(argymhelliad) oed darllen: 3-7
(argymhelliad) oed diddordeb: 3-7
Darlunio: Siôn Morris https://www.sionmorris.cinnamondesign.co.uk/
Disgrifiad Gwales
Dyma stori Nadoligaidd hyfryd sy'n sôn am gyfrinach. Wyddoch chi fod yr anifeiliaid i gyd yn gallu siarad ar Noswyl Nadolig? Maen nhw'n helpu ffoadur amddifad i ddod o hyd i gartref ym Methlehem, Cymru. Stori gyfoes a pherthnasol, ag iddi wers bwysig, sef sut i fod yn garedig i bawb, o bob cefndir a hil.
Dyddiau Tywyll ym Mhrydain
Rhai diwrnodau, prin fedra i edrych ar y newyddion gan ei fod mor erchyll. Rhyfel yn Iwcraen. Rhyfel yn y Dwyrain Canol. Mae o i gyd mor ddigalon.
Yn ddiweddar, roedd y newyddion yn frawychus iawn, a nid hanes o wlad bell chwaith, ond digwyddiad ar ein ‘stepan ddrws’. Yn sgil yr ymosodiad ffiaidd ar grŵp o blant mewn dosbarth ddawnsio ochrau Lerpwl, roedd riots dychrynllyd wedi lledaenu ar hyd a lled Lloegr.
Ac er mai isolated attack oedd hwnnw yn Southport, mae rhai grwpiau eithafol wedi defnyddio’r dicter cyhoeddus fel esgus i ledaenu misinformation a chasineb a tuag at ffoaduriaid ac aelodau o’r gymuned Mwslimaidd. Roedd gweld dynion ifanc yn chwifio baneri’r St George wrth geisio gosod gwesty yn Rotherham, oedd yn llochesu ffoaduriaid, ar dân yn codi cywilydd mawr arnaf.
Llyfrau am Ffoaduriaid
Ta waeth, yn sgil yr holl aflonyddwch a’r adroddiadau yn y cyfryngau, mae rhai wedi bod yn holi am lyfrau (diweddar) yn sôn am ffoaduriaid. Felly ro ni’n crafu pen yn meddwl pa rai i'w recommendio.
Mi ges i drafferth meddwl am lawer o enghreifftiau. Mae Y Crwt yn y Cefn gan Onjali Rauf i blant hŷn, ond Cyfrinach Noswyl Nadolig sydd fwyaf addas i blant bach.
Mae’r awdur, Eurgain Haf o Bontypridd, newydd ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024. (llongyfarchiadau mawr iddi, gyda llaw!) Ysgrifennodd y llyfr yn bennaf oherwydd ei gwaith gyda’r elusen Achub y Plant, Cymru.
Yn fras, mae’r stori yn dilyn ffoadur ifanc, bachgen o’r enw Samir, sy’n ffeindio ei hun mewn gwlad estron ar ôl dod yma ar gefn lori. Mae'n siŵr fod hyn i gyd wedi bod yn ofnus iawn iddo. Diolch byth mai yng Nghymru y glaniodd. A pheth da ei fod wedi cyrraedd ar noson arbennig iawn – sef Noswyl Nadolig - achos mae rhywbeth anhygoel yn digwydd ar y noson yma. Mae’r anifeiliaid i gyd yn gallu siarad! Ond dim ond am UN NOSON yn unig!
Mewn naratif sy’n fy atgoffa dipyn bach i sut mae’r anifeiliaid i gyd yn helpu ei gilydd yn y ffilm 101 Dalmatians, dônt at ei gilydd i roi help llaw i Samir i ddarganfod teulu newydd yma yng Nghymru.
Yn drist iawn, ar ddechrau’r stori does gan Samir neb, gan fod ei Fam a’i Dad wedi cael ei ladd mewn rhyfel. Dangosa’r llyfr yn blwmp ac yn blaen y sefyllfa erchyll mae Samir wedi dianc ohoni a pham na allai fynd yn ôl. Dwi’n falch fod y darlun yn dangos y trais a’r dinistr, achos mae hyn yn ffordd weledol o egluro be sy’n digwydd. Y mae’n gyfle da i gael trafodaeth gyda phlant ifanc ac ateb cwestiynau tebygol fydd ganddynt.
Gyda gymaint o sôn ar y newyddion am bobl yn dod drosodd i’r wlad dros Y Sianel yn ceisio am loches, mae’r llyfr yn esiampl gwych ar gyfer trafod y pwnc, ac yn enwedig dangos #caredigrwydd #empathi a thosturi at ein cyd-ddyn. Dyma lyfr defnyddiol iawn ar gyfer gwasanaeth ysgol neu gwaith yn y dosbarth. Mae’n anodd rhoi ein hunain mewn esgidiau pobl eraill, ond mae’r llyfr annwyl yma’n help llaw i geisio gweld y byd o safbwynt rhywun arall sy’n ceisio dianc rhag bob math o erchylltra.
Wna i ddim sboilio’r diwedd, ond mae tro annisgwyl go iawn fydd efallai angen ei esbonio i ddarllenwr ifanc.
Er fod thema'r Nadolig yn gefndir i'r llyfr, mae hwn yn lyfr i'w ddarllen a'i drafod drwy'r flwyddyn gron. Tra 'da ni'n mwynhau mis pei o flaen y tân adeg y 'Dolig, fydd pawb ddim mor ffodus...
Comments