top of page

Sawl Bwci Bo? - Joanna Davies a Steven Goldstone

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

*For English review, see language toggle switch*



(awgrym) oed darllen: 5+

(awgrym) oed diddordeb: 0-5

 

Anghofiwch y Minions, achos mae’r bwci bo’s wedi cyrraedd! Hwn yw’r llyfr slic a thrawiadol gan y tîm tu ôl i Joey Bananas Handmade. Hwn fydd yr unig lyfr fydd angen arnoch er mwyn dysgu sut i gyfri.


Os nad ydach chi’n gyfarwydd a’r angenfilod bach drygionus, ewch i wefan https://www.joeybananashandmade.co.uk/ i gael cipolwg ar eu casgliad o nwyddau lliwgar ac eco-gyfeillgar.


Y tro hwn, mae’r awdur, Joanna Davies, a Steven Goldstone, y dylunydd wedi troi eu llaw at lyfr dwyieithog sy’n helpu plant bach i gyfri. Pwy ddywedodd fod dysgu’n gorfod bod yn waith caled? Cewch ddigon o hwyl yn dysgu i gyfri at ddeg gyda’r creaduriaid bach doniol a blewog.


Ar ôl mynd drwy’r llyfr a chyrraedd 10, mae ‘na gyfleoedd ymestyn hefyd fel cyfri’r coesau neu cyfri’n ôl i lawr. Digon o gyfleodd i roi’r sgiliau cyfri newydd ar waith.


Mae’r darlunio yn fodern iawn, ac yn amlwg wedi cael ei wneud i safon uchel iawn gan ddylunydd proffesiynol. Ambell waith, fe gewch chi lyfrau sy’n reit brysur, ond dwi’n teimlo fod na gydbwysedd da yma, ac mae’r tudalennau yn syml, minimalist ac yn glir.



A finna’n ymchwilio llyfrau dwyieithog ar hyn o bryd, tynnodd y llyfr yma fy sylw am y ffaith ei fod wedi gosod y testun yn glir yn y ddwy iaith (sydd ddim yn digwydd bob amser).


And don’t just take it from me - mae’n raid fod elusen BookTrust yn hoff o’r bwci bo’s hefyd, achos cafodd y llyfr ei ddewis i fod yn rhan o gynllun ‘Dechrau Da’ sy’n rhoi llyfrau am ddim i bob plentyn 2-3 oed yng Nghymru. Heblaw am y ffaith fod dros 30,000 o gopïau wedi cael eu printio (sy’n dipyn o gamp, chware teg), oeddech chi’n gwybod mai hwn oedd y llyfr gwreiddiol Cymraeg cyntaf i gael ei ddewis i fod ar y cynllun ers... fel... erioed! Cŵl de!


Crynodeb:

· Llyfr dysgu i gyfri at 10

· Lliwgar, modern a slic

· Llyfr sy’n odli



 

Cyhoeddwr: Atebol

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £6.99

 

GWEITHGAREDDAU AM DDIM GAN ATEBOL:


LLIWIO:


FFEINDIO LOLIPOPS:


 

DARLLENIAD O'R STORI (gwefan BookTrust)



Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page