top of page
Writer's picturesônamlyfra

Gan Bwyll a Gwyddbwyll - Stewart Foster [addas. Bethan Gwanas]

*for English review, see language toggle switch*


Oed diddordeb: 12-14

Oed darllen: 12+

 



ADOLYGIAD GAN BECA JONES, BLWYDDYN 9

YSGOL Y CREUDDYN.



Nofel swmpus yw ‘Gan Bwyll a Gwyddbwyll’ am fachgen ysgol o’r enw Felix Schopp sydd gyda’r cyflwr ADHD. Awdur y nofel yw Stewart Foster, ond mae’r llyfr wedi ei addasu gan Bethan Gwanas.


Felix Schopp yw’r bachgen sydd yn gyson mewn helynt yn yr ysgol, ac o hyd yn yr ystafell gosb. Mae Felix yn ei gweld hi’n anodd i ganolbwyntio ac eistedd yn llonydd mewn gwersi. Ond, un diwrnod mae rhieni Felix yn mynd am wyliau bach dros y penwythnos ac mae’n rhaid iddo fynd i aros efo’i daid. Roedd ei daid yn drist iawn ers i Nain farw, a’r unig beth roedd o’n gwneud oedd chwarae gwyddbwyll. Wrth gwrs, doedd Felix ddim yn edrych ymlaen at y penwythnos, ond nid oedd yn gwybod pa mor wych oedd ei daid am chwarae gwyddbwyll. Mae’n mynnu dysgu Felix i chwarae!



Mae neges glir, eglur a phwerus yn y nofel hwn, sef fod gan bawb eu cryfderau a’u gwendidau, ac nid yw pawb yn rhagori ym mhopeth. Gan fod Felix gyda ADHD, mae o bob byth a beunydd mewn trafferth am ddiffyg gwaith a chanolbwyntio. Ond, mae tro hapus i’r nofel, gan fod Felix wedi darganfod ei gryfder. Hefyd, mae elfen o hunan hyder a dyfalbarhâd i’r nofel.


Yn fy marn i, yn anffodus dydy’r nofel yma ddim at fy nant. Mae’r llyfr hwn ychydig yn ddigynnwrf, gan nad oes llawer yn digwydd ynddo. Ond efallai mai dim ond fy marn i yw hynny, gan fy mod yn hoff iawn o nofelau cyffrous ac anturus.


Felly, os ydych chi’n chwilio am nofel llawn cyffro ac antur, ni fuaswn yn argymell eich bod yn ei brynu. Ond, eto mae’r nofel hon yn un ddifyr a hamddenol, felly dydw i ddim eisiau rhoi cam argraff o’r llyfr. Mae’n addas ar gyfer plant a phobl ifanc blwyddyn 7-9, ac mae’n hawdd a phleserus i’w ddarllen.




 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2021 Pris: £6.99

ISBN: 978-1-80099-066-1

 

Mwy o adolygiadau a gwybodaeth am y llyfr ar wefan BookTrust:







Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page