top of page

Parti Prysur / Busy Party - [Addas. Elin Meek]

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra


(awgrym) oed diddordeb: 6 mis+

(awgrym) oed darllen: Gyda rhiant

 

“Your watch has ended, Parti Prysur”

Wel, mae’n rhaid i mi ymddiheuro i’r llyfrgell, achos mae’r copi yma wedi bod drwyddi go iawn. Dod a hwn adra o’r llyfrgell (lle dwi’n gweithio) wnes i ar gyfer y bychan, sydd tua unarddeg mis oed. Mi aeth y llyfr i lawr yn dda. Rhy dda os rywbeth...


wedi rhoi cynnig ar DIY "repair job" cyn mynd a fo'n ôl i'r llyfrgell! Wps!

Mae gan fy mab gasgliad da o lyfrau erbyn hyn, a ‘da ni wedi rhoi nhw i gyd ar silff forward facing yn ei lofft, er mwyn iddo fynd i ddewis ei lyfrau ei hun. Weithiau, dwi’n cymysgu llyfrau llyfrgell gyda’i rai o i gael bach o amrywiaeth. Allan o’r holl lyfrau sydd yno, hwn oedd yr un gafodd fwyaf o sylw.


Am bron i fis cyfan, cafodd y llyfr yma sylw yn ddyddiol, boed hynny drwy rannu’r llyfr gyda ni neu wrth iddo “ddarllen” ar ben ei hun (dwi’n deud “darllen” achos yn amlwg dydi o ddim yn darllen ar ben ei hun, dim ond archwilio’r llyfr... a’i gnoi).


Mae’r boardbooks ‘ma reit wydn, ac mae’n rhaid iddyn nhw fod. Mi ddaeth y llyfr gyda ni yn y car, i’r parc, yn y pram, i’r caffis. – i bob man.  Ond, ar ôl mis cyfan o sylw intense,  a gyda darnau’n hongian i ffwrdd, roedd rhaid i’r llyfr druan ddod i’r clinig llyfrau fyny grisiau, i mi drio ei drwsio cyn ei ddychwelyd i’r llyfrgell. I chi gael dychmygu, mae’r clinig llyfrau fatha rhyw olygfa allan o ffilm ryfel, lle mae’r milwyr anafus yn dychwelyd o’r front lines. Wedi blino. Wedi torri. 


Nid arwydd o wendid y llyfr yw’r ffaith fod y clawr yn hongian i ffwrdd gyda llaw, ond arwydd fod y llyfr wedi cael ei werthfawrogi a’i garu gan blentyn bach.


Cafodd ei fodio, ei fwynhau a’i fan-handlo bob diwrnod am fis solet. Ac yna, mwya’r sydyn, cafodd y llyfr ei daflu ymaith! Mae sylw’r bychan wedi symud ymlaen i lyfrau newydd, gan adael Parti Prysur yn unig yn y gornel.  “Digwyddodd. Darfu” am wn i.




Be’r di’r appeal?

Mae babis yn hoff iawn o lyfrau codi’r fflap neu ‘pull-out.’ Buan iawn daeth i arfer symud y tudalennau gyda’i fysedd. Roedd yn ddifyr iawn gweld ei sgiliau motor mân yn gwella wrth chwarae ac arbrofi gyda’r llyfr. Roedd o’n fascinated gyda’r dudalen yma am ryw reswm, ac yn aml iawn byddai’n chwerthin i’w hun wrth symud y tab o ochr i ochr. Dim syniad pam!


Dyma ei hoff dudalen. Symud y Piñata = lot o hwyl.

O ystyried cymaint roedd wedi mwynhau Parti Prysur, ’da ni wedi prynu mwy o lyfrau tebyg iddo, gan gynnwys Yr Awel yn yr Helyg ac Ailgylchu Prysur, ond hyd yma does ‘run wedi creu gymaint o argraff arno. Wyddwn i ddim beth oedd mor arbennig am y llyfr yma’n benodol, achos maen nhw i gyd reit debyg. Right book, right time o bosib?


Mantais arall gyda’r gyfres yma yw eu bod nhw’n llyfrau dwyieithog, ac felly’n gwneud anrhegion da i unrhyw riant, byddent nhw’n Gymry Cymraeg neu beidio.


Erbyn y diwedd, roedd ôl traul ar y llyfr druan, ac yntau’n edrych braidd yn druenus er gwaethaf fy sgiliau selotep i. Bellach, mae’r llyfr wedi mynd yn ôl i gael seibiant haeddiannol ar silff y llyfrgell. Yn disgwyl nes y caiff yr alwad ar gyfer y tour of duty nesaf...

 

Gwasg: Dref Wen

Cyhoeddwyd: 2023 Cyfres: Gwthio, Tynnu, Troi

Fformat: Clawr Caled

Pris: £5.99


 

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page