top of page

Robyn [Y Pump] - Iestyn Tyne gyda Leo Drayton

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

*Scroll down for English*


Rhybudd cynnwys: y ogystal â themâu ac iaith gref a all beri gofid i rai, ceir cyfeiriadau at orbryder a dysfforia rhywedd yn y nofel hon.


Content warning: in addition to mature themes and languages, this novel includes references to anxiety and gender dysphoria.


Awgrym oed 14+

Suggested age 14+

 

Adolygiad gan Esyllt Einion


Robyn yw’r bedwaredd nofel yng nghyfres Y Pump – sef cyfres o nofelau i bobl ifanc am bump ffrind ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Mae’n gyfres bwysig am ei bod yn mynd i’r afael â phrofiadau arddegwyr sy’n perthyn i groestoriadau cymdeithasol y mae eu lleisiau yn aml wedi eu heithrio neu eu hesgeuluso gan lenyddiaeth Gymraeg a chan gymdeithas yn gyffredinol. Daeth y campweithiau hyn ynghyd trwy gydweithrediad pum awdur â phum cyd-awdur ifanc a ddarparodd fewnbwn gwerthfawr ynghylch eu profiadau wrth i’r nofelau gael eu hysgrifennu.


Mae’r nofel Robyn – yng ngeiriau Leo Drayton, ei chyd-awdur – ‘yn rhoi mewnwelediad ar sut brofiad yw hi i gwestiynu eich rhywedd neu’ch hunaniaeth.’ Mae stori cymeriad Robyn yn gwneud hyn mewn modd sy’n hygyrch i bob darllenydd, ac yn gwbl gredadwy. Er enghraifft:


“Dwi’n gorfod tynnu siòl fi off i ddod fewn i’r exams, a ma hynna ‘di bod yn rhoi fi on edge tbh. Fath mod i’n noeth, fel y freuddwyd ‘na dwi’n ca’l weithia lle dwi’n deffro yn ista ar y bys ar y ffordd i’r ysgol a rhywsut dwi ‘do llwyddo i adael y tŷ ac anghofio gwisgo nillad. A ma pawb yn chwerthin a pwyntio a dwi’n methu neud dim byd achos y breichia a’r coesa – dim breichia a coesa fi ydyn nhw. A dwi jyst yn ista yna nes i fi ddeffro go iawn.”


Yn ogystal â dilyn profiad ingol Robyn mae’r nofel hefyd yn gofnod pwysig or profiad o dyfu i fyny yn y Gymru gyfoes fel aelod o Generation Z, a’r hyn sy’n llywio bydolwg pobl ifanc heddiw. Mae materion y ymwneud â’r argyfwng newid hinsawdd a canfyddiad pobl o’r hyn yw gwrywdod yn cael sylw, ac mae’n ddiddorol gweld Robyn yn cwestiynu adeileddau cymdeithasol megis dosbarth a phatriarchaeth wrth gwestiynu ei rhywedd. Yn ogystal, credaf fod yr iaith a’r arddull sy’n cael eu defnyddio yn y nofel yn ychwanegu at ddiffuantrwydd llais Robyn.

I mi, yr hyn sy’n arbennig am y nofel yw’r cyffyrddiadau teimladwy a gawn drwy’r cyfeillgarwch rhwng Robyn a’r pump arall a thrwy’r cymodi rhwng Robyn a’i brawd anwadal, Aiden. Mae’r ystod o emosiynau sydd yn llif meddyliau Robyn hefyd wedi eu cyfleu mewn modd cofiadwy a sensitif, an gyrraedd uchafbwynt yng ngonestrwydd trawiadol y diweddglo lle mae Robyn yn darllen ei cherdd mewn noson open mic LGBTQ+ ac yn cofleidio ei hunaniaeth ryweddol newydd:


“Dyma fi. Yr un un, ond yn wahanol.

A dyna’r oll.”


Credaf fod y nofel hon yn fam arwyddocaol tuag at geisio gwella dealltwriaeth pobl ifanc o’u cyfoedion o fewn y gymuned traws. Gobeithiaf y bydd y nofel hon a gweddill y gyfres yn ysbrydoli awduron eraill i sicrhau bod nofelau Cymraeg yn adlewyrchu’r ystod o brofiadau sydd gan bobl yn ein cymdeithas.


 

Saesneg i ddilyn


 

Adolygiad yn wreiddiol oddi ar wefan AM Cymru. Ewch yno i sianel Y Pump i ddarganfod mwy o gynnwys...



 

Cyhoeddwr/publisher: Y Lolfa

Cyhoeddwyd/published: 2021

Pris: £5.99 yr un neu bocs set o 5 am £25

ISBN: 978-1-80099-064-7

 

Recent Posts

See All

Commenti

Valutazione 0 stelle su 5.
Non ci sono ancora valutazioni

Aggiungi una valutazione
bottom of page