*For English Review, see language toggle switch*
♥Enillydd Gwobrau Tir na n-Og 2023: Cynradd ♥

(awgrym) Oed diddordeb: 3+
(awgrym) oed darllen: 5+
Genre: #iechydalles #odl #hiwmor


Llwyddiant eto i’r Aaroniaid
Yn gynharach wythnos yma, roeddwn i’n falch iawn o weld fod llyfr arall gan Luned a Huw wedi cael cydnabyddiaeth, gan ei fod wedi ymddangos ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Mi oedd y llyfr hwnnw - ‘Pam?’ yn uchel iawn, iawn ar fy rhestr bersonol o top books ‘llynedd a dwi’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn y gystadleuaeth. Darllenwch adolygiad ‘Pam?’ yma.
Dyma lyfr arall mae’r dream team wedi ei ryddhau ‘leni, gyda gwasg Atebol y tro hwn. Tydi o jest yn edrych yn awesome! Mae o mor ffres, llachar a modern yr olwg - sydd jest yn dangos pa mor bell mae llyfrau gwreiddiol Cymraeg wedi dod yn eu blaenau dros y blynyddoedd. Mae hwn yn well llyfr ‘na nifer o addasiadau sydd ar y farchnad ar hyn o bryd. I mi, mae hwn yn esiampl o lyfr perffaith #Cymraeg #gwreiddiol i blant ifanc!
Deinosors, Sombis a Frankenstein
Mi fydd y llyfr yma’n siŵr o apelio at blant sy’n chwareus eu natur. Yn bwysicach na dim, mae ‘na hiwmor yn y llyfr. A dwi’n meddwl bod angen mwy fyth o hynny arnon ni nac erioed. Bydd rhaid mi brynu copi arall i fy nghefnder bach, achos dio definitely ddim yn cael fy nghopi i!

Tydi’r lluniau ‘sgribli,’ blêr-ond-bendigedig yn lliwgar ac yn drawiadol? Dwi’n licio sut mae’r ffont yn fawr ac yn glir ar gefndir gwyn - lot haws i lygaid ifanc ei ddarllen. Mae’r odl yn wych, ac fel dwi wedi dweud o’r blaen, mi fedra i weld hwn fel darn adrodd dan 7 yn Steddfod yr Urdd!
Creda yn dy hun
Yn hanner cyntaf y llyfr mae’r bachgen yn rhoi ei hun i lawr. Tydi o byth yn teimlo’n ddigon da ac mae’n cymharu ei hun ac eraill. Mae hyn mor hawdd i’w wneud, a dim jest plant sy’n euog o wneud hyn chwaith. Mae meddwl yn negyddol fel hyn yn arwain at rai o’r self sabotaging behaviours ac mae’n bwysig trio cael meddylfryd positif bob amser.

Dwi’n meddwl bod prif negeseuon y llyfr ‘derbyn dy hun,’ ‘cara dy hun am bwy wyt ti’ ac ‘rwyt ti’n ddigon’ yn HOLLBWYSIG yn y byd sydd ohoni, yn enwedig mewn byd cystadleuol lle mae gymaint o bwysau ar blant i fod yn ‘llwyddiannus.’
Be di'r take-home message?
Mae’r llyfr yn llwyddo i gyfleu negeseuon pwysig neb eu stwffio lawr ein corn gyddfau. Mae’n cadw’r hiwmor a’r ysgafnrwydd (hwnna’n air?) drwyddi draw.
I mi, y brif neges yw byddwch yn hapus yn eich croen eich hun. Ar ddiwedd y dydd, mae bod yn glên, cwrtais a charedig yn llawer pwysicach nac unrhyw beth arall!

コメント