top of page

O'r Tywyllwch (2021) -Mair Wynn Hughes

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

*For English, please see language toggle switch on top of page*


Oed darllen: 11+

Oed diddordeb: 11+

 

Cyfres newydd ‘Gorau o’r Goreuon’

Swnio’n gyfarwydd? Mi ddylia fo, achos fe gafodd ‘O’r Tywyllwch’ ei gyhoeddi yn wreiddiol ym 1991. Efallai eich bod yn cofio ei weld o ar silff y siop lyfrau flynyddoedd yn ôl, neu ella mai hwn oedd eich llyfr darllen yn yr ysgol.


Mae’r tair cyfrol gyntaf yng nghyfres Gorau’r Goreuon wedi cael eu hail-wampio a’u diweddaru, i sicrhau eu bod yn edrych yn ffres ac yn ddeniadol i ddarllenwyr heddiw - mae gan ddarllenwyr ddisgwyliadau uchel wyddoch chi! Mae pob un wedi cael clawr newydd sbon, ac mae’r rhain yn hynod o drawiadol.


Ydan ni wastad yn chwilio am rywbeth newydd o hyd?

Maen nhw’n dweud nad yw stori dda’n dyddio. Ac i raddau, mae hynny’n wir. Ond mae llyfrau’n dyddio. Ac maen nhw’n bendant yn gallu cael eu hanghofio. Dyma ddigwyddodd yn achos O’r Tywyllwch gan Mair Wynn Hughes fwy na thebyg. Rhyw gwta flwyddyn yn ôl, prin fasa chi wedi medru bachu copi o’r gwreiddiol, heblaw am yr un copi ail law oedd ar ebay am dros £100! Y rheswm dros hyn - does na jest ddim llawer o gopïau ar ôl.


A dydi hyn ddim yn broblem sy’n perthyn i O’r Tywyllwch yn unig chwaith. Mae ’na gannoedd o deitlau da, gwerth eu darllen, sydd allan o brint ac wedi mynd i ebargofiant erbyn hyn.


Yn y byd cyhoeddi Prydeinig, maen nhw’n trysori llyfrau’r gorffennol ac maen nhw wastad i’w cael mewn print - dwi’n sôn am eich A Christmas Carol, Black Beauty, Charlotte’s Web, The Lion, the Witch and the Wardrobe ac ati. Caiff y teitlau hyn eu hystyried fel ‘clasuron,’ yn y Saesneg, ond mae rhai o ‘glasuron’ a chlasuron posib y Gymraeg yn eistedd yn hel llwch ar silffoedd siopau elusen, storefydd ysgolion, neu waeth yn cael eu taflu. Pam? Diffyg ymwybyddiaeth llwyr am lyfrau'r gorffennol.


Ydan ni’n trysori, clodfori ac yn gwerthfawrogi digon ar lenyddiaeth plant y gorffennol (ac eithrio T. Llew Jones, wrth gwrs) neu ydan ni rhy sydyn i anghofio? Mae hyn yn fy arwain at gwestiwn mawr arall: ydi llyfrau Cymraeg i blant yn cael digon o sylw yn gyffredinol?



Ai ail gyhoeddi yw’r ateb?

Mae ’na wastad ddau safbwynt yn does. Bydd rhai yn dweud mai peth ffôl yw edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi bod. ‘Had it’s day,’ neu ‘past it’s best’ fasa rhai yn ddweud. Tybiwn y byddai ambell un yn dweud fod ail gyhoeddi hen lyfrau’n ddiog, am ein bod ni’n hesb o syniadau. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n anghytuno’n llwyr.


Dwi o’r farn ei bod hi’n bwysig cael digon o ddewis ac amrywiaeth. Yn bendant mae ’na le i gydbwysedd rhwng yr hen a’r newydd. Stori dda ydi stori dda yn fy marn i, ac mae ’na ormod o lyfrau Cymraeg da ‘allan o brint’. Dyna pam dwi’n croesawu nostalgia digywilydd cyfres ‘Gorau o’r Goreuon’ ac yn dymuno pob llwyddiant iddi. Ella mod i ’chydig yn biased am fy mod i wedi bod ar y panel dethol, ond so what!

Wrth reswm, tydi pob llyfr ddim yn addas i gael ei ail gyhoeddi. Mae rhai wedi dyddio’n erchyll ac yn cynnwys safbwyntiau ac ystrydebau sy’n gwbl anaddas heddiw.


O’r Tywyllwch... yn ôl i’r goleuni!

Wedi dweud hynny, mae ’na beth wmbredd o drysorau coll allan yna, sy’n disgwyl i gael eu cyflwyno i genhedlaeth newydd. Mae rhai hen straeon yn llawn haeddu cael eu hystyried yn ‘glasuron’ ac maen nhw’n dal i fod yn berthnasol iawn i ni heddiw, gydag ‘O’r Tywyllwch’ yn enghraifft dda iawn o hyn.


Adolygiad Manon Steffan Ros


O ran, ‘O’r Tywyllwch,’ ychydig iawn o waith newid oedd ei angen ar y stori mewn gwirionedd, sy’n destament i safon y gwreiddiol. Ychydig fisoedd yn ôl, fe drydarodd Manon Steffan Ros am y llyfr gwreiddiol ar ôl iddi hi ei ail ddarganfod, ac fe fuodd ddigon clên i ’sgwennu adolygiad i ni ar y pryd. Gan fod y stori fwy neu lai'r un fath, dyma ddetholiad o’i hadolygiad:


Dwn i ddim sut yn y byd i mi anghofio'r nofel yma, achos wir i chi, mae hi'n wych.

Rydw i'n ffan fawr o lyfrau gwyddonias (sci fi), ac yn arbennig o nofelau dystopaidd, ond mi fydda i'n teimlo'n aml eu bod nhw'n gallu bod yn rhy brysur, gormod yn digwydd a'r cymeriadau braidd yn fflat. Dydy O'r Tywyllwch ddim fel hyn o gwbl- y peth cyntaf i'ch tynnu chi i mewn ydy'r cyfeillgarwch rhwng y ddau brif gymeriad, Hywyn a Meilyr. Maen nhw'n byw yn ein byd ni, ond, efallai, yn y dyfodol- mae'r byd wedi poethi, ac mae'n rhaid i bobol wisgo siwtiau arbennig cyn mentro allan. Mae cynlluniau mawr ar droed- Mae pawb yn gorfod mynd i fyw mewn dinas arbennig yn y mynydd, a chau'r byd a'r awyr iach allan am byth. Dim pawb sydd eisiau mynd, ond does dim dewis. A dyna i chi ddechrau'r tensiwn yn y stori.



Mae ail ran i'r stori yma hefyd, am y profiad o fyw yn y ddinas danddaearol genedlaethau ar ôl y mudo mawr. Cefais fy nychryn gan y rhan yma, a hynny achos ei fod yn creu'r byd newydd hunllefus yma mewn ffordd oedd yn teimlo mor real. Roedd 'na rannau ohono yn teimlo fel y byd yn nofel enwog George Orwell, 1984- ond i mi, mae O'r Tywyllwch yn fwy personol, yn fwy cyfarwydd, ac felly ganwaith yn fwy dychrynllyd.


Dwi'n gwneud fy ngorau i beidio rhoi sboilars yma, ond dwi'n meddwl efallai y bydd y diwedd yn teimlo'n rhy benagored i rai. I fi, dwi'n hoffi'r ffaith nad ydy'r nofel yn gorffen gydag ateb pendant i bob cwestiwn. A dweud y gwir, mae'r diweddglo yn teimlo fel her i ni, y darllenydd- be' 'da ni'n mynd i'w wneud nesaf wrth i'r byd boethi?

 

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2021

Cyfres: Gorau'r Goreuon

Pris: £6.99

ISBN: 9781800991361

 

LLYFRAU ERAILL YNG NGHYFRES GORAU'R GOREUON...




Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page