top of page
Writer's picturesônamlyfra

Cwmwl Cai - Nia Parry

Updated: Jan 28, 2020

*Scroll down for English & comments*


Llyfr sy'n trafod ymwybyddiaeth ofalgar.

Mindfulness-based storybook.



Gwasg/publisher: Gomer

Cyhoeddwyd/released: 2019

Pris: £6.99

ISBN: 978-1-78562-297-7


★ ★ Cymraeg gwreiddiol - Welsh Original ★ ★

 

Mae Cai yn cael dyddiau da, ac mae’n cael dyddiau gwael. Mewn ffordd, dwi’n meddwl fod hyn yn wir i ni gyd i raddau. Dyna yw bywyd weithiau ynte. You take the highs with the lows.



Mae Nia a thîm o arbenigwyr yn y maes wedi datblygu llyfr sy’n sôn am rai o’r technegau sydd ar gael i helpu Cai deimlo’n well mewn iaith syml a hawdd i’w ddeall. Mae hyd yn oed y ffont sy’n cael ei ddefnyddio yn addas i blant. Adiwch y cyngor da a’r stori ei hun at luniau bendigedig Gwen Millward, ac mae gennych lyfr gwerth chweil yma.


Er enghraifft, weithiau pan mae’r felan ar Cai, mae’n ysgwyd ei snowglobe ac yn gwylio’r gliter yn ofalus. Mae meddyliau Cai yn tawelu ac yn setlo fel y gliter. Ymarferion syml iawn.


Mae’r esiamplau ar dudalennau 12 a 13 yn hynod o berthnasol achos mae sefyllfa’r dosbarth yn gallu cynhyrfu nifer o blant, fel Cai. Wrth gwrs, mae ‘na ddyddiau da, ond weithiau, yn yr union yr un sefyllfa, am ryw reswm neu'i gilydd, mae’n teimlo’n isel neu mewn panig. Mae’r pwysau sydd ar blant yn yr ysgol y dyddiau hyn, i ganolbwyntio, i gadw i fyny neu i fod yr un fath a phawb arall yn gallu bod yn ormod i rai. Dwi’n cofio fy nghalon yn curo a fy mochau’n poethi wrth i’r athrawes alw fy enw i ateb mewn gwers mathemateg. Gêm 24! Mochyn o beth!



Mae’r llyfr yn sôn am rai o’r teimladau ac mae’n dysgu plant i adnabod rhai o’r cliwiau yn eu cyrff fod rhywbeth o’i le. Yna, mae’n cynnig strategaethau i ddelio a rhai problemau.


Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn rhywbeth sydd wedi cael cryn dipyn o gyhoeddusrwydd yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae mwy o bobl yn dod i ddeall y buddion o’i wneud. Mae’n dysgu ni sut i sylwi ar ein corff, sut mae’n symud wrth i ni anadlu. Rydym ni’n gallu tawelu’r corff a'r meddwl er mwyn ymlacio.



Dwi’n cofio pan oni’n dysgu, roeddwn i’n gwneud ymarferion tebyg gyda fy nosbarth yng nghyfnod y Profion Cenedlaethol. Mae o YN gweithio! Roedd y plant wrth eu bodd yn cael switch off am ‘chydig a chau llygaid ac ymlacio. Sitting Still Like a Frog oedd y llyfr+CD oeddwn i’n ei ddefnyddio. Rŵan, mae Cwmwl Cai yn rhoi adnodd Cymraeg i ni.


Yn amlwg, byddai’r llyfr yn ddefnyddiol iawn i’w ddarllen adref gyda phlant sy’n cael trafferth rheoli emosiynau, neu sy’n dueddol o boeni neu or- bryderu. Fodd bynnag, dwi’n meddwl byddai’n werth defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar yn yr ysgol gyda phawb. Fel oedolyn, mae gen i dechnegau fy hun hefyd - dwi’n hoffi cael cawod mewn tywyllwch llwyr gan ganolbwyntio ar wres a sŵn y dŵr yn unig. Efallai eich bod yn meddwl fod hynny’n od - ond mae o’n gweithio i mi! (wnâi ddim argymell hyn rhag ofn i chi lithro!)


Dwi’n meddwl bydd pawb yn gallu uniaethu gyda Cai. Mae bywyd yn gallu bod yn hen beth unpredictable, a’r peth pwysig yw bod gennym ni’r strategaethau yn eu lle i ddelio gyda stress a phrysurdeb bywyd bob dydd.

Beth am ddefnyddio’r llyfr fel sbardun i drafod strategaethau newydd, gwahanol unigryw? Y plant ei hunain fydd gan y syniadau gorau.


Ym Mhrifysgol Bangor mae’r Ganolfan Ymarfer ac Ymchwil mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar. Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

Mae 'na draciau sain ar gael i roi blas i chi a dwi’n gwybod fod 'na glipiau da ar Youtube (ond dim yn Gymraeg yn anffodus).Oedolion, mae Ap Cwtsh yn un da r gyfer myfyrio tawel.


 

Cai has good days and has some bad days. In a sense, I think this is true of us all to a degree. That’s life sometimes! You take the highs with the lows.


Nia and a team of experts in the field have developed a book about some of the techniques available to help you feel better in simple and easy to understand language. Even the font used is child-friendly. Add all that good advice, the story itself to the wonderful illustrations by Gwen Millward, and you have yourself a very useful book.



For example, sometimes when Cai has the blues, he shakes his snowglobe and watches the glitter carefully. Cai's thoughts calm and settle like the glitter. Very simple exercises really.


The examples on pages 12 and 13 are particularly pertinent today because a number of children, such as Cai, find the classroom a difficult environment to navigate. Of course, there are good days, but sometimes, in exactly the same situation, for some reason or other, he feels depressed and anxious. The pressure on children in schools nowadays - to concentrate, to keep up or to fit in can be too much for some. I remember my heart beating and my cheeks flushing as the teacher called my name to answer in a maths lesson. The 24 game! Awful thing!


The book mentions some of the feelings and teaches children to recognize some bodily clues that something is wrong. It then proposes strategies to deal with some of these issues.


Mindfulness is something that has received a great deal of publicity in recent years, and more people are coming to understand the benefits of doing it. It teaches us how to focus on our body, how it moves as we breathe. We can calm the body and mind in order to relax.



I remember when I was teaching, I was doing similar exercises with my class during the national tests period. It works - honestly! The children thoroughly enjoyed switching off for a while and relaxing. Sitting still Like a Frog was the book+CD I used. Now, we have a Welsh resource to use.


Obviously, the book would be very useful to read at home with children who are struggling to control their emotions, or who are prone to worry. However, I think it would be worth using mindfulness techniques at school with everyone. As an adult, I also have techniques myself- I like to shower in complete darkness concentrating only on the water's heat and sound. You might think that's strange – but it works for me! (I won’t recommend this in case of slips and trips!)


I think everyone will be able to identify with Cai. Life can often be quite unpredictable. The important thing is that we have the correct strategies in place to deal with the stress, hustle and bustle of everyday life.

Why not use the book as a springboard to discuss new, unique, tailor-made strategies? The best ideas will no doubt come from the children themselves.


At Bangor University the Centre for Mindfulness Research and Practice is based. Click here to find out more. They have some good sound clips available to give you a taste and I know there are good clips on Youtube (but unfortunately not in Welsh). Parents, the Cwtsh app is a good one for quiet reflection.

55 views0 comments

Recent Posts

See All

Commentaires

Noté 0 étoile sur 5.
Pas encore de note

Ajouter une note
bottom of page