*For English review, see language toggle switch*
♥Llyfr y mis i blant: Ionawr 2023♥
(awgrym) oed darllen: 5+
(awgrym) oed diddordeb: 3-7
Genre: #ffuglen #anifeiliaid #cadwraeth #natur #empathi
Lluniau: Elin Vaughan Crowley
Allan o’r holl anifeiliaid gwyllt, dwi’n meddwl mai eliffantod yw’r rhai mwyaf rhyfeddol ohonyn nhw i gyd. ‘Dach chi’n cytuno? Iawn, mi wna i gyfaddef fod jiráffs yn reit cŵl hefyd, ond i mi, eliffantod sy’n mynd â hi. Gyda’u clustiau anferthol a’u trynciau hirion, maen nhw’n greaduriaid rhyfedd, fel ‘sa nhw’n perthyn i ryw oes wahanol. Anifeiliaid sy’n gryf, yn urddasol, yn fawreddog ac yn annwyl ‘run pryd.
Ac o’r holl eliffantod i gyd, mae un direidus sy’n arbennig iawn – Elon. Fel unrhyw eliffant ifanc, mae Elon yn llawn brwdfrydedd ac egni, ac wedi hen laru ar orfod gwrando ar ei mam a’i thad. Am ddiflas meddylia Elon, a hithau’n dyheu am antur.
Ar ôl anwybyddu ei rhieni a dianc (dwi ddim yn argymell hyn o gwbl!) daw dymuniad Elon am antur yn wir, ond mae’r byd tu hwnt i ddiogelwch y llwyth yn le mawr, a buan iawn daw’r eliffant ifanc ar draws y creadur perygla un– dyn.
I feddwl pa mor hardd yw’r creaduriaid yma, mae’n fy nhristau i feddwl eu bod nhw mewn perygl enbyd o ddiflannu yn gyfan gwbl, a hynny o’n herwydd ni. Petai eu hela am ifori dros y canrifoedd ddim yn ddigon drwg, mae eu cartref nawr o dan fygythiad wrth i ni ddinistrio’r coedwigoedd sy’n eu cynnal gyda’n peiriannau felltith.
Ond mae Elon yn ddewr. Hyd yn oed wrth ddod wyneb yn wyneb gyda’r peiriannau ffyrnig, sy’n bygwth ei chynefin, mae Elon yn penderfynu na allai eistedd yn ôl a gadael i hyn ddigwydd. Rhaid gweithredu. Tybed a fedr un eliffant pitw roi stop ar y dinistr?
Mae arlunwaith Elin Vaughan Crowley yn eich denu’n syth, ac mae holl liwiau a rhyfeddodau’r goedwig yn dod yn fyw drwy’r lluniau. Llyfr dwyieithog yw hwn ar ffurf mydr ac odl, felly nid yw’n gyfieithiad uniongyrchol, ond yn hytrach, yn addasiad o’r testun. Tra dwi’n hoff iawn o lyfrau dwyieithog, fy unig gŵyn efallai yw bod gosodiad y testun mymryn yn ddryslyd ar adegau gan fod y testun ‘run maint.
Dyma lyfr defnyddiol ar gyfer cyflwyno uned o waith ar anifeiliaid, cadwraeth, yr amgylchedd ac i dynnu sylw - heb greu panig - am yr argyfwng sy’n wynebu byd natur. Rhaid ceisio trosglwyddo’r neges i’r genhedlaeth nesaf os ydyn nhw am gael y cyfle i weld eliffantod go iawn yn y gwyllt rhyw ddiwrnod. Gobeithio bydd y darllenydd ifanc yn dilyn esiampl Elon ddewr, ac yn credu y gallan nhw hefyd wneud gwahaniaeth drwy weithredu.
Commentaires