(awgrym) oed darllen: 5+
(awgrym) oed diddordeb: 0+
Genre: #bathbook #babi #llyfrcyntaf #fferm
Mae amser bath gyda babi bach yn gallu bod yn bleser neu’n hunllef! Yn achos ein mab 4 mis oed, diolch byth, mae o wrth ei fodd yn y dŵr yn sblashio ac yn socian ei rieni! Er nad ydi o wedi deutha fi ei hun, oni bai am amser bwyd, dwi’n meddwl mai dyma ei hoff adeg o’r dydd. Weithiau mae ‘na bethau’n codi, ond gan amlaf, ‘da ni’n trio rhoi bath iddo bob nos fel rhan o’i bedtime routine.
Ddoe, mi gafodd o’r llyfr yma, Ffrindiau'r Fferm / Farm Friends, fel anrheg gan ei Nain, ac mae o wrth ei fodd. Llyfr bath ydi o, felly mae o wedi ei wneud o blastig meddal wipe clean, ac felly’n hollol saff i’w wlychu.
Ers ryw bythefnos, ma’r bychan yn rhoi BOB DIM yn ei geg. Dyna’r ffordd mae babis yn dod i nabod y byd apparently. Os dio’n gallu cael gafael mewn rhywbeth, mae o’n mynd i gael ei gnoi. Garantîd. Peth da felly fod y llyfr yma ddigon gwydn i ddelio â hynny.
Yn y llyfr, mae ‘na luniau lliwgar byd y fferm, ac yn handi iawn, testun dwyieithog sy’n addas i unrhyw un sy’n awyddus i gyflwyno dipyn o’r Gymraeg i’w plant. Pan mae fy ffrindiau yn cael babis, llyfrau bath y gyfres yma yw fy go-to ar gyfer anrhegion syml, defnyddiol a rhad.
A nid dim ond amser bath mae’r llyfr yn cael defnydd chwaith, ‘da ni wedi dechrau mynd a fo yn y pram ar ein outings hefyd gan ei fod o’n ysgafn ac yn seis go fach. Mae o jest yn rhywbeth handi iddo gael yn ei law i chwarae hefo a cadw ei sylw. (dio’m yn rhy keen ar fynd yn y sêt car, felly mae unrhyw beth sy’n ei gadw fo’n dawel yn ffab!)
Ar hyn o bryd, dwi’n poeni dim nad ydi o actually yn darllen y llyfr, ond mae o definitely yn archwilio’r peth hefo’i geg ac yn mwynhau syllu ar y lluniau llachar. Y peth pwysig ydi fod o’n ymgyfarwyddo hefo dal llyfrau. Mi ddaw bopeth arall yn ei dro...
Hefyd yn rhan o’r gyfres mae llyfr anifeiliaid y môr, Ffrindiau’r Cefnfor. Dwi am brynu copi o hwnnw hefyd i’w gadw yn Tŷ Nain.
コメント