top of page

Lliwiau Cyntaf Babi / Baby's First Colours - Sally Beets [Addas. Elin Meek]

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

*Scroll down for English*


 

Dwi Newydd brynu copi o’r llyfr yma i ffrind sy’n byw yn Lloegr. Mae o a'i wraig newydd gael hogan fach a dwi’n gobeithio y byddan nhw'n gallu defnyddio’r llyfr yma i wneud yn siŵr ei bod hi’n clywed dipyn o Gymraeg, er ei bod hi’n Warwick!


Dyma lyfr sy’n berffaith fel un cyntaf ar gyfer babi ifanc. Cofiwch, dydi hi BYTH rhy fuan i gyflwyno llyfrau i blant. Gora po gyntaf ddweda i.


Mae’r llyfr yn cynnwys y prif liwiau ac mae’n llachar iawn gyda lluniau clir ar gyfer denu sylw'r rhai lleiaf. Mae rhyw fath o effaith 3D ar yr eitemau sy’n gwneud iddyn nhw sefyll allan yn glir.


Drwy wrando arnoch chi’n darllen, mi fydd eich plentyn yn gallu dysgu geiriau syml gyda phethau sy’n gyfarwydd iawn fel bwced a rhaw neu anifeiliaid anwes. Bydd digon o hwyl i gael yma wrth edrych a phwyntio at y lluniau. Mae’r llyfr yn un dwyieithog hefyd sy’n ideal ar gyfer teuluoedd sy’n siarad Cymraeg a Saesneg adref.



Dwi’n meddwl y bydd y llyfr yn ffefryn gyda’r rhai bach ac wrth gwrs, mae o wedi ei wneud o gardfwrdd cadarn, sy’n beth da rhag ofn bod y corneli’n cael eu cnoi!


Os wnaethoch chi fwynhau Lliwiau Cyntaf Babi, mae ‘na rai eraill yn y gyfres hefyd.


 

As it happens, I've just bought a copy of this book for a friend living in England. They’ve just had a baby girl and I hope that they’ll be able to use this book to make sure that she gets to hear a little bit of Welsh, despite being in Warwick!


This is the perfect book for a young baby/toddler. Remember, it's NEVER too early to introduce books to children. The sooner the better IMO. Even though they can’t read, they can still hear the sound of your voice and they absolutely love looking at the pictures.


The book introduces the main colours and is very bright with clear pictures for attracting the attention of our little readers. The photos have a bit of a 3D effect which helps them to stand out clearly.


By listening to you reading, your child will be able to learn simple words using familiar objects such as a bucket and spade or pets. There’s plenty of fun to be had here as they’ll look and point to the pictures with great fascination. It’s also a bilingual book so ideal for those speaking Welsh and English at home. You never know, you might even pick up a word or too along the way!



I think the book will be a favourite with the little ones and of course, it's made of solid cardboard, so it’ll take a good battering and can cope with a bit of chewing!


If you enjoyed Lliwiau Cyntaf Babi, there are others in the series too.

 

Cyhoeddwr/publisher: Dref Wen

Cyhoeddwyd/released: 2021

Pris: £3.99

ISBN: 9781784231583

 

Hefyd yn y gyfres...

Also available...



Recent Posts

See All

Commentaires

Noté 0 étoile sur 5.
Pas encore de note

Ajouter une note

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page