top of page
Writer's picturesônamlyfra

Mae'r Cyfan i Ti - Luned Aaron

*Scroll down for English*


Cyfrol annwyl a theimladwy i'w darllen cyn mynd i gysgu.

A tender and sensitive bedtime story.

Llyfr Lluniau a geiriau ar gyfer plant 3-7 oed

Picture and word book for children aged 3-7 years

 

Dwi’m yn gwybod sut mae rhai wedi gallu parhau i fod mor productive yn ystod y cyfnod clo. Am gyfnod go lew, mi aeth fy mhroductivity i lawr y draen - doedd gen i fawr o fynadd gwneud dim byd - felly chwara teg i’r rheiny wnaeth llwyddo i ddyfalbarhau a dal ati i greu dros y cyfnod rhyfedd. Un o'r rhai fu’n brysur iawn oedd Luned Aaron, wnaeth dreulio’r cyfnod clo yn hel syniadau, yn ’sgwennu ac yn darlunio llyfr newydd hyfryd iawn sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Atebol yn ddiweddar.


Mae effaith y pandemig yn erchyll, wrth gwrs, gyda nifer wedi colli swyddi, eu bywoliaeth ac mae rhai wedi colli pobl sy’n annwyl. Fodd bynnag, yng nghanol hyn oll, mae 'na ambell lygedyn o obaith. Mae’n debyg fod nifer ohonom wedi manteisio ar gyfnod mymryn yn dawelach er mwyn treulio mwy o amser yn yr awyr agored o gwmpas ein cynefin. Heblaw am y ffaith fod mentro tu allan yn lleddfu’r diflastod o fod yn styc yn y tŷ, roedd mynd i grwydro yn ffordd ardderchog o ddod i nabod ein hardal leol yn well.



Yn ôl y sôn, mi fuodd Luned a’i theulu yn brysur yn darganfod eu milltir sgwâr a daethant ar draws nifer o ryfeddodau byd natur yn y broses, ac mae hyn yn amlwg wedi dylanwadu ar y gwaith gorffenedig.


Fe aiff y llyfr â ni ar siwrne diwrnod cyfan, o’r wawr hyd at fachlud yr haul. Gwibiwn o’r gwair i’r coed, o’r coed i’r cymylau. Symudwn o un tirlun hardd i’r nesaf ar rhyw fath o whistlestop tour o fyd natur. Dwi’n gwerthfawrogi’r cyfeiriad at arogl y pridd ar ôl cawod law. Mae ogla’r tir, yr hen earthy smell ’na, yn anodd ei ddisgrifio ond dwi’n meddwl ei fod o’n fendigedig (petrichor ydi’r enw gwyddonol rhag ofn eich bod eisiau gwybod!).



Llais mam yn siarad â phlentyn ifanc sydd yma, wrth iddi gyflwyno’r byd a’i ryfeddodau. Awgryma prif neges y llyfr, “mae’r cyfan i ti”, fod amrywiaeth eang o brofiadau a phethau i’w mwynhau o’n cwmpas - nid y pethau mawr ond y pethau bychain sy’n bwysig. Er nad yw’n cyfeirio at hyn yn uniongyrchol, dwi’n teimlo fod ’na underlying message hefyd, sef bod ein byd yno i’w warchod a’i drysori yn ogystal â’i fwynhau.


Erbyn hyn mae Luned wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, ond dyma’r cyntaf sy’n cynnwys stori ochr yn ochr â’i lluniau. Cynhwysir cyfieithiad Saesneg yng nghefn y llyfr sy’n syniad da, yn fy marn i, gan ei fod yn ehangu apêl y llyfr i gynulleidfa fwy.


Mae wastad yn bleser edrych ar waith celf Luned, ac mae’r amrywiaeth yn y dulliau a’r technegau a ddefnyddir ganddi yn drît i’r llygaid. Dwi’n hoffi astudio’r lluniau collage yn ofalus iawn i drio gweld os alla i sylwi ar rai o’r technegau neu ddyfalu rhai o’r defnyddiau mae hi wedi eu dewis i greu’r effaith.


Os nad ydach chi wedi bod wrthi’n barod, dw i'n mawr obeithio y byddwch chi'n mentro allan i archwilio mwy o’ch ardal leol ar ôl darllen y llyfr hwn. Be mae’r clo mawr wedi ei ddysgu i mi ydi nad oes rhaid mynd ar wyliau i wledydd pell bob tro, achos mae ’na ddigon o ryfeddodau i'n difyrru ar ein stepen drws – mae'r cyfan yno yn aros i ni ei ddarganfod!

 

I don’t know how some people managed to remain so productive during the lockdown period. For most of it, my productivity levels went right down the drain - I just couldn’t motivate myself to do anything, frankly. So hats off to those who managed to persevere and continued to create over that strange period. One of those who kept busy is Luned Aaron, who spent the lockdown developing her ideas and taking inspiration from the outdoors to create her new book, recently published by Atebol.


The impact of the pandemic for many has been devastating. Apart from the effects on mental health, jobs and livelihoods, some have even lost loved ones. However, in the middle of all the gloom, there were a few rays of sunshine. Many of us took advantage of a break from the normal everyday hustle and bustle, and spent more time outdoors around our local areas. Not only did venturing outside alleviate some of the boredom of being cooped up indoors, it was a great way to re-discover our localities.



The book takes us on a journey in a day, from sunrise to sunset. We start our journey in the grass, then move to the trees and even to the clouds, moving from one beautiful landscape to another on a whistle-stop tour of mother nature. I liked the reference to the smell of the soil after a rain shower. That ‘earthy smell’ is hard to describe but I absolutely love it! (technically, that smell is called petrichor, in case you were wondering!)


The story is told through a mother's voice speaking to a young child, as she presents the world and its wonders. The book’s message, "it's all for you", suggests that there’s a whole host of experiences and things around for us to enjoy – and not necessarily big things but little things are just as important. Although the author doesn’t refer to this directly, I sense there’s a subtle underlying hint that all these things should be protected and treasured as well as enjoyed.



Luned has now published a number of books, but this one has more words and a ‘story’ to go alongside her pictures. An English translation is included at the back of the book which I think is a good idea, as it broadens the book's appeal to a larger audience. (this can only be a good thing, right?)


It’s always a pleasure to look at Luned's artwork, and the variety in her methods and techniques is eye-catching. I like to study the collage pictures closely to see if I can guess which materials she has chosen to create the effects and realistic textures.


If you haven't already started, I urge you all to venture out and explore more of those hidden gems in your local areas after reading the book. What the lockdown has taught me is that we don't always have to go on holiday to far flung places, because we have enough wonder and beauty right on our doorsteps – and it’s just sitting there waiting to be discovered!

 

Cyhoeddwr/publisher: Atebol

Cyhoeddwyd/released: 2020

ISBN: 9781913245382

Pris: £6.99

 

AM YR AWDUR


Daw Luned Aaron o Fangor yn wreiddiol. Bellach mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’u plant. Mae hi’n arddangos ei gwaith yn aml mewn orielau ar hyd a lled Cymru, ac fe enillodd ei llyfr cyntaf i blant, ABC Byd Natur, wobr categori cynradd Tir na n-Og 2017. O ran technegau, mae Luned wrth ei bodd yn arbrofi gyda chyfryngau amrywiol, ond paent acrylig ydi ei hoff gyfrwng gan ei fod yn caniatáu iddi weithio mewn haenau sy’n cynnig naws atgofus i’r gwaith. Mae ei phaentiadau i gyd yn deillio o le cadarnhaol ac yn dathlu adegau llawen.



Commentaires

Noté 0 étoile sur 5.
Pas encore de note

Ajouter une note
bottom of page