*Scroll down for English*
♥ Enillydd Tir na n-Og 2014 Cymraeg (cynradd) ♥
♥ Tir na n-Og Award winner 2014 Welsh (primary) ♥
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◎◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◎◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◉◎◎◎
Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎
Oed diddordeb/interest age: 9+
Oed darllen/reading age: 10-15+ (CA2/3)
Gwaith celf/illustrations: Graham Howells
Wel, mi wnes i ddechrau 2021 drwy herio fy hun i ddarllen pob un wan jac o nofelau Gareth F Williams cyn diwedd y flwyddyn. Ar ôl gorffen Anji mewn un eisteddiad, mi benderfynais newid trywydd yn llwyr a mynd am nofel hanesyddol, a lle gwell i ddechrau na gydag enillydd Gwobr Tir na n-Og 2014, Cwmwl Dros y Cwm.
Fel nifer ohonom, roeddwn yn ymwybodol fod gan de Cymru gysylltiad agos iawn â’r diwydiant glo, a’i fod nid yn unig wedi chwarae rhan bwysig yn ein hanes fel cenedl, ond ei fod wedi siapio nifer o’n cymunedau ni heddiw. Er bod y diwydiant wedi diflannu fwy neu lai, mae wedi gadael ei farc ar gymoedd y de. Mae'n gywilydd gen i ddweud, heb law am y cyswllt â'r Neuadd breswyl Gymraeg yng Nghaerdydd, nad oeddwn i'n gwybod am hanes Senghenydd, felly dwi'n hynod falch fy mod wedi cael cyfle i ddysgu.
Yn yr oes sydd ohoni, rydym yn byw bywydau prysur iawn, ac mae sawl dyfais dechnolegol yn cystadlu am ein sylw. Mae’n bwysicach nag erioed felly fod llyfr yn cydio ynom o’r cychwyn cyntaf - ac mi lwyddodd y nofel hon i wneud hynny’n sicr.
Atgofion John Williams o’i brofiadau cynnar pan fu rhaid i’r teulu adael y gogledd i chwilio am waith yw sail y nofel. Fe blethir hanes y gorffennol yn glyfar i mewn i’r stori, oedd yn cychwyn ym 1963 cyn mynd yn ôl dros hanner can mlynedd i’r Universal Colliery yn 1908.
Mae symud cartref yn anodd beth bynnag, ond dychmygwch wneud hynny ar ddechrau’r ugeinfed ganrif heb ddim o’r dechnoleg fodern sydd gynnon ni heddiw i gadw mewn cysylltiad â hen ffrindiau a theulu. Yn wir, teimla de Cymru fel byd cwbl wahanol i’r bachgen ifanc. Bu’n rhaid i’r teulu ddygymod â chymdeithas hollol newydd a dieithr, heb sôn am geisio deall yr acenion anghyfarwydd!
Buan iawn y sylweddola John a’i dad fod “adre newydd” yn wahanol iawn i’r “hen adra,” ac mewn dim maen nhw’n llwyddo i godi gwrychyn ambell un o’r trigolion lleol ‘lliwgar’! Ceir disgrifiadau gwych o’r cymeriadau amrywiol hyn gan yr awdur.
Fe fyddwch yn falch o glywed fod y teulu’n llwyddo i wneud ambell i ffrind yn ogystal â gelynion. Mae eu cyfeillgarwch gyda’u cymdogion agos yn nodweddiadol o’r agosatrwydd a’r croeso cynnes a geir hyd heddiw yng Nghymoedd y De. Drwy waith disgrifio a chymeriadu ardderchog, llwydda’r awdur i weu stori bersonol am gyfeillgarwch a brawdoliaeth gyda stori sy’n byrlymu â ffeithiau hanesyddol am y cyfnod. Oherwydd dawn ddiamheuol yr awdur i greu cymeriadau hoffus a chredadwy, cawn ein taro hyd yn oed yn fwy gan uchafbwynt dirdynnol y nofel pan dafla’r cwmwl du ei gysgod dros y cwm.
Cyfeiriad at drychineb Senghenydd yw hyn wrth gwrs, sef y diwrnod erchyll ym mis Hydref 1913 lle bu farw 439 o ddynion a bechgyn yn y ffrwydrad mwyngloddio fwyaf angheuol yn y Deyrnas Gyfunol hyd heddiw. I ni sy’n gweithio yn ein swyddfeydd cysurus heddiw, anodd yw dychmygu caledi bywyd y glowyr. Roedd rhaid iddynt weithio oriau hir o dan amodau didrugaredd, a chafodd y gwaith yma effaith niweidiol ar eu hiechyd.
Chwaraeodd anwybodaeth ac agwedd ffwrdd-â-hi tuag at iechyd a diogelwch ran fawr yn y drasiedi, ac mae’n amlwg nad oedd y rheolwyr wedi dysgu unrhyw wersi yn dilyn trychineb arall debyg a ddigwyddodd sawl blwyddyn yn flaenorol. Cawsom ein hatgoffa’n gymharol ddiweddar fod peryglon ynghlwm â chloddio am lo hyd heddiw pan ddigwyddodd y ddamwain ym mhwll Gleision, Castell-nedd Port Talbot.
Er bod y nofel yn llawn ffeithiau a thermau diddorol fel afterdamp a firedamp, sy’n dod â chyfnod o hanes go ddieithr erbyn hyn yn fyw i gynulleidfa ifanc, gwir gryfder y nofel yw stori’r teulu sy’n angori’r cyfan. Doedd yr un diwrnod wedi mynd heibio lle nad oedd John Williams yn meddwl ac yn cofio am y dynion a gollwyd y diwrnod hwnnw, ac mae’n hollbwysig ein bod ninnau hefyd yn cofio amdanynt heddiw.
Bu darllen y nofel yn sbardun i mi ymchwilio ymhellach i hanes Senghenydd, ac oherwydd hyn dwi’n credu bod gwerth mawr i’r nofel hon fel adnodd dysgu. Yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol roeddem yn dysgu cymaint am hanes teulu brenhinol Lloegr, ond byddai wedi bod yn llawer gwell gen i ddysgu am hanes diwydiannol fy ngwlad fy hun. Bydd y llyfr yma’n siŵr o fod yn ddefnyddiol iawn fel rhan o’r Cwricwlwm newydd i Gymru, boed hynny yn y sector gynradd neu uwchradd.
Dyma nofel y gallaf ei hargymell 100% i blant ac oedolion ac rwy’n falch o ddweud ei bod hi hefyd ar gael i’w mwynhau yn Saesneg, o dan y teitl The Darkest of Days.
Like many of us, I knew that South Wales has a very close connection with the coal industry, and not only has it played an important role in our history as a nation, but it has shaped many of the communities we know today. Even though the once-vast industry has virtually disappeared, it has certainly left its mark on the valleys.
Nowadays, we all live such busy lives, and lots of things compete for our attention. I would say it’s more important than ever that a book catches our attention and intrigue from the outset - and this novel succeeds in doing so.
It’s the memories of an older John Williams that form the basis of this book, as he recalls the early years of his life when his family had to leave the North to look for work. Beginning in 1963, the novel travels back over fifty years to the Universal Colliery in 1908 where an excited John is looking forward to joining his father in the pit.
Moving home is difficult enough anyway, but imagine doing this in the early twentieth century without any of the modern technology that keeps us in touch with family and friends. Despite being in the same country, for John, South Wales feels like worlds away from the life he once knew. The family must get to grips with a totally new way of life, as well as trying to understand the unfamiliar accents!
John and his father soon realize that their new home is very different to their old one and it’s not long before they catch the attention of some of the Valley’s more ‘colourful’ characters.
You’ll be pleased to hear that the family manage to make a few friends as well as enemies. Their friendship with their neighbours, the Dando’s, is typical of the warm welcome of the South Wales Valleys – something that’s still true to this day. Through excellent descriptive and character work, the author succeeds in weaving a personal story about friendship and brotherhood with lots of interesting historical facts about the period. Because of the author's skill in creating likeable and credible characters, this serves to make the ending even more harrowing when the dark cloud inevitably comes to darken their doors.
This is, of course, a reference to the Senghenydd disaster, which was the horrific day in October 1913 when 439 men and boys died in the most fatal mining explosion in the United Kingdom to this day. For those of us who work in our cosy offices, it’s difficult to imagine the hardships of a miner’s way of life - the long arduous hours in unforgiving conditions, and the toll it took on their health.
Ignorance and a lax approach to health and safety played a major part in the tragedy, and management clearly had not learned lessons from a similar tragedy several years previously. We are reminded about the ever-present dangers associated with coal mining when we think of the accident at Gleision, Neath Port Talbot in 2011.
Although the novel is full of interesting facts and terminology such as afterdamp and firedamp, bringing a relatively unfamiliar period of history alive to a new generation, the true strength of the novel is the family’s story that anchors it all. Not a day goes by where John Williams did not think about the men that were lost that fateful day, and it’s vitally important that we as readers remember them too.
Reading the novel inspired me to look deeper into Senghenydd’s history, and I think for this reason it has great value as a teaching and learning resource. During my time at school, we learned so much about the history of the English royal family, but very little of my own country’s rich industrial past. This book will no doubt play an important part of the new Curriculum for Wales, be that in the primary or secondary sector.
This is a simple yet touching novel that I can thoroughly recommend for children and adults alike and I’m pleased to say that it’s also available to enjoy in English, under the title The Darkest of Days.
Comments