top of page
Writer's picturesônamlyfra

Pobol Drws Nesaf - Manon Steffan Ros a Jac Jones

Updated: Mar 27, 2020

*Scroll down for English & to leave comments*


Stori annwyl sy'n sôn am barchu eraill.

Beautiful story about respecting others.


Rhestr Fer Gwobr Tir na n-Og 2020♥♥

Genre: iechyd a lles, ffuglen / health and wellbeing, fiction

Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◉

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◎◎◎

Her darllen/reading difficulty::◎◎

Dyfarniad/Rating: ★★★

 

Un peth fyddai’n cofio’n glir am yr ysgol gynradd oedd amser gwasanaeth pan fyddai’r athrawes yn darllen stori ‘prosiect 3D’, Y Bobol Fach Wyrdd. Dwi’n cofio teimlo mor flin fod y pobl pinc yn trin y pobl wyrdd yn frwnt am eu bod nhw’n edrych yn wahanol. Rŵan, mae Manon Steffan Ros yn cyflwyno i ni lyfr newydd ar gyfer y 21ain ganrif sy’n sôn am themâu tebyg.



Mae’r stori yn cael eu hadrodd o safbwynt y bachgen bach ‘gwyrdd’ (sy’n digwydd bod yn alien!) Mae teulu o bobl ‘piws’ wedi symud drws nesaf ac mae’n nhw’n wahanol iawn. Heblaw lliw eu croen, mae eu tŷ yn wahanol, mae nhw’n bwyta pethau gwahanol ac mae’n nhw’n siarad iaith wahanol. Er yr holl wahaniaethau, mae’r ddau fachgen yn hoff o bel-droed ac yn datblygu cyfeillgarwch agos drwy rannu’r un diddordebau. Pan mae ei ffrind newydd yn cael trafferth yn yr ysgol gyda’r bwlis, mae o’n camu i mewn i helpu ei ffrind.



Mae’r stori yn dathlu’r gwahaniaethau rhwng y teulu piws a’r teulu gwyrdd, ond yn ein hatgoffa fod nhw’n debyg iawn hefyd. Mae’r stori’n ein dysgu i barchu a bod yn fwy goddefgar o eraill. Does na ddim llawer o ysgrifennu yn y stori – sy’n gweddu plant ifanc i’r dim. Mae’r ychydig eiriau sydd yno wedi cael eu dewis yn ofalus ac yn adrodd neges hynod o bwysig. Dim ots beth yw lliw ein croen, rydym ni gyd yn bobl – neu yn aliens!


Dwi wrth fy modd gyda lluniau Jac Jones a dwi’n meddwl y byddwch chithau hefyd. Mae’r lluniau dyfrlliw yn byrstio gyda lliwiau o bob math ac mae digonedd yn mynd ymlaen ym mhob un.



Rhywbeth da am y llyfr yma yw ei fod yn rhoi sail ardderchog ar gyfer trafodaeth ystyrlon. Dwi’n meddwl y byddai rhiant a phlentyn yn sgwrsio a thrafod am wahanol bethau sy’n codi wrth ddarllen drwyddo.


Stori annwyl a dweud y gwir sydd yn amserol iawn mewn cyfnod lle mae na lawer o wrthdaro a chasineb yn y byd rhwng gwahanol bobloedd/hiliau. Anrheg perffaith yn yr hosan Nadolig am £3.99 neu stori sydyn handi i athro/awes sy’n gorfod cymryd y gwasanaeth foreol.


 

One thing I always remember from my primary school days was assembly time when the teacher used to read a particular story Y Bobol Bach Wyrdd [the little green people]. I remember feeling so angry that the pink people treated the green people so badly because they looked different. Now, Manon Steffan Ros presents us with a brand-new book fit for the 21St century with similar themes.



The story is told from the perspective of the little ‘green’ boy (who happens to be an alien!) A family of 'purple' people have moved next door and are very different. Not only their skin colour, but their house is different, they eat different things and they speak a different language. Despite all these differences, the two boys are fond of football and develop a close friendship by sharing the same interests. When his new friend struggles at school with the bullies, he steps in to help his mate.


The story celebrates the differences between the purple and green family, but reminds us that they are very similar too. The story teaches us to be respectful and more tolerant of others. There isn’t much writing in the story – which is perfect for young children! The precious few words have been carefully selected and convey a very important message. No matter what the colour of our skin, we are all people – or aliens!



I love Jac Jones’s pictures and I think you will too. The watercolour drawings are bursting with vibrant colours and there’s plenty going on in each one.

A good thing about this book is that it provides so many rich opportunities for meaningful discussion. I can see a parent and child chatting and talking about different things and issues when reading through it together.


An endearing story that is very topical at a time where there’s much conflict and hatred in the world between different people/races. A perfect gift in the Christmas stocking for £3.99 or a handy quick story for any teacher having to take the morning service.


 

Gwasg/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/released: 2019

ISBN: 978-1-78461-723-3

 

109 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page