top of page
Writer's picturesônamlyfra

Ffrindiau - Gareth F. Williams

*Scroll down to leave comments & for English*


Mae 'na rhywbeth o'i le yn yr atig...

Something's not right in the attic..


Gwasg: Gomer

Cyfres: Whap!

Cyhoeddwyd: 2008

ISBN: 978-1843239734


Stori tipyn yn ofnus - iath eithaf hawdd

Little bit creepy - language level o.k. but may be too difficult for new learners.



 

Mae’r ffaith fod y diweddar Gareth F. Williams wedi ennill Gwobr Tir na n-Og chwe gwaith yn cadarnhau ei le fel un o awduron gorau Cymru, ym myd llyfrau plant ac oedolion.


Dyma’r llyfr cyntaf ganddo i mi ei ddarllen, ar ôl i mi ei spotio mewn siop elusen. Yn ôl Gwales.com, roedd yn llyfr y mis yn Hydref 2008. I feddwl fod y llyfr dros ddeng mlynedd oed bellach, mae’n edrych yn gyfoes iawn, ac mae’r clawr du a gwyn wedi'i ddylunio’n dda iawn. Mae’r lluniau a’r ysgrifen ar y clawr yn rhoi naws spooky iawn, ac yn wir, roedd hynny’n un o’r prif resymau y prynais i hi. (wnes i ddim edrych ar y broliant o be dwi’n cofio) Dwi wrth fy modd gyda straeon arswyd, ac roedd y clawr yn awgrymu y byddai hon yn fy siwtio i'r dim.


Dwi’n meddwl fod ‘na ddau fath o lyfrau. Rhai sy’n mynd yn syth iddi, ac yn eich cydio’n syth, a rhai eraill sy’n fwy o slow-burners. Hynny yw, mae’n rhaid dyfalbarhau achos mae’n cymryd dipyn i'r stori gychwyn yn iawn. Roedd pennod gyntaf Ffrindiau wedi fy machu’n syth. Efallai fod hynny’n swnio ‘chydig bach yn cliché, ond wir i chi, roedd y cychwyn yn dda. Dwi wedi ei gynnwys yn y blog er mwyn i chi gael cipolwg. Cychwyn hynod o creepy. Dwi’n dal i gael shivers wrth glywed... “Blaaaaantoss... Blaaaantoooos...”



creepy...



Mae Tegwen yn mynd drwy gyfnod anodd yn ei bywyd personol. Mae ei Mam, Eirlys, a’i thad, Sam, wedi gwahanu bellach ac mae hi wedi gorfod symud i mewn i dŷ boyfriend ei mam, ac yn gorfod rhannu hwn gyda’i blant o. Maen nhw’n boen i Tegwen, ac mae hi’n hiraethu am ei hen gartref, ei hen lofft, a’i hen fywyd. Tydi pethau ddim yn wych rhwng ei Mam a’i Thad ac mae’r ddau yn cecru ar ei gilydd pob cyfle maen nhw’n cael. Mae hi wedi cael llond bol.


Mae ei thad wedi prynu fflat newydd yn Stryd y Parc, ac mae hi’n edrych ymlaen ato orffen peintio’r atig er mwyn iddi gael aros yno - rhywle lle caiff hi lonydd oddi wrth ei theulu newydd niwsans. Y peth yw, nid atig cyffredin yw hwn ac mae rhywun yn cael teimlad annifyr wrth fod yno. Fel petai rywbeth yn eich gwylio. Buan iawn ‘da ni’n dod i sylweddoli fod yna rhywbeth mawr o’i le yn yr adeilad yma.



Wrth i'r nofel fynd yn ei flaen, mae Tegwen yn dechrau datod rhai o gyfrinachau’r atig ac mae hi’n dod i ddarganfod y pethau erchyll sydd wedi bod yn mynd ymlaen yn y gorffennol. Wrth iddi syrthio’n ddyfnach i mewn i fyd yr atig, mae ei bywyd hi wirioneddol mewn perygl. Ydi ffeindio’r gwir werth y pris bydd rhaid iddi dalu? Rhowch hi felma, fydd hi BYTH yr un fath wedyn!

Mae yna dipyn o sôn am drais, marwolaeth, ysbrydion a naws arswydus drwy’r llyfr, ond mae’n gwbl addas i'r oedran. Mae’r awdur yn gynnil iawn wrth ddod ag is-themâu o fwlio a rhieni’n gwahanu i mewn. Os ‘da chi’n licio llyfrau sy’n rhoi ias oer lawr cefn eich gwddf, hwn ydi’r llyfr i chi. Mae’r iaith yn safonol, ond yn glir. Tydi o ddim mor hawdd i’w ddarllen a rhai llyfrau Cymraeg ond eto, doedd o ddim yn anodd chwaith. Mi wnes i hyd yn oed ddysgu ambell i air newydd - fel ‘decini’ a ‘llybindian.’ Mi oni’n hoff o’r ffordd mae’r penodau, a hyd yn oed darnau o fewn penodau yn neidio o gymeriad i gymeriad, o olygfa i olygfa. Dwi’n meddwl fod hyn yn torri’r stori i fyny’n dda.


Er bod canol y stori braidd yn fflat gan nad oedd cymaint yn digwydd, roedd gen i groen gŵydd wrth ddarllen darnau o’r stori ac mae hyn yn destun i lwyddiant yr awdur, ei fod wedi llwyddo, drwy ddawn geiriau, i greu ymateb corfforol yn y darllenydd. Roedd darnau o’r stori yn gwneud i rywun deimlo’n reit annifyr - diolch byth fod gen i ddigon o olau yn y tŷ achos ron i'n reit nerfus wedyn am chydig.


Roedd RHAID i mi gael gwybod beth oedd cyfrinach yr atig - mae’n werth parhau i ddarllen er mwyn cyrraedd y diweddglo. A dweud y gwir, roeddwn i'n ffeindio hi’n anodd rhoi’r llyfr i lawr a byddaf yn sicr o ddarllen mwy gan yr awdur.


 

The fact that the late Gareth F. Williams has won the Tir na n-Og prize six times earns him his rightful place as one of the leading authors of Welsh children's, Young people's and indeed, adult literature.


This is the First of his books for me to read, after I spotted it hiding on the shelf in a charity shop. According to Gwales.com, this was the book of the month in October 2008. To think that it’s over a decade old, it looks very contemporary and it’s Black and White cover is effective. The images and the writing give it a rather spooky vibe and this was one of the things that made me buy it. ( I didn’t even read the blurb as I recall). I love horror stories, and the cover suggested i would like this one.



I think there are two types of stories. Ones that get straight to it and hook you immediately, and others that are slow burners. You’ve got to keep persevering with those ones. Ffrindiau had me intrigued right away. I’ve included a screenshot in the blog. It’s very creepy and God forbid I ever hear ‘Blaaaantos..... blaaaaanntoooos...” again!


Tegwen is a Young girl who’s having a tough time of it lately. Her mother, Eirlys and her father, Sam have separated and she’s had to move into her mum’s boyfriend’s house with his two children. They get on her nerves and she longs for her old house, her old room and her old life. Things aren’t great between her parents and they argue and bicker every time they see each other. In other words, she’s had enough.


Her Dad has bought a new flat on Stryd y Parc, and she’s looking forward to when he finally finishes painting the attic so that she can stay with him. Somewhere to have peace and quiet. The thing is, this is no ordinary attic and one gets an uneasy feeling from being there. The feeling that someone is watching. We quickly come to realise that all is not well in this old Building.

As the novel progresses, Tegwen starts to unravel some of the mysteries of the attic and she comes to learn of past horrors and atrocities. As she ventures deeper into the world of the attic, her life is put in jeopardy. Is finding out the truth worth the price she must pay? Put it this way, she’ll never be the same again!



There’s some talk of death, violence, ghosts and general creepiness throughout the book but it is age appropriate. The author Cleverly brings in sub themes of the challenges of a broken family and bullying/loneliness. If you like stories that give you a real chill, then this one’s for you. The language is of a high Standard, but it is clear. It’s not quite as easy reading as some of the books I’ve read, but it’s not difficult either. In fact, I learned a few new words myself! I liked the way the chapters go back and forth between different scenes and characters and I found it broke the story up nicely.


Despite the middle being a little flat, I had goose pimples all over as I read some parts. This is a testament to the author; that he has been able to elicit a physical response in the reader, using only words. Some parts of the story make you feel really uneasy – thankfully I had enough lights in the house because I was a bit jumpy afterwards.


I just HAD to find out what was going on in the attic – it’s worth persevering with the book for the payoff at the end. I did find it hard to put this book down actually and I will be looking for more books by this author.

56 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page