Pêl-droed Penigamp -Robin Bennett [addas. Elinor Wyn Reynolds]
- sônamlyfra
- Feb 28, 2023
- 1 min read
*For English review, use language toggle switch*

(awgrym) oed darllen: 8+
(awgrym) oed diddordeb: 7-13
Genre: #ffeithiol #chwaraeon
Lluniau: Matt Cherry https://fireflypress.co.uk/authors/matt-cherry/
Gwybodaeth oddi ar Gwales:
Pêl-droed Penigamp yw'r ail lyfr yn y gyfres Campau Campus. Efallai mai'r disgrifiad gorau o'r gyfres yw math o 'Horrible Histories' neu 'Hanesion Hyll' ar gyfer campau gwahanol. Y tro hwn, pêl-droed gaiff y sylw. Addasiad Cymraeg o Stupendous Sports: Fantastic Football.
'Da chi'n nabod rhywun sy'n caru pêl-droed? Fedra i ddim meddwl am anrheg gwell i rhywun felly!

Fel rhywun sy'n gwybod nesa peth i ddim am bêl-droed, mi wnes i ddysgu dipyn wrth ddarllen y llyfr yma. Mi gewch chi amrywiaeth o bethau ynddo, ond dyma syniad i chi o'r math o bethau mae'r llyfr yn ei drafod:
📕 Hanes y bêl gron
⚽️ Chwaraewyr hanesyddol
📕 Tips, rheolau a thactegau
⚽️ Ystadegau anhygoel
📕 Straeon difyr
… a lot mwy.
➡️Basically- popeth ‘da chi eisiau gwybod am bêl droed!
Dyma chi snîc pîc tu fewn:



Gwasg: Firefly
Cyhoeddwyd: Hydref 2022
Cyfres: Campau Campus Fformat: Clawr meddal
Pris: £6.99
COFIWCH!! Os oes well ganddoch chi'r bêl hirgron - mae llyfr arall tebyg yn y gyfres am rygbi!

Comments