top of page

Pam? - Luned Aaron a Huw Aaron

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

*For English review, please use language toggle switch on website*

Oed diddordeb: dan 7

Oed darllen: 5+

 

Chwilio am lyfr amser stori sy’n mynd i ‘neud i chi giglo?


Luned a Huw Aaron strike again! Mae’n edrych fel bod y cwpwl yma’n cael blwyddyn a hanner ‘lenni! Rhwng cyhoeddi dwn im faint o lyfrau a gweld gwasg Broga’n mynd o nerth i nerth, dwi’n siŵr eu bod nhw’n bobl prysur iawn! Ond mae hynny’n beth da iawn i chi a fi achos nhw sy’n gwneud y gwaith, tra ein bod ni, y darllenwyr, yn cael eistedd yn ôl a mwynhau ffrwyth eu llafur.


Y tro hwn, maent yn cyhoeddi llyfr i blant ifanc gyda gwasg Y Lolfa. Mae’r unigolyn ar y clawr yn edrych fel sut dwi’n teimlo heddiw (a hithau’n fore Llun) a’r pwnc sydd dan sylw yw un o hoff eiriau pob plentyn - “pam?”


Mi fydd y rheiny ohonoch sy’n deilo â phlant yn gyfarwydd iawn gyda’r cwestiwn yma, a dwi’n siŵr bod amryw i riant wedi cael eu gyrru o’u co’ wrth glywed y gair yn cael ei ailadrodd dro ar ôl tro...

Mae’r llyfr ar ffurf penillion bach doniol sy’n odli, o safbwynt y prif gymeriad wrth iddo gwestiynu pam na chaiff o wneud fel y mynnai, fel yfad coca cola neu dormentio ei chwaer fach hefo trychfilod! Ond er yr holl holi ac achwyn ‘pam na cha ‘i...?’ yr un yw’r ateb bob tro gan y rhieni – NA! NO WÊ! Tydi bywyd mor annheg - yr hen oedolion diflas na’n sbwylio’r hwyl i gyd ynte!

Wir i chi, chewch chi neb mwy gonest a di-flewyn ar dafod na phlant, ac mi oni’n giglo wrth feddwl am y plentyn bach oedd bron a marw isio dweud bob math o bethau am ben ôl anferth ei fodryb (cyn cael ei stopio gan ei riant!) Dwi’n siŵr bod nifer o rieni hefo profiadau embarassing, lle mae’r plant wedi dweud rhywbeth inappropriate, fel yr adeg ‘na nesh i ‘outio’ nain am wneud soup paced a thrio’i basio fo ffwrdd fel sŵp cartref, a hynny o flaen y Gweinidog! Wps!


Mae ‘na lot o lyfrau lluniau doniol ar gael, ond mae nifer ohonynt yn addasiadau, tra bod rhai gwreiddiol Cymraeg yn brinnach. Dwi fatha broken record, ond maisho mwy o lyfrau ysgafn, doniol, llai serious! Rhain ydi’r llyfra bydd plant yn gofyn am gael eu darllen a’u hail ddarllen dro ar ôl tro.

Llyfr digri iawn sydd yma a dwi’n gwybod bydd ‘na lot o biffian chwerthin wrth ddarllen ‘Pam?’ a bydd yn ffefryn mewn sawl tŷ dwi’n siŵr. Mi fasa hwn yn gwneud darn adrodd steddfod da iawn!
 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: Awst 2021

Pris: £4.99

ISBN: 9781800990562

 

59 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page