*For English, see language toggle switch on top of page*
Oed darllen: 6+
Oed diddordeb: 3+
Lluniau: Bethan Mai Insta:@bethan_mai
Genre: #ffuglen #doniol #CymraegGwreiddiol
Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf, dwi’n meddwl ein bod ni i gyd isio dipyn bach o light relief a rhywbeth i godi gwên. Mae hyn yn bwysicach fyth yn ein llyfrau i blant, achos pa ffordd well o fagu cariad at ddarllen ’na gyda chyfrolau doniol sy’n llawn hiwmor drygionus?
Mi o’n i’n ffan mawr o’r llyfr cyntaf yn y gyfres, ac o’n i’n meddwl fod o’n syniad bril i gael storis bach digri yn esbonio tarddiad rhai o’n hidiomau enwocaf. Dwi’n falch o weld fod yr hen ffwlbart gwirion yn ei ôl i’n diddanu eto.
Tro yma, ‘yn dywyll fel bol buwch’ sy’n cael sylw. Pan ’da chi’n ista ac yn meddwl am rai o’r idiomau ’ma, maen nhw’n hollol nyts dydyn? Pwy ddaeth i fyny hefo’r syniad fod rhywbeth mor dywyll â bol buwch? Ma’r iaith Gymraeg yn llawn rhyfeddodau bach fel ’na.
Mi gewch chi hwyl wrth ddarllen y stori yma, gan ei fod o’n llawn cwpledi bach doniol sy’n odli, wrth adrodd hanes yr hen Anti Gyrti, sy’n reit flin gan fod y fuwch druan methu cynhyrchu llaeth! Be sydd gan hanner porc pei a Sbectol Nain Chwilog i wneud hefo hyn tybed? A sgwn i be fydd gan Dr. Ffwlbart i’w ddweud am yr holl beth? Rhybudd - mae digonedd o sôn am ben-ôl’s buwch a nicyrs a thronsys! Be gewch chi well?
Mae’n debyg y basa hi’n anodd iawn dod ar draws unrhyw un sydd ddim yn licio’r stori yma. Mae lluniau cain Bethan Mai yn dod â hwyl a helynt y stori’n fyw. Dyma bartneriaeth arbennig rhwng awdur ac artist a dyfodd yn naturiol o gwrs yng Nghanolfan Tŷ Newydd. Gwych.
Mae’r llyfrau yma’n naturiol ddoniol ac yn ddireidus, ac yn llawn hwyl dros-ben-llestri gwirion - jest y peth ’da ni ei angen ar y funud. Dwi’n edrych ymlaen at weld pa idiom fydd yn cael sylw’r llyfr nesa.
Mae gen i ddau gefnder bach ifanc (sy’n ddau beth gwyllt ar brydiau) ac mae’n gallu bod yn anodd eu setlo lawr i wrando ar stori. Dwi’n GWYBOD y gwnawn nhw wirioni efo hon a dwi’n reit ffyddiog y gwneith y llyfr ffeindio’i ffordd i mewn i sach Siôn Corn ’leni!
Y ‘verdict’ - un o fy ‘top 5’ llyfrau i blant 3-7 oed a gafodd ei gyhoeddi yn 2021. Mynnwch gopi!
Gwasg: Atebol
Cyhoeddwyd: 2021
Pris: £6.99
ISBN: 9781913245412
AM YR AWDUR: SIONED WYN ROBERTS
Yn wreiddiol o Bwllheli ond wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, bu Sioned yn gweithio yn y maes darlledu plant ers dros ugain mlynedd. Ar hyn o bryd mae'n Gomisiynydd Cynnwys Plant yn S4C ac yn gyfrifol yn olygyddol am raglenni 'Cyw' a 'Stwnsh'. Cyn hynny, bu'n cynhyrchu ac yn uwch-gynhyrchu rhaglenni plant gyda'r BBC. Dewiswyd Sioned fel un o awduron cwrs Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru (Tŷ Newydd Chwefror 2019). Dyma lle datblygodd ei syniad ar gyfer y gyfres hon o lyfrau. Cred Sioned bod creu cynnwys safonol yn y Gymraeg sy'n tanio dychymyg plant ac sy'n helpu caffael iaith yn hanfodol.
ความคิดเห็น