top of page

Melltith yn y Mynydd - Elidir Jones a Huw Aaron

*Scroll down for English*

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◎◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◉◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◉◉◉◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎

 

Oed darllen/reading age: 12+

Oed diddordeb/interest age: 12+ (ac oedolion! And adults too!)

 

Dyma’r ail lyfr yng nghyfres Chwedlau’r Copa Coch gan Elidir Jones a Huw Aaron, sy’n ddilyniant teilwng i Yr Horwth. Mae llyfrau ffantasi yn y Gymraeg wastad wedi bod yn dipyn bach o niche. Heblaw am drioleg diweddar Y Melanai (sy’n blwmin gwych gyda llaw) doedd fawr o sôn am ffantasi Cymraeg yn gyffredinol. Ond yn 2019, yn fuan ar ôl ei gyhoeddi, fe aeth Yr Horwth ymlaen i ennill categori newydd sbon danlli yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn, ac fe roddodd y genre ffantasi yn ôl ar y map a’i gyflwyno i genhedlaeth newydd. No pressure ar gyfer y dilyniant felly!

O’r diwedd, mae llyfrau ffantasi yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol, ac yn dechrau cael eu gweld fel llyfrau o safon (nid jest fel pethau sy’n apelio at nerds yn unig). Mae nhw hyd yn oed yn gallu ennill gwobrau!

Dydi’r nofel ddim yn gwastraffu amser, ac fe gawn ein hail-gyflwyno i’r anturiaethwyr dewr mewn dim o amser sy’n caniatáu i ni neidio i mewn i’r antur nesaf yn reit handi. Os dydach chi heb ddarllen Yr Horwth, mi allwch chi fwynhau Melltith yn y Mynydd fel nofel ar ei phen ei hun, ond wir i chi, mi faswn i’n eich cynghori i’w darllen nhw yn eu trefn. Mae o jest yn gwneud mwy o synnwyr!


Orig, perchennog y dafarn yw adroddwr y stori, a thrwyddo fo y down i wybod am antur fawr nesaf ein ffrindiau, Nad, Sara, Pietro a Heti wrth iddo adrodd hanesion y gorffennol wrth ei westai, Ffion. Ia, distaw iawn fu bywyd ein harwyr ers trechu bwystfil y nofel gyntaf, ond yn ffodus iawn i ni’r darllenwyr, mae pethau rhyfedd iawn yn digwydd o amgylch y Copa Coch o hyd... (mi fasa happy ever after yn reit ddiflas basa!).

Fe wyddwn o’r nofel gyntaf fod ’na ysbrydion dychrynllyd yn trigo yng nghrombil y Copa Coch, ond mae rhywbeth yn eu denu allan o’r mynydd sy’n fygythiad enbyd i’r pentref newydd. Does dim dewis gan ein hanturiaethwyr dewr ond mynd i chwilio am atebion, ond dwi’m yn meddwl fod neb wedi paratoi ar gyfer yr hyn sy’n eu disgwyl o fewn y mynydd melltigedig...

Dyma nofel sy’n dywyllach ac yn aeddfetach na’i rhagflaenydd, ond sy’n dal i gynnwys yr un hiwmor rhwng y cymeriadau sy’n diffinio’r gyfres. Yn wir, mae darnau digon creepy, felly cofiwch hynny os ydach chi’n bwriadu darllen mewn golau gwan! Dyma ddarn sy’n fy atgoffa o ffilm The Exorcist:


“Trodd tua’r teithwyr, ac esgyrn a chyhyrau ei wddw’n gwichian ac yn cracio wrth iddo wneud. Edrychodd o’i gwmpas yn feddw, ei lygaid yn troi mewn cylchoedd, fel petai wedi anghofio sut i symud. Tynnodd ei hun ar ei bedwar yn herciog, gan gropian yn frawychus o gyflym...”


Mae ’na dipyn go lew o brif gymeriadau, ac er fy mod yn hoff o sawl un, Heti yw fy ffefryn - mae ei chryfder, ei nerth a’i dewder yn ysbrydoledig ac mae ganddi serious Xena: Warrior Princess vibes. Er ei bod hi braidd yn fyrbwyll, un peth sy’n sicr, bydd cranc-fwystfilod arallfydol yn meddwl ddwywaith cyn dadlau â Heti a’i styllen ffyddlon (mae beth mae hon yn gallu ei wneud efo darn o bren a hoelen yn impressive!).

Mewn nofelau o’r fath mae’n rhaid treulio cryn dipyn o amser yn creu bydoedd, ac yn aml iawn mae ganddyn nhw nifer o gymeriadau a lleoliadau sy’n gallu bod yn ddryslyd ar adegau. Dyma ble mae lluniau Huw Aaron yn help mawr; trwy greu darlun yn y meddwl, ond gan adael digon i’r dychymyg hefyd. Er hyn, roedd rhaid i mi ail ddarllen ambell ddarn i gael gwell syniad o beth oedd yn mynd ymlaen. Yn sicr, mae’r syniad o stori o fewn stori o fewn stori yn uchelgeisiol ( a does dim o’i le â hynny) ond mae ganddo’r potensial i ddrysu rhai darllenwyr.


Mae Elidir Jones yn nabod y genre ffantasi/antur/sci-fi yn dda iawn; mae hynny’n amlwg. Dyma awdur sydd â diddordeb personol yn y maes ac felly yn gwybod beth sy’n gwneud corcar o nofel. I mi, cynhwysion stori dda ydi dim gormod o ‘fflwff’ emosiynol a mwy o bwyslais ar y plot a’r ‘action’. Tydi’r nofel ddim yn siomi o ran hynny, ac mae’r stori’n mynd ar garlam wrth adeiladu tuag at y frwydr fawr yn y rhan olaf. Erbyn act ola’r nofel roedd hi’n amhosib i’w roi i lawr! (dwi’n gwbod bod ni adolygwyr yn dweud hyn yn aml, ond mae’n wir).

Er fy mod i’n ffafrio plot cyffrous dros waith cymeriadu dwys, tydi hynny ddim i ddweud nad yw llyfrau ffantasi yn gallu gwneud ‘cymeriadau’ yn iawn hefyd. Er enghraifft, mae un o’r cymeriadau newydd, Mantha, yn ychwanegiad diddorol dros ben i’r gyfres a bydd gen i ddiddordeb mawr clywed mwy am ei chefndir hi.


Fel geek fy hun, dwi’n meddwl mai’r ffordd fwyaf priodol i mi grynhoi fy nheimladau yw trwy ddefnyddio Star Wars. Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud fod pawb yn gwybod pa mor anhygoel ac arloesol oedd y ffilm gyntaf, A New Hope, pan gafodd ei ryddhau ym 1977. Ond gofynnwch chi i unrhyw hardcore fan, ac fe ddwedan nhw fod yr ail ffilm, The Empire Strikes Back yn ffilm llawer gwell. Dwi’n teimlo fod hyn yn wir am Melltith yn y Mynydd - llyfr sydd wedi adeiladu a chryfhau ar yr hyn a gychwynnwyd yn Yr Horwth, ac os fydd pethau’n parhau fel hyn, bydd y nesaf yn well fyth dwi’n siŵr!

 

This is the second instalment in the Chwedlau’r Copa Coch series by Elidir Jones and Huw Aaron, and a worthy follow-up to Yr Horwth. Fantasy books (particularly in Welsh) have always been a bit of a niche; something associated with nerdy, pasty teenagers perhaps. Other than the recent Melanai trilogy (which is really good btw) there was little mention of Welsh fantasy in the mainstream. But in 2019, shortly after its publication, Yr Horwth went on to win in a brand-new category at the Book of the Year awards, and it put the fantasy genre firmly back on the map and introduced it to a new generation.No pressure for the sequel then!

At last, fantasy books are getting the recognition they deserve as good quality reading materials - ‘serious’ and ‘proper’ novels which are even capable of winning awards.

The novel wastes no time in getting started, and we are quickly and skilfully re-introduced and re-acquainted with our heroic adventurers so we can get cracking with the next adventure. Now, if you haven’t read Yr Horwth, you can still enjoy Melltith yn y Mynydd as a standalone novel, but honestly, just read them in order – you know it makes sense!



Orig, the landlord is the narrator of this story, and it’s through his recollections of adventures from days gone by that we get to hear about of our friends, Nad, Sara, Pietro and Heti. Life had been a bit quiet for our adventurers following their conquest in the first novel, but fortunately for us readers, there’s plenty of strange goings-on around the mountain… (I mean, happy ever after would be boring, right?)


We know from the first novel that some frightening and deadly spirits dwell within the mountain, but recently, something has drawn them closer to the village. That doesn’t sound good, does it? Our brave adventurers are left with little choice but to venture once again into the mountain to look for answers, but I don’t think anyone is prepared for what they find in that accursed place.


This is a novel that’s darker and more mature than its predecessor, but still has the same dry humour between the characters that defines the series. Some bits are quite creepy, so bear that in mind if you’re reading it in the dark!


There are many characters to follow in this book, and although I like several, Heti is my favourite - her strength and courage are inspirational and she’s got some serious Xena: Warrior Princess kick-ass vibes about her! Although she can be reckless, one thing's for sure, paranormal crab-creatures will think twice before messing with Heti and her faithful weapon (what this lady can do with a plank of wood and a nail is impressive!)

In such novels a considerable amount of time has to be spent on world-creation, and they often have a lot of characters and locations that can be confusing at times. This is where Huw Aaron's pictures are a huge help; by visualising some of these amazing people and places, but also leaving enough to our imaginations. I will admit that I had to re-read a few parts just to get a better idea of what was going on. Certainly, the idea of a story within a story within a story is ambitious (and there’s nowt wrong with that) but it does have the potential to confuse some readers.


Elidir Jones is someone who knows the fantasy/adventure/sci-fi genre – that much is obvious. This is a writer who has a personal interest in this sort of thing so he knows exactly what makes a cracking fantasy story. For me personally, it’s less ‘emotional fluff' and more emphasis on plot and action. The novel doesn’t disappoint in this respect, and the fast-moving story accelerates to unputdownable levels in the last act as it leads up to the epic all-or-nothing battle.

Now, although I’ve suggested that fantasy novels tend to do action better than character development, that's not to say that they can’t tug on our heartstrings as well. For example, one new character, Mantha, makes a very interesting addition to the series and I was totally emotionally invested in her journey. I’m hoping this character gets fleshed out a bit in the next novel.


As a self-confessed geek, I think the most appropriate way for me to sum up my feelings is by using a Star Wars analogy. I think it's fair to say that most people know what an incredible and innovative film the first one, A New Hope, was when it was released in 1977. But ask any hardcore fan, and they'll soon tell you that it’s sequel, The Empire Strikes Back is a much better film. I feel the same is true of Melltith yn y Mynydd - a book that has built upon and added to the saga that started with Yr Horwth, and if things carry on like this, the next one will be better still!

 

Gwasg/publisher: Atebol

Cyhoeddwyd/released: 2021

Pris: £7.99

ISBN: 978-1-913245-39-9

 

Os nad ydych chi wedi darllen Yr Horwth - ewch i chwilio am gopi yn eich siop leol neu lyfrgell. Fel arall, dyma'r llyfr llafar am ddim...


 

Recent Posts

See All

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page