(awgrym) oed diddordeb: 2+
(awgrym) oed darllen: 4+
DISGRIFIAD GWALES
Yn weledol drawiadol gyda dyluniad bras, mae'r llyfr clawr caled hwn yn cyflwyno geiriau Cymraeg gydag arlunwaith hyfryd gan Valériane Leblond. Cychwynnir gyda'r Wyddor Gymraeg, rhifau, siapiau a lliwiau, cyn symud ymlaen i dudalennau am yr Adeiladau, Parti, Teulu a Swyddi. Trysor o gyfrol i'w throsglwyddo ar hyd y cenedlaethau.
ADOLYGIAD GAN DIANE EVANS, ATHRAWES YMGHYNGHOROL Y GYMRAEG
Mae’r llyfr Pawb a Phopeth i bob pwrpas yn eiriadur lliwgar sy’n siŵr o apelio at blant cynradd Camau Cynnydd 2 a 3. Mi fydda hwn hefyd yn gwneud anrheg Nadolig bendigedig i blentyn ifanc. Mae gen i ambell ffrind di-Gymraeg sy’n dysgu'r iaith am fod eu plant mewn ysgol Gymraeg, felly mi fyddai llyfr o’r fath yn handi iawn iddynt. Syniad presant ‘Dolig wedi ei sortio!
Gellir chwarae gemau iaith wrth ddefnydio’r llyfr yma ac mae'n adnodd hyblyg iawn.
Dyma syniadau am dasgau sy’n defnyddio’r llyfr:
*Oedolyn/athro i roi gair Saesneg a’r plentyn i bwyntio at y llun cywir gan weiddi “Sblat!”
*Oedolyn/athro i roi gair yn Saesneg a’r plentyn i bwyntio at y llun cywir ac enwi yn Gymraeg mor gyflym a phosib gan weiddi “Sblat!”
* Dewis tudalen e.e.Yn y Ddinas. Plentyn i gael amser i edrych ar y geiriau/lluniau am 30 eiliad ac yna gweld faint ohonyn nhw maen gallu cofio.
*Dewis un o’r lluniau fel pwll nofio ond peidio dweud p’run. Plentyn arall i geisio dyfalu gan ofyn “Wyt ti yn y theatr?” Ydw / Nac ydw. Mae hyn yn dysgu patrymau iaith holi ac ateb.
Mae ‘na lun, enw Cymraeg a fersiwn ffonetig ar gyfer pob gair yn y llyfr yn ogystal a’r Saesneg. Nid oes côd QR yn y llyfr hwn, ond mi fyddai hyn wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer defnydd mewn cartref/ysgol di-Gymraeg yn fy marn i, yn enwedig os yw rhai angen help ychwanegol gyda'r ynganiad.
Yn y llyfr mae banc o eirfa i’w gael o dan 42 pennawd gan ddechrau gyda’r wyddor, sy’n cynnwys pethau fel chwaraeon, diddordebau, teithio ,amser, geiriau gwneud, parti, swyddi, y gofod a llawer, llawer mwy!
Mae’r ddau lyfr yn addas ar gyfer plant cynradd ond yn lyfrau trwm iawn i ddwylo bychain gan mai llyfrau clawr caled ydyn nhw. Yn fy marn i byddai fersiynau clawr meddal yn haws i’w defnyddio ac yn cymryd llai o le yn yr ystafell ddosbarth ble mae gwagle’n brin. Er hynny, dwi’n credu dylai pob ystafell ddosbarth, yn enwedig ein hysgolion ail iaith, gael copi o’r llyfr yma.
I grynhoi, dyma lyfr lliwgar a defnyddiol gan Rily sy’n wych ar gyfer y cartref a’r ysgol. Mae'n llawn lluniau a geirfa handi ar gyfer gwaith cartref neu ar gyfer ehangu geirfa personol. Mae'n amlwg fod cymaint o waith wedi mynd i mewn i greu a dylynio'r llyfr hardd iawn yma. Yn bennaf wedi ei anelu at siaradwyr newydd/dysgwyr ond mae ganddo ddefnydd ar gyfer siaradwyr cynhenid ifanc hefyd, megis plant ifanc. Mae’r tudalennau prysur a lliwgar yn siŵr o annog trafodaeth. Mi fydda i yn argymell y llyfr yma i athrawon sydd â sgiliau Cymraeg cyfyngedig ond sy’n gorfod addysgu’r Gymraeg fel pwnc. Dwi wedi rhoi ‘chydig o syniadau o dasgau posib, ond wir yr, mae’r posibiliadau’n ddi-ben draw hefo adnodd mor hyblyg.
Anrheg gwych i rywun sy'n dysgu Cymraeg, boed hynny'n blentyn neu'n riant.
コメント