*scroll down for English & to leave comments*
"Stori emosiynol, gyda chymeriadau cryf a themâu heriol"
"Emotional story, with strong characters and
challenging themes."
Gwasg: Y Lolfa
Cyhoeddwyd: 2016
ISBN: 978-1784613181
*Gwreiddiol Cymraeg ~ Welsh Original*
Lefel: ❖ ❖
Nofel hawdd i'w darllen, easy to read.
Emotional themes/themâu emosiynol.
Genre: #hanes #history #dementia #friendship #ffrindiau
Mae Manon Steffan Ros wedi llwyddo i blethu sawl thema gyda’i gilydd yn effeithiol dros ben sef heneiddio, salwch a’r Ail Ryfel Byd. Mae iaith yr awdur yn gyfoethog ond yn hawdd i’w ddeall a rhai darnau yn emosiynol iawn. Mae hi’n gallu mynd o dan groen cymeriadau ac mae hi’n deall sut mae ysgrifennu stori ar gyfer plant yn eu harddegau. Er mai’r oedran darged yw rhwng 10-14 oed, mi all unrhyw un fwynhau hon.
Mae’r dudalen gyntaf yn eich cydio’n syth gyda’r frawddeg “Dwi ddim yn gwybod beth fyddwch chi’n ei feddwl o’r stori yma…Do’n ni ddim yn coelio mewn ysbrydion tan yr haf dwytha.”
Prif gymeriad y stori yw Huw, bachgen cyffredin deuddeg oed sy’n agos iawn at ei nain ac rydym yn dilyn ei hanes dros gyfnod gwyliau’r haf. Ond nid nain gyffredin gwallt gwyn, ffedog a sbectol ydy hon. Er fod Nain yn wyth deg pump roedd hi’n ifanc iawn ei ffordd. Ers talwm roedd hi’n gwisgo dillad ffasiynol a sodlau uchel ac yn mwynhau rhedeg Ras yr Wyddfa ond erbyn heddiw mae hi wedi arafu ac mae tad Huw wedi sôn ei fod yn bryderus amdani gan ei bod yn anghofus weithiau.
Er hynny mae gan Huw a Nain berthynas glos iawn a dydy Huw ddim yn poeni’n ormodol amdani’n anghofio pethau tan y diwrnod mae Nain yn ei groesawu a’i gyfarch fel Hywel. Brawd Nain oedd Hywel ac roedd o wedi marw yn yr Ail Ryfel Byd. Er i Huw holi doedd Nain ddim yn hoffi siarad am Hywel. Dirgelwch!
Gwaethygu mae cyflwr Nain ac maen cael pyliau “anghofus” yn fwy aml. Un tro mae Huw yn dod o hyd i’w nain yn cuddio yn y cwt glo yn cysgodi rhag “awyrennau’r Jyrmans”. Weithiau dydy Nain ddim yn ‘nabod Huw neu yn meddwl mai Hywel ydy o. Yn sgîl hyn mae rhieni Huw yn penderfynu dylai fynd i gartref nyrsio i fyw. Er nad ydy Huw yn hapus am hyn ar y dechrau, buan iawn mae o’n gweld fod Nain yn hapus iawn yn y cartref ac yn mynd yno i’w gweld yn aml. Yn ystod un ymweliad i’r cartref nyrsio mae Huw yn cyfarfod un o ofalwyr y cartref- dyn caredig iawn sy’n dod ymlaen yn dda gyda Nain. Yn aml iawn mae pluen wen yn ymddangos yn hollol annisgwyl pan mae Huw yn ceisio ffeindio mwy o wybodaeth am Hywel...
Mae nifer o droeon spooky yn y stori ac mae’r awdur yn gofalu fod y darllenwr, fel Huw, wir eisiau gwybod yr atebion i nifer o gwestiynau. Beth oedd hanes Hywel? Pam nad ydy Nain eisiau siarad amdanno? Beth ydy arwyddocâd y plu gwynion?
Nofel hynod o annwyl y gallwn ei hargymell i unrhyw un.
Manon Steffan Ros has succeeded in bringing together several sensitive themes effectively in this book. It discusses the Second World War, growing old and dementia. There’s plenty of rich language but at the same time it’s easy enough to understand and some parts are deeply moving and emotional. She gets under the skin of her characters and she knows how to write for the teenage audience. Despite this story being ideally suited for Young people aged between 10-14, anyone could – and would – enjoy this novel.
The first page captures our interest straight away with the sentence: “Dwi ddim yn gwybod beth fyddwch chi’n ei feddwl o’r stori yma…Do’n ni ddim yn coelio mewn ysbrydion tan yr haf dwytha.”
[I didn’t believe in ghosts; that is, until last summer]
The main character is Huw, a regular 12-year-old who’s very close to his Nain as we follow his story over the summer holidays. His Nain isn’t your typical grandmother with White hair, an apron and glasses. Even though Nain is 85 years old she is very Young in her ways. A long time ago, she used to wear high heels and fashionable clothes. She even enjoyed running the Snowdon Race. By now of course, she has slowed down a little and Huw’s Dad is a little concerned as she has started getting a little forgetful.
Despite this, Huw and Nain maintain a close friendship and Huw isn’t’ too worried until the day Nain calls him ‘Hywel’. The thing is, Hywel is Nain’s brother who died in the Second World War and she really doesn’t like to talk about him. This is a bit of a mystery...
Nain’s condition worsens and she has more frequent forgetful episodes. One day, Huw finds Nain hiding in the coal box hiding from the ‘German planes.’ Sometimes, she doesn’t recognise Huw and she thinks it’s Hywel. For this reason, Huw’s parents decide that it’s time for her to go to a nursing home to live. Huw isn’t impressed with this decision to begin with but comes to realise how happy Nain is in the home once she’s settled. He goes there often to visit her. During one visit he meets one of the carers – a kind man who gets along well with his grandmother. Often, when Huw enquires about Hywel, a White feather appears...
There are a few spooky turns in the story and the author makes sure that the reader, like Huw, desperately wants to know the answers to their questions. What was Hywel’s fate? Why doesn’t Nain want to talk about it? What’s the significance of the White feathers?
An endearing novel: I can thoroughly recommend.
Comments