top of page
Writer's picturesônamlyfra

Sara Mai ac Antur y Fferm (3) - Casia Wiliam

Updated: May 17



(awgrym) oed diddordeb: 7-11

(awgrym) oed darllen: 7+ *gyda chymorth

Lluniau: Gwen Millward

 



Dim yn aml mae llyfrau neu gyfresi Cymraeg i blant yn gwneud cymaint o argraff a chyfres Sw Sara Mai. Daeth y llyfr cyntaf allan mewn cyfnod lle'r oedd bwlch mawr ar gyfer llyfrau i blant 7-11 oed (sa ni’n dal i allu gwneud hefo mwy!) a dwi’n cofio bod ar banel beirniaid  Tir na n-Og ar y pryd, a phawb yn cytuno pa mor dda oedd y gyntaf. Erbyn hyn, mae nifer o ysgolion yn defnyddio’r gyfres fel nofel ddosbarth, gan ei fod yn addas ar gyfer blynyddoedd 3-4, a 5-6 hefyd, gyda llwyth o gyfleoedd gwaith traswgwricwlaidd yn deillio ohono. Yn y bôn, fodd bynnag, llyfr i gael ei fwynhau ydi hwn, nid i’w astudio’n dwll.

 

Ym myd y ffilmiau, mae sequels yn gallu bod yn fflop o gymharu â’r gwreiddiol, ond yn achos Sara Mai, codi mae’r safon gyda phob cyhoeddiad. Pan lansiwyd yr ail nofel, Sara Mai: Lleidr y Neidr, hwn oedd un o fy hoff lyfrau'r flwyddyn honno, gan daflu elfen o nofel dditectif i mewn i’r pair. Gyda Sara’n ôl am ei thrydedd antur, sy’n troi’r gyfres yn drioleg, cawn leoliad gwahanol i'r sw - antur i fyd cefn gwlad y tro hwn  - rhywbeth fydd yn gyfarwydd i nifer o blant Cymru. Ac i'r darllenwyr trefol/dinesig, bydd cyfle i ddysgu mwy am fywyd y fferm.

 

Ar ôl clywed fod rhai o’r plant hŷn yn cael mynd i Disneyland Paris ar drip ddiwedd tymor, siom yw ymateb rhai o’r plant wrth glywed fod blwyddyn 5 yn mynd i fferm leol, Tyddyn Gwyn, yn lle. Fel un sy’n caru anifeiliaid o bob math, edrych ymlaen yn arw mae Sara Mai, gan weld ei chyfle i ddysgu am anifeiliaid gwahanol i rai egsotig y sw.  Ella fod pob twll a chornel o’r sw yn gyfarwydd iddi, ond tydi hi erioed wedi bod ar fferm o’r blaen. Fel ‘da ni’n gwybod, mae’n llawer gwell gan Sara anifeiliaid na phobl, ac mae digonedd o rheiny ar y fferm- swnio fel trip perffaith! 

 

Un o’r rhesymau mae’r gyfres wedi bod mor boblogaidd yw oherwydd bod yr awdur, Casia Wiliam, wedi tiwnio mewn i fyd plant o’r oedran yma i'r dim. Fel rhiant, a thrwy ei gwaith fel Bardd Plant Cymru, dwi’n siŵr ei bod hi wedi sgwrsio hefo digon o blant ledled y wlad i gael syniad go lew o beth sy’n apelio’r dyddiau yma. Mae’r cyfan yn darllen mor naturiol, (tafodiaith Ogleddol ar y cyfan) a tydi o byth yn swnio fel oedolyn yn trio bod yn ‘cŵl’ wrth sgwennu ar gyfer plant (fel sy’n gallu digwydd weithiau). Mae hi’n dallt be di’r materion sy’n bwysig i blant felly maen nhw’n gallu uniaethu hefo’r sefyllfaoedd a’r profiadau. Fel darllenwr hŷn, ro’n i hefyd yn cael fy nghludo nôl i fy nghyfnod yn yr ysgol, gan gofio mynd ar dripiau tebyg i Lan Llyn, yn aros i fyny drwy’r nos yn gloddesta ar Haribos ac yn adrodd ghost stories am y black nun!

 



Mae tripiau ysgol residential (sydd fel rite of passage i blant ysgol) ar un llaw yn llawn hwyl, rhyddid, cyffro, bunk beds a midnight feasts, ond ar y llaw arall, mae ‘na hiraeth am adra, nerfusrwydd wrth gwrdd â phobl newydd, a’r teimlad annifyr o gael eich rhoi mewn grwpiau gyda phobl ‘da chi’m yn nabod gystal! Efallai fod y pethau yma yn ‘ddim byd’ i oedolion, ond mae'r rhain yn bethau serious pan ‘da chi’n blentyn. Sgwn i sut fydd Sara Mai’n ymdopi hefo aros dros nos heb mam a dad am y tro cyntaf?

 

Dwi’n licio cymeriad Sara Mai am sawl rheswm. Mae hi’n wahanol iawn i'r gweddill, gyda phen go aeddfed ar ei hysgwyddau. Llawer gwell ganddi hi fod yn clirio lloc yr eliffantod (ia, hyd yn oed y pŵ) na threulio oriau o flaen sgrin. A hithau eisiau bod yn geidwad sw yn y dyfodol, mae hi’n llawn ffeithiau o bob math am greaduriaid di-ri. O ia, ac mae hi’n hoffi darllen hefyd sydd wastad yn beth da!

 

Ond un rheswm arall dwi’n hoff ohoni fel cymeriad, yw achos ei bod mi mor gredadwy. Tydi hi ddim yn berffaith o bell ffordd ei hun (pwy sydd de?).Weithiau, gall fod braidd yn ddi- amynedd a ffwrdd-â-hi, a tydi hi ddim bob tro yn gwrando ar gyngor (os wna i jest deud ‘y goeden’ - fe fyddwch chi’n siŵr o ddeall ar ôl darllen. Dim ei phenderfyniad ddoethaf!). Mae’n ddiddorol gweld hi’n dysgu ac yn datblygu dros gwrs y nofelau, ac yn dysgu ambell wers ei hun, fel dod i ddeall pwy ‘di’ch ffrindiau go iawn.

 

Mae gan y nofel dipyn o bopeth, cymeriadau difyr, hiwmor, a darnau fydd yn dod a deigryn i'ch llygaid, ac wrth gwrs... cyflenwad da o anifeiliaid! Dwi’n edrych ymlaen at y nesa’n barod, wrth i Sara Mai symud i fyny i flwyddyn 6!



 

Gwasg: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2023 Cyfres: Sw Sara Mai

Pris: £5.99


 

Σχόλια

Βαθμολογήθηκε με 0 από 5 αστέρια.
Δεν υπάρχουν ακόμη βαθμολογίες

Προσθέστε μια βαθμολογία
bottom of page