top of page
Writer's picturesônamlyfra

Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel - Gwennan Evans

*Scroll down for English*

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◎◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎

Her darllen/reading difficulty: ◉◉◉◎◎

 

Gyda Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 30ain oed wythnos yma, dyma lyfr sy’n brawf o bwysigrwydd a llwyddiant y cyrsiau maen nhw’n eu cynnig yno. Daeth y llyfr Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel i fodolaeth yn dilyn cwrs dan nawdd Cyngor Llyfrau Cymru i feithrin awduron ar gyfer llyfrau llun a gair i blant 3-7 oed. O dan arweiniad y tiwtoriaid, Manon Steffan Ros a Jac Jones, fe dreuliodd Gwennan wythnos gyfan yn datblygu’r syniad ar y cyd â’r arlunydd, Lleucu Gwenllian. Nawr, mae ffrwyth eu llafur ar gael i chi ei fwynhau.



Gobeithio ein bod ni gyd yn sylweddoli pa mor galed mae ffermwyr Cymru’n gweithio. Prin iawn yw’r cyfleoedd iddyn nhw gael brêc a mynd ar wyliau, achos dydi’r fferm byth yn stopio ac mae ‘na wastad waith i’w wneud. Mae Ffion, merch y fferm, wedi bod wrthi’n llafurio ers wythnosau ac mae hi wedi ymlâdd. I fod yn onest, mae hi’n edrych reit drist nes i un o’r gwartheg gynnig iddi fynd ar wyliau. Dwi’m yn siŵr beth sydd fwyaf o syndod yma, y ffaith fod buwch yn gallu siarad, neu fod 'na ffarmwr wedi cytuno i gymryd amser i ffwrdd a mynd i joli-hoitian!


Cyn pen dim, mae Ffion, Fflei y ci a chriw o ledis y gwartheg godro yn disgwyl am y bws i fynd â nhw ar holidês i..... Aberystwyth dim llai! Pwy sydd angen mynd i Sbaen pan mae gennych chi Costa del Ceredigion ar y stepen ddrws? A beth bynnag, ers i’r pandemig roi’r kibosh ar wyliau tramor i lawer, mae’r staycation yn fwy poblogaidd nac erioed.


Mae 'na ddipyn o hiwmor yn y llyfr, ac mae gweld Modlen y fuwch yn pi-pi ar ochr y ffordd yn ennyn gwên wrth i mi gael fy atgoffa o sawl pit-stop tebyg ar ein gwylia teuluol ‘stalwm! Dwi’n siŵr fod y rhan fwyaf o blant Cymru wedi cael profiad tebyg ar ochr yr A470 rhyw dro neu'i gilydd!



Un peth da iawn yw bod y stori’n un syml, ysgafn a digri, sy’n hawdd i’w darllen a’i mwynhau. Yn ôl yr awdur, does ‘na ddim moeswers fawr - ac mae hynny’n ok. Dwi’n teimlo fod 'na obsesiwn weithia gyda llyfrau sydd efo rhyw neges neu bregeth fawr - ond cofiwch, does dim o’i le ar gael stori syml a hwyliog.


Efallai nad oes moeswers fel y cyfryw, ond drwy ddewis merched fel y prif gymeriadau, mae’r llyfr yn ddathliad o ddoniau merched a hefyd amaethwyr yn gyffredinol. Yn wahanol i nifer o lyfrau sy’n ymwneud â’r fferm, nid yw’r llyfr hwn yn ofn amlygu realiti bywyd ffermio, sy’n cynnwys lot o waith caled ac oriau hir - roedd yr hufen iâ ar y diwedd yn haeddiannol iawn!


Anelir y llyfr at blant rhwng 4-8 oed a bydd y testun amaethyddol yn ogystal â lluniau lliwgar ond syml Lleucu yn siŵr o apelio at blant cefn gwlad Cymru. Er mai plant y wlad fydd fwyaf tebygol o ddewis y llyfr yma yn fy nhyb i, mae’n amlwg fod yr awdur yn awyddus i roi blas o fywyd y ffermwr i blant y dre hefyd.


Os wnaethoch chi fwynhau anturiaethau Fferm Cwm Cawdel, wel, mae yna newyddion da! Yn ôl y sôn, bydd cyfres o lyfrau, felly bydd mwy ar y ffordd...


Mwww- ynhewch! (Sori, nai stopio yn fanna!)


 

With the Tŷ Newydd Writing Centre celebrating its 30th anniversary this week, this book is testament to it’s success and the importance of the courses they offer there. Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel was written almost entirely during a week-long course funded by the Books Council of Wales to create new picture/word books for 3-7-year olds. The aim being to team up writers and illustrators. Under the guidance of course tutors Manon Steffan Ros and Jac Jones, Gwennan spent a whole week developing the idea with the artist Lleucu Gwenllian. At last, you can now enjoy the fruits of their labour.



I think we all know how hard Welsh farmers are working right now. There are very few opportunities to take a break and go on holiday, because the farm never stops and there’s always work to be done. Ffion, the farmer, has been slaving away for weeks and is absolutely knackered! Ffion, feeling quite down, prompts one of the milking cows to suggest that she takes a holiday. I don’t know what surprised me the most here, meeting a cow that can talk, or a farmer who has agreed to take time off!


In no time at all, Ffion, her dog and all the dairy cow ladies are waiting for a bus to take them to.... wait for it… Aberystwyth! Who needs Spain when you have Costa del Ceredigion right on the doorstep? And in any case, since the pandemic has put the kibosh on many foreign trips, the staycation is now more popular than ever.


There’s a bit of humour in this book, and seeing Modlen having a wee on side of the road brought a smile to my face as I was reminded of similar pit-stops on our family holidays. I reckon quite a few Welsh children have had similar experiences on the side of the A470 at one time or another!



One good thing here is the simplicity of the story. It’s a nice, light, easy read. According to the author, there are no great moral or philosophical lessons - and that’s ok. Sometimes I feel we get too bogged down in stories having a moral message. They can get preachy if it's forced. You see, there’s nothing wrong with just having a simple, light-hearted story and that’s that.


There may be no huge moral message per se, but the author’s choice to make the lead and supporting characters all girls means that it is both a celebration of women and farming in general. Unlike many books relating to agriculture, this book isn’t afraid to showcase the reality of farming life, which includes a lot of stress, hard work and long hours - the ice cream at the end of the story was well deserved!


The book is aimed at children aged 4-8 years and Lleucu’s bright and colourful illustrations and the countryside theme will no doubt appeal to those who live in rural areas. Personally, I think those who live in the country will be more likely to choose this book, but it’s clear that the author is also keen on sharing some of those farming experiences with other audiences as well.


If you enjoyed the adventures of Cwm Cawdel Farm, well, guess what? There are more on the way!

 

Cyhoeddwr/publisher: Gwasg Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £6.00

 

AM YR AWDUR

Daw GWENNAN EVANS o Ddyffryn Cothi’n wreiddiol ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i dau fab. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe ac fe ddilynodd drywydd Ysgrifennu Creadigol argyfer ei hymchwil yno. Enillodd radd Meistr yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd a gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol

Bangor. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Bore Da, yn 2012 a nofel ddoniol i blant, Iârgyfwng, yn 2017. Cyhoeddodd stori fer i'r arddegau yn y gyfrol Seren

Wib a bydd ei Stori Tic Toc gyntaf i blant bach i’w chlywed ar Radio Cymru yn Hydref 2019. Ym mis Chwefror 2019, treuliodd wythnos yn Nhŷ Newydd ar gwrs dan nawdd Cyngor Llyfrau Cymru i feithrin awduron ar gyfer llyfrau llun a gair i blant 3-7 oed dan arweiniad Manon Steffan Ros a Jac Jones. Mae Gwennan hefyd yn barddoni ac wedi ysgrifennu nifer o gerddi i blant ar gyfer sawl Stomp Plant.


Recent Posts

See All

Commentaires

Noté 0 étoile sur 5.
Pas encore de note

Ajouter une note
bottom of page