*Scroll Down for English & to leave comments*
Byrstio gyda ffeithiau am y bêl hirgrwn.
Bursting with facts about the oval ball!
♥ Llyfr y Mis i Blant: Medi 2019♥
♥Book of the Months: September 2019 ♥
Genre: #ffeithiol #chwaraeon #rygbi / #nonfiction #factbook #sports #rugby
Gwasg/publisher: Rily
Cyhoeddwyd/released: 2019
Addasiad/adaptation: Sioned Lleinau
ISBN: 9781849674393
Pris: £9.99
Addasiad o Saesneg. Welsh adaptation.
Dwi’n rhagweld y bydd hwn yn bresant Nadolig poblogaidd iawn mewn sawl cartref ‘lenni! Cyfieithiad o’r llyfr Saesneg ‘Rugby’ ydi hwn, gan y cyhoeddwr ‘DK’. Roeddwn i wrth fy modd gyda’r llyfrau yma wrth dyfu i fyny. Dwi’n cyfaddef - doeddwn i ddim wir yn un am ddarllen. ‘Typical hogyn’ oedd rhai yn deud. Ond roedd hyn yn hollol anghywir - ac yn niweidiol braidd! Y gwir ydi, ddim yn keen ar lyfrau ffuglen, stori oeddwn i a heb ffeindio’r math o lyfrau roeddwn i angen. Rhowch i mi lyfr ffeithiol a ro ni wrth fy modd yn ei ddarllen am oriau! Os ‘da chi’n rhywun, boed fachgen neu’n ferch, sydd ddim wedi bod yn darllen rhyw lawer- rhowch rest i’r xbox a thrïwch lyfr ffeithiau a gwybodaeth fel hon. Dwi’n gobeithio y bydd ‘Rily’ yn cyfieithu mwy o lyfrau gwybodaeth fel hyn. Mae’r llyfr yn byrstio gyda ffeithiau diddorol ac mae’n siŵr o’ch gwneud yn mini-expert ar y pwnc.
Mae rygbi’n hynod o boblogaidd yng Nghymru! Dwi’m yn meddwl y gallaf fynd mor bell a dweud fod o’n curo pêl-droed, ond yn sicr mae ‘na lwyth o blant, pobl ifanc ac oedolion yn caru chwarae a gwylio’r bel hirgrwn. Meddyliwch am y cyffro cyn gem Cymru v Lloegr yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, neu wrth i Gymru wneud yn dda yng Nghwpan y Byd 2019!
Mae’r llyfr yma’n lliwgar, ac yn bwysicach na hynny, yn llawn ffeithiau byr wedi eu rhannu’n effeithiol drwy’r llyfr. Hynny ydi, mae’n cynnwys llwyth o ffeithiau, ond eto, maen nhw’n hawdd iawn eu darllen. Mae’r tudalen gynnwys yn le da ar gyfer edrych beth sydd yn y llyfr.
Mae ‘na hanes am sut y Dechreuodd y gêm, gwahaniaethau rhwng rygbi undeb a rygbi cynghrair, gwybodaeth am safle’r chwaraewyr, enwogion y gêm, rygbi rhyngwladol, gwybodaeth am gystadlaethau a gemau hanesyddol bwysig….mae’r rhestr yn parhau!!!
Os da chi fel fi, yn drysu weithiau gyda rhai o reolau’r gêm - mae’r llyfr yma’n berffaith i chi. Mae ‘na ddarn cyfan yn esbonio pwrpas pob rôl, sut i chwarae a sut i hyd yn oed dal, gafael a phasio’r bel! Yn bersonol, gan fy mod i’n tueddu i ddefnyddio termau Saesneg y gêm, mi fyddwn i wedi hoffi gweld y geiriau Saesneg wrth ymyl y termau Cymraeg i helpu, ond barn bersonol ydi hon!
Dwi’n meddwl bydd y llyfr yma’n tueddu i apelio fwy at fechgyn, ond dwi’n meddwl y bydd rhai merched wedi gwirioni gyda’r llyfr yma hefyd. Roeddwn i’n hapus o weld fod rygbi merched yn cael sylw yn y llyfr a dangos mai NID jyst gem i fechgyn ydi o.
Plant: Byddwch wrth eich bodd yn dysgu a chofio ffeithiau o’r llyfr yma - hyd yn oed os ydych chi’n meddwl fod chi’n gwybod pob dim am y gêm - da chi’n siŵr o ddysgu rhywbeth newydd! Os ‘da chi awydd impressio eich mêts gyda ffeithiau clyfar am rygbi, gofynnwch yn neis i Siôn Corn am y llyfr yma!
Athrawon/rhieni: Os ydi’r plant yn ddarllenwyr amharod dwi’n siŵr bydd y llyfr yma’n apelio. Mae ‘na bosibiliadau di-ri drwy ei ddefnyddio yn y dosbarth wrth astudio’r pwnc. Darllen grŵp er enghraifft? Chwlio a chwalu am eiriau a ffeithiau… Dysgu i ddefnyddio mynegai a chynnwys….
I have the feeling that this will be a very popular Christmas gift in many Welsh homes this Christmas. 'Rygbi' is a new adaptation of an English book by illustrated reference book experts 'DK'. I must confess that I wasn't really one for reading but I loved these books. 'Typical boy' some would say. This was completely wrong – and somewhat damaging! The truth is, I wasn’t keen on fiction (story) books and just hadn’t found the right type of book for me. Give me a fact book and I would read it for hours! If you are someone who hasn’t been reading much, give the Xbox a rest and try a fact book like this one. The book is bursting with interesting facts and is bound to make you a mini-expert on the subject.
Rugby is hugely popular in Wales! I'm not sure I can go as far as saying that it’s better than football, but certainly lots of children, young people and adults love playing and watching the oval ball. Think of the excitement before a Wales v England game in The Six Nations or Wales doing well in the World Cup 2019.
This book is colorful and, more importantly, full of short facts effectively spread throughout the book. It contains many facts, but they are very easy to read.
There’s a history of how the game began, differences between rugby union and rugby league, knowledge of the positions, famous players, international rugby and important historical games. ... the list goes on….
If you, like me, sometimes get confused with some of the rules of the game – this book is perfect for you. A whole section explains the purpose of each player position, instructions on how to play; going into such detail as how to catch, hold and pass the ball! Because I’m so used to the English terms of the game, I would have liked to see the English words beside the Welsh terms just to help, but this is a personal opinion!
I think this book will tend to appeal more to boys, but I think some girls will be thrilled with this book too. I was happy to see that women's rugby is featured prominently in the book and challenges the idea that it is just a game for boys.
Children: you will love to learn and remember facts from this book, and even if you think you know all about the game – you are sure to learn something new! If you want to impress your friends with cool facts about rugby, you’d better ask Santa Claus about this book!
Teachers/parents: If the children are reluctant readers, I am sure this book will appeal. There are unending possibilities for use in the classroom. Group reading perhaps? Using the index and contents pages maybe?
Comments