*For English review, see language toggle switch on top of webpage*
♥ Llyfr y Mis i blant: Hydref 2021♥
♥Rhestr Fer TNNO 2022♥

Addas: 9-16 oed (CA2/3/4)
Genre: #ffeithiol #hanes #Cymru #gwerslyfr

Dyma farn Elin Williams (13 oed) am y llyfr...
Llyfr am hanes Cymru yw hwn gan Elin Jones, sy'n mynd â ni ar daith o'r dechreuad cyntaf un (tua 5000 o flynyddoedd yn ôl pan ddechreuodd y bobl gyntaf esblygu, gan fyw mewn ogofâu) hyd at sefydlu'r Senedd ym Mae Caerdydd yn 1997.
Ceir llawer o ddigwyddiadau diddorol eraill yn hanes Cymru rhwng y cloriau, megis hanes y Celtiaid a'r Rhufeiniaid, sefydlu Cristnogaeth yng Nghymru a'r eglwysi ddaeth yn sgil hynny, cestyll mawreddog yn cael eu hadeiladu, y Cymry a'u rôl yn y fasnach gaethwasiaeth, codi'r tollbyrth a hanes eu chwalu gan Ferched Beca cyfrwys, hanes ofnadwy y Welsh Not mewn ysgolion, y ddau ryfel byd, hawliau menywod, a llawer mwy.
Hoffais y ffordd rannwyd y gyfrol, gyda phedair llinell amser yn dynodi'r gwahanol brif gyfnodau. Mae yma hefyd ddigon o luniau a diagramau diddorol; credaf fod hyn yn ysgafnhau'r cynnwys ac yn cadw ein diddordeb. Cyflwynir llawer o'r ystadegau ar ffurf siartau a lluniau, megis y map o Gymru sy'n dangos y twf yn nifer y rheilffyrdd dros gyfnod o amser – cymaint mwy effeithiol na rhestrau o rifau'n unig.
Hoffais y clawr am ei fod yn lliwgar, yn cynnwys cymeriadau o wahanol gyfnodau, ac hefyd mae cynnwys y ddraig yn tynnu sylw. Dyma ychwanegiad gwerthfawr at unrhyw silff lyfrau.
Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Barn Morgan Dafydd, Sôn am Lyfra...

Dwi’m yn gwybod amdanoch chi, ond doedd gen i fawr i’w ddweud wrth y gwerslyfrau hanes llychlyd oedd ganddon ni yn yr ysgol uwchradd. Er mai’r 2000au cynnar oedd hi, roedden ni’n dal i ddefnyddio hen lyfrau sgryfflyd, diflas du a gwyn o’r 80au yn ein gwersi. Doedd y rhain yn gwneud fawr i danio chwilfrydedd na chyffroi unrhyw ddysgwr.
Fe dreulion ni fwy o amser yn astudio gorchestion teulu brenhinol Lloegr ar draul ein hanes cyfoethog ein hunain. Wrth gwrs ei bod hi’n bwysig dysgu am hanes y byd rhyngwladol, ond dwi’n dal i deimlo bod bylchau mawr yn fy ngwybodaeth am hanes Cymru. Nawr, diolch i’r llyfr hwn, mae gen i gyfle i chwarae catch-up, ac i ddysgu o’r diwedd am gyfnodau o’n hanes sy’n ddieithr iawn i mi, megis Oes y Tywysogion.
Fel athro, dwi’n croesawu’r adnodd cynhwysfawr yma, sy’n glanio just in time ar gyfer dyfodiad Cwricwlwm Newydd i Gymru. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae pob ysgol yn y wlad wedi derbyn copi o’r llyfr, sydd hefyd ar gael yn Saesneg, o dan y teitl History Grounded.
Er bod ei ddefnyddioldeb yn yr ystafell ddosbarth y amlwg, mae hwn yn llyfr sydd ag apêl llawer ehangach. Bydd oedolion sydd â diddordeb yn hanes Cymru, ond sy’n chwilio am drosolwg o gyfnod eang yn gweld defnydd yn y fath lyfr.

Mae sgôp yr adnodd yn anferth – fe aiff â’r darllenydd ar daith weledol drwy 5,000 o flynyddoedd a mwy. Yn ogystal â rhoi trosolwg bras, mae’r llyfr hefyd yn manylu ar rai cyfnodau, unigolion a digwyddiadau hynod, gan gynnwys ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith a hanes sefydlu Senedd Cymru. Drwyddi draw, dyma gyfrol sy’n cynnig taith weledol drwy hanes cyfoethog ac amrywiol ein gwlad, ac yntau’n llawn lluniau perthnasol ac engaging sy’n ychwanegu at y testun.

Cawn gyngor doeth gan yr awdur ar ddechrau’r llyfr, ac mae’n ein hatgoffa’n gyson mai dyfalu ydi astudio hanes mewn gwirionedd. Er yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, doedden ni ddim yno i’w weld yn digwydd, felly rhaid i ni geisio rhoi’r darnau ynghyd fel rhyw fath o jig-so. Cawn hefyd rybudd nad yw hanes yn fêl i gyd, ac mae’n frith gyda chreulondeb, rhyfel a marwolaeth. Rhaid hefyd cofio fod safbwyntiau unochrog a thuedd yn bodoli wrth astudio hanes, gan mai dynion pwerus a chyfoethog oedd fel arfer yn cofnodi hanes.
Er bod ambell i dudalen yn sôn am gaethwasiaeth, mi faswn wedi hoffi gweld mwy yn trafod y rhan y chwaraeodd Cymru yng nghyfnod gwladychiaeth (colonialism). Er ei fod yn bwnc anghyfforddus, mae’n bwysig trafod y rôl y chwaraeodd rhai unigolion megis Thomas Picton, Sir Benfro neu Henry Morton Stanley, Dinbych yn y fasnach gaethion. Mae cerfluniau sy’n clodfori eu gorchestion yn dal i sefyll yn ein cymunedau heddiw, ond rhaid i ni gydnabod fod ochr tywyll i’w bywydau hefyd. Yn hytrach nag osgoi, anwybyddu neu ddileu hyn, mae’n bwysig cael sgwrs gyhoeddus am y peth mewn ffordd agored. Efallai bod cyfle wedi ei golli yma i wneud hyn.
Dwi’n cydnabod ei bod hi’n amhosib ffitio popeth i mewn i un gyfrol, ond mae’n deg dweud fod yr awdur wedi gwneud gwaith diwyd a thrylwyr iawn yma.
Yn anffodus, does ganddon ni ddim fath beth â pheiriant amser, ond mae’r llyfr yma’n dod reit agos! Agorwch y clawr ac ewch ar siwrne’n ôl drwy hanes Cymru, yr hanes sydd yn y pridd; sy’n perthyn i ni gyd.

Gwasg: Carreg Gwalch
Cyhoeddwyd: Medi 2021
Pris: £16.50
Fformat: Clawr Caled
ISBN: 9781845278311
Ar gael yn Saesneg: History Grounded
AM YR AWDUR:
ELIN JONES

Bu Elin Jones yn dysgu yn ysgolion uwchradd Preseli, Rhydfelen a Chwm Rhymni cyn cael ei phenodi’n swyddog addysg yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn y swyddi hyn i gyd roedd disgwyl iddi gynefino â phob cyfnod o hanes Cymru, a chafodd gyfle i gyd-weithio gydag arbenigwyr ac i baratoi adnoddau ar gyfer dysgwyr o bob oedran a gallu.
Ym 1996 dechreuodd wneud gwaith ymgynghorol gydag Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru, gyda chyfrifoldeb dros reoleiddio’r cymwysterau hanes, datblygu’r cwricwlwm hanes a’r dulliau o’i asesu, a chomisynu adnoddau dysgu hanes hefyd. Bu’n cadeirio’r tasglu oedd yn gyfrifol am baratoi’r adroddiad i’r Gweinidog Addysg ar Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru yn 2013. Mae’n westai poblogaidd wrth drafod straeon a chymeriadau o hanes Cymru ar raglenni Radio Cymru.
Comments