*Scroll down for English & comments*
Mae rhywun - neu rhywbeth - yn ei dilyn.
Someone - or something - is following her.
Gwasg: Y Lolfa
Cyhoeddwyd/released: 2013, 2017
Pris: £4.95
ISBN: 978-1-84771-680-4
Lefel her/challenge level: ❖ ❖
❗ Darnau ofnus, some scary parts
☆ ☆ Cymraeg gwreiddiol - Welsh original ☆ ☆
Heb os, y diweddar Gareth F. Williams yw fy hoff awdur Cymraeg hyd yma. Dwi’n gweithio fy ffordd drwy ei lyfrau ac mae gen i dipyn o ffordd i fynd! Yn wreiddiol, cafodd Hwdi ei ryddhau yn 2013 ond dwi’n falch o weld y cafodd y gyfres Mellt (nofelau cyffrous wedi eu hanelu at ddarllenwyr 11-14 oed) ei hail rhyddhau yn 2017.
Os nad yw’r clawr wedi gwneud hi’n hollol amlwg i chi – llyfr arswyd pur yw Hwdi a dim byd arall. Dwi o’r farn fod cael eich dychryn yn beth da – hyd yn oed i blant – ac mae’r llyfr yma’n sicr yn gwneud hynny. Tydi’r awdur ddim wedi dal dim yn ôl. Ydych chi erioed wedi clywed am y ffilm The Grudge? Dwi’n dweud dim mwy…
Mae Lois Evans, sy’n bymtheg oed, wedi symud i’r pentref gyda’i Mam, Buddug, ar ôl i’w rhieni wahanu. Mae Mam Lois wedi troi at y gwin ers iddi golli ei busnes, ei bywoliaeth, a’i phriodas ar yr yn pryd. Mae yfed Buddug yn creu problem rhwng y Fam a’r Ferch. Dwi’n hoff o’r ffordd mae’r awdur yn plethu themâu cyfarwydd fel ysgaru a trio ffitio i mewn yn yr ysgol i mewn i nofel arswyd. Dwi’n siŵr fydd nifer o ddarllenwyr yn gallu uniaethu gyda Lois, sydd yng nghanol y ffraeo. Mae rhai o’r cyfeiriadau poblogaidd yn y nofel yn dechrau dangos eu hoed (e.e. Twilight) ond nid yw hyn yn amharu ar y stori.
Gan mai hi yw’r “hogan newydd” mae Lois yn ffeindio hi’n anodd gwneud ffrindiau yn yr ysgol, ac mae Siân, Ifan a Marc yn tueddu i feddwl ei bod hi chydig bach yn weird oherwydd ei hymddygiad od. Cafodd hi ei gweld yn cerdded yn frysiog gan edrych o’i chwmpas fel petai rhywun – neu rhywbeth – yn ei dilyn.
Er fod Lois yn ceisio dweud wrth ei hun fod popeth yn iawn, mae pobl eraill yn dechrau sylwi ar ‘rhywun’ mewn Hwdi yn loetran o gwmpas y stryd, a does neb all ddadlau fod yna rhyw deimlad annifyr yn nhŷ Lois. Mae ‘na bethau rhyfedd yn mynd ymlaen. Tydi pethau ddim cweit yn iawn...
Mae’r stori yn cyflwyno’r cymeriadau ac mi ydan ni’n cael ‘chydig o gefndir ond tydi pethau ddim wirioneddol yn dechrau digwydd tan ganol y nofel. Mae’r awdur yn creu nifer o gwestiynau ac rydym ar bigau’r drain eisiau atebion iddynt.
Wrth i’r nofel nesáu at y diwedd, mae’r arswyd yn cynyddu. Dwi’n gaddo y cewch chi deimlad anesmwyth iawn wrth ddarllen. Mae’r stori yn hynod o creepy.
Ceir diweddglo annisgwyl iawn, sy’n dreisgar ac yn wirioneddol frawychus. Dwi’n falch fod ‘na lamp yn agos achos mi oedd gen i dipyn o ofn - fi, rhywun 28 oed, heb sôn am blentyn! Weithiau, mae awduron hŷn sy’n trio ysgrifennu fel plant yn eu harddegau yn swnio’n annaturiol ac yn ffals, ond dawn yr awdur yw ei fod yn dallt yn iawn sut mae pobl ifanc yn siarad ac yn meddwl, gan hyd yn oed gynnwys y rhegi!
Mae’r stori yma’n cael 9 allan o 10 gen i ac maen ffefryn personol. Rhowch gynnig arni, os ‘dach chi’m yn ormod o fabi!
Undoubtedly, the late Gareth F. Williams is my favourite Welsh author so far. I am working my way through his books and I've got some way to go! Originally, Hwdi was released in 2013 but I am pleased to see that the Mellt series (exciting novels aimed at 11-14 year-old readers) was re-released in 2017.
The cover may have had you thinking that this would be a book about gangs or teenagers going off the rails, but be under no illusions – Hwdi is pure horror and nothing else. I think being scared is a good thing – even for children – and this book certainly does that. The author has not held back. Have you ever heard of the film the Grudge? I’ll say no more.
Fifteen-year-old Lois Evans has moved to the village with her mother, Buddug, after her parents divorced. Lois’ mother has turned to the bottle since she lost her business, her livelihood, and her marriage. Buddug's drinking poses a problem between mother and daughter. I like the way the author interweaves familiar themes such as divorce and trying to fit in at school into a horror novel. I'm sure many readers will be able to identify with Lois, who is caught is in the middle of her two parents. Some of the popular references in the novel are now beginning to show their age (e.g. Twilight) but this does not impact on the story.
As she is the "new girl," Lois finds it difficult to make friends at school. Siân, Ifan and Marc tend to think she is a little bit weird because of her strange behaviour. She was seen walking hastily and looking back as if someone – or something – was following her.
Although Lois tries to convince herself that everything is fine, other people are beginning to notice ' somebody ' in a hoody hanging around the street, and no one can deny that there is an uneasy feeling in Lois’s house. There are strange things going on and things are not OK….
The story introduces us to several characters and we get some snippets of background information but things don't really start happening until the middle of the novel. The author poses a number of questions with the strange goings-on and we are left desperate for some answers.
As the novel approaches the end, the horror increases. I can promise that you’ll feel very uncomfortable whilst reading. I got the shivers. The story is remarkably creepy.
There is a very unexpected ending; rather violent and truly scary. I'm glad there was a lamp close to hand because I was quite scared, and I’m 28!! Some older writers who try to write like teenagers sometimes sound artificial and false, but this author has always been skilled in this area. He knows how young people talk and think, and even includes some swearing!
This story gets 9 out of 10 from me and I consider it personal favourite. Try it out, if you’re not too much of a scaredy cat!
Nofel wych ar gyfer unrhyw un sy'n mwynhau cael eu dychryn. Roedd yn rhaid i mi ei rhoi i lawr ar un adeg, i mi gael dechrau anadlu eto. A dydw i ddim yn dychryn yn hawdd!