(awgrym) oed darllen: 6-9
(awgrym) oed diddordeb: 5-10
Lluniau: Bethan Mai https://www.instagram.com/bethan_mai_celf_art/?hl=en
Sut i fwynhau byd natur, sut i arbed ynni, dŵr ac ailgylchu ac ailddefnyddio, a'r cyfan yn llais doniol a direidus Nel.
Disgrifiad Gwales:
Sut all merch ysgol ddireidus fel Nel achub y byd? Mae Nel yn llawn syniadau fel arfer, a phan mae'n deall bod yna gynllun dieflig ar droed, mae'n mynd ar antur i ddod o hyd i'r bwystfil sy'n benderfynol o ddinistrio'r blaned. Yn ogystal â stori, a lluniau lliw gan yr artist John Lund, mae'r llyfr yn llawn cyngor a syniadau am sut y gall plant wneud eu gorau i ofalu am y blaned.
Rhai o'r pynciau fydd dan sylw:
- Beth ydyn ni'n ei wneud i'n hamgylchedd ni.
- Y newid i'r tywydd: sut mae'n newid a pham, a beth allai hynny feddwl yn y dyfodol.
- Yr effaith ar anifeiliaid a physgod.
- Beth sy'n digwydd i'n sbwriel ni?
- Ailgylchu ac ailddefnyddio.
- Plastig - gofalu am ein traethau a'r môr.
- Camau bach y gallwn ni wneud yn ein cymunedau.
- Edrych ymhellach - beth sy'n cael ei wneud mewn gwledydd eraill.
Derbyniodd yr adolygwr gopi am ddim o’r llyfr gan Sôn am Lyfra am adolygiad teg o’r llyfr. Os hoffech chi gopi am ddim o lyfr, cysylltwch! ‘Da ni’n chwilio am adolygwyr ac eisiau gwybod eich barn am lyfrau.
コメント