*Use language toggle switch for English review*
(awgrym) oed darllen: 5-8+
(awgrym) oed diddordeb: 4+
Lluniau: Lleucu Gwenllian https://www.studiolleucu.co.uk/
Dyma’r bedwaredd yng nghyfres ‘Fferm Cwm Cawdel’, ac mae’n un addas iawn i’w hadolygu ar ôl wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, achos fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, mae’r gwartheg yn mynd ar antur i’r Eisteddfod – neu yn hytrach, mae’r ‘Steddfod a’i holl ryfeddodau yn dod atyn nhw i Fferm Cwm Cawdel.
Ar ôl poeni’n arw ar ôl gweld pobl bwysig yn cerdded o amgylch y fferm, roedd y gwartheg yn hynod o falch i gael gwybod cyfrinach Ffion- fod y brifwyl yn dod acw! Handi de!
Dwi’n cymryd fod y gwartheg heb fod i’r ‘Steddfod o’r blaen, ac maen nhw wrth eu boddau yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lu, fel cael eu derbyn i'r orsedd, cystadlu fel pedwarawd a dawnsio o flaen llwyfan y maes.
"Cyfres berffaith i'r rheiny sy'n dysgu darllen yn annibynnol."
Mae llyfrau’r gyfres wedi cael eu harlunio’n lliwgar gan Lleucu Gwenllian ac mae elfen o ddoniolwch a direidi gartwnaidd i’r lluniau sy’n gweddu tôn ysgafn y llyfrau. Dwi’n siŵr fod y gyfres yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd cefn gwlad. Mae nifer o blant Cymru yn hoffi darllen am bethau cyfarwydd, ac mae gosodiad cefn gwlad/amaethyddol y straeon yn siŵr o apelio at y garfan yma. Ac os dim arall, bydd yn siŵr o gyflwyno cynulleidfaoedd sy’n dod o ardaloedd mwy trefol Cymru i agweddau o fywyd cefn gwlad – sydd wastad yn beth da. Yn achos y llyfr yma, mae modd dysgu am rai o draddodiadau’r Eisteddfod i’r rheiny sy’n anghyfarwydd â’r ŵyl. Efallai bydd yn ddigon i berswadio rhywun sydd heb fod o’r blaen i fentro yno tro nesa...
Mae’r llyfrau yn llenwi bwlch pwysig yn y ddarpariaeth ar gyfer plant rhwng 5-11 oed. Mae ‘na lot o lyfrau llun (picturebooks) i blant 5-7, ond mae llawer llai ar gael i’r grwpiau oedran hŷn. Mae llyfrau Cwm Cawdel yn edrych ac yn teimlo fel ‘llyfrau go iawn’ ac felly’n addas iawn ar gyfer y darllenwyr cynnar sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Yn bersonol, dwi’n licio’r ffaith fod yr ysgrifen ar gefndir gwyn, achos mae’n llawer haws i lygaid ifanc i’w ddarllen.
Mae gwartheg Cwm Cawdel yn cael eu sbwylio’n racs wrth gael mynd ar yr holl anturiaethau, ac maent wedi bod ar sawl gwyliau yn barod, gan gynnwys Aberystwyth ac Eryri. Sgwn i lle fyddan nhw’n mynd nesaf...?
Komentar