*Scroll down for English & comments*
Gweithgareddau dychmygus, prysur, creadigol 'da Nel!
Imaginative, busy, creative activities with Nel!
Genre: posau, gweithgareddau, ffeithiol / puzzles, activities, non-fiction
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎
Negeseuon positif/positive messages: ◎◎◎◎◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◉◎◎◎
Her darllen/reading difficulty:: ◉◎◎◎◎
Dyfarniad/Rating: ★★★☆☆
Mae’r gyfres ‘Na, Nel!’ wedi bod yn hynod o boblogaidd gyda phlant Cymru, yn enwedig gyda merched rhwng 7-9 oed. Rŵan, yn ogystal â sawl llyfr stori, mae llyfr gweithgareddau cyffrous ar gael yng nghwmni’r ferch fach ddireidus!
Ar hyn o bryd, oherwydd y pandemig coronafeirws, mae plant ar hyd a lled Cymru yn gorfod aros adref gan fod yr ysgolion wedi cau. Efallai fod peidio gorfod mynd i’r ysgol yn hwyl i ddechrau, ond buan iawn mae pethau’n mynd yn ddiflas. Mewn cyfnod mor ansicr, mae’n bosib y bydd pobl yn gorfod hunan ynysu yn eu cartrefi am amser hir... o na!
Diolch byth felly fod llawer o weithgareddau ar gael ar-lein a bod siopau llyfrau (ar hyn o bryd) yn dal i gynnig gwasanaeth bostio. (does dim ond hyn a hyn o deledu mae rhywun yn gallu ei wylio!) Mae Na, Nel! Waw! yn cynnwys 27 o weithgareddau amrywiol, lliwgar, llawn hwyl ar gyfer plant sy’n siŵr o gadw nhw’n brysur am oriau! Mae ambell un yn eithaf addysgiadol hefyd!
Mae’r llyfr ar gael am ddim o lyfrgelloedd hefyd, ond mi fydda’n rhaid cysylltu gyda Y Lolfa er mwyn cael hawliau llungopïo. Llawer gwell prynu copi eich hun – bargen am £4.99 os ydi o’n golygu oriau o dawelwch tra mae’r plantos yn brysur!
The ‘Na, Nel!’ series has been hugely popular with children across Wales, especially with girls aged 7-9. Now, as well as several storybooks, there is an exciting activity book to enjoy with this mischievous little character!
At present, because of the coronavirus pandemic, children all over Wales are having to stay at home because the schools have closed. Not having to go to school may be fun to begin with, but be assured, things turn boring very quickly! In these uncertain times, people may have to self-isolate in their homes for a long time… Oh no! Although this will help our health in the long run, it will mean lots of bored and restless children with cabin fever!
Thankfully, many activities are becoming available online and the book shops are still operating a delivery service (for the time being, anyway!) There's only so much television someone can watch!) Na, Nel! Waw! contains 27 varied, colourful and fun activities for children that will surely keep them occupied for hours! Some of them are even educational!
The book is also available free in most libraries, but you would have to contact Y Lolfa to obtain photocopying permissions. I’d recommend buying your own copy – a bargain at £4.99, especially if it means a few hours of peace and quiet while the little ones are busy!
Comments