pictures: Ruth Jên

 

GWYLIWCH CARYS YN RAPIO YN Y GOEDWIG!

Watch Carys rapping from the book!

 

Wedi bod yn Nhŷ Newydd fy hun ar gwrs ‘sgwennu preswyl, dwi’n gwybod pa mor bwysig yw cyrsiau o’r fath ar gyfer datblygu awduron newydd. Mae’n brofiad bythgofiadwy a gwerthfawr iawn i bawb sy’n mynychu, ac mae’r buddsoddiad yn talu ar ei ganfed pan mae partneriaethau a llyfrau newydd yn deillio ohono.


Dyma oedd stori Carys Glyn, yr awdures a’r artist Ruth Jên wnaeth benderfynu cydweithio yn dilyn cwrs yn 2019. Yno, datblygwyd y syniad o gyfuno rhai o anifeiliaid y Mabinogi a phroblem amgylcheddol gyfoes i greu llyfr hyfryd newydd gyffrous i blant ifanc - Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll.


O afael yn y llyfr am y tro cyntaf, mae safon yr argraffu yn amlwg. Braf yw cael llyfr clawr caled weithiau, ac yn enwedig un sy’n byrlymu â lliwiau llachar fel hyn. Bydd y gwenyn yn siŵr o heidio at hwn!

Beth yw’r stori?

Mae’r giang o anifeiliaid y goedwig (Criw’r Coed) fel rhyw fath o elders doeth sy’n byw yn y goedwig. Fel rheol, mae anifeiliaid eraill yn mynd atynt am gyngor, ond yn rhyfedd iawn, yn ddiweddar does neb wedi dod atynt i chwilio am help.



Wedi disgwyl a disgwyl, yn sydyn iawn, daw gwenynen unig a thrist i’r golwg, sy’n cwyno nad oes ganddi ffrindiau ar ôl. Cyfeiriad yw hyn wrth gwrs, at un o broblemau mawr ein hoes sydd yn aml yn cael ei wthio o’r neilltu – mae ein gwenyn yn diflannu. Dyma ffaith hynod frawychus. Dyw hi ddim yn syndod pam ei fod yn digwydd chwaith - achos bod eu cynefin a’u bwyd yn lleihau, o’n herwydd ni, y bobl.


Mae’r criw yn cael rhyw fath o ‘Avengers Assemble’ moment, a drwy bŵer y ‘rap’ fe ddyfeisiant gynllun clyfar i achub y gwenyn, sef plannu hadau wrth gwrs! Dwi’n meddwl fod cynnwys elfen ryngweithiol fel rap yn sicrhau bod y llyfr yn fwy modern ac yn siŵr o apelio at y plant lleiaf wrth iddyn nhw ymuno yn yr hwyl. Top Marks i Carys Glyn am wneud y fideo rapio yn y goedwig hefyd. Gwych!



Dyma lyfr hynod o addas ar gyfer y Cyfnod Sylfaen gan ei fod yn cyflwyno problem amgylcheddol gymhleth mewn ffordd sy’n ddealladwy ac heb ddychryn. Agora’r llyfr y drws ar gyfer trafodaethau defnyddiol a phwysig gyda phlant ifanc am anifeiliaid gwyllt, cadwraeth, bioamrywiaeth, ecosystemau, blodau a mwy! Rhaid cyfleu’r syniad fod rhywbeth mor fach â gwenyn, yn chware rhan mor fawr yn ein byd bregus a dwi’n teimlo fod y llyfr yn cyflawni hyn. I’r perwyl hwnnw felly, efallai byddai’r llyfr wedi gallu sôn mwy (ar lefel syml) am SUT mae’r gwenyn yn helpu e.e. peillio. Ond mae digon o gyfle i astudio hynny wedyn does?


Dwi di bod yn brysur yn yr ardd yn plannu hadau blodau gwyllt 'fyd! Dim ond taflu hadau dros y gwair wnes i. Ma nhw'n tyfu ar ddim a ma'r gwenyn wrth eu bodd!

Gallwch ddefnyddio’r llyfr fel sbardun ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hefyd, yn y dosbarth a rhai ymarferol yn yr ardaloedd tu allan. Cryfder y llyfr yw ei fod yn tynnu sylw plant at faterion amgylcheddol sy’n berthnasol i’w milltir sgwâr. Ac ar ôl darllen a rapio, beth am roi’r cyfle i’r plant gael bod yn rhan o ‘griw’r coed’ a mynd allan i blannu blodau gwyllt? Byddent yn cael blas ar arddio a chael cyfrannu at yr achos amgylcheddol yr un pryd. Result!


Mae mor bwysig cynnal sgyrsiau fel hyn gyda phlant ifanc, a gallwn ond obeithio y bydden nhw’n gwarchod a pharchu’r byd yn well na wnaeth ein cenhedlaeth ni. Mae’n taro ar sawl egwyddor o’r Cwricwlwm Newydd, gan gynnwys y pedwar diben newydd sydd wrth graidd y cyfan: “ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.”


Fel y mae’r cerdyn busnes ar y diwedd yn awgrymu, “does dim problem yn rhy fawr..” i Griw’r Coed! Sgwn i beth fydd y ‘broblem’ nesaf i’r criw mentrus ei daclo! Brexit efallai?

 

Having been in Tŷ Newydd myself on a residential writing course, I know how important such courses are for developing the next generation of writers. It’s an unforgettable experience and very valuable for all those who attend. The success of such courses speaks for itself when new partnerships, collaborations and ultimately books result from it.


This was how Carys Glyn, the author, and Ruth Jên, the artist, decided to work together following a course there in 2019. They decided to combine some of the legendary animals from the Mabinogi and link them to a contemporary environmental problem - Criw'r Coed a’r Gwenyn Coll was born.


As soon as I get hold of the book, the high standard is evident. I like a good hardback book, and especially one bursting with bright and vibrant colours like this. The bees will no doubt go crazy for this one!


What’s the story?

The animals of the forest are like wise old elders that the other animals turn to for advice. Strangely enough, no-one seems to be in need of any assistance. That is, until all of a sudden, a sad, lonely bee emerges, complaining that she has no friends left. This is of course a reference to a big problem of our times which is often forgotten – our bees are disappearing. This fact, though shocking is not surprising – their habitats and food sources are being diminished because of us. If it’s green, we pave over it with concrete…



The crew then get a sort of ‘Avengers Assemble’ moment, and through the power of rap they devise a clever plan to save the bees – planting seeds! I think the inclusion of an interactive element such as the rap ensures that the book feels modern and will surely appeal to young children as they join in with the fun. Hats off to Carys Glyn for giving the rap a go in the forest! Great!



This is a very appropriate book for the Foundation Phase as it presents a complex environmental problem in a way that is understandable. The book opens the door for important discussions with young children about a whole host of environmental topics such as wild animals, conservation, biodiversity, ecosystems, flowers and more. The idea is that something as small as bees, play such a large part in our fragile world. To that end, the book could have mentioned (only in passing on a simple level) about HOW the bees help e.g. pollination. But there are plenty of opportunities to take a closer look at that following the reading.


I've also been out planting wildflowers - just throw the seeds down - they just seem to grow without help. (the bees are mad for them!)

You can use the book as a springboard for a variety of activities, both in class and on a practical level in the outside areas. The strength of the book is that it draws children's attention to environmental issues that are relevant to their lives and in their immediate locality – not a problem far away. After the reading and rapping, what better follow-up activity than going out to plant some seeds and wildflowers? They’d get a taste of gardening and would be contributing to the cause at the same time!


It’s vitally important to have conversations like this with young children, and we can only hope that they will protect and respect the earth more than our generation did. The book aligns with several principles of the new curriculum for Wales, including the four purposes at the heart of it all: "principled, informed citizens in Wales and the world."


As the business card suggests, "no problem is too great” for this lot! I wonder what they’ll tackle next?! Brexit perhaps? Only kidding!

 

Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £6.99

 

Erthygl am y llyfr ar Lleol.cymru

Read an article about the book on Lleol.Cymru

 

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page