top of page

Deg ar y Bws / Ten on the Bus - Huw Aaron a Hanna Harris

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

* For English review, see language toggle switch*


(awgrym) oed darllen: 4+

(awgrym) oed diddordeb: 0-4

Lluniau: Hanna Harris

 

Dyma lyfr lliwgar a syml sy’n dysgu’r plant lleiaf sut i gyfri. Fel ‘da chi’n gweld, mae’r lluniau yn fodern ac yn glir. Hyd yma, dwi’n reit impressed hefo’r llyfrau mae Gwasg y Broga yn cyhoeddi. Tydyn nhw heb fod o gwmpas yn hir iawn, ond mae’r safon yn uchel iawn.



Cymerwch y cyfle i ddysgu sut i gyfri wrth i’r bws lenwi, gyda’r teithwyr ymuno ar y daith fesul un. Wrth i’r bws fynd yn brysurach, mae ‘na dipyn o hiwmor pan mae’r gyrrwr yn colli ei dymer, ac mae pawb yn gorfod gadael ar frys!


Dwi wedi rhoi’r llyfr yn anrheg i fy nghyfnither sy’n ddwy oed. A hithau’n byw yn Lloegr, dwi’n gobeithio bydd o’n help iddyn nhw gyflwyno ‘chydig o Gymraeg iddi. Mae’r llyfr yn ddwyieithog hefyd felly grêt os ydych chi’n rhiant sydd yn dysgu Cymraeg.




 

Gwasg: Broga

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £7.99

Fformat: Clawr meddal

 

Recent Posts

See All

Kommentare

Mit 0 von 5 Sternen bewertet.
Noch keine Ratings

Rating hinzufügen
bottom of page